Agenda item

Cais llawn i godi tŷ newydd ar ffurf byngalo dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol.

 

 Aelod Lleol:  Cynghorydd Trevor Edwards

Cofnod:

Cais llawn i godi ty newydd ar ffurf byngalo dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau datblygu pentref Llanberis ac yn rhan o gwrtil eiddo domestig presennol, mae’n dir sydd yn ymestyn cryn dipyn i flaen yr eiddo hwn ag ar lefel uwch na’r ffordd gyhoeddus gyfochrog ag yn greigiog mewn mannau.

 

Cydnabyddir fod dyluniad yr adeilad yma yn gyfoes o fewn yr ardal leol yma o’i gymharu gydag adeiladau eraill. Er hynny, ni chredir fod un patrwm pendant i ffurf adeiledig yr ardal.  Mae barn ynglŷn â beth sydd yn gwneud dyluniad da yn fater goddrychol ac yn yr achos yma, ni chredir y byddai yn amharu i raddau annerbyniol ar unrhyw ffurf bendant bresennol.

 

Credir felly fod y bwriad o ran ei ddyluniad a gorffeniad yn dderbyniol yn yr achos yma ac na fyddai ar sail y materion hyn yn effeithio’n niweidiol ar fwynderau gweledol yr ardal leol i raddau annerbyniol. Credir felly fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau B22 a B25 o’r CDU.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle yn uwch na’r ffyrdd cyfagos ac felly mi fyddai adeiladu adeilad ar y tir hwn o edrych o gyfeiriad y lonydd yma, yn amlwg o fewn y dirwedd leol. Er hynny, mae patrwm adeiledig yr ardal leol yn cynnwys tai ar safleoedd dyrchafedig ac felly ni fyddai yn gwbl unigryw yn hynny o beth.

 

Nodwyd bod dyluniad yr eiddo wedi ystyried effeithiau gor-edrych ar gymdogion cyfagos. Mae’r elfen gwydr amlycaf ar flaen yr adeilad yn edrych dros ofod weddol agored bresennol ac felly ni chredir y byddai gor-edrych amlwg yn deillio o’r edrychiadau yma.  Mae ffurf adeiledig ddwys yr ardal bresennol yn golygu fod gor-edrych yn anorfod i raddau, ond fe welir yn yr achos yma fod gwir ymgais wedi ei wneud i osgoi gor-edrych gormodol o ganlyniad i godi’r adeilad hwn yn y ffurf fel y bwriedir

 

O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, codwyd pryderon ynglŷn â’r bwriad o safbwynt effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a’i ddefnyddwyr.  Nodwyd bod mynedfa gerbydol bresennol i mewn i’r safle gan ddarparu llecynnau parcio ar gyfer yr eiddo presennol. Mae’r fynedfa hon yn cael ei addasu er mwyn sicrhau mynedfa briodol ac mae’r ddarpariaeth parcio ar gyfer yr eiddo presennol yn cael ei symud i ran arall o’u cwrtil.

 

Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth gan awgrymu cynnwys amodau safonol ynghlwm a’r datblygiad. O ganlyniad, ni chredir y byddai’r bwriad yn annerbyniol o safbwynt materion priffyrdd a thrwy hynny yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau CH33 a CH36 o’r CDU.

 

Yn unol â’r ystyriaethau uchod a’r holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ni chredir fod y cais yma i godi un eiddo yn annerbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion yr holl bolisïau perthnasol ac argymhellir i’w ganiatau.

 

(b)       Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i ganiatau’r cais.

 

Penderfynwyd:             Caniatauamodau

 

            1.         Amser

            2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3.         Deunyddiau

            4.         Llechi

5.         Priffyrdd gan gynnwys amod i sicrhau fod llecynnau parcio yn cael eu darparu ar gyfer yr eiddo presennol cyn dechrau unrhyw waith.

            6.         Amodau Dŵr Cymru

            7.         Tirlunio

            8.         Cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru

9.         Tynnu Hawliau Datblygiadau Cyffredinol a Ganiateir gan gynnwys peidio gosod unrhyw ffenestr newydd heb dderbyn caniatâd o flaen llaw.

            10.       Nodyn Deddf Wal Rannol

Dogfennau ategol: