Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd  ar yr uchod

 

12.00 – 12.45 p.m.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd yn amlinellu trefniadau newydd galluogi.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd y cyd-destun drwy nodi bod y cynllun galluogi yn ffordd o ymateb yn ddwys i broblemau unigolyn am gyfnod byr, a hynny er mwyn ceisio adfer sgiliau byw unigolyn mor fuan â phosib ac osgoi creu dibyniaeth.  Daeth tystiolaeth bod gormod o unigolion yn derbyn yr ymyrraeth pan nad oeddent wirioneddol ei angen.  Felly penderfynwyd adolygu’r trefniadau drwy ddefnyddio egwyddorion Ffordd Gwynedd a newid diwylliant a meddylfryd yn gyfan gwbl a chynnig cyfleoedd i roi unigolion yn ganolog. 

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Manon Williams (Rheolwr Ardal) ac Alwena Leadbitter (Uwch Ymarferydd, Adran Oedolion Iechyd a Llesiant) yn amlinellu gwaith y tim yn Alltwen a sut mae’r gwaith yn ymgorffori’r cynlluniau galluogi yn llawer mwy naturiol ac yn fwy penodol i unigolyn.  Yn unol â’r drefn newydd gwneir trefniadau gyda’r unigolyn ar yr amser ac yn y man cywir.  

 

Gofynnwyd i Aelodau gymryd rhan mewn ymarferiad ac fe nodwyd y sylwadau canlynol ganddynt:

  • Bod rhai unigolion angen mwy o ofal megis gan therapyddion, a.y.b.
  • Pwysigrwydd bod y cynllun yn ysgafnhau baich ar deuluoedd
  • Os yw’r defnyddwyr yn teimlo’n well, dylent allu dweud wrth y gofalwyr
  • Bod angen targedu’r cynllun i’r unigolion sydd ei wir angen
  • Croesawu’r cynllun ond yn hynod bwysig bod mesuriadau pendant ar gyfer mesur pa wahaniaeth a wna’r cynllun i unigolion
  • Rhaid bod yn glir ynglyn a phryd mae  ungolion yn cyrraedd eu hamcanion
  • Yr angen i ehangu’r cynllun i ardaloedd Meirionnydd / Dwyfor ac ar gael 7 diwrnod o’r wythnos oherwydd pryderwyd am rai unigolion sydd yn dod allan o ysbytai yn ystod y penwythnos a dim trefniadau yn eu lle ar eu cyfer 
  • Bod angen trwytho staff megis nyrsus ar y wardiau i gydweithio a’r egwyddorion er mwyn rhoi anghenion yr unigolyn gyntaf

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod y berthynas hefo’r Bwrdd Iechyd yn hynod allweddol er mwyn lledaenu’r cynllun Alltwen i leoliadau eraill.  Yn ogystal, nodwyd bod rôl y gweithlu yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion, nyrsus, a.y.b. yn allweddol.  Fodd bynnag, roedd cryn waith i’w gyflawni eto gan ei fod yn newid sylweddol i staff, aelodau a defnyddwyr y gwasanaeth a hyderir yn raddol y gellir ehangu’r trefniadau newydd ar draws y Sir.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd yr uchod, gan ychwanegu mai cynllun peilot ydoedd ond hyderir y bydd cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Cymdeithasol yn greiddiol a chytunwyd bod angen ehangu’r cynllun i leoliadau ac ardaloedd eraill.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)             Bod y cynllun yn gyffelyb i’r hyn a weithredir yn Awel y Coleg, Y Bala, sy’n annog unigolion i fyw yn annibynnol gyda chymdeithas glos yn eu galluogi a cheir sawl engraifft o unigolion yn byw yn fwy annibynnol nag yr oeddynt yn eu cartrefi eu hunain.  Gofynnwyd faint o sylw sydd yn cael ei roi i ofalwyr teulu?

      

           Mewn ymateb, esboniwyd bod rhwydwaith teuluol yn bwysig ac yn  

           rhan o’r trefniadau canolog.

 

(ii)          Gofynnwyd pam bod y broses wedi cymryd cyhyd i’w weithredu?

 

Mewn ymateb, esboniwyd bod y cynllun yn weithredol ers oddeutu 10 mis ac yn parhau i arbrofi ac i ddysgu gwersi.  Roedd yn anodd cyflymu ac ehangu yn rhy gyflym gan ei fod yn newid sylweddol i bawb.  Cydnabuwyd ei fod yn broses araf ond gobeithir codi’r momentwm er ehangu’r cynllun dros y misoedd nesaf.  Nodwyd y bydd rhaid yn gyntaf trwytho staff yn y meddylfryd newydd.

 

(iii)      Mewn ymateb i sylw wnaed ynglŷn â gweithredu cyllideb ar y cyd (pooled budget), ei bod yn bwysig gweithredu’r cynllun drwy un gyllideb.

 

(iv)         Atgoffwyd yr Aelodau bod gwahoddiad wedi ei estyn iddynt i ymweld ag Ysbyty Alltwen ar 21 Ionawr 2016 ac annogwyd hwy i fynychu.

 

Penderfynwyd:        Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad a’r cyflwyniad ar weithrediad y gwasanaeth galluogi.

 

 

Dechreuodd y sesiwn bore am 10.15 a.m. a daeth i ben am 12.45 p.m.

Dogfennau ategol: