Agenda item

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

 

 

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL ar gyfer codi 24 o dai, newidiadau i fynedfa bresennol a chreu lonydd stad

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais ac fe atgoffwyd yr aelodau bod trafodaeth gychwynnol ar y cais wedi ei gynnal ym Mhwyllgor Cynllunio 19.10.15 lle penderfynwyd cynnal ymweliad safle. Adroddwyd yn y cyfarfod hwnnw bod capasiti ysgol dalgylch y cais cynllunio, sef, Ysgol Felinwnda, wedi cynyddu ar sail canlyniadau arolwg capasiti ysgolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn 2014 ac nad oedd hi’n ofynnol mwyach i’r ymgeisydd  gyfrannu’n ariannol ar gyfer darparu capasiti ychwanegol o fewn yr ysgol.

 

Fodd bynnag, ar ôl ail-edrych ar gyd- destun polisïau a gofynion cynllunio perthnasol, mae  Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Datblygiadau Tai a Darpariaeth Addysgol yn datgan:

 

bydd asesiad o effaith datblygiad preswyl ar ysgolion lleol yn cael ei seilio ar y wybodaeth gyfredol (h.y.  capasiti y sefydliadau addysgol ynghyd a nifer y disgyblion sydd yn eu mynychu)  sydd yn cyfleu’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn academaidd pryd y cyflwynir y cais cynllunio’.

 

Yn yr achos hwn, y flwyddyn academaidd briodol yw 2013-2014 gan fod y cais cynllunio wedi ei gyflwyno ym Mai, 2014. Amcangyfrifir bydd 10 plentyn yn deillio o’r datblygiad hwn sy’n golygu bod diffyg capasiti yn yr ysgol o 3 plentyn ac  mae, felly  gofyn i’r ymgeisydd sicrhau cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth addysgol yn ysgol y dalgylch fel y’i cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio yng Ngorffennaf, 2014. Bydd y cyfraniad yn parhau i fod yn £36,771.00 ar gyfer anghenion addysgol Ysgol Felinwnda.

 

Yn ychwanegol, amlygwyd bod yr aelod lleol wedi awgrymu'r posibilrwydd o godi tŷ ychwanegol ar y llecyn agored o werth adloniadol a gynhwysir o fewn y datblygiad arfaethedig ac ail-leoli’r llecyn adloniadol i fan arall yn y pentref. Nodwyd bod Polisi CH43 yn datgan y disgwylid i ddatblygiadau tai newydd sy’n cynnwys 10 tŷ neu fwy ac sydd mewn ardaloedd lle na fyddai’r llecynnau agored presennol yn diwallu anghenion y datblygiad tai arfaethedig ddarparu llecynnau agored adloniadol. Yn yr achos yma, i gydymffurfio a gofynion y polisïau hyn, mae’n ofynnol darparu llecyn agored o werth adloniadol oddi fewn i’r datblygiad hwn yn hytrach nag mewn man arall o fewn y pentref.

 

Nodwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol a gofynnwyd i’r aelodau ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn ymwneud â sicrhau bod 6 o’r 24 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac i ychwanegu trefniadau’r cyfraniad addysg i’r Cytundeb 106 hefyd..

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Bod y safle wedi ei ddynodi yn y cynllun datblygu unedol

·         Wedi trafodaeth, y llecyn agoriadol i aros o fewn y safle

·         Dim gwrthwynebiad i gyfraniad ysgol leol, ond awgrym y dylid ystyried y sefyllfa bresennol ac nid dyddiad y cyflwynwyd y cais

 

(c)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·      Dim gwrthwynebiad i’r cais ond angen dechrau adeiladu

·      Tai fforddiadwy yn dderbyniol ac yn ymateb i’r angen lleol

·      Gwerthfawrogi ail ystyriaeth  i’r cyfraniad addysg

·      Awgrym ail leoli'r llecyn adloniadol i fod yn llecyn ar gyfer y pentref i gyd neu fod swm o arian yn cael ei gyflwyno gan y datblygwr i’r Cyngor Cymuned i ddarparu cae chwarae i’r pentref. Angen cytuno pwy sydd yn gyfrifol am y llecyn adloniadol o ran materion diogelwch. Cynnig y dylid cynnal trafodaethau gyda datblygwr, swyddogion ac aelod lleol i geisio llecyn chwarae yn y pentref yn unol â pholisïau.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r pwyntiau uchod nodwyd nad oedd rheidrwydd darparu llecyn gydag offer chwarae arno, dim ond llecyn gwyrdd agored o fewn y stad.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad, ond i ychwanegu amod bod angen cynnal trafodaethau ar y llecyn adloniadol a gwarchod y gwrychoedd naturiol sydd yn gyfochrog i’r datblygiad.

 

(d)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Awgrymu trafodaethau o ran y llecyn adloniadol

·         Cynnig hawl tramwyo i bawb

·         Ystyried bod y datblygiad yn cael ei wneud gam wrth gam

·         A yw polisïau llecyn adloniadol yn cyfarch ‘cyfleoedd saff i blant chwarae’?

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod modd ysgrifennu at yr ymgeisydd i gadarnhau dymuniad y Pwyllgor ei fod yn trafod y ddarpariaeth o lecyn adloniadol gyda’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol tu allan i’r drefn gynllunio. Cadarnhawyd bod amod wedi ei gynnwys i gyfarch yr angen i adeiladu mewn camau ac yng nghyd destun ‘cyfleoedd chwarae saff i blant’, derbyniwyd y sylw i edrych i mewn i hyn.

 

          PENDERFYNWYD  dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn ymwneud â sicrhau bod 6 o’r 24 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac i sicrhau trefniadau’r cyfraniad addysgol. Byddai'r caniatâd cynllunio'n cynnwys amodau  perthnasol yn ymwneud â:

 

          Amodau:

          1.            5 mlynedd.

          2.            Yn unol â’r cynlluniau.

          3.            Llechi naturiol/deunyddiau allanol.

          4.            Amodau priffyrdd.

          5.            Cyfoeth naturiol Cymru.

          6.            Dwr Cymru.

          7.            Tirweddu/cytuno ar gynllun i warchod gwrychoedd presennol

          8.            Tynnu hawliau a ganiateir ar y tai fforddiadwy.

          9.            Manylion ffensys/waliau.

          10.          Datblygiad i’w gwblhau mewn camau

          11.          Sicrhau llecyn agored o fewn yn safle

 

Dogfennau ategol: