Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

10.15 a.m. – 11.15 a.m.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gwerthuso perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol am y flwyddyn 2014/15 gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

(a) Tywyswyd yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad gan Mr Marc Roberts, AGGCC, a oedd yn nodi’r prif feysydd lle bu cynnydd a’r meysydd lle mae angen gwella yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd.  Tynnwyd sylw  at:

 

  • cynnydd a wnaed yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • gwell aliniad rhwng y Cyngor ehangach a’r adrannau
  • ymdrechion i weithio’n fwy cost effeithiol ac effeithlon ac wedi cyfrannu at alluogi’r Cyngor i haneru ei ddiffyg ariannol gydag arbedion effeithlonrwydd pellach i’w gwireddu dros y blynyddoedd nesaf
  • canlyniadau da ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
  • y newidiadau ym mhenodiadau yr Aelodau Cabinet sydd yn cefnogi’r Gwasanaeth Cymdeithasol a’u cyfrifoldebau newydd
  • newidiadau mewn arfer a diwylliant o fewn y Gwasanaeth Oedolion

 

Noda’r adroddiad:

  • bod y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i nifer o bobl mewn cartrefi gofal
  • bod angen annog y gwelliannau i sustemau diogelu corfforaethol yn cael eu cyflawni’n amserol
  • bod Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn heriol i’r gwasanaeth ac yn faes sydd angen sylw
  • bod AGGCC yn bwriadu ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn
  • adnabuwyd bod taliadau uniongyrchol yn parhau i fod yn isel iawn
  • adnabuwyd yr angen i gefnogi gofalwyr ymhellach
  • o safbwynt plant a phobl ifanc, nodwyd bod y perfformiad yn gwella yn flynyddol gyda chyrhaeddiadau da i blant mewn gofal

 

O safbwynt cefnogi y Gwasanaethau Cymdeithasol, adnabuwyd yr heriau a wynebwyd yn y Gwasanaeth Oedolion a’r capasiti ac arweinyddiaeth broffesiynol yn y maes hwn.  Adnabuwyd yr angen i sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i’r sustemau newydd.

 

(b)  Mewn ymateb, mynegodd y Gyfarwyddwraig Corfforaethol bod yr adroddiad ar y cyfan yn bositif ac roedd yn falch bod Rheolwyr yn adnabod lle mae angen gwella.  Ategwyd bod perthynas dda rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod penodiad Ffion Johnstone fel Cyfarwyddwr Ardal yn sicr wedi bod o gymorth i wneud y camau ymlaen.  Cadarnhawyd bod bwriad i gyflwyno rhaglen waith yn deillio o argymhellion y AGGCC i gyfarfod paratoi y Pwyllgor Craffu hwn ar 15 Rhagfyr gan sicrhau eu bod yn plethu hefo cynlluniau gweithredu eraill sydd eisoes mewn lle.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad ac fe amlygwyd y sylwadau isod:

 

(i)            Mynegwyd bryder ynglyn ag ôl-groniad mewn prosesu asesiadau

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

 

Mewn ymateb, tra’n derbyn y sylw esboniwyd bod bid ar gyfer adnodd dros dro wedi ei gyflwyno i geisio lleihau a chael gwared a’r ôl-groniad.  Nodwyd ymhellach mai dim ond gweithwyr hefo cymhwyster penodol sydd yn gallu ymdrin a’r gwaith hwn.

 

Pwysleiswyd mai nid ymarfer y Cyngor sydd wedi creu y cynnydd ond     newidiadau yn deillio o achsion cyfreithiol mewn ardaloedd eraill.  

 

(ii) Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a phrosesu cwynion gan unigolion, eglurodd Mr Marc Roberts bod gan AGGCC ddiddordeb mewn clywed profiadau unigolion ac phe byddai unigolyn yn cyflwyno cwyn, yn naturiol fe ystyrir y mater. 

 

(iii)Croesawyd yr adroddiad a dylid bod wedi gweithredu ar weithdrefnau cynllun Alltwen flynyddoedd yn ôl oherwydd ymddengys bod unigolion yn fodlon gyda’r gwasanaeth sydd yn rhoi unigolion yn ganolog. Ym marn Aelod, dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r materion positif. 

 

(iv) Mynegwyd bod y Gwasanaeth Cymdeithasol wedi bod trwy gyfnod anodd yn sgil newidiadau i staffio, a.y.b. a rhaid gwerthfawrogi ymroddiad y staff mewn amser heriol difrifol iawn ymhob maes. Teimlwyd, fel gwasanaeth sy’n monitro, bod gwir angen i’r AGGCC fel sefydliad cenedlaethol sicrhau y dylid codi pryderon wrth y Llywodraeth ynghylch cyllido Gwasanaethau Cymdeithasol i’r dyfodol.  Nodwyd bwysigrwydd i gynnal y gwasanaeth ac yn enwedig lle mae gwir angen buddsoddi mwy mewn meysydd fel iechyd meddwl.

 

(vi)  Gofynnwyd a yw trefniadau yn ei le i wrthsefyll y toriadau a pha mor fregus ydoedd y gwasanaeth, yn enwedig o safbwynt absenoldebau salwch staff a phwysau gwaith ychwanegol ar staff mewn gwaith arbenigol.

 

Mewn ymateb, esboniodd Mr Marc Roberts bod trosiant staff yn y gorffennol yn uchel o ran gweithwyr cymdeithasol ond o’r hyn a welir yn ddiweddar bod y gweithlu yng Ngwynedd yn sefydlog ac yn brofiadol.   Cydnabuwyd bod y Tim Rheoli o dan bwysau ac yn ceisio adnabod y prif elfennau o risg o ran pwysau.  O gymharu ag awdurdodau eraill, nodwyd bod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa gymharol dda. 

 

Fodd bynnag, roedd yn ymwybodol o’r broses Her Gwynedd a’r toriadau arfaethedig ac yn amlwg gall fod yna risgiau o ran toriadau yn cael effaith andwyol ar y gwasanaethau.  

 

(vii) Gofynnwyd a oedd AGGCC yn ystyried ansawdd y gwasanaeth yn erbyn y toriadau?

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod AGGCC yn edrych ar ganlyniadau i unigolion ynghyd ag ystyried perfformiad drwy gymharu gwariant.  Nodwyd ymhellach bod gwariant yn ystyriaeth ond ddim yn holl bwysig o ran y canlyniadau.  

 

(viii)  Mynegwyd bryder bod risgiau ynghlwm gyda’r toriadau a gofynnwyd a yw AGGCC yn fodlon gyda’r gwaith a’r gweithdrefnau i ymdrin a’r risgiau?

 

Mewn ymateb, nododd Mr Marc Roberts bod yr arbedion sydd wedi eu cyflawni hyd yma yn ymddangos yn rhai ystyrlon ac yn cymryd mantais o gyfleoedd sydd wedi codi.  Fodd bynnag, mynegwyd bod toriadau i wasanaethau yn dra  wahanol ond o’r hyn a gyflawnwyd eisoes nid oedd arwydd bod hyn yn cael ei wneud mewn modd anystyriol .

 

(x)  Nodwyd bod taliadau uniongyrchol yn fodd da o ran cynnal a hybu annibynniaeth.  Gofynnwyd sut y gellir sicrhau gweithredu sustem taliadau uniongyrchol yn effeithiol?

 

Mewn ymateb, eglurodd y Gyfarwyddwraig Corfforaethol ei siom bod cyfradd taliadau uniongyrchol yn isel er i’r gwasanaeth geisio hyrwyddo ac o bosib nad oedd teuluoedd yn dymuno cymryd cyfrifoldeb.  Hyderir y bydd y trefniadau newydd yn rhoi sefydlogrwydd i unigolion a gobeithio y gwneith hyn wella. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod angen gwneud ymdrechion i sicrhau bod y gefnogaeth gywir i deuluoedd i reoli arian yn effeithiol ac i gaffael gwasanaethau gofal.  Hyderir y bydd mwy o deuluoedd yn cymryd rheolaeth dros eu trefniadau gofal trwy’r drefn taliadau uniongyrchol ac fe sicrhawyd y byddir yn monitro y gwariant, yn seiliedig ar sampl o deuluoedd.  Nodwyd pwysigrwydd sefydlu rhwydwaith i’w galluogi i wneud defnydd effeithiol o daliadau uniongyrchol. 

 

(xi)  Cyfeiriwyd o fewn yr adroddiad at wendidau craffu ac fe nododd Mr Marc Roberts y meysydd canlynol fel rhai sy’n bwysig i’r craffwyr:

  • Trefniadau moderneiddio
  • Cynllun Alltwen
  • Maes diogelu

 

(xii)   Nododd y Gyfarwyddwraig Corfforaethol y bydd y Ddeddf yn weithredol ym mis Ebrill ac yn amlwg bod llawer o waith i’w gyflawni ac fe ddisgwylir am gôd ymarfer i lawer o’r gwaith.  Fe fyddir yn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ac addawyd i rannu’r wybodaeth gyda’r Pwyllgor Craffu hwn hefyd.

 

Penderfynwyd:     (a)  Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

                                (b)  Gofyn i’r Gyfarwyddwraig Corfforaethol gyflwyno’r cynllun gweithredu i gyfarfod paratoi nesaf y Pwyllgor Craffu hwn ar 15 Rhagfyr 2015.

Dogfennau ategol: