Aelod Cabinet : Cyng. Mair Rowlands
I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar
yr uchod.
11.15 a.m. – 12.00
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc
yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd gan y Panel rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015.
Ynghyd ag archwiliadau allanol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod,
a’r bwriadau ar gyfer y dyfodol.
Nodwyd bod yr adroddiad
yn canolbwyntio ar drefniadau corfforaethol
diogelu yn hytrach nac achosion
penodol yn y maes. Pwysleiswyd bod trefniadau eraill statudol yn bodoli yn
rhanbarthol ar gyfer plant ac oedolion bregus. Ymgais y Panel uchod ydoedd sicrhau bod y trefniadau yn gadarn
a’r gwir lwyddiant ydoedd profi bod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth
i unigolion.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad, ac fe ymatebodd yr
Aelod Cabinet Plant a Phobl
Ifanc a’r swyddogion yn briodol
iddynt fel a ganlyn:
(i)
o safbwynt faint o achosion o drefniadau chwythu’r chwiban a fu, addawodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol
anfon y ffigyrau at Aelodau’r Pwyllgor Craffu
(ii)
mai’r Cynghorydd Annwen Daniels a benodwyd
fel pencampwr Plant a Phobl Ifanc - Rhiantu
Corfforaethol
(iii)
rhoddwyd addewid y byddir yn trafod
gydag Aelod ynglyn ag asesiad unigolion hefo anableddau sy’n dod allan
o’r Coleg a ddim yn cael
eu cyfeirio i wasanaeth gofal dydd
(iv)
bod materion gwrthfwlio “Cyber” yn cael eu
hychwanegu i’r polisiau perthnasol a sicrhawyd nad oedd yn
broblem enfawr yng Ngwynedd
(v)
bod ysgolion yn allweddol
i drefniadau diogelu plant
a phobl ifanc a phwysleiswyd bwysigrwydd i gyfathrebu a hwy. Cadarnhawyd bod nifer uchel o gyfeiriadau yn cael eu
cyflwyno o ysgolion a’u bod yn derbyn
gwahoddiad i gyfarfodydd a gynhelir o dderbyn unrhyw gyfeiriad. Cydnabuwyd ymhellach bod ysgolion yn greiddiol i gyfrannu at drafodaethau. Tra’n derbyn bod staff ysgolion yn ei chael
yn anodd presenoli eu hunain
mewn cyfarfodydd, sicrhawyd eu bod yn derbyn adroddiadau
ysgrifenedig ac nad oedd unrhyw bryder
ynglyn a chydweithio.
(vi)
O safbwynt sut y rhoddir hyder mewn
plant i chwythu chwiban yn fuan, eglurwyd
bod chwythu chwiban ac annog hyder yn
ddau beth gwahanol. Ychydig iawn o blant sydd
yn cyfeirio eu hunain, fe
gyflwynir cyfeiriadau drwy’r asiantaethau eraill perthnasol. Yng nghyswllt trefniadau cyn oed ysgol,
nodwyd bod bydwragedd yn hynod bwysig. Sicrhawyd bod sustemau effeithiol yng Ngwynedd a bod perthynas dda ar
lawr gwlad.
(vii)
Mai ychydig iawn o gyfeiriadau a dderbynnir gan rieni ynglyn
a bwlio ac eglurwyd y
broses y gallent ddilyn drwy ffonio Galw
Gwynedd, rhifau ffon dynodedig i’r Tim sydd wedi eu
lleoli ym Mhwllheli a hefyd rhifau ffon tu
allan i oriau gwaith.
(viii) Bod plant yn treulio llawer o’u hamser mewn
ysgolion a rhan o waith y Panel yw sicrhau bod pob Adran, gan gynnwys
Aelodau etholedig yn chwarae rhan yn
y trefniadau.
(ix)
O safbwynt arolygu sut mae ysgolion
yn ymdrin a bwlio, esboniwyd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cwrdd gyda’r
Pennaeth Addysg yn ddiweddar
a sicrhawyd bod trefniadau mewn lle i:
·
Benodi swyddog diogelu
plant
·
Edrych ar y polisiau
a gweithdrefnau gan gynnwys yr elfen
bwlio
(x)
Bod gan pob corff
llywodraethol bencampwr i ymdrin a diogelu plant
(xi)
Bod cyfrifoldeb ar athrawon i gyfeirio unrhyw achos sy’n
wybyddus iddynt o gam drin yn y cartref,
a sicrhawyd nad oedd pryder wedi
ei amlygu i’r Panel nac ychwaith
gan y Pennaeth Addysg ynglyn
a chapasiti ysgolion i wneud hyn
(xii)
Nodwyd y pryderon ynglyn ag adroddiad AGGC ar gartref preswyl
preifat Plas y Bryn, Bontnewydd. Esboniwyd bod trefniadau mewn lle i arolygwyr
archwilio cartrefi preswyl a bod trafodaethau yn mynd rhagddo
ar gyfer mabwysiadau’r trefniadau gorau ond cydnabuwyd
nad oedd yn faes hawdd
i’w ddatrys. Fe fyddir yn cyflwyno adroddiad
i gyfarfod paratoi nesaf y Pwyllgor Craffu hwn ar
15 Rhagfyr ynglŷn â threfniadau ac yn benodol i drafod
goblygiadau yn deillio o adroddiad AGGC ar y cartref penodol
uchod.
(xiii) Disgwylir ddiweddariad ar drefniadau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu oedion
bregus yn sgil argymhellion adolygiad Winterbourne ac fe sicrhawyd y byddir yn rhannu’r wybodaeth
gyda Aelodau.
(xiv) Mynegwyd siom nad
oedd cyfeiriad yn y rhaglen waith
at unigolion gydag anabledd dysgu.
(xv)
Sicrhawyd y byddir yn rhyddhau copi
o’r adroddiad prosiect sicrhau perchnogaeth Cyngor gyfan i’r maes diogelu
i’r Aelodau
(xvi) Cadarnhawyd bod proses yn ei le i sicrhau archwiliadau DBS pob 3 blynedd ac yn cael
ei fonitro gan yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol
(xvii) Sicrhawyd y byddir yn ail-drefnu’r cyfarfod ym Meirion/Dwyfor ac
Arfon hefo rhieni pobl ifanc gydag
anabledd dysgu ac ymddiheurwyd am ohirio’r cyfarfod ym mis
Mai ond bod hyn am amrywiol resymau.
Penderfynwyd:
(a) Derbyn
a nodi cynnwys yr adroddiad.
(b) Gofyn i’r swyddogion perthnasol gyflwyno gwybodaeth pellach ar y canlynol i gyfarfod paratoi y Pwyllgor Craffu sydd i’w gynnal
ar 15 Rhagfyr 2015:
Goblygiadau yn deillio o adroddiad AGGCC ar gartref preswyl
preifat Plas y Bryn, Bontnewydd
Dogfennau ategol: