Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer codi 21 o dai (gan gynnwys 7 ty fforddiadwy) gyda'r holl faterion eraill wedi cadw y eu hol (cynllun diwygiedig)

 

AELOD LLEOL : CYNGHORYDD ALED  LL  EVANS

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

 

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi 21 o dai (gan gynnwys 7 tŷ fforddiadwy) gyda'r holl faterion eraill wedi cadw yn eu hol (cynllun diwygiedig)

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod rhan fwyaf o’r safle o fewn ffin datblygu Chwilog fel y dynodwyd yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Mae’r safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai newydd ac ystyrir y gall y safle ymdopi gydag oddeutu 20 uned breswyl gyda 30% ohonynt yn dai fforddiadwy.

 

Amlygwyd bod angen darparu llecyn agored adloniadol ar y safle a bod yr ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i gydymffurfio gyda’r gofyn hwn. O ran cyfleusterau addysgol cyfeiriwyd bod angen sicrhau y gall ysgolion presennol ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn y nifer o ddisgyblion a ddaw o ddatblygiad preswyl newydd. Wedi ymgynghori gydag Adran Addysg Cyngor Gwynedd a defnyddio gwybodaeth o’r CCA, disgwylid cyfraniad addysgol o £8,914 i’r ysgol gynradd leol drwy gytundeb 106. Cadarnhawyd bod y cynnig yn cwrdd â’r polisïau perthnasol.


Cyfeiriwyd at yr asesiad cymunedol ac ieithyddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais a ddaeth i’r casgliad bod y datblygiad yn helpu i amddiffyn yr iaith yn lleol drwy ddarparu cyfleoedd i bobl leol symud i fyny yn y farchnad dai a thrwy hynny aros i fyw yn lleol gan gefnogi cyfleusterau’r pentref a gweithgareddau cymunedol.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion y Briff Datblygu ar gyfer y safle yn ogystal â’r polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol eraill a nodir yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a chytundeb 106 i ddelio gyda materion penodol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd

 

(b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y cynllun wedi bod yn destun trafodaethau helaeth gyda swyddogion a’r aelod lleol

·         Yr ardal wedi ei ddynodi fel safle i ddatblygu tai ac yn cwrdd ag anghenion lleol

·         Chwilog yn bentref sydd a’r gallu i ddatblygu yn organig - nid yw yn bentref gwyliau

·         Tai addas ar gyfer y gymuned leol

·         Darparu cyfleoedd i bobl leol i symud i fyny yn y farchnad dai

 

(c)       Adroddwyd bod yr aelod lleol yn gefnogol i’r cais.

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(d)       Mewn ymateb i sylw gan aelod ynglŷn â rheoli'r datblygiad gam wrth gam, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod posib cynnwys amod ychwanegol i gyfarch hynny.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad - Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb 106 yn ymwneud â’r cyfraniad ariannol addysgol ac i sicrhau fod 7 o’r 21 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol. Byddai'r caniatâd cynllunio'n cynnwys amodau  perthnasol yn ymwneud â:

 

1.            Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2.            Deunyddiau i gyd i’w cytuno

3.            Llechi to

4.            Dŵr / Carthffosiaeth / Draeniad

5.            Amodau priffyrdd

6.            Amodau Bioamrywiaeth

7.            Tynnu hawliau cyffredinol a ganiateir o’r tai fforddiadwy

8.            Tirweddu

9.            Cynllun gwarchod coed

10.          Llecyn chwarae

11.          Tynnu hawliau datblygu a ganiateir

12.          Datblygiad gam wrth gam

 

Dogfennau ategol: