Agenda item

Cais i gadw gwaith i ymestyn ty heb gydymffurfio a chaniatad  rhif C13/944/22/LL dyddiedig 07/01/2014

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Craig ab Iago

Cofnod:

Cais llawn i gadw gwaith i ymestyn heb gydymffurfio â chaniatad rhif C13/0944/22/LL.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais presennol yn dangos estyniad o ddyluniad tebyg i’r cynllun a ganiatawyd yn 2014 a’r ddyluniad allanol yn adlewyrchu lleoliad agoriadau y drysau a’r ffenestri fel y caniatad  blaenorol ac eithr bod yr estyniad  yn uwch o tua 1.0m a bod  hyd yr estyniad (yn cynnwys yr estyniad croes) tua 2.0m yn hirach na’r estyniad a ganiatawyd yn flaenorol. Noder bod waliau allanol yr estyniad bwriadedig yn cael eu gorchuddio gyda cherrig cae sylweddol a bod hyn yn ychwanegu at faint gorffenedig yr estyniad. Mae’r cais hwn, fel y caniatâd blaenorol yn cynnwys dymchwel rhan deulawr o’r tyddyn presennol ynghyd ac adeiladu estyniad unllawr yng nghornel deheuol y tyddyn.

 

Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

Cyflwynwyd y cais diwygiedig i’r Cyngor o ganlyniad i’r Uned Gorfodaeth dderbyn cwyn yn datgan nad oedd y gwaith o adeiladu'r estyniad yn cydymffurfio gyda'r hawl cynllunio. O ganlyniad i archwilio'r safle ynghyd â’r cynlluniau a ganiatawyd daeth i’r amlwg nad oedd gwaith adeiladu yn gaeth unol â’r cynlluniau a ganiatawyd ac yn dilyn trafod y mater gyda’r perchennog cyflwynwyd cais ôl gweithredol i’r Cyngor am ystyriaeth.

 

Pwysleiswyd bod yr egwyddor i godi estyniad i’r tyddyn eisoes wedi ei sefydlu oherwydd bod y cais cynllunio a ganiatwyd yn 2014 dal mewn grym hyd 2019.  Er bod maint yr estyniad sydd yn destun y cais presennol yn fwy na’r estyniad a ganiatwyd yn wreiddiol, ni ystyrir bod y gwahaniaeth yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod adeilad wedi ei godi ar y tir ond yn dilyn trafod gyda’r perchennog deallir mai dros dro yn unig ydoedd er hwyluso’r gwaith ar y .

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd y gwrthwynebydd y prif bwyntiau isod:

 

·         Fel perchennog eiddo gyferbyn â’r datblygiad roedd yn pryderu am uchder yr adeilad arfaethedig oherwydd ei fod yn llawer iawn uwch na’r hyn sydd eisoes o amgylch yr ardal

·         Mae'n gwrthddweud yr adran addasu ac ymestyn o Ganllawiau Dylunio Cyngor Gwynedd sy'n datgan na ddylai'r estyniad oruchafu’r adeilad gwreiddiol. Yn gyffredinol mai’n well eu bod yn llai o faint gyda llinellau crib isel a bod unrhyw fath o estyniad yn gyflenwol i'r adeilad gwreiddiol ac yn debyg yn gymesur â goleddf y to ac uchder

·         bod rhan o'r maes datblygu wedi cael ei gynnwys yn y gofrestr o feysydd o dirlun o ddiddordeb eithriadol yng Nghymru

·         Bod y datblygiad sydd heb ei ganiatáu  yn sylfaenol wahanol i'r cynllun a ganiateir felly bod amheuaeth pam nad yw’r datblygiad anawdurdodedig wedi bod yn destun cais cynllunio llawn o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref

·         Bod yr  adeilad eisoes wedi gosod cynsail yn rhinwedd estyniad a diffyg cydymffurfio â dogfennau adeiladu a dylunio a nodwyd gan y Cyngor, a bod unrhyw wyriad pellach o’r caniatâd cynllunio yn amhriodol

·         Rydym yn byw mewn ardal o harddwch eithriadol ac yn warchodwyr y tir a deallir bod adeiladau yn gorfod cael eu hadeiladu ar gyfer budd y gymuned. Fodd bynnag, yn yr achos hwn nid yw o fudd i'r gymuned a byddai'r goblygiadau yn ymestyn i geisiadau adeiladu eraill mewn ardaloedd o harddwch

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd fel a ganlyn:

 

·       Cyflwynwyd y cynlluniau ar fyrder er mwyn ystyriaeth am ganiatad a bu i’r adeiladwr dynnu sylw am yr angen i’r wal geudod fesur 100mm gyda 300mm o gerrig a dyna’r rheswm am y cynnydd yn hyd yr estyniad

·      Bod cynnydd o ran uchder yn deillio o’r gwaith dur a maint y distiau oherwydd y dyluniad 

·      O ran effaith, teimlir nad oes gan yr adeilad arfaethedig unrhyw effaith ar eiddo cyfagos o ystyried bod yr estyniad wedi cael ei gymeradwyo ac mai’r unig destun sydd dan sylw yw ychwanegiad o 2m mewn hyd ac 1m mewn uchder

·      Ni ellir ei ostwng a’i fod yn cydymffurfio â’r polisiau cynllunio ac ni theimlir y byddai’n cael effaith ar gymdogion oherwydd ei fod 170medr oddi wrth unrhyw eiddo

           

(ch)  Cynigwyd ac eilwyd argymhelliad y swyddogion i’w ganiatau.

 

(d)       Gwnaed y sylwadau canlynol:

 

·         Rhaid bod yn ofalus nad yw ei ganiatau yn creu cynsail i ganiatau datblygiadau eraill sydd ddim yn cydymffurfio â’r cynlluniau a gymeradwywyd a nodwyd pwysigrwydd i Swyddog Gorfodaeth yr Uned Gynllunio sicrhau bod yr estyniad arfaethedig yn cydymffurfio â’r ychwanegiad mewn hyd ac uchder 

·         Cydymdeimla Aelod  â’r gwrthwynebydd ac roedd hi’n ei chael yn anodd i ddeall sut nad oedd yr asiant / ymgeisydd yn ymwybodol o’r rheolau / polisiau cynllunio ac o’r herwydd fe fyddai’n atal ei phleidlais ar y cynnig i’w ganiatau gan ei bod o’r farn nad oedd hyn yn deg

·         pe byddai’r cais yn un newydd i gynnwys y mesuriadau cyfredol, a fyddai’r swyddogion cynllunio yn ei ganiatau?   

 

(dd)   Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai asesu’r ychwanegiad mewn maint sydd gerbron ac nad yw yn faterol wahanol i’r caniatad blaenorol ac o’r herwydd argymhelliad y swyddogion ydoedd cefnogi’r cais.

 

          Bu i’r bleidlais ar y cynnig i’w ganiatau gario gyda dau aelod yn atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd:             Caniatau yn unol â’r amodau canlynol:

 

1. Adeiladu yr estyniad yn unol a’r cynlluniau a ganiateir.

2. Gosod llechi i’r to.

3. Gorchuddio muriau allannol yr adeilad gyda cherrig cae.

4. Cynllun tirlunio.

5. Rhaid cadw y llwybr cyhoeddus cyfochrog yn glir o unrhyw rhwystr yn ystod cyfnod adeilad ac wedyn.

Dogfennau ategol: