Agenda item

 

Codi ty deulawr fforddiadwy, mynedfa newydd a sied bren 

 

AELOD LLEOL:  CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Codi tŷ deulawr fforddiadwy, mynedfa newydd a sied bren

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd ar gyfer codi tŷ fforddiadwy, mynedfa a sied bren i’r cais a wrthodwyd yn Awst, 2015 o dan hawliau dirprwyedig y Cyngor. Amlygwyd bod y cais diweddaraf hwn wedi cael ei ddiwygio ar sail y canlynol:-

 

        Mae maint y safle wedi ei leihau o 2,049m2 i 1,157m2.

        Mae’r tŷ wedi ei leoli 1.83m yn agosach i’r ffordd sirol gyfagos.

        Mae dyluniad y to a rhai o’r ffenestri wedi eu diwygio.

 

Eglurwyd nad oed dy safle yn gorgyffwrdd adeilad wedi ei liwio yn goch ar fap mewnosodiad Saron sydd wedi ei ddynodi fel pentref gwledig yn CDUG gyda’r tŷ agosaf wedi ei leoli 21m i’r gorllewin gyda’r ffordd sirol a rhodfa’r stad yn gwahanu safle’r cais o’r tŷ ei hun. Nodwyd bod y bwriad felly yn golygu codi annedd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gysylltiad ffisegol i batrwm datblygu cyffredinol pentref gwledig Saron.

 

Mae’r egwyddor o ddatblygu anheddau preswyl yng nghefn gwlad wedi ei gynnwys mewn nifer o ddogfennau polisïau a chyngor strategol gan y Cyngor a gan Lywodraeth Cymru ac fe gyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad.

 

Amlygwyd hefyd o ran yr elfen fforddiadwy nad oedd tystiolaeth gref wedi ei dderbyn fel rhan o’r cais cyfredol hwn i argyhoeddi’r ACLL bod wir angen am dy fforddiadwy ar y safle arbennig hwn. Mae gofynion CCA: Tai Fforddiadwy yn datgan yn glir “bydd rhaid i ymgeiswyr brofi eu bod yn lleol, nad ydynt yn gallu fforddio tŷ ar y farchnad agored, eu bod yn byw mewn sefyllfa annerbyniol megis tŷ wedi ei orlenwi a bod angen llety arall arnynt”.

Atgoffwyd y Pwyllgor y dylid penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio yn unol â’r cynllun datblygu cymeradwy oni bai bod ystyriaethau perthnasol sy’n nodi fel arall. Rhaid i’r ffactorau sydd i’w hystyried fod yn ystyriaethau perthnasol i gynllunio. Yn yr achos arbennig yma nodwyd nad oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn ddigonol i alluogi caniatáu’r cais yn groes i bolisïau a chanllawiau mabwysiedig y Cyngor ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yn nogfennau Llywodraeth Cymru. Daw’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’r casgliad nad yw’r safle yn safle addas ar gyfer codi ty arno (fforddiadwy neu beidio) gan nad yw’n un y gellid ei ddehongli fel safle mewnlenwi nac ydyw wedi ei leoli union gerllaw adeilad sydd wedi ei liwio yn goch ar y map mewnosodiad ar gyfer Saron, nid yw dyluniad, ffurf na graddfa’r tŷ arfaethedig yn dderbyniol  ac nid oedd tystiolaeth wedi ei dderbyn gyda’r cais sydd yn argyhoeddi’r Awdurdod  Cynllunio Lleol bod yr ymgeiswyr mewn gwir angen ac yn gymwys am dy fforddiadwy ym mhentref gwledig  Saron.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd.

 

(a)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y cais yma yn ymateb i gais tebyg a wrthodwyd yn Awst 2015 - addasiadau wedi eu gweithredu yn unol â gofynion y swyddog, a thystiolaeth wedi ei gynnwys i brofi yr angen am dŷ fforddiadawy

·         Derbyn nad yw'r ymgeisydd yn gymwys am dŷ fforddiadwy ond cafodd ei asesu ar waith tal uchel dros dro heb statws parhaol.

·         Buasai’r teulu yn cynnal a chryfhau cymuned – ymateb i CH5

·         Bod y Canllaw Cynllunio Atodol ar Dai newydd mewn pentrefi gwledig yn caniatáu eithriadau  – nid yw hyn yn cael ei gyfarch gan y swyddog

·         Cynllun Adnau Drafft- statws ystyriaeth berthnasol -  y geiriad yn wahanol i’r Cynllun Datblygu Lleol

·         Trigolion lleol wedi derbyn y cyfle i graffu a thrafod  a holi bwriad yr ymgeisydd

·         Yr annedd yn cwrdd ag anghenion lleol

·         Nid yw yn groes i batrwm datblygu cyffredinol

 

(b)      Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Pentref gwledig Cymraeg yw Saron fydd yn croesawu teulu  newydd o  Gymry Cymraeg

·         Wedi canfod barn gyffredinol trigolion lleol; dim gwrthwynebiad i un tŷ gael ei adeiladu yn y cae (awgrym bod ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau mai un tŷ yn unig fydd yn y cae)

·         Noson agored lwyddiannus wedi ei threfnu i rannu gwybodaeth am y bwriad

·         Ystyried bod safle y cais gwreiddiol yn well, ond wedi trafod gyda’r ymgeisydd cytuno ar y safle presennol

·         Gwrychoedd yn cuddio'r datblygiad yn rhannol

·         Y safle o fewn ardal 30m yr awr

·         Bod diffyg llofftydd yn eu tŷ presennol

·         Y safle yn ddelfrydol

·         Caniatáu y cais ond sicrhau un tŷ yn unig ar y safle.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r uchod nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai eithriadau yn unig yw caniatáu tai yng nghefn gwlad ac y dylid gwneud penderfyniadau  yn unol â pholisïau cyfredol. Ategwyd bod yr ymgeiswyr wedi cael eu hasesu gan Tai Teg a chanlyniad yr asesiad hwnnw oedd nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys am dy fforddiadwy. Ychwanegwyd nad oedd y lleoliad yn cydymffurfio a gofynion y Cynllun Datblygu Lleol ac yn gwbl groes i bolisïau. Buasai caniatáu y cais yn gosod cynsail perygl.

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion am y rhesymau canlynol:

·         Bod y datblygiad yn eithriad i bolisïau

·         Datblygiad ydyw o fewn pentref gwledig

·         Angen lleol am dŷ

 

(c)          Mewn ymateb i gwestiwn nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu,  er bod y datblygiad yn gyfochrog agos i safle sydd wedi ei liwio yn goch ar y map mewnosod, mae yn cael ei wahanu yn ffisegol gan ffordd sirol sy’n golygu nad ydynt yn gyfochrog (polisi sydd yn cael  ei weithredu yn gyson). Cadarnhawyd bod asesiad Tai Teg wedi ystyried yr ymgeiswyr fel cwpl a bod lefel y cyflog yn golygu nad oeddent yn gymwys am dy fforddiadwy oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth a gyflwynwyd i’r asesiad, nid oedd modd rhannu'r wybodaeth yma.

Mewn ymateb i eiriad y Cynllun Adnau Drafft sydd yn cyfeirio at ddatblygiad ‘union gyferbyn’, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio nad yw’r Cynllun Adnau wedi ei fabwysiadu ac felly nid yw’r sylw yn berthnasol.

 

(dd)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol o blaid y cais

·         Bod y cynlluniau wedi eu haddasu ar ôl trafodaethau ac felly posib bod ystyriaeth i ganiatáu?

·         Angen cefnogi a gwarchod teuluoedd Cymraeg

·         Caniatáu ar sail mai eithriad yw'r datblygiad

 

(d)          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol yn erbyn y cais:

·         Nad yw'r polisïau wedi newid ers Awst 2015

·         Nad oes rhesymau cynllunio dros ganiatáu

Gwnaed cais am bleidlais gofrestredig.

 

(e)      Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:

           

O blaid y cynnig i ganiatáu y cais, (3) Y Cynghorwyr: Simon Glyn, Gruffydd Williams ac Owain Williams.

        

Yn erbyn y cynnig i ganiatau  y cais, (8) Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen, W. Tudor Owen, John Pughe Roberts a  Hefin Williams:

        

         Atal,(0)

 

         Gwnaed ac eiliwyd cynnig i wrthod y cais

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion.

 

1.      Mae’r bwriad yn annerbyniol ar sail egwyddor ac yn groes i ofynion Polisi C1, CH5 a CH9 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Canllawiau Cynllunio Atodol: Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn Gwlad, Tai Newydd Mewn Pentrefi Gwledig a Tai Fforddiadwy, Nodyn Cyngor Cynllunio 2 ar Dai Fforddiadwy, Nodyn Cyngor Technegol 6 ar Cynllunio ar Gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 ar dai gan nad yw’r bwriad yn cwrdd gyda’r meini prawf ar gyfer lleoli ty newydd mewn pentref gwledig ac, felly, ei fod yn gyfystyr a chodi ty newydd yng nghefn gwlad heb unrhyw gyfiawnhad.

 

2.      Mae’r bwriad yn annerbyniol ac yn groes i ofynion Polisi B23 a C1 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd,  Canllawiau Dylunio Gwynedd, Canllaw Cynllunio Atodol: Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn Gwlad, Nodyn Cyngor Technegol 12 ar Dylunio ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 Tai gan ei fod yn creu nodwedd anghydnaws yn y dirwedd agored.

 

3.      Mae’r bwriad yn annerbyniol ac yn groes i ofynion Polisi  CH5 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy, Nodyn Cyngor Technegol 2 Tai Fforddiadwy a Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 Tai  gan nad oes tystiolaeth wedi ei dderbyn sy’n profi’n ddiamheuol bod angen lleol cymunedol am dy fforddiadwy ar y safle hwn.

 

Dogfennau ategol: