Cais amlinellol i godi hyd at
366 o unedau byw, gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd fynedfa,
llecynnau parcio ag adnoddau cysylltiol
Dolen i'r Dogfennau
Perthnasol
Cofnod:
Cais amlinellol
i godi hyd at 366 o unedau byw, gyda
datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ffordd
fynedfa, llecynnau parcio ac adnoddau cysylltiol. Nodwyd – byddai modd gosod
amod i ddatblygu yn raddol dros
gyfnod maith a cyfeirwyd at y sywladau hwyr oedd wedi’u
derbyn ac oedd yn cyfeirio at hyn.
Roedd yr
Aelodau wedi ymweld â’r safle 5.11.2015
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan bwysleisio bod y datblygiad yn gais amlinellol
gyda manylion y fynedfa yn unig yn ffurfio rhan o’r cais. Ategwyd bod materion
megis edrychiadau, tirlunio, gosodiad a maint a’r union niferoedd (hyd at
uchafswm o 366) i gyd yn faterion a gedwir yn ôl ac
felly yn destun cais pellach i
gynnwys y
manylion hyn.
Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffiniau
datblygu dinas Bangor, ac sydd wedi ei
ddynodi fel canolfan isranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd
(Gorffennaf 2009). Mae wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl;
yn safle sydd yn rhannol wedi ei ddatblygu yn y gorffennol gan Brifysgol Bangor
fel safle ymchwil amaethyddol ac sydd bellach yn wag (yr adeiladau bellach wedi
eu dymchwel a’u gwaredu). Nodwyd bod y lleoliad yn
gymharol guddiedig o edrychiadau cyhoeddus cyfagos gan fod presenoldeb tai
preswyl, Ysbyty Gwynedd a’i leoliad ar dir dyrchafedig uwchben Ffordd
Caernarfon yn ei guddio i raddau.
Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau ynghyd a deiseb yn bryderus am yr
effaith y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ei gael. Nodwyd mai materion priffyrdd gan gynnwys mynedfa, y
ffordd fynediad a’r cynnydd mewn symudiadau trafnidiaeth oedd un o’r elfennau
mwyaf cynhennus a welwyd mewn perthynas â’r cais yma.
Yn nhermau hygyrchedd, teimlwyd bod y safle yn briodol o ran ei leoliad a’i
osodiad mynegol, a bod yr egwyddor yn dderbyniol o safbwynt gofynion polisi.
Amlygwyd cryn bryder yn wreiddiol gan Uned Trafnidiaeth y Cyngor ynglŷn
â’r datblygiad a’i effaith ar y rhwydwaith ffyrdd
lleol a’r diffyg darpariaeth o ffordd gyswllt gyfan o gyfeiriad Ffordd
Caernarfon i Ffordd Penrhos, fel sydd wedi ei nodi yn y Briff Datblygu. Nodwyd mai cysylltiadau troed a beic yn unig fydd i
Ffordd Penrhos. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth rhwng y datblygwr a
chynrychiolwyr yr Uned Drafnidiaeth ac ar sail y trafodaethau hyn fe gyflwynwyd
gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb. Ar sail y wybodaeth ychwanegol, yn ogystal
ag archwiliadau pellach eu hunain, roedd yr Uned Drafnidiaeth yn hapus gyda’r
bwriad.
Nodwyd
bod materion archeolegol, coed, bioamrywiaeth isadeiledd a materion llifogydd
yn gallu bod yn dderbyniol drwy osod amodau cynllunio perthnasol ac yng nghyd
destun materion addysgol bod y cyfraniad addysgol yn bodloni gofynion addysgol
y bwriad. O dderbyn y cyfraniad ariannol tuag at wella cyfleusterau addysgol yr
ardal (gyda’r union fanylion i’w cytuno gyda’r Adran Addysg), gellid bodloni
gofynion y polisi perthnasol gydag amseriad y cyfraniad i’w drefnu o fewn y
cytundeb 106 fydd yn cael ei lunio er mwyn sicrhau hyn.
Yng
nghyd destun materion iaith a chymunedol, amlygwyd bod datganiad ieithyddol a
chymdeithasol wedi ei gyflwyno er nad oedd yn ofynnol derbyn asesiad ar gyfer
safle oedd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Unedol ar gyfer codi tai gan y gwnaed
asesiad wrth ystyried dynodi'r safle yn wreiddiol. Cyflwynwyd datganiad yn yr
achos yma oherwydd maint y datblygiad a chyhoeddiad canlyniadau’r cyfrifiad
diweddar ac ystyriwyd y byddai’n briodol i’r datblygwr gyflwyno datganiad er
mwyn ei asesu yn ffurfiol gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Ar
y cyfan, ystyriwyd fod natur dinas Bangor o ran maint y boblogaeth, patrwm
ieithyddol, amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael, symudiadau
myfyrwyr ayyb yn golygu na fyddai’r
datblygiad yn cael effaith andwyol gormodol ar yr iaith Gymraeg. Er mwyn
sicrhau effeithiau positif ar yr iaith Gymraeg, awgrymwyd fod mesurau lliniaru
penodol yn cael eu gweithredu megis datblygiad cam wrth gam, marchnata tai yn
lleol am gyfnod penodol, arwyddion Cymraeg, cefnogaeth i fentrau hyfforddi
sgiliau lleol ayyb.
Nodwyd
bod y cais yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol fel y nodwyd yn yr adroddiad yn
ddarostyngedig i amodau perthnasol. Argymhellwyd y Pwyllgor i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo
cytundeb 106 i gynnwys 30% o gyfran tai’r safle fel tai fforddiadwy a derbyn
cyfraniadau ariannol tuag at wella cyfleusterau addysg leol.
Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r
cais y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y
datblygiad yn rhy fawr ac yn ddiangen
·
Yn bentref /
gorddatblygiad artiffisial i gymudwyr wedi ei leoli
ger yr A55
·
Penrhosgarnedd
yn ardal Gymraeg ac felly'r datblygiad yn creu
effaith niweidiol ar yr Iaith Gymraeg – unig ran bellach lle siaredir Cymraeg
yn gyson
·
Yr asesiad
iaith yn rhy gyffredinol ac arwynebol wedi ei selio ar gyfrifiad 2001. Nid yw’r
cwmni yn ymddangos yn poeni dim ar yr iaith. Ofer yn unig yw son am ddiogelu Cymreictod wrth gynnig arwyddion Cymraeg a
chyfraniadau ac ati.
·
Ni all isadeiledd lleol
presennol ymdopi gyda maint y datblygiad
– ffyrdd yr ardal eisoes yn
dagfeydd
·
Y datblygiad
arfaethedig yn amlwg yn groes i Bolisi Strategol 1 Cynllun Datblygol Unedol
Gwynedd 2009 - cael effaith annerbyniol ac amhendant ar yr iaith
Gymraeg neu ar gymeriad diwylliannol cymunedau
·
Yn groes i
bolisi A2 - diogelu cydlyniad cymdeithasol ieithyddol neu ddiwylliannol
cymunedol rhag newid - arwyddocaol oherwydd maint, graddfa neu leoliad
cynigion.
·
Rhesymau dilys dros wrthod
(c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y datblygiad yn
cyfarch gofynion y Cynllun Datblygu Unedol
·
Bod y datblygiad yn
cyfarch anghenion tai ym Mangor
·
Bod y safle yn addas ac
yn gynaliadwy ar gyfer cynllunio
·
Trafodaethau helaeth wedi eu cynnal
yng nghyd destun trafnidiaeth, ond bellach wedi cael cytundeb
·
Y datblygiad yn un tymor
hir gyda bwriad o godi 30 tŷ bob blwyddyn (cwblhau 2030) Ni fydd hyn yn
creu effaith ar y farchnad leol gan y bydd y tai yn cael eu hadeiladu gam wrth
gam
·
Bydd 110 o unedau fforddiadwy
·
Cyfraniad sylweddol i’r
adran addysg
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Y
cynllun yn un dadleuol iawn
·
Y
datblygiad yn creu ardrawiad negyddol ar yr
ardal a’r gymuned leol
·
Y datblygiad yn enfawr -
y mwyaf i ddod gerbron Pwyllgor Cynllunio Gwynedd
·
Pentref newydd sydd yma
nid clwstwr o dai sydd o fewn 1km i ddatblygiad mawr arall o 245 o dai yn
Goetre Uchaf. Os caniatáu, golygai hyn y bydd 611 o gartrefi newydd mewn un
ardal fechan.
·
Nid oes angen am dai newydd.
Bangor eisoes yn llawn o dai ar
werth / i’w rhentu.
Adeiladau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn cael adeiladau sydd yn rhyddhau
tai, ar strydoedd traddodiadol Bangor, ar gyfer teuluoedd.
·
Nifer uchel o Gymry Cymraeg yn byw yn yr ardal yma ac felly tebygol y
bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar y gymuned Gymraeg ym Mhenrhosgarnedd.
·
Atgoffwyd yr Aelodau bod
gan bawb gyfrifoldeb dros warchod yr iaith a hunaniaeth.
·
Ni fydd ysgolion a
meddygfeydd lleol yn gallu ymdopi oherwydd eisoes yn agos i’w capasiti.
·
Sefyllfa trafnidiaeth bresennol yn hunllefus
ar Ffordd Caernarfon, felly
yn amlwg o waethygu
·
Angen sicrhau datblygiad sydd yn gynaliadwy a chefnogol i gymunedau presennol - nid yw’r
datblygiad yn cyfarch hyn
·
Nid oes angen adeiladu ar y tir yma
·
Galw ar y Pwyllgor i wrthod y cais
Amlygodd yr Uwch Reolwr ei fod yn gwerthfawrogi'r pryderon a’r
gwrthwynebiadau a nodwyd, er hynny, fod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai,
ac felly'r datblygiad mewn egwyddor yn dderbyniol. Yn
ychwanegol, petai y cais yn cael ei wrthod buasai rhaid cyfeirio at gyfnod o
gnoi cil gan fod tystiolaeth ddigonol a pherthnasol wedi ei gyflwyno ar sail
mynediad , isadeiledd, materion ieithyddol ac angen.
Cynigwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais.
(d)
Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol (o blaid y cais)
·
Cydymdeimlad gyda chymdogion o ran maint y datblygiad
·
Anodd gweld nad oes tystiolaeth
ddigonol i wrthod
·
Y
safle wedi ei ddynodi ar
gyfer datblygiad tai
·
Pwysig mai datblygiad
gam wrth gam ydyw - hyn yn greiddiol i’r datblygiad
·
Y pryderon sydd wedi eu
hamlygu, wedi eu cyfarch gan y swyddogion
·
Angen sicrhau amodau caeth bod 10 allan o’r 30 sy’n
cael eu cynnig
yn flynyddol yn dai fforddiadwy
(dd)
Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol (yn erbyn y cais)
·
Y datblygiad yn rhy fawr
- gormod o dai yn cael eu gwasgu i ardal
fechan
·
Effaith sylweddol ar yr
iaith Gymraeg
·
Dim
cymunedau newydd sydd eu hangen
·
Yr adroddiad yn rhy gyffredinol – dim digon o fanylion
·
Sut bydd modd sicrhau
30% o dai fforddiadwy? Sut fydd rhain yn cael eu hysbysebu?
·
Pryder ynglŷn â
chynnydd mewn trafnidiaeth a diogelwch ffyrdd
·
Nid all yr isadeiledd ymdopi a datblygiad o’r maint yma
·
Sut all ysgolion lleol
ymdopi â chynnydd yn y niferoedd plant
·
Pwy sydd wedi cwblhau'r
asesiad iaith - nid yw’n ddigon manwl ac yn debygol o fod wedi ei selio ar
gyfrifiad 2001
·
Rhaid ystyried datblygiadau eraill sydd yn cael
eu datblygu ym Mangor
·
Gwrthod oherwydd ei fod
yn orddatblygiad
(e)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nododd y swyddogion:-
·
Bod nifer y tai yn cael
ei gytuno ar sail cymhwyso dwysedd adeiladu safonol o 30 uned yr hectar.
Dwysedd y datblygiad arfaethedig yw 33 uned yr hectar - y safle yn ei
gyfanrwydd yn mesur 14.31 hectar (mae’r 14.31 ha yn cynnwys tiroedd heblaw'r tir sydd i’w ddatblygu ar gyfer tai h.y. mae hefyd
yn cynnwys y ffyrdd mynediad a’r cylchfannau cysylltiedig)
·
Yng nghyd destun 30% o
dai fforddiadwy, amlygwyd bod y Cyngor wedi apwyntio Prisiwr Dosbarth i gynnal archwiliad manwl ar ffurf asesiad
hyfywdra o’r datblygiad a bod y Prisiwr Dosbarth wedi dod i’r canlyniad y
byddai’r cynllun, gan ystyried y cyfraniad addysgol, yn gallu darparu 30% o dai
fforddiadwy cymysg i gynnwys daliadaeth wedi ei rannu oddeutu 70:30 (cyfeiriwyd
at nodyn 5.1.6 - 5.1.8 o’r adroddiad).
·
O ran gorfodi bod 10 allan o bob 30 yn dŷ fforddiadwy,
amlygwyd bod posib cynnwys amod i gyfarch hyn
·
O ran marchnata tai yn
lleol, bydd y cynllun yn cael ei reoli gam wrth gam fydd yn ei dro yn rheoli'r
niferoedd fydd yn cael eu rhyddhau ar y farchnad. Bydd yr unedau
fforddiadwy yn gaeth i gytundeb 106.
·
Cydnabod bod cynnydd i
drafnidiaeth ar Ffordd Caernarfon ond nodwyd fod arolygon wedi dod i’r casgliad
na fyddai’r datblygiad yn debygol o gael effaith niweidiol ar y rhwydwaith
ffyrdd lleol.
·
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu
asesiad iaith.
Mewn ymateb i sylw a wnaed ynglŷn â chreu mynedfa /
ffordd argyfwng i Ysbyty Gwynedd o Ffordd Caernarfon, nodwyd bod trafodaethau
wedi eu cynnal rhwng yr ymgeisydd a BIPBC.
(f)
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i
ganiatáu y cais:
O blaid y cynnig i ganiatáu y cais, (5) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall,
Michael Sol Owen a Hefin Williams
Yn erbyn
y cynnig i wrthod y cais, (6) Y Cynghorwyr: Elwyn Edwards, Simon Glyn, W.
Tudor Owen, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams ac Owain Williams
Atal,(0)
Disgynnodd y cynnig i
ganiatáu y cais
(ff) Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i wrthod y cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd,
·
Andwyol i’r iaith
Gymraeg
·
Dim tystiolaeth fod
is-adeiladwaith yn gallu ymdopi
·
Dim tystiolaeth fod
addysg yn gallu ymdopi
·
Dim tystiolaeth fod
rhwydwaith ffyrdd yn ddigonol
PENDERFYNWYD yn groes i argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais.
Nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor hwn, i
gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach gerbron y
Pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â gwrthod y cais.
Dogfennau ategol: