Agenda item

Cais diwygiedig i ddymchwel gwesty presennol a pwll nofio (ac eithro’r adeilad gwreiddiol) ac ail ddatblygu’r safle ar gyfer 10 ty preswyl, 5 fflat preswyl, 1 uned manwerthu A1, adeiladau storio beic, clwydfan ystlumod a 31 lle parcio

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD  R H WYN WILLIAMS

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

 

Cofnod:

Cais diwygiedig i ddymchwel gwesty presennol a phwll nofio (ac eithrio’r adeilad gwreiddiol) ac ail ddatblygu’r safle ar gyfer 10 tŷ preswyl, 5 fflat preswyl, 1 uned manwerthu A1, adeiladau storio beic, clwydfan ystlumod a 31 lle parcio.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle pan gyflwynwyd cais blaenorol (C12/0441/39/LL). Amlygwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod newidiadau wedi eu cynnig sydd yn ymwneud gyda newidiadau ansylweddol i’r dyluniad. Nodwyd bod y bwriad ar gyfer ail-ddatblygu safle Gwesty’r Riverside ar gyfer 15 uned breswyl a fyddai’n cael eu gosod ar y safle mewn 3 bloc o adeiladau dau a tri llawr yn dderbyniol o ran egwyddor.  Fel cais C12/0441/39/LL  mae'r materion hyfywdra’n gysylltiedig gyda’r bwriad yn parhau ac felly ystyriwyd hi’n rhesymol yn nhermau Polisi CH4 i ystyried llai o unedau fforddiadwy na fyddai’n arferol ddisgwyliedig ar safle yn Abersoch.  Mae’r cais presennol yn cynnig dwy uned fforddiadwy fel y cais blaenorol ac ystyriwyd felly fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 yn clymu 2 o’r unedau fel tai fforddiadwy angen lleol cyffredinol..

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod hanes cynllunio dwys i’r lleoliad ac felly nid yw’r datblygiad wedi bod yn hyfyw fel gwesty

·         Arddangosfa leol wedi ei chynnal yn y neuadd bentref i rannu gwybodaeth am y cynllun gyda thrigolion y pentref

·         Y wasg wedi derbyn gwybodaeth sylweddol am y cynllun

·         Cais i’r wal derfyn o’r safle at yr harbwr gael ei  chadw

·         Cais i ymestyn y ffin wedi ei wrthod

·         Ar y cyfan y dyluniad yn dderbyniol

 

(c)       Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·      Dros 10 o unedau yma, pam felly dim sôn am lecyn adloniadol?

·      Derbyn bod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn fanteisiol - hyn i’w annog

·      Tai fforddiadwy yn 20% yn hytrach na 30%  - derbyn bod y penderfyniad yn gywir

·      Beth fydd ‘pris fforddiadwy’ yr unedau? Awgrymwyd y bydd pris y farchnad yn sylweddol uchel.

·      Pryderon llifogydd

 

(d)       Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd yng nghyd destun llecyn adloniadol bod tir gwag digonol ar y safle er mwyn sicrhau hyn. Wrth ystyried tai fforddiadwy nodwyd bod y penderfyniad wedi ei wneud yn unol â chytundeb 106 a bod trafodaethau gyda Chymdeithasau Tai wedi eu cynnal. O ran llifogydd, nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adolygu’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a'u bod yn gefnogol i’r cais.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 yn clymu 2 o’r unedau fel unedau fforddiadwy angen lleol cyffredinol ac i amodau - 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol â chynlluniau diwygiedig.

3.         Llechi ar y to.

4.         Cytuno manylion waliau allanol.

5.         Cytuno ar y garreg a ddefnyddir yn y waliau gerddi a ffin.

6.         Darpariaeth barcio i fod yn weithredol cyn i’r anheddau gael eu meddiannu.

7.         Cyflwyno cynllun draenio ar gyfer y datblygiad cyn i’r gwaith ddechrau. 

8.         Angen cytuno ar union leoliad y glwydfan ystlumod a chwblhau’r glwydfan ystlumod cyn cychwyn gwaith dymchwel.

9.         Cyn cychwyn gwaith dymchwel rhaid bydd cyflwyno a gweithredu diweddariad i’r adroddiad lliniaru ystlumod.

10.       Angen cyflwyno adroddiad monitro ystlumod ar ôl 3 a 5 mlynedd.

11.       Cyn cychwyn y gwaith ymgymryd â rhaglen i waredu Llysiau’r Dial a rhywogaethau ymledol nad yw’n gynhenid.  Angen cwblhau’r gwaith gwaredu cyn cwblhau’r gwaith adeiladu.

12.       Cyn cychwyn adeiladu angen cyflwyno Cynllun Rheoli Bioamrywiaeth yn cynnwys nodweddion ar gyfer dyfrgwn ac ymlusgiaid.

13.       Cyn cychwyn adeiladu angen cyflwyno a gweithredu datganiad dull yn cynnwys mesurau i osgoi niwed i ymlusgiaid.

14.       Angen darparu cynllun atal llygredd cyn cychwyn y gwaith adeiladu.

15.       Gosod lefelau’r llawr gwaelod ar gyfer adeiladau/fflatiau yn 5.69m UOD fan leiaf.

16.       Cyflwyno a chytuno ar fanylion pob mesur lliniaru llifogydd gyda’r awdurdod cynllunio lleol cyn i neb feddiannu’r unedau Rhaid i’r rhain gynnwys uchder y brig ac asesiad strwythurol dan unrhyw lwythiadau waliau cynnal, manylion am danciau ar islawr ac unrhyw ddrysau mynediad dan lefelau llifogydd a amcangyfrifir o 5.69m UOD a chyfrifoldebau cynnal a chadw yn y dyfodol.

17.       Manylion am drefniadau draenio dŵr gwastraff ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd i’w cyflwyno i’r ACLl a chael eu cytundeb arnynt cyn dechrau’r gwaith. Manylion i gynnwys draenio’r lle parcio ar yr islawr ac unrhyw drefniadau arllwysfeydd/pwmpio ynghyd â chyfrifoldebau cynnal a chadw yn y dyfodol.

18.       Dylai lefelau’r llawr gwaelod i’r gorllewin aros fel y maent (fel y dangosir yn Narlun Rhif A(00)01-100 Rev C) a dylid eu cadw fel ardal wedi’i thirlunio. Ni ddylid storio cerbydau/offer ar y tir hwn.

19.       Cyn dechrau ar unrhyw ddatblygiad, dylai manylion llawn unrhyw waith arfaethedig sydd i’w wneud o fewn pellter yr is-ddeddf o 7 metr gyferbyn ag Afon Soch gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Dylai’r manylion sydd i’w cyflwyno cynnwys darpariaeth gydag isafswm lled o 7 metr ar gyfer mynediad a hawddfraint i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar hyd glan yr afon neu dim cyfaddawd i drefniadau mynediad presennol i'r llifddorau.  Byddai’r coridor mynediad a hawddfraint hwn yn cael ei osod yn unol â’r manylion a gyflwynir i'r awdurdod cynllunio lleol, ac yn cael eu cymeradwyo ganddo, cyn i neb feddiannu unrhyw annedd neu eiddo sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad.

20.       Cyflwyno manylion tirlunio llawn.

21.       Gweithredu’r cynllun tirlunio.

22.       Gwarchod y wal gynnal sy’n ffinio gyda Lôn Engan yn ystod ac wedi’r cyfnod adeiladu.

 

Nodiadau:-

  • Hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980 i gario unrhyw waith allan o fewn y palmant / ymyl glas.
  • Copi o lythyr Dwr Cymru 19 Hydref 2015.
  • Angen trwydded Rhywogaeth Warchodedig Ewropeaidd cyn i unrhyw waith gymryd lle.
  • Dim cludo pridd wedi ei lygru gyda Llysiau’r dial heb drwydded gwastraff priodol.
  • Copi o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru 26 Tachwedd 2015.
  • Cynghori'r ymgeisydd i roi enw Cymraeg i’r datblygiad.

 

Dogfennau ategol: