Agenda item

Gosod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Simon Glyn

Cofnod:

Cais llawn i osod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi ei fod ar gyfer gosod pump pod ‘glampio’ a thoiled compost ynghyd ag adeiladu bloc cyfleusterau cegin/toiledau a darpariaeth parcio ar dir yn Nhŷ Bwlcyn, Dinas. Gofynnir hefyd am newid defnydd llyn amaethyddol presennol i ddefnydd twristiaeth, er mwyn i ymwelwyr i’r safle ei ddefnyddio ar gyfer  pysgota a hamdden. Byddai’r podiau o wneuthuriad pren ac wedi eu gosod ar gae i’r gogledd ddwyrain o’r llyn, ac wedi eu lleoli o amgylch ffiniau coediog y cae. Byddai’r adeilad a’r safle parcio wedi eu lleoli ar waelod llethr yn agos i fythynnod gwyliau eiddo Tŷ Bwlcyn a bwriedir gwella llwybr presennol i gysylltu’r parcio gyda’r cae ble lleolir y podiau. Bwriedir cysylltu i’r tanc septig presennol sydd ar y safle.

 

Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bwriedir ail sefydlu mynedfa ddiddefnydd bresennol i’r ffordd ddi-ddosbarth fel mynediad i’r datblygiad, gan ei lledu a gwella’r gwelededd.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi D19 yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla ac unedau teithiol newydd os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Yn eu mysg yw’r angen bod dyluniad, gosodiad a gwedd y datblygiad o safon uchel a’i fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol.

 

Ystyrir ceisiadau am ‘bodiau’ o dan bolisïau carafanau teithiol, gan mai unedau symudol/gwersylla ydynt i bob pwrpas.  Byddant yn unedau o fath symudol, lle y gellir eu symud yn gymharol rhwydd o amgylch y cae. Credir bod y cae dan sylw yn addas i ddatblygiad o’r fath gan bod tir uwch i’r cefn a haen drwchus o lystyfiant ar y ffiniau, sy’n golygu y byddant yn guddiedig ac allan o olwg y cyhoedd a’r tai agosaf. Ni ragwelir cynnydd sylweddol mewn trafnidiaeth yn sgil y cais, o ystyried graddfa fechan y bwriad ac mae'n debygol y bydd y drafnidiaeth wedi ei gyfyngu i geir a beiciau, yn hytrach na cherbydau tynnu fel safleoedd carafanau teithiol arferol.  Gan mai ail sefydlu mynedfa bresennol yw’r nod i ffordd ddi-ddosbarth, nid oes angen caniatâd cynllunio a gellir ei gwella heb achosi niwed arwyddocaol i nodweddion y dirwedd. Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn nhermau maen prawf 2 polisi D19.

 

Bwriedir lleoli’r podiau ar y cae dros y tymor gwyliau yn unig, gyda’r ymgeisydd yn nodi bwriad i’w symud un ai i gornel cuddiedig o’r cae neu i’r maes parcio dros y gaeaf.

 

            O bwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, ystyrir bod egwyddor o sefydlu safle glampio 5 pod, codi adeilad cyfleusterau a gwaith cysylltiedig yn dderbyniol yn y lleoliad anymwthiol hwn. Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a’r polisïau a drafodwyd uchod ac felly yn dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau cynllunio perthnasol.

 

(b)       Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(c)       Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau isod o blaid yr argymhelliad:

 

·         bod y llywodraeth yn annog darpariaeth o’r fath ac i’w groesawu i Wynedd ond siomedig bod y ddarpariaeth yn cael ei ystyried o dan bolisiau carafanau teithiol ac oni ddylid sefydlu polisi unigryw ar gyfer darpariaeth glampio oherwydd nad yw’r podiau yn symudol 

·         bod darpariaeth o’r fath yn gweddu i fewn i’r tiroedd yn well na charafanau ond pryderwyd o safbwynt y cais gerbron am ddiogelwch plant o safbwynt defnydd y llyn

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:

 

·         o safbwynt y polisi bod y ddarpariaeth yn cael ystyriaeth fel cymhariaeth i garfanau teithiol ond gall hefyd gynnwys darpariaeth tipis

·         nodwyd fod ystyriaeth polisi perthnasol yn ei le gan fod y Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau sydd wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor yn ymwneud gydaglampio

·         mai cyfrifoldeb gweithredwr y safle fyddai diogelwch y defnyddwyr

 

Penderfynwyd:             Caniatáu gyda’r amodau canlynol:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.         5 pod yn unig i’w lleoli yn y mannau a ddangosir yn unig oni bai eu bod yn cael eu storio

4.         Cyfyngu i dymor gwyliau penodol – 1 Mawrth – 31 Hydref ac yna rhaid eu symud i’r safle storio a gytunir

5.         Unedau gwyliau yn unig a chadw cofrestr

6.                     Rhaid cytuno lleoliad storio cyn dechrau unrhyw ran o’r datblygiad a ganiateir

7.         To lliw llwyd ar yr adeilad

8.         Gorffeniad yr adeilad i’w gytuno

9.         Tirlunio

10.       Amodau ffyrdd

11.       Defnyddir y Llyn ar gyfer defnydd preswylwyr y podiau/bythynnod gwyliau yn unig a dim yn agored i’r cyhoedd neu ar gyfer unrhyw ddefnydd busnes arall.

 

Nodyn: Trwydded

 

Dogfennau ategol: