Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd á mynedfa newydd.
Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn Williams
Cofnod:
Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl o
17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â
mynedfa newydd.
(a) Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y bu i’r
cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar 02.03.15 a bwriad y Pwyllgor oedd gwrthod y cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion ar sail dau reswm sef gor-ddatblygu a
diffyg darpariaeth llecyn chwarae. Oherwydd, ym marn yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio, bod risg sylweddol i’r Cyngor
o ran y penderfyniad i wrthod y cais a oedd yn groes i argymhelliad swyddogion,
cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheoliadau sefydlog y Pwyllgor.
Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yw er mwyn amlygu’r materion polisi cynllunio,
risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad
terfynol ar y cais.
Ymhelaethwyd ar genfdir y cais gan nodi mai cais amlinellol yw hwn
ar gyfer codi 17 o dai deulawr gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy ar safle sydd
i’r de-orllewin o Ddeiniolen/Clwt y Bont ar lecyn o dir llwyd sydd wedi ei
gynnwys oddi fewn i ffin datblygu’r pentref.
Mae’r bwriad hefyd yn cynnwys creu agoriad cerbydol i’r ffordd sirol
dosbarth III gyfochrog.Yn flaenorol roedd ffatri International Safety
Components wedi ei leoli ar y safle ond erbyn hyn mae’r safle wedi ei glirio o
adeiladwaith y cyn-ffatri cynhyrchu nwyddau dringo. Yn bresennol, defnyddir
rhan blaen o’r safle ar gyfer man parcio anffurfiol.
Caniatawyd cais
blaenorol am 17 o dai (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) yng Ngorffennaf, 2010
gyda chytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau fod 2 dŷ allan o’r 17 yn
dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd cais materion a gadwyd yn ôl o
fewn y cyfnod statudol ac mae’r caniatâd bellach wedi rhedeg allan.
Tynnwyd sylw at ymateb i’r pyderon amlygwyd gan y
Pwyllgor ynglyn â gwrthod y cais yn seiliedig ar or-ddatblygu, darpariaeth o
lecyn chwarae a thai fforddiadwy. Esboniwyd ymhellach
o safbwynt gor-ddatblygu nad oes cynnydd yn y nifer o
dai a fwriedir yn y cais diweddaraf hwn o’i gymharu â’r cais a ganiatawyd yn
2010. Esboniwyd bod y polisi perthnasol yn datgan y gellir caniatau
datblygiadau o 30 tŷ i bob hectar o dir a bod y cais gerbron yn gofyn am 17 o dai gyda’r dwysedd
yn 24 tŷ i’r hectar. Felly nodwyd bod y dwysedd yn llai na’r hyn a nodir yn y polisi
cynllunio. Er mwyn ymateb i’r
pryder ynglyn â pherygl i blant gerdded i gaeau chwarae cyfagos oherwydd diffyg
palmant ar hyd y ffordd, bu i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllun safle i gynnwys
darpariaeth o lecyn chwarae yng nghornel gogledd-dwyreiniol safle’r cais i greu
man diogel i’r plant. Cyflwynwyd amcan
gwerth marchnad / gwerthiant y tai ac ystyrir bod y
prisiau yn fforddiadwy o’u cymharu â ffigyrau prisiau tai ar gyfartaledd yn
Neiniolen / Clwt y Bont.
Cyfeiriwyd at y polisiau
cynllunio perthnasol.
Ymhelaethwyd ar y
risgiau i’r Cyngor wrthod y cais ac amlinellwyd opisynau i’r Pwyllgor pe byddir
yn gwrthod y cais gan bwysleisio eu bod yn risgiau sylweddol sy’n cynnwys
risgiau ariannol i’r Cyngor. Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn osgoi’r
risgiau hyn,
argymhelliad y swyddogion cynllunio yw caniatau’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau cytundeb o dan Adran 106 ar gyfer sicrhau bod 2 o’r
tai yn rhai fforddiadwy ac yn unol ag amodau cynllunio perthnasol i gynnwys
amod yn ymwneud â chytuno gwaith cynnal a chadw’r llecyn chwarae i’r dyfodol a
darpariaeth offer chwarae.
(b)
Nododd yr Aelod lleol ei wrthwynebiad i’r
datblygiad oherwydd:
·
Nad oedd y llecyn arfaethedig a
neilltuwyd ar gyfer cae chwarae yn addas gan fod gwahaniaeth mewn lefel tir a
bod angen sicrhau mwy na darn o dir megis cyfraniad ariannol ar gyfer offer
chwarae drwy gytundeb 106 fel sydd wedi digwydd mewn sawl man arall
·
Cyfeiria’r adroddiad at safle gwag
ond ym marn yr Aelod roedd hyn yn anghywir gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel
compownd diogel ar gyfer offer ac adeiladu
·
O safbwynt prisiau tai ar
gyfartaledd yn Neiniolen, canfuwyd ar y We bod 6 allan o 8 tŷ yn Deiniolen / Clwt y Bont ar werth am lai na
£100,000
·
Ym mhwynt 3.4 o’r adroddiad
cyfeirir at bolisi cynllunio Cymru sy’n nodi’r angen i dai fforddiadwy
integreiddio i batrwm bresennol ond nodwyd bod y safle hwn ar ben ei hun gyda
thai unigol eraill wrth ymyl ond nid stad fel yr un a fwriedir ac fe fyddai yn
ymwthio allan yn fwy nag unrhyw dŷ wrth ymyl
·
Ni chytunir bod tystiolaeth glir
wedi ei gyflwyno i gefnogi’r cais ac felly ni ellir cydymffurfio gyda’r polisiau
·
Bod ymateb yr Uned Polisi
Cynllunio yn arwynebol o safbwynt polisi A2 o GDUG oherwydd heb dystiolaeth sut
y gellir asesu’r datganiad ieithyddol
·
Ym mhwynt 3.25 nodir bod yn rhaid
cyflwyno tystiolaeth gadarn i wrthdroi argymhelliad swyddogion ond roedd yr
Aelod o’r farn nad oedd tystiolaeth gadarn gerbron yn cyfiawnhau bod angen y
tai
·
Cyfeirir ym mhwynt 4.1 bod
ail-ddefnyddio safle yn cael ei gefnogi a chodi tai tu fewn i ffin ond roedd yr
Aelod o’r farn nad yw pob safle yn addas ymhob achos a bod angen ystyried pob
cais yn ôl ei haeddiant
·
Rhestrwyd enghreifftiau o dai gwag ar werth ar draws y ward - rhai
sy’n cael ei hadeiladu, caniatadau wedi eu caniatau a cheisiadau i’w cyflwyno i’r dyfodol
·
Pryderwyd am gyflwr y ffordd o
flaen y datblygiad a phe byddir yn
caniatau’r cais golygai hyn fwy o gynnydd traffig ar y ffordd
(c)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, pwysleisiodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:
(ch) Ychwanegodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth
Datblygu o safbwynt rhwydwaith ffyrdd nad oedd cyflwr
y ffordd yn berthnasol o safbwynt penderfyniad i ganiatau’r cais. ‘Roedd o’r farn bod lleoliad
y datblygiad arfaethedig yn fanteisiol o safbwynt trafnidiaeth cyhoeddus.
(d) Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion.
(dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Pryder ynglyn â diffyg
gwybodaeth am faterion ieithyddol a chymunedol ac y dylai fod yn rhan ganolog o
geisiadau
·
Pryder ynglyn â
diogelwch y cyhoedd yn cerdded ar y ffordd gan na fyddai modd rhoi palmant ar
hyd y ffordd
·
Nad oedd y caniatad a
roddwyd yn 2010 yn berthnasol
·
Tra’n cydymdeimlo gyda’r
Aelod lleol, y byddai’n anodd gwrthod y cais oherwydd bod y tir o fewn ffin datblygu’r pentref ac
yn cydymffurfio â holl bolisiau cynllunio ac mai’r unig bryder a ragwelir
ydoedd addasrwydd y llecyn chwarae ac y dylid rhoi pwyslais am yr angen i gael
offer chwarae ac nid ei adael fel llecyn agored
(e) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:
·
Bod datganiad ieithyddol
wedi ei gyflwyno gyda’r cais, fod ei gynnwys wedi derbyn ystyriaeth lawn gan yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd ac fod ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ei gynnwys yn yr
adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio. Mae’r wybodaeth yma ar gael
ar Wefan y Cyngor. Yn ogystal ceir wybodaeth cyflawn yn ymwneud â’r cais ar y
ffeil sydd ar gael i Aelodau i’w gweld cyn a / neu yn
ystod y Pwyllgor Cynllunio. Os nad oes modd i Aelodau fedru cael mynediad
hwylus i’r Wefan byddai’r swyddogion priodol yn yr Uned Cynllunio yn fwy na
pharod i gynorthwyo a / neu i anfon linc i’r Aelodau i’r cyfeiriad cywir
·
Byddai manylion ynglyn â
diogelwch yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cais llawn
·
Bod y caniatad a roddwyd
yn 2010 gan Bwyllgor Cynllunio Arfon yn berthnasol oherwydd ei fod yn rhan o
hanes cynllunio i’r cais ac y dylid rhoi ystyriaeth i hyn
·
Bod yr ymgeisydd wedi
cynnig darparu llecyn chwarae ac fe sicrheir drwy amod
ychwanegol y byddir yn derbyn mwy o wybodaeth mewn manylder pan gyflwynir y
cais llawn am ystyriaeth. Pwysleislwyd
na ellir gwneud cais am fwy o fanylion gyda’r cais hwn oherwydd mai cais
amlinellol oedd gerbron i gytuno mewn egwyddor ar ddarpariaeth o lecyn chwarae
(f)
Cynigwyd ac eilwyd
gwelliant i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn i Aelodau dderbyn
gwybodaeth ynglyn â’r asesiad ieithyddol.
(ff) Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yr Aelodau bod y Pwyllgor
Cynllunio wedi gwrthod y cais yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2015 yn seiliedig ar
ddau reswm yn unig sef gorddatblygiad a darpariaeth o lecyn chwarae ac ni wrthodwyd y cais ar sail diffyg asesiad ieithyddol. Ychwanegwyd pe byddir yn gohirio’r cais fe gyflwynir yn union yr un adroddiad i gyfarfod nesaf y
Pwyllgor Cynllunio.
Pleidleiswyd ar y gwelliant i ohirio cymryd
penderfyniad ar y cais ac fe gariodd y bleidlais.
Penderfynwyd: Gohirio
cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn i Aelodau dderbyn gwybodaeth ynglyn â’r
asesiad ieithyddol.
Dogfennau ategol: