Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Eirwyn Williams a Dyfrig Wynn Jones a’r Cynghorydd Aled Ll. Evans (Aelod
Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a.
Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C14/0113/41/AM). ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif
C15/1039/09/LL). Datganodd y swyddog canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Rhun ap Gareth (Uwch
Gyfreithiwr) yn eitem 4 ar y rhaglen (cais cynllunio C15/1133/24/LL) Roedd yr
Aelodau a’r swyddog o’r farn eu
bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu
a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau a nodir. b.
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau
a nodir: ·
Y
Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
4 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhif C14/0386/24/LL a C15/1133/24/LL). ·
Y Cynghorydd Sïon Jones
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen,
(ceisiadau cynllunio rhif C15/0915/18/LL). ·
Y
Cynghorydd Gareth A Roberts (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
4 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhif C13/1143/11/AM). ·
Y
Cynghorydd R H Wyn Williams (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
4 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhif C15/0383/39/LL). |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif: C13/1143/11/AM - Tir yn Pen y Ffridd, Bangor, Gwynedd PDF 1 MB Cais amlinellol i godi hyd at
366 o unedau byw, gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa,
llecynnau parcio ag adnoddau cysylltiol AELOD LLEOL: CYNGHORYDD Gareth Anthony Roberts
Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol
i godi hyd at 366 o unedau byw, gyda
datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd
fynedfa, llecynnau parcio ac adnoddau cysylltiol. Nodwyd – byddai modd gosod
amod i ddatblygu yn raddol dros
gyfnod maith a cyfeirwyd at y sywladau hwyr oedd wedi’u
derbyn ac oedd yn cyfeirio at hyn. Roedd yr
Aelodau wedi ymweld â’r safle 5.11.2015 (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan bwysleisio bod y datblygiad yn gais amlinellol
gyda manylion y fynedfa yn unig yn ffurfio rhan o’r cais. Ategwyd bod materion
megis edrychiadau, tirlunio, gosodiad a maint a’r union niferoedd (hyd at
uchafswm o 366) i gyd yn faterion a gedwir yn ôl ac
felly yn destun cais pellach i gynnwys y
manylion hyn. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau
datblygu dinas Bangor, ac sydd wedi ei
ddynodi fel canolfan isranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd
(Gorffennaf 2009). Mae wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl;
yn safle sydd yn rhannol wedi ei ddatblygu yn y gorffennol gan Brifysgol Bangor
fel safle ymchwil amaethyddol ac sydd bellach yn wag (yr adeiladau bellach wedi
eu dymchwel a’u gwaredu). Nodwyd bod y lleoliad yn
gymharol guddiedig o edrychiadau cyhoeddus cyfagos gan fod presenoldeb tai
preswyl, Ysbyty Gwynedd a’i leoliad ar dir dyrchafedig uwchben Ffordd
Caernarfon yn ei guddio i raddau. Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau ynghyd a deiseb yn bryderus am yr
effaith y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ei gael. Nodwyd mai materion priffyrdd gan gynnwys mynedfa, y
ffordd fynediad a’r cynnydd mewn symudiadau trafnidiaeth oedd un o’r elfennau
mwyaf cynhennus a welwyd mewn perthynas â’r cais yma.
Yn nhermau hygyrchedd, teimlwyd bod y safle yn briodol o ran ei leoliad a’i
osodiad mynegol, a bod yr egwyddor yn dderbyniol o safbwynt gofynion polisi. Amlygwyd cryn bryder yn wreiddiol gan Uned Trafnidiaeth y Cyngor ynglŷn
â’r datblygiad a’i effaith ar y rhwydwaith ffyrdd
lleol a’r diffyg darpariaeth o ffordd gyswllt gyfan o gyfeiriad Ffordd
Caernarfon i Ffordd Penrhos, fel sydd wedi ei nodi yn y Briff Datblygu. Nodwyd mai cysylltiadau troed a beic yn unig fydd i
Ffordd Penrhos. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth rhwng y datblygwr a
chynrychiolwyr yr Uned Drafnidiaeth ac ar sail y trafodaethau hyn fe gyflwynwyd
gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb. Ar sail y wybodaeth ychwanegol, yn ogystal
ag archwiliadau pellach eu hunain, roedd yr Uned Drafnidiaeth yn hapus gyda’r
bwriad. Nodwyd
bod materion archeolegol, coed, bioamrywiaeth isadeiledd a materion llifogydd
yn gallu bod yn dderbyniol drwy osod amodau cynllunio perthnasol ac yng nghyd
destun materion addysgol bod y cyfraniad addysgol yn bodloni gofynion addysgol
y bwriad. O dderbyn y cyfraniad ariannol tuag at wella cyfleusterau addysgol yr
ardal (gyda’r union fanylion i’w cytuno gyda’r Adran Addysg), gellid bodloni
gofynion y polisi perthnasol gydag amseriad y cyfraniad i’w drefnu o fewn y
cytundeb 106 fydd yn cael ei lunio er mwyn sicrhau hyn. Yng nghyd destun materion iaith a chymunedol, amlygwyd bod datganiad ieithyddol a chymdeithasol wedi ei gyflwyno er nad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cais Rhif: C14/0113/41/AM - Tir ger Bryn Hyfryd, Chwilog, Pwllheli PDF 663 KB Cais
amlinellol ar gyfer codi 21 o dai (gan gynnwys 7 ty fforddiadwy) gyda'r holl
faterion eraill wedi cadw y eu hol (cynllun diwygiedig) AELOD LLEOL :
CYNGHORYDD ALED LL EVANS Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer codi 21 o dai (gan gynnwys 7 tŷ
fforddiadwy) gyda'r holl faterion eraill wedi cadw yn eu hol (cynllun
diwygiedig) (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod rhan fwyaf o’r safle o fewn
ffin datblygu Chwilog fel y dynodwyd yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
Mae’r safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai newydd ac ystyrir y gall y
safle ymdopi gydag oddeutu 20 uned breswyl gyda 30% ohonynt yn dai fforddiadwy. Amlygwyd bod angen darparu llecyn agored adloniadol ar y safle a bod yr
ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i gydymffurfio gyda’r gofyn hwn. O ran
cyfleusterau addysgol cyfeiriwyd bod angen sicrhau y gall ysgolion presennol
ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn y nifer o ddisgyblion a ddaw o ddatblygiad
preswyl newydd. Wedi ymgynghori gydag Adran Addysg Cyngor Gwynedd a defnyddio
gwybodaeth o’r CCA, disgwylid cyfraniad addysgol o £8,914 i’r ysgol gynradd
leol drwy gytundeb 106. Cadarnhawyd bod y cynnig yn cwrdd â’r
polisïau perthnasol.
Ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion y Briff Datblygu ar gyfer y
safle yn ogystal â’r polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol eraill a nodir yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
a chytundeb 106 i ddelio gyda materion penodol. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y
prif bwyntiau canlynol:- ·
Y cynllun wedi bod yn
destun trafodaethau helaeth gyda swyddogion a’r aelod lleol ·
Yr ardal wedi ei ddynodi
fel safle i ddatblygu tai ac yn cwrdd ag anghenion lleol ·
Chwilog yn bentref sydd
a’r gallu i ddatblygu yn organig - nid yw yn bentref gwyliau ·
Tai addas ar gyfer y
gymuned leol ·
Darparu cyfleoedd i bobl
leol i symud i fyny yn y farchnad dai (c) Adroddwyd bod yr aelod lleol yn gefnogol i’r cais. (ch) Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu’r cais. (d) Mewn ymateb i sylw gan aelod ynglŷn â rheoli'r datblygiad gam wrth
gam, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod posib cynnwys amod ychwanegol i
gyfarch hynny. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r
argymhelliad - Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb 106 yn ymwneud â’r cyfraniad ariannol addysgol ac i sicrhau fod 7 o’r 21
tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol. Byddai'r caniatâd
cynllunio'n cynnwys amodau perthnasol yn
ymwneud â: 1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl 2. Deunyddiau i gyd i’w cytuno 3. Llechi to 4. Dŵr
/ Carthffosiaeth / Draeniad 5. Amodau
priffyrdd 6. Amodau Bioamrywiaeth 7. Tynnu
hawliau cyffredinol a ganiateir o’r tai fforddiadwy |
|
Adnewyddu caniatâd rhif
C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu
lonydd stad AELOD
LLEOL: CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai,
newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad Roedd aelodau’r
Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais ac fe atgoffwyd yr aelodau bod trafodaeth
gychwynnol ar y cais wedi ei gynnal ym Mhwyllgor Cynllunio 19.10.15 lle
penderfynwyd cynnal ymweliad safle. Adroddwyd yn y cyfarfod hwnnw bod capasiti ysgol dalgylch y cais cynllunio, sef, Ysgol Felinwnda, wedi cynyddu ar sail canlyniadau arolwg capasiti ysgolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn 2014 ac nad oedd
hi’n ofynnol mwyach i’r ymgeisydd gyfrannu’n ariannol ar gyfer darparu capasiti ychwanegol o fewn yr ysgol. Fodd bynnag, ar ôl ail-edrych ar gyd- destun polisïau a gofynion
cynllunio perthnasol, mae Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA): Datblygiadau Tai a Darpariaeth Addysgol yn datgan: ‘bydd asesiad o effaith datblygiad preswyl
ar ysgolion lleol yn cael ei seilio ar y wybodaeth gyfredol (h.y. capasiti y
sefydliadau addysgol ynghyd a nifer y disgyblion sydd yn eu mynychu) sydd yn cyfleu’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn
academaidd pryd y cyflwynir y cais cynllunio’. Yn yr achos hwn, y flwyddyn academaidd briodol yw 2013-2014 gan fod y
cais cynllunio wedi ei gyflwyno ym Mai, 2014. Amcangyfrifir bydd 10 plentyn yn
deillio o’r datblygiad hwn sy’n golygu bod diffyg capasiti
yn yr ysgol o 3 plentyn ac mae,
felly gofyn i’r ymgeisydd sicrhau
cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth addysgol yn ysgol y dalgylch fel y’i
cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio
yng Ngorffennaf, 2014. Bydd y cyfraniad yn parhau i
fod yn £36,771.00 ar gyfer anghenion addysgol Ysgol Felinwnda. Yn ychwanegol, amlygwyd bod yr aelod lleol wedi awgrymu'r posibilrwydd o
godi tŷ ychwanegol ar y llecyn agored o werth adloniadol a gynhwysir o
fewn y datblygiad arfaethedig ac ail-leoli’r llecyn adloniadol i fan arall yn y
pentref. Nodwyd bod Polisi CH43 yn datgan y disgwylid i ddatblygiadau tai
newydd sy’n cynnwys 10 tŷ neu fwy ac sydd mewn ardaloedd lle na fyddai’r
llecynnau agored presennol yn diwallu anghenion y datblygiad tai arfaethedig
ddarparu llecynnau agored adloniadol. Yn yr achos yma, i gydymffurfio a
gofynion y polisïau hyn, mae’n ofynnol darparu llecyn agored o werth adloniadol
oddi fewn i’r datblygiad hwn yn hytrach nag mewn man arall o fewn y
pentref. Nodwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol a gofynnwyd i’r aelodau
ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn ymwneud â sicrhau
bod 6 o’r 24 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac i
ychwanegu trefniadau’r cyfraniad addysg i’r Cytundeb 106 hefyd.. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Bod
y safle wedi ei ddynodi yn
y cynllun datblygu unedol ·
Wedi trafodaeth, y llecyn agoriadol i aros o fewn y safle · Dim gwrthwynebiad i gyfraniad ysgol leol, ond awgrym y dylid ystyried y sefyllfa bresennol ac nid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif: C15/0383/39/LL - Riverside Hotel & Restaurant, Abersoch PDF 787 KB Cais diwygiedig i
ddymchwel gwesty presennol a pwll nofio (ac eithro’r adeilad gwreiddiol) ac ail ddatblygu’r safle ar
gyfer 10 ty preswyl, 5 fflat preswyl, 1 uned
manwerthu A1, adeiladau storio beic, clwydfan
ystlumod a 31 lle parcio AELOD
LLEOL: CYNGHORYDD R H WYN WILLIAMS Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig i ddymchwel gwesty presennol
a phwll nofio (ac eithrio’r adeilad gwreiddiol) ac
ail ddatblygu’r safle ar gyfer 10 tŷ preswyl, 5 fflat preswyl, 1 uned
manwerthu A1, adeiladau storio beic, clwydfan
ystlumod a 31 lle parcio. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a bod
y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle pan gyflwynwyd cais
blaenorol (C12/0441/39/LL). Amlygwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod
newidiadau wedi eu cynnig sydd yn ymwneud gyda newidiadau ansylweddol i’r
dyluniad. Nodwyd bod y bwriad ar gyfer ail-ddatblygu safle Gwesty’r Riverside ar gyfer 15 uned breswyl a fyddai’n cael eu gosod
ar y safle mewn 3 bloc o adeiladau dau a tri llawr yn dderbyniol o ran
egwyddor. Fel cais C12/0441/39/LL mae'r materion hyfywdra’n gysylltiedig gyda’r
bwriad yn parhau ac felly ystyriwyd hi’n rhesymol yn
nhermau Polisi CH4 i ystyried llai o unedau fforddiadwy na fyddai’n arferol
ddisgwyliedig ar safle yn Abersoch.
Mae’r cais presennol yn cynnig dwy uned fforddiadwy fel y cais blaenorol
ac ystyriwyd felly fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i arwyddo
cytundeb 106 yn clymu 2 o’r unedau fel tai fforddiadwy angen lleol cyffredinol.. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau
a roddwyd yn yr adroddiad. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod hanes cynllunio dwys
i’r lleoliad ac felly nid yw’r datblygiad wedi bod yn hyfyw fel gwesty ·
Arddangosfa leol wedi ei
chynnal yn y neuadd bentref i rannu gwybodaeth am y cynllun gyda thrigolion y
pentref ·
Y
wasg wedi derbyn gwybodaeth sylweddol am y cynllun ·
Cais i’r wal derfyn o’r
safle at yr harbwr gael ei chadw ·
Cais i ymestyn y ffin wedi ei
wrthod ·
Ar
y cyfan y dyluniad yn dderbyniol (c)
Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Dros 10 o unedau yma, pam felly dim sôn am lecyn adloniadol? ·
Derbyn bod yr
ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn fanteisiol - hyn i’w annog ·
Tai
fforddiadwy yn 20% yn hytrach na
30% - derbyn
bod y penderfyniad yn gywir ·
Beth fydd ‘pris
fforddiadwy’ yr unedau? Awgrymwyd y bydd pris y farchnad yn sylweddol uchel. ·
Pryderon llifogydd (d)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd yng nghyd destun llecyn adloniadol bod tir gwag digonol ar y safle er
mwyn sicrhau hyn. Wrth ystyried tai fforddiadwy nodwyd bod y penderfyniad wedi
ei wneud yn unol â chytundeb 106 a bod trafodaethau gyda Chymdeithasau Tai wedi
eu cynnal. O ran llifogydd, nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adolygu’r
Asesiad Canlyniadau Llifogydd a'u bod yn gefnogol i’r cais. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 yn clymu 2 o’r unedau fel
unedau fforddiadwy angen lleol cyffredinol ac i amodau - 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau diwygiedig. 3. Llechi ar y to. 4. Cytuno manylion waliau allanol. 5. Cytuno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif: C15/0524/41/LL - Cefn Uchaf, Garndolbenmaen, Gwynedd PDF 575 KB Newid defnydd tir
amaethyddol yn faes carafanau teithiol ar gyfer 28 uned ynghyd a ffordd
fynediad newydd, adeilad cyfleusterau a gosod tanc septic AELOD
LLEOL: CYNGHORYDD ALED LLOYD EVANS Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y cais wedi ei dynnu yn ôl |
|
Cais Rhif: C15/1039/09/LL - 5, Bryn Garreg Lwyd, Tywyn, Gwynedd PDF 669 KB Cais am gynlluniau diwygiedig ar gyfer codi ty ar wahan a ganiatawyd dan ganiatad amlinellol cyfeirnod 5/79/134 a chaniatad manylion PIAW 5/79/134 AELODAU LLEOL: CYNGHORWYR
G. Michael Stevens ac Anne T. Lloyd Jones Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais am gynlluniau diwygiedig ar gyfer codi tŷ ar
wahân a ganiatawyd dan ganiatâd amlinellol cyfeirnod 5/79/134 (1988) a
chaniatâd manylion a gadawyd yn ôl PIAW
5/79/134 (1990). Nodwyd bod cadarnhad wedi ei roddi yn y gorffennol fod y
caniatâd hwn yn dal yn fyw dan ddarpariaethau Adran 56 o’r Ddeddf Cynllunio
Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) gan fod y datblygiad wedi ei gychwyn o
fewn pum mlynedd yn unol â’r caniatâd cynllunio (a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y tŷ sydd erbyn hyn wedi
ei rannol adeiladu, ynghanol ystâd o dai sydd wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu tref Tywyn yn y Cynllun Datblygu Unedol. Amlygwyd bod egwyddor i
ddatblygu ystâd o dai preswyl eisoes wedi ei ffurfio ar y safle ers caniatáu
caniatâd cynllunio amlinellol 1988, a
cafodd manylion ar osodiad yr ystâd ei ganiatáu yn 1990. Gan fod y caniatâd hwn
wedi ei weithredu o fewn yr amser a bennwyd ar y caniatâd cynllunio gwreiddiol
hwnnw mae’n bwysig nodi bod yr egwyddor o ddatblygu tŷ ar y safle hwn
eisoes wedi ei ffurfio. Nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu annedd ar y safle hwn eisoes wedi ei
dderbyn a’i ffurfio drwy ganiatâd hanesyddol ac felly nid yw polisi’r CDU sy’n
berthnasol i adeiladu tai newydd o fewn ffiniau (CH4) yn berthnasol gan nad
yw’r cais yn ymwneud gydag ystyried egwyddor datblygu’r safle ar gyfer tŷ
newydd ond yn hytrach gydag asesu dyluniad diwygiedig. Nodwyd bod dyluniadau a gorffeniad cyffredinol yr annedd yn cyd-fynd a
dyluniad y tŷ a ganiatawyd eisoes ar wahân i ychydig o newidiadau ond
ystyriwyd bod gorffeniad yr annedd yn gweddu gyda gweddill yr ystâd. Amlygywd
bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan drigolion cyfagos gyda honiadau na
ddylid newid y cynlluniau yn dilyn derbyn caniatâd. Mewn ymateb nodwyd bod
Polisi Gorfodi (Cynllunio) 2010 Cyngor Gwynedd yn datgan y gellid cyflwyno cais
ôl weithredol i’r Cyngor er rheoleiddio'r datblygiad anawdurdodedig gydag
amodau priodol ac er mwyn creu datblygiad derbyniol ac felly ni ystyriwyd bod y
cais ôl weithredol yma yn tanseilio'r drefn cynllunio. Nodwyd bod y
ffaith fod caniatâd cynllunio gweithredol yn bodoli ar y safle yn ystyriaeth
cynllunio o bwys wrth ystyried y cais presennol. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol
eisoes wedi caniatáu adeiladu tŷ ar y safle ac ni ystyriwyd bod y
diwygiadau i’r dyluniad a’r maint yn ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais. Ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad, yn unol â’r amodau perthnasol, yn amharu yn
sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal na mwynderau trigolion cyfagos, ac
ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio â’r cyfan o’r polisïau a nodir yn yr
adroddiad. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a gyflwynwyd (b) Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i ganiatáu y cais yn unol ar
argymhelliad. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol: ·
Bod angen cadw y safle yn daclus wrth weithio. PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: 1. Datblygu yn unol â chynlluniau a
gyflwynwyd; 2. Cytuno gorffeniad gweddill yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif: C15/1133/24/LL - Tir ger Tai Penrallt, Saron, Caernarfon PDF 722 KB Codi ty deulawr fforddiadwy,
mynedfa newydd a sied bren AELOD
LLEOL: CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
tŷ deulawr fforddiadwy, mynedfa newydd a sied bren (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd ar gyfer codi tŷ
fforddiadwy, mynedfa a sied bren i’r cais a wrthodwyd yn Awst, 2015 o dan
hawliau dirprwyedig y Cyngor. Amlygwyd bod y cais diweddaraf hwn wedi cael ei
ddiwygio ar sail y canlynol:- • Mae maint y safle wedi ei
leihau o 2,049m2 i 1,157m2. • Mae’r tŷ wedi ei
leoli 1.83m yn agosach i’r ffordd sirol gyfagos. • Mae dyluniad y to a rhai
o’r ffenestri wedi eu diwygio. Eglurwyd nad oed
dy safle yn gorgyffwrdd adeilad wedi ei liwio yn goch ar fap mewnosodiad Saron
sydd wedi ei ddynodi fel pentref gwledig yn CDUG gyda’r tŷ agosaf wedi ei
leoli 21m i’r gorllewin gyda’r ffordd sirol a rhodfa’r stad yn gwahanu safle’r
cais o’r tŷ ei hun. Nodwyd bod y bwriad felly yn golygu codi annedd yng
nghefn gwlad agored heb unrhyw gysylltiad ffisegol i batrwm datblygu
cyffredinol pentref gwledig Saron. Mae’r egwyddor o
ddatblygu anheddau preswyl yng nghefn gwlad wedi ei gynnwys mewn nifer o
ddogfennau polisïau a chyngor strategol gan y Cyngor a gan Lywodraeth Cymru ac
fe gyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Amlygwyd hefyd o ran yr elfen fforddiadwy nad oedd tystiolaeth gref wedi
ei dderbyn fel rhan o’r cais cyfredol hwn i argyhoeddi’r ACLL bod wir angen am
dy fforddiadwy ar y safle arbennig hwn. Mae gofynion CCA: Tai Fforddiadwy yn
datgan yn glir “bydd rhaid i ymgeiswyr brofi eu bod yn lleol, nad ydynt yn
gallu fforddio tŷ ar y farchnad agored, eu bod yn byw mewn sefyllfa
annerbyniol megis tŷ wedi ei orlenwi a bod angen llety arall arnynt”. Atgoffwyd y Pwyllgor y dylid penderfynu ar
geisiadau am ganiatâd cynllunio yn unol â’r cynllun datblygu cymeradwy oni bai
bod ystyriaethau perthnasol sy’n nodi fel arall. Rhaid i’r ffactorau sydd i’w
hystyried fod yn ystyriaethau perthnasol i gynllunio. Yn yr achos arbennig yma
nodwyd nad oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn ddigonol i alluogi caniatáu’r cais
yn groes i bolisïau a chanllawiau mabwysiedig y Cyngor ynghyd a’r cyngor a
gynhwysir yn nogfennau Llywodraeth Cymru. Daw’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’r
casgliad nad yw’r safle yn safle addas ar gyfer codi ty arno (fforddiadwy neu
beidio) gan nad yw’n un y gellid ei ddehongli fel safle mewnlenwi nac ydyw wedi
ei leoli union gerllaw adeilad sydd wedi ei liwio yn goch ar y map mewnosodiad
ar gyfer Saron, nid yw dyluniad, ffurf na graddfa’r tŷ arfaethedig yn
dderbyniol ac nid oedd tystiolaeth wedi
ei dderbyn gyda’r cais sydd yn argyhoeddi’r Awdurdod Cynllunio Lleol bod yr ymgeiswyr mewn gwir
angen ac yn gymwys am dy fforddiadwy ym mhentref gwledig Saron. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a gyflwynwyd. (a) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:- · Y cais yma yn ymateb i gais tebyg a wrthodwyd yn Awst 2015 - addasiadau wedi eu gweithredu yn unol â gofynion y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif: C15/0915/18/LL - Cil Fynydd, Penrhos, Bethel PDF 680 KB Cais i estynnu
a trosi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi
modurdy newydd AELOD
LLEOL: Cynghorydd
Sion Jones Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i estynnu a
throsi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y
gohiriwyd trafod y cais ym mhwyllgor 30 Tachwedd 2015 er galluogi’r trefniant
siarad. Amlygwyd bod yr annedd yn dŷ llawr a hanner sy’n sefyll ar ei ben
ei hun o fewn cwrtil sylweddol ar gyrion pentref Bethel ac sydd wedi ei leoli
tu allan i ffin ddatblygu’r pentref. Mae’r
eiddo presennol yn dŷ 4 ystafell wely gyda 2 o’r ystafelloedd gwely ar y
llawr gwaelod. Mae’r modurdy cysylltiol presennol yn un llawr ac ynghlwm i ochr
yr annedd. Y bwriad yw trosi ac ymestyn y modurdy cysylltiol er mwyn creu
‘anecs’. Rhoddwyd eglurhad o ddiffiniad anecs ac ategwyd nad oedd unrhyw
wybodaeth na chyfiawnhad wedi ei gynnig ar gyfer bwriad yr anecs oedd yn destun
y cais. Ategwyd bod maint yr anecs yn fwy na fuasai yn cael ei ganiatáu ar
gyfer ty fforddiadwy 2 lofft ac y buasai’r anecs yn gyfystyr ac adeiladu
tŷ newydd yng nghefn gwlad. Ystyriwyd bod bwriad yn groes i Bolisi CH9
o’r CDU yn ogystal â’r cyngor cenedlaethol. Yn ogystal, ystyriwyd bod y modurdy
deulawr a’r estyniad bwriadedig i’r tŷ yn debygol o greu nodwedd estron a
chreu effaith annerbyniol ar yr eiddo presennol a mwynderau gweledol yr ardal
ac felly yn groes i ofynion polisi B24 a B22 yn ogystal. (b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod yr annedd gydag un
mynediad ac un côd post ·
Nad oedd bwriad creu dau
dŷ - y bwriad yw creu estyniad ac nid tŷ o’r newydd ·
Creu
uned deuluol ·
Y bwriad yw i’r
ymgeisydd a’i gŵr fyw yn yr anecs gan ryddhau'r tŷ i’w merch a’i
theulu ddod i fyw yno (c)
Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Cymdogion
wedi nodi eu cefnogaeth drwy lythyr ·
Dim
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ·
Dim
tŷ newydd yw hwn yng nghefn gwlad – pwysleisio mai estyniad ydyw ·
Prinder
sylweddol o dai ym Methel ·
Yr estyniad yn rhoi
cyfle i’r teulu ddod at ei gilydd ·
Cyfle i deulu ifanc fyw
o fewn cymuned Gymreig ·
Y Cyngor Cymuned yn
gefnogol i’r cais (d) Mewn ymateb nodwyd Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio bod y cais gerbron
yn un anarferol gan fod maint yr anecs yn fawr. Atgoffwyd y Pwyllgor bod angen
bod yn gyson a gofalus wrth ystyried polisïau ac y byddai caniatáu’r anecs yn
groes i bolisïau cynllunio sylfaenol. (e) Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle. PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle |