Agenda item

Cais am gynlluniau diwygiedig ar gyfer codi ty ar wahan a ganiatawyd dan ganiatad amlinellol cyfeirnod 5/79/134 a chaniatad manylion PIAW 5/79/134

 

AELODAU  LLEOL:

 

CYNGHORWYR  G. Michael Stevens ac  Anne T. Lloyd Jones

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

 

 

Cofnod:

 

Cais am gynlluniau diwygiedig ar gyfer codi tŷ ar wahân a ganiatawyd dan ganiatâd amlinellol cyfeirnod 5/79/134 (1988) a chaniatâd manylion a gadawyd yn ôl  PIAW 5/79/134 (1990). Nodwyd bod cadarnhad wedi ei roddi yn y gorffennol fod y caniatâd hwn yn dal yn fyw dan ddarpariaethau Adran 56 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) gan fod y datblygiad wedi ei gychwyn o fewn pum mlynedd yn unol â’r caniatâd cynllunio

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y tŷ sydd erbyn hyn wedi ei rannol adeiladu, ynghanol ystâd o dai sydd wedi ei leoli o fewn ffin datblygu tref Tywyn yn y Cynllun Datblygu Unedol. Amlygwyd bod egwyddor i ddatblygu ystâd o dai preswyl eisoes wedi ei ffurfio ar y safle ers caniatáu caniatâd cynllunio amlinellol  1988, a cafodd manylion ar osodiad yr ystâd ei ganiatáu yn 1990. Gan fod y caniatâd hwn wedi ei weithredu o fewn yr amser a bennwyd ar y caniatâd cynllunio gwreiddiol hwnnw mae’n bwysig nodi bod yr egwyddor o ddatblygu tŷ ar y safle hwn eisoes wedi ei ffurfio.

 

Nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu annedd ar y safle hwn eisoes wedi ei dderbyn a’i ffurfio drwy ganiatâd hanesyddol ac felly nid yw polisi’r CDU sy’n berthnasol i adeiladu tai newydd o fewn ffiniau (CH4) yn berthnasol gan nad yw’r cais yn ymwneud gydag ystyried egwyddor datblygu’r safle ar gyfer tŷ newydd ond yn hytrach gydag asesu dyluniad diwygiedig.

 

Nodwyd bod dyluniadau a gorffeniad cyffredinol yr annedd yn cyd-fynd a dyluniad y tŷ a ganiatawyd eisoes ar wahân i ychydig o newidiadau ond ystyriwyd bod gorffeniad yr annedd yn gweddu gyda gweddill yr ystâd. Amlygywd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan drigolion cyfagos gyda honiadau na ddylid newid y cynlluniau yn dilyn derbyn caniatâd. Mewn ymateb nodwyd bod Polisi Gorfodi (Cynllunio) 2010 Cyngor Gwynedd yn datgan y gellid cyflwyno cais ôl weithredol i’r Cyngor er rheoleiddio'r datblygiad anawdurdodedig gydag amodau priodol ac er mwyn creu datblygiad derbyniol ac felly ni ystyriwyd bod y cais ôl weithredol yma yn tanseilio'r drefn cynllunio.

 

Nodwyd bod y ffaith fod caniatâd cynllunio gweithredol yn bodoli ar y safle yn ystyriaeth cynllunio o bwys wrth ystyried y cais presennol. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol eisoes wedi caniatáu adeiladu tŷ ar y safle ac ni ystyriwyd bod y diwygiadau i’r dyluniad a’r maint yn ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad, yn unol â’r amodau perthnasol, yn amharu yn sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal na mwynderau trigolion cyfagos, ac ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio â’r cyfan o’r polisïau a nodir yn yr adroddiad.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd

 

(b)     Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i ganiatáu y cais yn unol ar argymhelliad.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

·         Bod angen cadw y safle yn daclus wrth weithio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

1.            Datblygu yn unol â chynlluniau a gyflwynwyd;

2.            Cytuno gorffeniad gweddill yr edrychiadau allanol;

3.            Cyflwyno cynllun tirlunio o fewn 2 fis i ddyddiad caniatâd;

4.            Gweithredu cynllun tirlunio o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn ei gymeradwyo;

5.            Tynnu rhai hawliau datblygu a ganiateir a gosod gwydr afloyw i rai ffenestri

 

Dogfennau ategol: