Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng.  Gareth Thomas

 

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Addysg ar yr uchod.

 

 

1.15 p.m. – 2.00 p.m

Cofnod:

(a) Cyflwynwyd cynllun gweithredu gan yr Aelod Cabinet Addysg yn nodi cynnydd o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn deillio o argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Ansawdd Addysg yn y meysydd canlynol:

  • Arweinyddiaeth o fewn ysgolion
  • Mathemateg
  • Deall perfformiad a data
  • Codi a chyfleu disgwyliadau
  • Pegynnu o ran ansawdd
  • Rôl yr awdurdod
  • Rôl Llywodraethwyr
  • Cyswllt gyda disgyblion

 

(b)  Ymatebodd y Pennaeth Addysg a’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg i sylwadau gan Aelodau unigol, fel a ganlyn:

 

(i)            Bod “Cynllun Y Moelwynyn gynllun peilot arloesol lle gwahoddir Penaethiaid y dalgylch i gwrdd yn rheolaidd i rannu arbenigedd ar draws y cynradd a’r uwchradd.  Nodwyd bod y cynllun yn llwyddiannus ac yn esgor cydweithio bwriadus gyda phob Ysgol yn y dalgylch yn manteisio ar rannu arbenigedd o safbwynt arweinyddiaeth a’r cwricwlwm.   O safbwynt ehangu’r cynllun i ysgolion eraill y Sir, nodwyd bod y cynllun wedi gweithio’n hynod o dda yn nalgylch y Moelwyn a’r her ydoedd cynnig model ar gyfer pob ardal yn enwedig o ystyried lleihad yn y cyllidebau a rhaid fyddai ystyried gwahanol ffyrdd o weithio.

(ii)            Bod cynnydd yng nghyraeddiadau dysgwyr bregus eleni o’i gymharu a llynedd ond pwysleiswyd ei fod yn anodd i’w fesur gan bod y disgyblion yn wahanol o un flwyddyn i’r llall.  Atgoffwyd yr Aelodau bod y Llywodraeth yn ariannu ysgolion ar gyfer disgyblion sydd a hawl i brydau ysgol am ddim a rhaid sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i wneud eu gorau yn yr ysgolion.

(iii)         Pryder o safbwynt Mathemategnodwyd bod hysbyseb rhanbarthol am Ymgynghorydd Her Mathemateg wedi ei ryddhau gan GwE gyda’r dyddiad cau wedi dod i ben diwedd wythnos diwethaf a chydnabuwyd bod angen yr arweiniad penodol i Benaethiaid Adran.

(iv)       O safbwynt athrawon yn gorfod bod yn fwy hyblyg i ddysgu gwahanol bynciau, gofynnwyd a oedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Colegau i’w paratoi am y maes gwaith.  Esboniwyd o safbwynt yr uwchradd bod unigolion rhan amlaf yn dewis pwnc arbenigol gyda’r cynradd yn dysgu ystod o bynciau.  Nodwyd ei fod yn ofynnol i’r Gwasanaeth Addysg ystyried ffurf amgen megis unigolion i ddysgu’n drawsbynciol i fyny at 14 oed ac i’r unigolion sydd gyda arbenigedd pwnc ddysgu yr oedran uwch a bod hyn yn her o safbwynt nifer disgyblion a lleihad yn y gyllideb.  Ymddengys bod ESTYN wedi bod yn feirniadol yn ddiweddar o’r hyn a welwyd yn y Canolbarth a’r Gogledd mewn paratoi darpar athrawon i’r byd gwaith.  Efallai bod angen cael trafodaeth ar yr hyn sy’n cael ei gynnig gan y Colegau ac a yw yn gymwys ar gyfer anghenion y farchnad.  

(v)          Pa drefniadau a wneir gan y Gwasanaeth yn draws-adrannaol i sicrhau bod disgyblion sydd yn gymwys i brydau Ysgol am ddim yn ei gael?   Sicrhawyd bod ysgolion yn targedu’r disgyblion er mwyn i deuluoedd gael yr hyn sy’n ddyladwy iddynt ac yn ogystal ei fod yn ddangosydd ar gyfer cyllido ysgolion ac yn fesurydd mewn cymhariaeth ag ysgolion eraill.   Eglurwyd ymhellach bod Gwynedd yn colli allan ar swm sylweddol o arian o’i gymharu a’r ysgolion yn Ne Cymru sydd yn rhan o raglen Her Cymru y Llywodraeth lle maent yn buddsoddi i gadw safonau addysg. Sicrhaodd y Pennaeth Addysg y byddai’n dilyn i fyny ar drefniadau traws-adrannol i dargedu disgyblion sy’n haeddiannol o brydau Ysgol am ddim.

(vi)         A yw yn parhau’n anodd i benodi Llywodraethwyr ac ymha ardaloedd?  Cydnabuwyd ei fod yn amrywio o ardal i ardal a bod y cyrsiau mandadol a gyfeirir ato yn y cynllun gweithredu yn rhai ar gyfer llywodraethwyr newydd, Cadeiryddion a Chlercod.  Nodwyd ymhellach bod rhaglen newydd yn ei le sy’n cynnig hyfforddiant ddiwedd prynhawn, fin nos, er mwyn hwyluso y llywodraethwyr hynny sy’n gweithio i fynychu ynghyd a’u cynnal yn rhanbarthol.  O safbwynt cwblhau’r hyfforddiant ar y we, teimlwyd bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn fwy manteisiol ond wrth gwrs bod modd cwblhau rhai modiwlau ar y we.

(vii)        Bod problem o recriwtio llywodraethwyr yn broblem mewn sawl awdurdod yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

Penderfynwyd:   Derbyn, a nodi cynnwys y cynllun gweithredu gan nodi y byddai’r Pwyllgor Craffu yn herio dilyniant a chanlyniad y gwaith hwn wrth edrych ar Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg sydd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu hwn ym mis Mawrth 2016.

 

Dogfennau ategol: