Agenda item

Adeiladu 4 preswyl gyda gwaith atodol yn cynnwys dull mynediad a tirlunio manwl (mae uned 13 o ganiatad C13/0736/39/LL yn cael ei ail leoli gyda'r cais yma ac felly y bwriad yn cynnwys 3 ychwanegol).

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd R. H. Wyn Williams

Cofnod:

Adeiladu 4 preswyl gyda gwaith atodol yn cynnwys dull mynediad a thirlunio manwl (mae uned 13 o ganiatâd C13/0736/39/LL yn cael ei ail leoli gyda'r cais yma ac felly'r bwriad yn cynnwys 3 ychwanegol).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

Adroddwyd y cyflwynwyd Datganiad Cynllunio a Thai Fforddiadwy fel rhan o’r cais lle amlinellwyd opsiynau a roddwyd ymlaen mewn trafodaethau cyn cyflwyno cais ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Nodwyd mai’r tri opsiwn posib oedd:

·         Opsiwn 1 – Datblygu’r safle ar gyfer 16 uned breswyl gyda 12 yn rhai marchnad agored a chadw’r  4 tŷ fforddiadwy (25%) a ganiatawyd o dan gais C13/0736/39/LL.

·         Opsiwn 2 – Datblygu’r safle ar gyfer 18 uned breswyl sef 12 tŷ marchnad agored a 6 fflat / apartment fforddiadwy (33%).

·         Opsiwn 3 – Swm cymudol o £400,000 yn lle’r ddarpariaeth o dai ar y safle.

 

         Trafodwyd yr opsiynau efo’r ymgeisydd a datganodd swyddogion yr ystyrir y byddai’r angen lleol yn Abersoch yn cael ei gwrdd â’i wasanaethu’n well gan opsiwn 1. Cynghorwyd yr ymgeisydd i gysylltu gyda chymdeithasau tai er cael eu barn hwy ar hyn. Nodwyd bod nifer o gymdeithasau tai efo diddordeb a bod Grŵp Cynefin wedi datgan y byddai tai yn well dewis na fflatiau/apartments. Roedd rhestr Tai Teg yn ogystal yn dangos fod rhestr aros o 35 ar gyfer tai 3 ystafell wely o’i gymharu gyda 14 yn edrych am fflatiau/apartment 2 ystafell wely. Ystyrir bod opsiwn 1 yn cwrdd â’r gofynion o ran sicrhau canran o dai fforddiadwy ar safleoedd datblygu yn unol â pholisi CH4 o’r CDUG.

 

         Nodwyd bod dyluniad yr unedau preswyl yn y cais cyfredol yn adlewyrchu’r hyn a dderbyniodd caniatâd ar ran 1 o’r datblygiad. Ychwanegwyd er bod y dyluniad o natur gyfoes nid oedd hyn o anghenraid yn golygu byddai’n achosi niwed arwyddocaol i’r AHNE ac ystyrir byddai’r bwriad ddim yn cael mwy nag effaith leol ar y Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd pensaer yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

      Ers cychwyn ar ran 1 or datblygiad bod gwaith wedi ei wneud i gyfarch materion ecolegol gydar broblem Llysiau Dial wedi ei ddatrys a’r ystlumod yn ei le;

      Bod coed wedi eu plannu i warchod golygfeydd or safle;

      Y bwriedir creu caergawell wedi ei orchuddio gan blanhigion er mwyn gwella ecoleg ond nid oedd angen bellach am gaergawell ar ffin ogledd-ddwyreiniol y safle;

      Bod y wybodaeth a gasglwyd o ran yr elfen tai fforddiadwy wedi dangos y ffafrir tai 3 ystafell wely o safon uchel gyda’r Cyngor Cymuned yn gefnogol i hyn;

      Y cafwyd trafodaethau efo Comisiwn Dylunio Cymru o ran dyluniad y datblygiad;

      Fod y bwriad yn ddatblygiad cynhwysfawr sydd yn gweddu i’r ardal.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn falch o weld y cynllun yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy;

·         Wrth gynyddu’r nifer ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle;

·         Bod y dyluniad yn un trefol yn hytrach na pentrefol;

·         Bod angen cymryd sylw o sylwadau’r Uned AHNE a gwybyddu penseiri/datblygwyr na gefnogir dyluniad o’r math yma yn yr ardal o harddwch;

·         Bod yr adroddiad yn gynhwysfawr ond nad oedd wedi ei argyhoeddi o ran digonedd llefydd parcio yn y datblygiad;

·         Ei fod yn anodd gwrthod y cais.

 

         Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Y dylid marchnata’r tai fforddiadwy fel tai i bobl leol brynu yn hytrach na’u cynnig i gymdeithasau tai;

·         Gwrthwynebu’r dyluniad estron ac nad oedd digon o sylw wedi ei roi i sylwadau’r Uned AHNE;

·         Bod angen dyluniad sydd yn cydweddu i bentrefi;

·         Cwestiynu pan mai ond 25% o’r cynllun oedd yn fforddiadwy yn hytrach na’r 30% arferol.

 

(d)        Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Bod swyddogion wedi cynghori’r ymgeisydd i gysylltu â chymdeithasau tai yn unol â dymuniad y Pwyllgor yn y gorffennol. Y gallai cymdeithasau tai unai eu rhentu neu eu cynnig i unigolion fel rhan o gynllun rhan berchnogaeth;

·         Na fyddai’r cynllun yn hyfyw os gofynnwyd am ddarpariaeth tu hwnt i’r opsiynau a gynigwyd;

·         Bod y tai o’r un raddfa a dyluniad a’r tai yn rhan 1 o’r datblygiad oedd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau.

3.     Llechi ar y to.

4.     Cytuno manylion waliau allanol.

5.     Cytuno ar garreg naturiol leol ar gyfer y wal caergawell.

6.     Gweithredu’r datblygiad yn unol gyda rhan 6 o’rHarbour Hotel Abersoch: C13/0736/39/LL and C15/0246/39/LL update to Ecology and Method Statement: 29 April 2015.

7.     O fewn 6 mis o ddyddiad y caniatâd dylid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol i gynllun rheolaeth fel amlinellir ym mhwynt 9 o’r mesurau lliniaru a geir yn y datganiad Harbour Hotel Abersoch: C13/0736/39/LL and C15/0246/39/LL update to Ecology and Method Statement: 29 April 2015.

8.     Y gwaith o waredu llysiau’r dial i gael ei gwblhau yn unol â rhan 6 o’r Cynllun Rheoli Llysiau’r Dial dyddiedig 23 Hydref 2013 a baratowyd gan Ben Lindley o Japanese Knotweed Ltd.

9.     Arllwysiad dŵr aflan a dŵr wyneb i ddraenio ar wahân o’r safle.

10.   Dim caniatáu i ddŵr wyneb gysylltu, unai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i’r gyfundrefn garthffos gyhoeddus oni bai y cytunir yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

11.   Dim caniatáu i ddŵr wyneb draenio tir gael ei arllwys un ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i’r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.

12    Cyn i’r unedau preswyl gael eu meddiannu am y tro cyntaf rhaid bydd cwblhau’r lle parcio yn gwbl unol â’r cynlluniau ac ni fydd yr ardal yma wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall.

13.   Y defnydd o’r llefydd parcio llinellol cymunedol i’w cyfyngu i geir yn unig ac na chaniateir parcio cychod, jetiau sgïo, carafanau na ‘motorhomes’ arnynt.

14.  Cwblhau’r cynllun tirlunio yn unol gyda’r cynllun a gyflwynwyd.

Dogfennau ategol: