Aelod Cabinet: Cyng. Gareth Thomas
I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod
2.00 p.m. – 2.45 p.m.
Cofnod:
(a)
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu’r strategaeth ddrafft ar gyfer newidiadau
yn y gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol
(b)
Adroddwyd ar lythyr
a dderbyniwyd gan Gyngor Ynys Mon yn mynegi siomedigaeth ac anfodlonrwydd na fu ymgynghori a thrafodaeth digonol gyda swyddogion
Môn eto ac nad oeddynt wedi eu hargyhoeddi o’r angen i ddad-gomisynu strwythur y Cyd-bwyllgor Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn
cyflawni’r deilliannau arfaethedig o fewn y strategaeth ADY ddiwygiedig.
(c)
Mewn ymateb, pwysleisiodd y
Pennaeth Addysg nad oedd bwriad i beidio cydweithio ag Ynys Môn a bod bwriad
i ymgynghori’n llawn gyda Chyngor Mon unwaith y byddai barn ffurfiol y Cyngor wedi ei graffu a’r
Cabinet wedi dod i gasgliad arno. Esboniwyd bod y prosiect wedi canolbwyntio
yn y lle cyntaf ar anghenion
trigolion Gwynedd. Eglurodd
yr Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
oddeutu 400 o randdeiliad yn ystod mis Medi / Hydref. Cydnabuwyd nad oedd y gwendidau
gyda’r trefniadau presennol a ddaeth i’r amlwg yn
sioc i’r swyddogion megis:
·
Anghysondebau yn y gweithdrefnau
·
Cyfundrefn draddodiadol a chymhleth
·
Ansawdd perfformiad
·
Perthynas gyda gwasanaethau eraill
·
Twf mewn anghenion penodol
·
Diffyg cyfathrebu
(c) Tynnwyd sylw at nod glir y strategaeth sef “sicrhau bod plant a phobl ifanc (rhwng 0-25 oed) sydd ag anghenion
dysgu ychwanegol yn manteisio ar
gyfleoedd ac yn ennill profiadau sydd wedi eu
cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer,
er mwyn eu
galluogi i wneud cynnydd yn unol
a’u gallu”.
(ch) Tywyswyd yr Aelodau drwy’r cynllun gweithredu a fyddai’n cyflawni’r deilliannau isod:
·
Cyflwyno defnydd o ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion
·
Datblygu’r defnydd o feini prawf er mwyn
cyflwyno canllawiau ac
eglurder o ran y ddarpariaeth briodol ar gyfer pob
anhwylder
·
Sefydlu Fforymau Ardal ADY
a Phanel Sirol ADY
·
Sefydlu Tim Integredig ADY newydd
·
Sefydlu trefniadau newydd ar gyfer y ddarpariaeth
cynhwysiad /
cynnal ymddygiad
·
Adolygu darpariaeth canolfannau
arbenigol
·
Yr ysgolion arbennig
·
Rhaglen hyfforddiant
·
Datblygu siarter / cytundeb rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol
·
Sefydlu uned ddata oddi fewn i’r
Adran Addysg
·
Mesur bodlonrwydd plant a phobl
ifanc sydd efo anghenion dysgu
ychwanegol a’u teuluoedd
·
Fforymau cynllunio ADY ysgolion
·
Darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar
·
Darpariaeth ol-16
·
Cyfleoedd i gydweithio efo’r Tim Plant ac asiantaethau eraill
·
Cyd-weithio efo iechyd
·
Yr Achos busnes a fyddai’n dangos arbediad o £808,466 drwy
gyfuno gweithlu canolog. Byddai’r arbediad yn seiliedig
ar y model
darpariaeth
newydd ond hefyd yn newid
patrwm gweithio y gweithlu
ac yn cynnig cyfleoedd parhaol ond i nifer
lai o unigolion.
(d) Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau graffu’r strategaeth ddrafft gerbron ac fe amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
(i)
Gofynnwyd a fyddai cyrhaeddiadau disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrannu
at dargedau perfformiad ysgolion uwchradd neu a fyddir yn
cyflwyno dangosyddion gwahanol.
Mewn ymateb, esboniwyd y
dylai pob disgybl fod yn
rhan o gymdeithas allweddol ysgolion a bod tasglu cenedlaethol yn ystyried ffordd
amgen o fesur cyrhaeddiadau disgyblion gyda ymddygiad bregus – sef y plant fydd efallai yn
gwneud mwy o gynnydd ond y targedau
ddim yn cael
eu cydnabod. Nodwyd ymhellach bod y sustem yn seiliedig ar
gyrhaeddiadau yn hytrach na chyflawniadau.
(ii)
Bod yr ystod o ddefnyddwyr
yn eang o 0 i 25 oed ac yn aml
gwelir llawer iawn o blant sydd
yn methu yn syrthio i ddrygioni
ac yn hyn o beth gofynnwyd faint o gydweithio a wneir gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn gan ei fod yn
holl bwysig bod ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth hwn ar gyfer rhoi
cymorth i’r unigolion.
Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd yn
glir o fewn y ddeddf newydd ynglyn
a chyllido’r garfan o bobl ifanc rhwng
19 – 25 oed, ac y byddai trafodaeth ar hyn
yn dipyn o her.
Sicrhawyd bod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ynglyn a’r dull o ganolbwyntio ar y person yn ganolog sy’n golygu
mai un cynllun fyddai ar gael
i’r unigolyn ac yn hyn o beth
yn wasanaeth mwy effeithiol.
(iii)
Pryder bod y gyfundrefn yn cymryd lle
y gyfundrefn 3* ac yn cael gwared o ddatganiadau
a bod gofynion cyfreithiol statudol hefo datganiad
ac yn hyn o beth yn rhoi
sicrwydd i unigolion a’u teuluoedd. Tra’n derbyn bod y gyfundrefn ar gael teimlwyd
nad oedd y sicrwydd yna a bod y gyfundrefn bresennol yn atebol i’r
gyfraith.
Mewn ymateb, eglurwyd
bod newid deddfwriaeth yn genedlaethol gyda datganiadau wedi eu diddymu
gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio
cyflwyno yr un drefn ar gyfer
anghenion dysgu ychwanegol gydag ymgais i wneud y sustem yn hawdd
i’w deall. Tra’n derbyn yr angen
i fod yn glirach o safbwynt cyfrifoldebau ysgolion a’r awdurdod ceisir
cyflwyno strwythur i ymateb i hyn. Y sialens ydoedd creu Tim canolog aml-asiantaethol a fyddai’n rhoi hyder i deuluoedd. O safbwynt y model newydd, sicrhawyd na fyddir yn
tynnu cymorth oddi ar blant
sydd eisoes ar ddatganiadau.
Ychwanegwyd y byddai’n ofynnol bod yn glir o safbwynt meini prawf lleol
drwy edrych ar gynlluniau unigol,
geiriad y cynllun, a.yb.
(iv)
Pryder ynglŷn â faint o sicrwydd y byddai ysgolion yn talu
am y gefnogaeth ychwanegol o’u cyllidebau o ystyried yr hinsawdd
o doriadau sydd ohoni, ac y byddent yn penderfynu cynnal
y gefnogaeth eu hunain.
Mewn ymateb i’r uchod, eglurwyd o ran y model, nad oedd yr
arian wedi ei ddatganoli i’r
ysgolion gyda’r bwriad o sefydlu y gwasanaeth yn ganolog. Y bwriad fyddai datganoli cymorthyddion i’r ysgolion mwyaf ac ar lefel dalgylch
i’r ysgolion ychydig yn llai.
(v)
Tra’n derbyn y bydd plant mwyaf dwys yn y sector cynradd yn cael
eu hadnabod yn unol â’r
gyfundrefn flaenorol, mynegwyd pryder ynglyn â phlant gydag anghenion llai amlwg megis
y disgyblion sy’n cael cymorth gan y gweinyddesau llythrennedd. Gofynnwyd sut y byddir yn monitro
y plant yma ac yn adnabod eu hanghenion.
Mewn ymateb, cadarnhawyd
y byddai’r sustem newydd yn adnabod
anghenion plant yn gynharach mewn sgiliau rhifedd a llythrennedd a sicrhawyd y byddai modd parhau
gyda’r arbenigedd.
O safbwynt monitro, efallai bod rôl i Gydlynwyr ar lefel dalgylch
ar gyfer yr oedran 0 i 25 oed ac a fyddai yn bwynt cyswllt
rheolaidd i ysgolion gyda rôl benodol
o fonitro cynnydd neu diffyg cynnydd.
(vi)
Cyfeiriwyd a phryderwyd am y risgiau gyda’r gweithlu a gofynnwyd pa mor hyderus oedd
y tim prosiect o sicrhau perchnogaeth y gweithlu dros y newidiadau arfaethedig.
Mewn ymateb, cydnabuwyd
bod risg ond rhan o’r gwaith
ydoedd ceisio cael gwell adnabyddiaeth
o’r gweithlu o ran gwella’r gyfundrefn. O’r drafodaeth gynhaliwyd gyda’r gweithlu, roedd y farn wedi
ei rannu gyda hanner yn
cydnabod bod angen gwella’r ddarpariaeth a’r hanner arall
yn mynegi nad oedd angen
newid. Tra’n cydnabod y byddai angen llai
o weithlu cadarnhawyd y byddai’r contractau yn rhai parhaol
ac yn cynnig llwybr gyrfa gwell
i unigolion.
(vii)
Pwysigrwydd bod yr awdurdod yn cyfathrebu
gyda’r ysgolion a’r rhanddeiliad.
Penderfynwyd: (i) Cyfleu i’r Cabinet gymeradwyaeth y Pwyllgor Craffu i’r strategaeth ddrafft yn ddarostyngedig i geisio cyfarch y materion a ganlyn:-
·
Cynnig yr un lefel o sicrwydd
i ddisgyblion a rhieni ag sydd ar gael
o dan y gyfundrefn bresennol
·
Yr angen i gyfarch anghenion llai dwys a gwneud
hynny’n fuan
·
Y perygl y byddai ysgolion yn methu ymdopi’n
ddigonol gyda phwysau ychwanegol yn sgil pwyslais
y strategaeth ar yr ysgolion yn
gwneud mwy
·
Y risg y byddai cyraeddiadau cymharol is rhai disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn arwain
at amharodrwydd gan ysgolion i’w cynnwys
·
Pryderon cyllidol yn sgil
cost tebygol ymestyn y ddarpariaeth hyd at 25 oed.
(ii) Gofyn i’r Tim Prosiect sicrhau cynnal trafodaeth llawn a buan gyda Chyngor
Sir Ynys Môn unwaith fydd y
strategaeth wedi ei mabwysiadu.
Dechreuodd y sesiwn prynhawn am 1.15 p.m. a daeth i
ben am 3.30 p.m.
Dogfennau ategol: