Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Sian Wyn Hughes (p.m.), Linda Ann Wyn Jones (p.m.), Beth Lawton (a.m./p.m,.), Dewi Owen (a.m./p.m.), Peter Read (a.m./p.m.), Gareth Thomas (Aelod Cabinet Addysg – a.m./p.m.) , Dylan Davies (Cynrychiolydd Llywodraethwyr Meirionnydd - a.m./p.m.), Mrs Rita Price (Yr Eglwys Gatholig – a.m./p.m). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: No declarations of personal interest were received
from any members present. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Targed Arbedion Ysgolion Nid oedd yr eitem hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen, ond cytunodd y Cadeirydd i’w thrafod fel mater brys o dan Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd bod y mater wedi codi ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor, bod penderfyniad diweddar wedi ei wneud gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion ar 18 Tachwedd 2015 a bod barn y dylid ei graffu cyn bod gweithredu arno. Eglurodd y Cadeirydd y derbyniwyd cais gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i’r
pwyllgor drafod targed arbedion ysgolion a gwahoddwyd yr aelod i ymhelaethu
ymhellach. Cyfeiriodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd at drafodaeth diweddar yng
nghyfarfod o Fforwm Cyllideb Ysgolion ar 18 Tachwedd 2015 a oedd yn gyfarfod
cynhennus pryd y penderfynwyd argymell i’r Cabinet doriad o £1.6m i’r sector
cynradd a £680,363 i’r sector uwchradd.
Roedd yr Aelod o’r farn bod tensiwn rhwng y
cynradd a’r uwchradd, ysgolion mawr, canolig a bach, gyda’r toriad yn golygu dosbarthiadau o hyd
at 40 o blant i rai ysgolion ac yn ei dro yn effeithio ar safonau addysg y Sir.
Teimlwyd bod y toriad felly yn tanseilio’r egwyddorion ac y dylai’r Pwyllgor
Craffu hwn gael y cyfle i ystyried dwyster effaith y toriadau ar ysgolion cyn
i’r penderfyniad gael ei fabwysiadu gan y Cabinet. Esboniodd yr Uwch Reolwr Democrataidd a Chyflawni, wrth fabwysiadu’r Strategaeth Ariannol yn y
Cyngor llawn ym Mawrth 2015, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu Strategaeth
Ariannol oedd yn cynnwys “Rhoddi targed £4.3m i’r gyllideb ysgolion”. Deallir
mai’r hyn y mae penderfyniad y Fforwm Cyllido Ysgolion yn ei wneud yw
penderfynu sut y mae gwireddu elfen o hynny. Felly, roedd y Fforwm Cyllideb
Ysgolion yn gweithredu ar benderfyniad y mae’r Cyngor eisoes wedi ei wneud. Eglurodd y Pennaeth Addysg bod ysgolion
yn wynebu targed o £4.3m o doriadau ac wedi canfod oddeutu
£2m o arbedion a bod gwahaniaeth
barn o sut y byddir yn gwireddu’r gweddill
o £2.3m. Atgoffwyd
y Pwyllgor bod y Cyngor yn wynebu bwlch o £50m gyda £9m ohono yn cael ei
wireddu drwy dreth y Cyngor. Nodwyd bod y Cyngor yn ariannu ysgolion yn hael o’i
gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru
a rhaid cofio bod 8 allan o’r 15 ysgol
uwchradd yn rhai lleiaf yng
Nghymru. Daethbwyd i gyfaddawd yn y Fforwm Cyllideb
Ysgolion i rannu gweddill y targed arbedion o £2,320,000 yn unol ag opsiwn toriad B a gyflwynwyd i’r Fforwm h.y
£1,642,151 i’r sector cynradd
a £680,363 i’r sector uwchradd,
yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
·
Cadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog am y 3 blynedd nesaf hyd
at 2018 ·
bod arbedion trefniadaeth ysgolion yn cael
ei ail-gylchu i’r targed arbedion o £2,320,00 i leddfu toriad ysgolion
yn 2018/19. Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd at adroddiad ESTYN ar Ysgol gynradd gyda 28 o ddisgyblion yn ddiweddar a oedd yn nodi bod yr Ysgol yn rhoi gwerth am arian a theimlwyd nad oedd y Cyngor yn rhoddi ystyriaeth digonol i hyn. Pwysleisodd yr angen i wybod beth yw’r ymdeimlad ar lawr gwlad i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 22 Medi 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Medi 2015. |
|
Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth
Roberts I ystyried adroddiad gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
10.15 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gwerthuso perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol am y flwyddyn 2014/15 gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol. (a) Tywyswyd
yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad
gan Mr Marc Roberts, AGGCC, a oedd
yn nodi’r prif feysydd lle
bu cynnydd a’r meysydd lle
mae angen gwella yng Ngwasanaethau
Cymdeithasol Gwynedd.
Tynnwyd sylw at:
Noda’r adroddiad:
O safbwynt
cefnogi y Gwasanaethau Cymdeithasol, adnabuwyd yr heriau a wynebwyd
yn y Gwasanaeth Oedolion a’r capasiti
ac arweinyddiaeth broffesiynol
yn y maes hwn. Adnabuwyd yr angen
i sicrhau bod digon o amser yn cael
ei roi i’r
sustemau newydd. (b) Mewn ymateb, mynegodd y Gyfarwyddwraig Corfforaethol bod yr adroddiad ar
y cyfan yn bositif ac roedd yn falch bod Rheolwyr
yn adnabod lle mae angen
gwella. Ategwyd bod perthynas dda rhwng y Bwrdd
Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod penodiad Ffion Johnstone fel Cyfarwyddwr Ardal yn sicr wedi
bod o gymorth i wneud y camau ymlaen. Cadarnhawyd bod bwriad i gyflwyno rhaglen waith yn
deillio o argymhellion y
AGGCC i gyfarfod paratoi y Pwyllgor Craffu hwn ar 15 Rhagfyr
gan sicrhau eu bod yn plethu
hefo cynlluniau gweithredu eraill sydd eisoes mewn
lle. Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad ac fe amlygwyd y sylwadau
isod: (i)
Mynegwyd bryder ynglyn
ag ôl-groniad mewn prosesu
asesiadau Trefniadau
Diogelu rhag Colli Rhyddid. Mewn ymateb, tra’n
derbyn y sylw esboniwyd bod bid ar gyfer adnodd dros
dro wedi ei gyflwyno i geisio
lleihau a chael gwared a’r ôl-groniad. Nodwyd ymhellach mai dim ond gweithwyr hefo
cymhwyster penodol sydd yn gallu
ymdrin a’r gwaith hwn. Pwysleiswyd
mai nid ymarfer
y Cyngor sydd wedi creu y cynnydd ond newidiadau yn deillio
o achsion cyfreithiol mewn ardaloedd eraill. (ii) Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a phrosesu cwynion gan unigolion, eglurodd Mr Marc Roberts bod gan AGGCC ddiddordeb mewn clywed profiadau unigolion ac phe ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD AR WAITH Y PANEL STRATEGOL DIOGELU PLANT AC OEDOLION BREGUS PDF 65 KB Aelod Cabinet : Cyng. Mair Rowlands I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar
yr uchod. 11.15 a.m. – 12.00 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc
yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd gan y Panel rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015. Ynghyd ag archwiliadau allanol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod,
a’r bwriadau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod yr adroddiad
yn canolbwyntio ar drefniadau corfforaethol
diogelu yn hytrach nac achosion
penodol yn y maes. Pwysleiswyd bod trefniadau eraill statudol yn bodoli yn
rhanbarthol ar gyfer plant ac oedolion bregus. Ymgais y Panel uchod ydoedd sicrhau bod y trefniadau yn gadarn
a’r gwir lwyddiant ydoedd profi bod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth
i unigolion. Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad, ac fe ymatebodd yr
Aelod Cabinet Plant a Phobl
Ifanc a’r swyddogion yn briodol
iddynt fel a ganlyn: (i)
o safbwynt faint o achosion o drefniadau chwythu’r chwiban a fu, addawodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol
anfon y ffigyrau at Aelodau’r Pwyllgor Craffu (ii)
mai’r Cynghorydd Annwen Daniels a benodwyd
fel pencampwr Plant a Phobl Ifanc - Rhiantu
Corfforaethol (iii)
rhoddwyd addewid y byddir yn trafod
gydag Aelod ynglyn ag asesiad unigolion hefo anableddau sy’n dod allan
o’r Coleg a ddim yn cael
eu cyfeirio i wasanaeth gofal dydd (iv)
bod materion gwrthfwlio “Cyber” yn cael eu
hychwanegu i’r polisiau perthnasol a sicrhawyd nad oedd yn
broblem enfawr yng Ngwynedd (v)
bod ysgolion yn allweddol
i drefniadau diogelu plant
a phobl ifanc a phwysleiswyd bwysigrwydd i gyfathrebu a hwy. Cadarnhawyd bod nifer uchel o gyfeiriadau yn cael eu
cyflwyno o ysgolion a’u bod yn derbyn
gwahoddiad i gyfarfodydd a gynhelir o dderbyn unrhyw gyfeiriad. Cydnabuwyd ymhellach bod ysgolion yn greiddiol i gyfrannu at drafodaethau. Tra’n derbyn bod staff ysgolion yn ei chael
yn anodd presenoli eu hunain
mewn cyfarfodydd, sicrhawyd eu bod yn derbyn adroddiadau
ysgrifenedig ac nad oedd unrhyw bryder
ynglyn a chydweithio. (vi)
O safbwynt sut y rhoddir hyder mewn
plant i chwythu chwiban yn fuan, eglurwyd
bod chwythu chwiban ac annog hyder yn
ddau beth gwahanol. Ychydig iawn o blant sydd
yn cyfeirio eu hunain, fe
gyflwynir cyfeiriadau drwy’r asiantaethau eraill perthnasol. Yng nghyswllt trefniadau cyn oed ysgol,
nodwyd bod bydwragedd yn hynod bwysig. Sicrhawyd bod sustemau effeithiol yng Ngwynedd a bod perthynas dda ar
lawr gwlad. (vii)
Mai ychydig iawn o gyfeiriadau a dderbynnir gan rieni ynglyn
a bwlio ac eglurwyd y
broses y gallent ddilyn drwy ffonio Galw
Gwynedd, rhifau ffon dynodedig i’r Tim sydd wedi eu
lleoli ym Mhwllheli a hefyd rhifau ffon tu
allan i oriau gwaith. (viii) Bod plant yn treulio llawer o’u hamser mewn
ysgolion a rhan o waith y Panel yw sicrhau bod pob Adran, gan gynnwys
Aelodau etholedig yn chwarae rhan yn
y trefniadau. (ix)
O safbwynt arolygu sut mae ysgolion
yn ymdrin a bwlio, esboniwyd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cwrdd gyda’r
Pennaeth Addysg yn ddiweddar
a sicrhawyd bod trefniadau mewn lle i: ·
Benodi swyddog diogelu
plant · Edrych ar y polisiau a gweithdrefnau gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD AR GALLUOGI O FEWN TREFNIADAU GWAITH NEWYDD PDF 59 KB Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth
Roberts I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd ar yr uchod 12.00
– 12.45 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd yn amlinellu trefniadau
newydd galluogi. Gosododd yr Aelod
Cabinet Oedolion a Iechyd y
cyd-destun drwy nodi bod y cynllun galluogi yn ffordd
o ymateb yn ddwys i broblemau unigolyn am gyfnod byr, a hynny er
mwyn ceisio adfer sgiliau byw
unigolyn mor fuan â phosib
ac osgoi creu dibyniaeth. Daeth tystiolaeth bod gormod o unigolion yn derbyn yr
ymyrraeth pan nad oeddent wirioneddol ei angen. Felly penderfynwyd adolygu’r trefniadau drwy ddefnyddio egwyddorion Ffordd Gwynedd a newid diwylliant a meddylfryd yn gyfan
gwbl a chynnig cyfleoedd i roi unigolion yn ganolog. Derbyniwyd cyflwyniad gan Manon Williams (Rheolwr Ardal) ac Alwena Leadbitter (Uwch
Ymarferydd, Adran Oedolion Iechyd a Llesiant) yn amlinellu
gwaith y tim yn Alltwen a sut
mae’r gwaith yn ymgorffori’r cynlluniau galluogi yn llawer mwy
naturiol ac yn fwy penodol i unigolyn. Yn unol â’r drefn newydd
gwneir trefniadau gyda’r unigolyn ar yr amser
ac yn y man cywir. Gofynnwyd i Aelodau gymryd rhan mewn ymarferiad
ac fe nodwyd y sylwadau canlynol ganddynt:
Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod,
esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod y berthynas hefo’r Bwrdd Iechyd
yn hynod allweddol er mwyn
lledaenu’r cynllun Alltwen i leoliadau eraill. Yn ogystal, nodwyd
bod rôl
y gweithlu yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion, nyrsus, a.y.b. yn allweddol. Fodd bynnag, roedd cryn
waith i’w gyflawni eto gan
ei fod yn
newid sylweddol i staff, aelodau a defnyddwyr y gwasanaeth a hyderir yn raddol y gellir
ehangu’r trefniadau newydd ar draws y Sir. Ategodd yr Aelod
Cabinet Oedolion a Iechyd yr uchod, gan
ychwanegu mai cynllun peilot ydoedd ond hyderir
y bydd cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd
a’r Gwasanaeth Cymdeithasol yn greiddiol a chytunwyd bod angen ehangu’r cynllun i leoliadau ac ardaloedd eraill. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: (i) Bod y cynllun yn gyffelyb i’r hyn a weithredir yn Awel y Coleg, Y Bala, sy’n annog unigolion i fyw yn annibynnol gyda chymdeithas ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD - PROSIECT ANSAWDD ADDYSG PDF 71 KB Aelod Cabinet: Cyng. Gareth Thomas I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. 1.15 p.m. – 2.00 p.m Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd
cynllun gweithredu gan yr Aelod
Cabinet Addysg yn nodi cynnydd o’r hyn
sydd wedi ei gyflawni yn
deillio o argymhellion yr Ymchwiliad Craffu
Ansawdd Addysg yn y meysydd canlynol:
(b) Ymatebodd y
Pennaeth Addysg a’r Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg i sylwadau gan Aelodau unigol, fel a ganlyn: (i)
Bod “Cynllun Y Moelwyn” yn gynllun peilot
arloesol lle gwahoddir Penaethiaid y dalgylch i gwrdd yn rheolaidd i rannu arbenigedd ar draws y cynradd a’r uwchradd. Nodwyd bod y cynllun yn llwyddiannus
ac yn esgor cydweithio bwriadus gyda phob Ysgol yn y dalgylch yn
manteisio ar rannu arbenigedd o safbwynt arweinyddiaeth a’r cwricwlwm. O safbwynt ehangu’r cynllun i ysgolion eraill y Sir, nodwyd bod y cynllun wedi gweithio’n hynod o dda yn
nalgylch y Moelwyn a’r her ydoedd cynnig model ar gyfer pob ardal
yn enwedig o ystyried lleihad yn y cyllidebau a rhaid fyddai ystyried
gwahanol ffyrdd o weithio. (ii)
Bod cynnydd yng nghyraeddiadau
dysgwyr bregus eleni o’i gymharu
a llynedd ond pwysleiswyd ei fod yn anodd
i’w fesur gan bod y disgyblion yn wahanol o un flwyddyn i’r llall. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Llywodraeth yn ariannu ysgolion
ar gyfer disgyblion sydd a hawl i brydau ysgol
am ddim a rhaid sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd
i wneud eu gorau yn yr
ysgolion. (iii)
Pryder o safbwynt Mathemateg – nodwyd bod hysbyseb rhanbarthol am Ymgynghorydd Her Mathemateg wedi ei ryddhau
gan GwE gyda’r dyddiad cau wedi
dod i ben diwedd wythnos diwethaf a chydnabuwyd bod angen yr arweiniad penodol
i Benaethiaid Adran. (iv) O safbwynt athrawon yn gorfod
bod yn fwy hyblyg i ddysgu gwahanol bynciau, gofynnwyd a oedd hyn yn cael
ei adlewyrchu yn y Colegau i’w
paratoi am y maes gwaith. Esboniwyd o safbwynt yr uwchradd bod unigolion rhan amlaf yn dewis
pwnc arbenigol gyda’r cynradd yn dysgu ystod
o bynciau. Nodwyd ei fod
yn ofynnol i’r Gwasanaeth Addysg ystyried ffurf amgen megis unigolion
i ddysgu’n drawsbynciol i fyny at 14 oed ac i’r unigolion sydd
gyda arbenigedd pwnc ddysgu yr
oedran uwch a bod hyn yn her o safbwynt
nifer disgyblion a lleihad yn y gyllideb. Ymddengys bod ESTYN
wedi bod yn feirniadol yn ddiweddar
o’r hyn a welwyd yn y Canolbarth
a’r Gogledd mewn paratoi darpar
athrawon i’r byd gwaith. Efallai bod angen cael trafodaeth
ar yr hyn
sy’n cael ei gynnig gan
y Colegau ac a yw yn gymwys ar
gyfer anghenion y farchnad. (v) Pa drefniadau a wneir gan y Gwasanaeth yn draws-adrannaol i sicrhau bod disgyblion sydd yn gymwys i brydau Ysgol am ddim yn ei gael? Sicrhawyd bod ysgolion yn targedu’r disgyblion er mwyn i deuluoedd gael yr hyn sy’n ddyladwy iddynt ac yn ogystal ei fod yn ddangosydd ar gyfer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
NEWIDIADAU YN Y GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD PDF 568 KB Aelod Cabinet: Cyng. Gareth Thomas I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod 2.00 p.m. – 2.45 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu’r strategaeth ddrafft ar gyfer newidiadau
yn y gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol (b)
Adroddwyd ar lythyr
a dderbyniwyd gan Gyngor Ynys Mon yn mynegi siomedigaeth ac anfodlonrwydd na fu ymgynghori a thrafodaeth digonol gyda swyddogion
Môn eto ac nad oeddynt wedi eu hargyhoeddi o’r angen i ddad-gomisynu strwythur y Cyd-bwyllgor Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn
cyflawni’r deilliannau arfaethedig o fewn y strategaeth ADY ddiwygiedig. (c)
Mewn ymateb, pwysleisiodd y
Pennaeth Addysg nad oedd bwriad i beidio cydweithio ag Ynys Môn a bod bwriad
i ymgynghori’n llawn gyda Chyngor Mon unwaith y byddai barn ffurfiol y Cyngor wedi ei graffu a’r
Cabinet wedi dod i gasgliad arno. Esboniwyd bod y prosiect wedi canolbwyntio
yn y lle cyntaf ar anghenion
trigolion Gwynedd. Eglurodd
yr Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
oddeutu 400 o randdeiliad yn ystod mis Medi / Hydref. Cydnabuwyd nad oedd y gwendidau
gyda’r trefniadau presennol a ddaeth i’r amlwg yn
sioc i’r swyddogion megis: ·
Anghysondebau yn y gweithdrefnau ·
Cyfundrefn draddodiadol a chymhleth ·
Ansawdd perfformiad ·
Perthynas gyda gwasanaethau eraill ·
Twf mewn anghenion penodol ·
Diffyg cyfathrebu (c) Tynnwyd sylw at nod glir y strategaeth sef “sicrhau bod plant a phobl ifanc (rhwng 0-25 oed) sydd ag anghenion
dysgu ychwanegol yn manteisio ar
gyfleoedd ac yn ennill profiadau sydd wedi eu
cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer,
er mwyn eu
galluogi i wneud cynnydd yn unol
a’u gallu”. (ch) Tywyswyd yr Aelodau drwy’r cynllun gweithredu a fyddai’n cyflawni’r deilliannau isod: ·
Cyflwyno defnydd o ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion ·
Datblygu’r defnydd o feini prawf er mwyn
cyflwyno canllawiau ac eglurder o ran y ddarpariaeth briodol ar gyfer pob
anhwylder ·
Sefydlu Fforymau Ardal ADY
a Phanel Sirol ADY ·
Sefydlu Tim Integredig ADY newydd ·
Sefydlu trefniadau newydd ar gyfer y ddarpariaeth
cynhwysiad / cynnal ymddygiad ·
Adolygu darpariaeth canolfannau
arbenigol ·
Yr ysgolion arbennig ·
Rhaglen hyfforddiant ·
Datblygu siarter / cytundeb rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol ·
Sefydlu uned ddata oddi fewn i’r
Adran Addysg ·
Mesur bodlonrwydd plant a phobl
ifanc sydd efo anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd ·
Fforymau cynllunio ADY ysgolion ·
Darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar ·
Darpariaeth ol-16 ·
Cyfleoedd i gydweithio efo’r Tim Plant ac asiantaethau eraill ·
Cyd-weithio efo iechyd ·
Yr Achos busnes a fyddai’n dangos arbediad o £808,466 drwy gyfuno gweithlu canolog. Byddai’r arbediad yn seiliedig
ar y model darpariaeth
newydd ond hefyd yn newid
patrwm gweithio y gweithlu ac yn cynnig cyfleoedd parhaol ond i nifer
lai o unigolion. (d) Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau graffu’r strategaeth ddrafft gerbron ac fe amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: (i)
Gofynnwyd a fyddai cyrhaeddiadau disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrannu
at dargedau perfformiad ysgolion uwchradd neu a fyddir yn
cyflwyno dangosyddion gwahanol. Mewn ymateb, esboniwyd y dylai pob disgybl fod yn rhan o gymdeithas allweddol ysgolion a bod tasglu cenedlaethol yn ystyried ffordd amgen o fesur cyrhaeddiadau disgyblion gyda ymddygiad bregus – sef y plant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |