Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Cofnod:
Targed Arbedion Ysgolion
Nid oedd yr eitem hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen, ond cytunodd y
Cadeirydd i’w thrafod fel mater brys o dan Adran 100B(4)(b) Deddf
Llywodraeth Leol 1972 oherwydd bod y mater wedi codi ers cyfarfod
diwethaf y pwyllgor, bod penderfyniad diweddar wedi ei wneud gan y
Fforwm Cyllideb Ysgolion ar 18 Tachwedd 2015 a bod barn y dylid ei graffu
cyn bod gweithredu arno.
Eglurodd y Cadeirydd y derbyniwyd cais gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i’r
pwyllgor drafod targed arbedion ysgolion a gwahoddwyd yr aelod i ymhelaethu
ymhellach.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd at drafodaeth diweddar yng
nghyfarfod o Fforwm Cyllideb Ysgolion ar 18 Tachwedd 2015 a oedd yn gyfarfod
cynhennus pryd y penderfynwyd argymell i’r Cabinet doriad o £1.6m i’r sector
cynradd a £680,363 i’r sector uwchradd.
Roedd yr Aelod o’r farn bod tensiwn rhwng y
cynradd a’r uwchradd, ysgolion mawr, canolig a bach, gyda’r toriad yn golygu dosbarthiadau o hyd
at 40 o blant i rai ysgolion ac yn ei dro yn effeithio ar safonau addysg y Sir.
Teimlwyd bod y toriad felly yn tanseilio’r egwyddorion ac y dylai’r Pwyllgor
Craffu hwn gael y cyfle i ystyried dwyster effaith y toriadau ar ysgolion cyn
i’r penderfyniad gael ei fabwysiadu gan y Cabinet.
Esboniodd yr Uwch Reolwr Democrataidd a Chyflawni, wrth fabwysiadu’r Strategaeth Ariannol yn y
Cyngor llawn ym Mawrth 2015, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu Strategaeth
Ariannol oedd yn cynnwys “Rhoddi targed £4.3m i’r gyllideb ysgolion”. Deallir
mai’r hyn y mae penderfyniad y Fforwm Cyllido Ysgolion yn ei wneud yw
penderfynu sut y mae gwireddu elfen o hynny. Felly, roedd y Fforwm Cyllideb
Ysgolion yn gweithredu ar benderfyniad y mae’r Cyngor eisoes wedi ei wneud.
Eglurodd y Pennaeth Addysg bod ysgolion
yn wynebu targed o £4.3m o doriadau ac wedi canfod oddeutu
£2m o arbedion a bod gwahaniaeth
barn o sut y byddir yn gwireddu’r gweddill
o £2.3m. Atgoffwyd
y Pwyllgor bod y Cyngor yn wynebu bwlch o £50m gyda £9m ohono yn cael ei
wireddu drwy dreth y Cyngor. Nodwyd bod y Cyngor yn ariannu ysgolion yn hael o’i
gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru
a rhaid cofio bod 8 allan o’r 15 ysgol
uwchradd yn rhai lleiaf yng
Nghymru.
Daethbwyd i gyfaddawd yn y Fforwm Cyllideb
Ysgolion i rannu gweddill y targed arbedion o £2,320,000 yn unol ag opsiwn toriad B a gyflwynwyd i’r Fforwm h.y
£1,642,151 i’r sector cynradd
a £680,363 i’r sector uwchradd,
yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
·
Cadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog am y 3 blynedd nesaf hyd
at 2018
·
bod arbedion trefniadaeth ysgolion yn cael
ei ail-gylchu i’r targed arbedion o £2,320,00 i leddfu toriad ysgolion
yn 2018/19.
Mewn ymateb, cyfeiriodd y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd at adroddiad ESTYN ar Ysgol gynradd gyda 28 o ddisgyblion yn ddiweddar a oedd yn nodi
bod yr Ysgol yn rhoi gwerth am arian a theimlwyd nad oedd y Cyngor yn rhoddi ystyriaeth
digonol i hyn. Pwysleisodd yr angen i wybod
beth yw’r ymdeimlad ar lawr
gwlad i’r toriadau arfaethedig ac felly yn fater pwysig
i’w graffu.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
Awgrymwyd o ran gweithredu y ffordd ymlaen, i ystyried y mater ymhellach yng nghyfarfod paratoi y Pwyllgor Craffu hwn ar
15 Rhagfyr.
Penderfynwyd:
Gofyn i’r Pennaeth
Addysg gyflwyno adroddiadau
a gyflwynwyd i’r Fforwm Cyllideb Addysg i gyfarfod paratoi y Pwyllgor Craffu ar 15 Rhagfyr, gan sicrhau presenoldeb
swyddog priodol, a fyddai’n gallu ymateb i ymholiadau Aelodau ynglŷn
â’r gyllideb. Yn ogystal, byddir
yn ddefnyddiol i dderbyn engreifftiau o beth fyddai effaith
toriad opsiwn B ar ysgolion unigol
bach, canolig a mawr eu mhaint.