Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dyfrig Wynn Jones a Michael Sol Owen ar Cynghorwyr D. Gwynfor Edwards, Aled Ll. Evans a Llywarch Bowen Jones (Aelodau Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams, yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0034/37/LL) oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle;

·        Y Cynghorydd Owain Williams, yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0034/37/LL) oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Lesley Day, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0016/11/LL);

·        Y Cynghorydd Eric M. Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0233/17/AM);

·        Y Cynghorydd R. H. Wyn Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0246/39/LL);

·        Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0375/44/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 136 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2015 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

Cais rhif C13/0953/13/LL - Tŷ Bach, Salem Place, Llanllechid, Bangor pdf eicon PDF 744 KB

Codi estyniad llawr cyntaf.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Dyfrig W. Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi estyniad llawr cyntaf.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn addas o ran maint, dyluniad a deunyddiau allanol a ni ystyrir byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau unrhyw drigolion nag eiddo gerllaw yn fwy na’r eiddo presennol. 

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau

1.     5 mlynedd

2.     Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd

3.     Deunyddiau allanol i gydweddu a’r eiddo presennol

4.     Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir

 

          Nodyn wal gydrannol

          Nodyn Dwr Cymru

 

5.2

Cais rhif C15/0016/11/LL - The Three Crowns, 3 Well Street Bangor pdf eicon PDF 1019 KB

Newid defnydd ac estynnu tafarn A3 presennol i 15 llety myfyrwyr hunan gynhaliol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd D. Gwynfor Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd ac estynnu tafarn A3 presennol i 15 llety myfyrwyr hunan gynhaliol.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol fel tafarn, ond yn wag ar hyn o bryd yn dilyn difrod tan yn y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi estyniad uwchben rhan o lawr gwaelod presennol ar gyfer darparu lloriau ychwanegol gyda’r dyluniad yn cydweddu gyda gweddill yr adeilad.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd bod ardal y cais yn benodol yn ffurfio rhan o Stryd Fawr Bangor, gydag amryw o fflatiau uwchben siopau ac adeiladau masnachol, gydag ardal breswyl union gerllaw'r safle hefyd, sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr, gyda nifer o’r unedau tai confensiynol yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr yn hytrach na theuluoedd lleol.

 

Adroddwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi bod yn casglu tystiolaeth er mwyn hwyluso’r gwaith o lunio polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd arfaethedig. Nodwyd bod y manylion diweddaraf o ran y nifer o unedau tai a ddefnyddir gan fyfyrwyr, tai amlfeddiannaeth a llety pwrpasol i fyfyrwyr sy’n bodoli yn ward Deiniol wedi ei nodi mewn fersiwn diwygiedig o Atodiad 1 o’r daflen sylwadau ychwanegol.

 

Nodwyd bod tystiolaeth glir ar gyfer profi’r angen ar gyfer llety myfyrwyr pwrpasol, ac ystyrir ei fod yn rhesymol ystyried y buasai darparu llety pwrpasol, yn golygu y byddai myfyrwyr yn dewis byw yn y llety pwrpasol yn lle tai confensiynol. Ni ystyrir byddai caniatáu’r bwriad yn achosi anghydbwysedd yn y boblogaeth leol, yn enwedig o ystyried ei leoliad canol Dinas a thu ôl i’r Stryd Fawr. Ni ystyrir byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a mwynderau’r ardal leol.

 

Ystyrir fod y bwriad yn gynllun sy’n sicrhau dyfodol adeilad eithaf sylweddol ym Mangor a’i fod yn cydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y CDUG ac na fyddai’r bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r ardal leol nac ar unrhyw eiddo cyfagos. 

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan y Cynghorydd Lesley Day a oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nid oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod 3 elfen i’w gwrthwynebiad i’r datblygiad sef – diffyg angen am lety myfyrwyr, yr effaith ar fwynderau lleol a’r gymuned a gor-ddatblygiad o’r safle a’r effaith ar drigolion lleol;

·         Bod niferoedd myfyrwyr wedi gostwng yn flynyddol ers 2011-12;

·         Ei bod wedi derbyn gwybodaeth gan Is-ganghellor y Brifysgol bod tua 8,500 o fyfyrwyr llawn amser a bod niferoedd myfyrwyr rhan amser yn amherthnasol gan ei fod yn annhebygol eu bod angen llety;

·         Bod Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ei hysbysu bod ganddynt bolisi newydd yn nodi nad oedd angen na dymuniad ar gyfer mwy o lety myfyrwyr;

·         Bod digonedd o lety ar gyfer myfyrwyr ym Mangor gyda darpariaeth ar gyfer 8,878 o fyfyrwyr o leiaf mewn gwahanol ffurf ac nad oedd hyn yn cynnwys llety ym Methesda, Porthaethwy  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais rhif C15/0034/37/LL - Parc Elernion Caravan Park, Trefor pdf eicon PDF 769 KB

Trosi bloc toiledau presennol yn uned wyliau, codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafan sefydlog, lleoli 5 carafan teithiol, ardal barcio gysylltiedig a thirlunio.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Llywarch Bowen Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Trosi bloc toiledau presennol yn uned wyliau, codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafán sefydlog, lleoli 5 carafán teithiol, ardal barcio gysylltiedig â thirlunio.

 

(a)       Adroddwyd bod asiant yr ymgeisydd wedi cysylltu ar fore’r cyfarfod yn nodi eu bod bellach eisiau diwygio’r cais i ofyn am leoli un garafán sefydlog ychwanegol yn hytrach na dwy. Nodwyd na dderbyniwyd cynlluniau diwygiedig a bod angen ail-ymgynghori ac ail asesu’r cais felly gofynnir am ohirio ystyried y cais.

 

          PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

5.4

Cais rhif C15/0233/17/AM - Tir ger Bryn Llan, Llandwrog pdf eicon PDF 485 KB

Cais amlinellol i godi naw annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu mynediad presennol.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eric M. Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i godi naw annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu mynediad presennol.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais tu fewn i ffin datblygu Llandwrog ac wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai yn y CDUG.

 

Nodwyd byddai’r holl eiddo yn dai deulawr a thynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Cyfeiriwyd yn ogystal at argymhelliad yr Uned Drafnidiaeth y dylid gosod amod i ddarparu troedffordd (i’w fabwysiadu fel priffordd) ar hyd blaen y safle. Nodwyd y byddai hyn o bosib yn golygu torri coed a chlirio/symud clawdd ond yn dilyn pryderon gan yr Uned Bioamrywiaeth roedd asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau nad oes bwriad i dorri coed. Ychwanegwyd bod ffiniau gwreiddiol megis waliau a chloddiau yn cyfrannu fel nodweddion pwysig i’r amgylchedd hanesyddol a dylid eu cadw.

 

Adroddwyd y byddai trafodaethau yn parhau gyda’r Uned Drafnidiaeth a gofynnir os penderfynir caniatáu’r cais i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Drafnidiaeth a’r Uned Bioamrywiaeth a gosod amodau priodol.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

      Bod cais amlinellol ar gyfer y safle wedi ei ganiatáu yn 2010 ac mai adnewyddu caniatâd cynllunio ydoedd;

      Bod safler cais wedi ei ddynodi ar gyfer tai;

      Bod asesiad iaith wedi ei lunio ar gyfer y datblygiad;

      Y byddair holl adeiladau yn ddeulawr yn unig;

      Y byddai garej a dreif ar gyfer bob felly ni fyddai effaith o ran parcio yn yr ardal;

      Bod Grŵp Cynefin wedi datgan diddordeb yn y datblygiad;

      Y byddai’r bwriad yn darparu tai sydd wir angen yn yr ardal;

      Gofyn i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod teimlad yn lleol y byddai’r tai dros dri llawr ond bod cadarnhad wedi ei dderbyn mai tai deulawr a gynhwysir yn y datblygiad;

·         Bod pryderon wedi eu lleisio o ran effaith ar fynedfa Maes Gwydion ond derbyniwyd cadarnhad na fyddai effaith ar y fynedfa gan fod darpariaeth parcio wedi ei gynnwys yn y datblygiad;

·         Bod y bwriad yn ymateb i’r gofynion.

 

          Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Pryder o ran torri’r gwrychoedd a’r effaith y byddai hyn yn cael ar ystlumod;

·         Ei fod yn siom na fyddai’r lôn yn cael ei fabwysiadu fel priffordd a dylid ceisio dod i gytundeb o ran ei mabwysiadu;

·         Bod y ffordd ddosbarth yn yr ardal yma yn droellog felly dylid sicrhau diogelwch y ffordd;

·         Na fyddai problemau o ran parcio gan fod mannau parcio wedi eu cynnwys fel rhan o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais rhif C15/0246/39/LL - Harbour Hotel, Abersoch pdf eicon PDF 824 KB

Adeiladu 4 preswyl gyda gwaith atodol yn cynnwys dull mynediad a tirlunio manwl (mae uned 13 o ganiatad C13/0736/39/LL yn cael ei ail leoli gyda'r cais yma ac felly y bwriad yn cynnwys 3 ychwanegol).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd R. H. Wyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 4 preswyl gyda gwaith atodol yn cynnwys dull mynediad a thirlunio manwl (mae uned 13 o ganiatâd C13/0736/39/LL yn cael ei ail leoli gyda'r cais yma ac felly'r bwriad yn cynnwys 3 ychwanegol).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

Adroddwyd y cyflwynwyd Datganiad Cynllunio a Thai Fforddiadwy fel rhan o’r cais lle amlinellwyd opsiynau a roddwyd ymlaen mewn trafodaethau cyn cyflwyno cais ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Nodwyd mai’r tri opsiwn posib oedd:

·         Opsiwn 1 – Datblygu’r safle ar gyfer 16 uned breswyl gyda 12 yn rhai marchnad agored a chadw’r  4 tŷ fforddiadwy (25%) a ganiatawyd o dan gais C13/0736/39/LL.

·         Opsiwn 2 – Datblygu’r safle ar gyfer 18 uned breswyl sef 12 tŷ marchnad agored a 6 fflat / apartment fforddiadwy (33%).

·         Opsiwn 3 – Swm cymudol o £400,000 yn lle’r ddarpariaeth o dai ar y safle.

 

         Trafodwyd yr opsiynau efo’r ymgeisydd a datganodd swyddogion yr ystyrir y byddai’r angen lleol yn Abersoch yn cael ei gwrdd â’i wasanaethu’n well gan opsiwn 1. Cynghorwyd yr ymgeisydd i gysylltu gyda chymdeithasau tai er cael eu barn hwy ar hyn. Nodwyd bod nifer o gymdeithasau tai efo diddordeb a bod Grŵp Cynefin wedi datgan y byddai tai yn well dewis na fflatiau/apartments. Roedd rhestr Tai Teg yn ogystal yn dangos fod rhestr aros o 35 ar gyfer tai 3 ystafell wely o’i gymharu gyda 14 yn edrych am fflatiau/apartment 2 ystafell wely. Ystyrir bod opsiwn 1 yn cwrdd â’r gofynion o ran sicrhau canran o dai fforddiadwy ar safleoedd datblygu yn unol â pholisi CH4 o’r CDUG.

 

         Nodwyd bod dyluniad yr unedau preswyl yn y cais cyfredol yn adlewyrchu’r hyn a dderbyniodd caniatâd ar ran 1 o’r datblygiad. Ychwanegwyd er bod y dyluniad o natur gyfoes nid oedd hyn o anghenraid yn golygu byddai’n achosi niwed arwyddocaol i’r AHNE ac ystyrir byddai’r bwriad ddim yn cael mwy nag effaith leol ar y Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd pensaer yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

      Ers cychwyn ar ran 1 or datblygiad bod gwaith wedi ei wneud i gyfarch materion ecolegol gydar broblem Llysiau Dial wedi ei ddatrys a’r ystlumod yn ei le;

      Bod coed wedi eu plannu i warchod golygfeydd or safle;

      Y bwriedir creu caergawell wedi ei orchuddio gan blanhigion er mwyn gwella ecoleg ond nid oedd angen bellach am gaergawell ar ffin ogledd-ddwyreiniol y safle;

      Bod y wybodaeth a gasglwyd o ran yr elfen tai fforddiadwy wedi dangos y ffafrir tai 3 ystafell wely o safon uchel gyda’r Cyngor Cymuned yn gefnogol i hyn;

      Y cafwyd trafodaethau efo Comisiwn Dylunio Cymru o ran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

Cais rhif C15/0301/30/LL - Fferm Bryn, Aberdaron pdf eicon PDF 567 KB

Dymchwel adeilad amaethyddol presennol ac adeiladu sied amaethyddol newydd i gadw anifeiliaid yn ystod y gaeaf.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd W. Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel adeilad amaethyddol presennol ac adeiladu sied amaethyddol newydd i gadw anifeiliaid yn ystod y gaeaf.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle yn gorwedd yng nghefn gwlad ac oddi fewn i’r AHNE a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Sylweddol.

 

         Adroddwyd y cyflwynir y cais gerbron y Pwyllgor gan fod perthynas i’r ymgeisydd yn gweithio i’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

         Nodwyd o ran materion archeolegol yr ystyrir ei fod yn briodol fod cofnod o’r adeilad yn cael ei wneud cyn dymchwel yr adeilad er mwyn lliniaru’r golled o dystiolaeth ffisegol ac i weithredu fel cofnod archif.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Nodwyd bod yr Aelod Lleol yn gefnogol i’r cais.

 

         Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         A fyddai’n bosib peidio dymchwel yr adeilad ac adeiladu sied ar ran arall o’r fferm?;

·         Gan fod y safle wedi ei leoli yn yr AHNE bod gofyn statudol i warchod amcanion y dynodiad;

·         Bod yr adeilad yn rhan o hanes yr ardal a’i fod yn drist ei fod yn cael ei ddymchwel;

·         Ei fod yn siomedig bod llechi ar do’r adeilad wedi eu tynnu cyn i swyddog o’r Uned Bioamrywiaeth ymweld â’r safle a dylid gwybyddu’r ymgeisydd bod hyn yn gwbl annerbyniol;

·         Nad oedd yr adeilad yn addas i bwrpas.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Nad oedd angen caniatâd i ddymchwel yr adeilad presennol;

·         Nad oedd yr adeilad yn addas a bod angen am sied fodern yn cwrdd ag anghenion ffermio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol a’r cynlluniau.

3.     Waliau allanol a tho i fod o liw gwyrdd tywyll BS 12 C 39.

4.     Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.

5.     O fewn mis o ddyddiad cwblhau’r adeilad dylid gosod bocs(ys) i adar y to nythu yn uchel ar wyneb gogleddol neu ddwyreiniol yr adeilad neu yn uchel y tu mewn i’r adeilad a dylai’r bocs(ys) gynnwys lleiafswm o 6 twll yn eu cyfanrwydd. 

6.     Cyn cychwyn y datblygiad (gan gynnwys unrhyw waith dymchwel, clirio safle neu stripio allan) dylid ymgymryd â gwneud cofnod ffotograffig o’r adeilad a chytuno ar y cofnod gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

5.7

Cais rhif C15/0375/44/LL - Tŷ Samson, Borth y Gest, Porthmadog pdf eicon PDF 503 KB

Codi garej domestig a newidiadau i'r mynediad troed.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi garej domestig a newidiadau i'r mynediad troed.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli gerllaw aber yr Afon Glaslyn sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac oddi mewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Aberglaslyn.

 

Ystyrir fod y bwriad o greu garej a lle parcio yn y man hwn yn dderbyniol o safbwynt diogelwch y ffordd fodd bynnag o ystyried ansawdd yr amgylchedd lleol a'i bwysigrwydd o safbwynt mynediad cyhoeddus a mwynhad y cyhoedd o’r ardal hon ni ystyrir fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol sy’n ymwneud gyda gwarchod y nodweddion hyn.

 

Nodwyd y derbyniwyd cais gan asiant yr ymgeisydd yn gofyn i ohirio ystyried y cais ond ni ystyrir bod sail i ohirio.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·        Ei fod yn cefnogi’r argymhelliad;

·        Bod yr ardal yma yn ddistaw gyda nifer isel o geir yn teithio ar hyd y lôn;

·        Bod perygl o osod cynsail os caniateir y cais;

·        Ei fod yn ardal o harddwch a dylid ei warchod.

 

         Nododd aelod nad oedd sail i ohirio’r cais gan nad oedd newid i fanylion y cais.

        

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm:

 

Byddai adeiladu garej a chreu man parcio oddi ar y ffordd yn y lleoliad hwn yn niweidiol i fwynderau gweledol y drefwedd yn y rhan hwn o Borth y Gest ac i fwynhad y cyhoedd o’r ardal sydd ger Llwybr Arfordir Cymru ac sy’n ffurfio rhan o Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Aberglaslyn ac fe fyddai’r datblygiad felly’n groes i bolisïau B12, B22, B23 a B25 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

5.8

Cais rhif C15/0421/41/LL - Llety Plu, Llangybi pdf eicon PDF 609 KB

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aled Ll. Evans

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL).

 

(a)       Adroddwyd y derbyniwyd cais gan yr Aelod Lleol i ohirio trafod y cais gan nad oedd ef nac asiant yr ymgeisydd yn gallu bod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.