Cais amlinellol i godi naw
annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu
mynediad presennol.
Aelod Lleol: Cynghorydd Eric M. Jones
Cofnod:
Cais amlinellol i godi naw
annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu
mynediad presennol.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais tu fewn i ffin datblygu Llandwrog ac wedi ei ddynodi yn benodol
ar gyfer tai yn y CDUG.
Nodwyd byddai’r holl eiddo
yn dai
deulawr a thynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Cyfeiriwyd yn ogystal at argymhelliad
yr Uned Drafnidiaeth
y dylid gosod amod i ddarparu
troedffordd (i’w fabwysiadu fel priffordd) ar hyd
blaen y safle. Nodwyd y byddai hyn o bosib yn
golygu torri coed a chlirio/symud clawdd ond
yn dilyn pryderon gan yr
Uned Bioamrywiaeth roedd asiant yr
ymgeisydd wedi cadarnhau nad
oes bwriad i dorri coed.
Ychwanegwyd bod ffiniau gwreiddiol
megis waliau a chloddiau yn cyfrannu
fel nodweddion pwysig i’r amgylchedd
hanesyddol a dylid eu cadw.
Adroddwyd y byddai trafodaethau yn parhau gyda’r
Uned Drafnidiaeth a gofynnir os penderfynir
caniatáu’r cais i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan yr Uned Drafnidiaeth
a’r Uned Bioamrywiaeth a gosod amodau priodol.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
•
Bod cais amlinellol ar gyfer
y safle wedi ei ganiatáu yn
2010 ac mai adnewyddu caniatâd cynllunio ydoedd;
•
Bod safle’r
cais wedi ei ddynodi ar
gyfer tai;
•
Bod asesiad
iaith wedi ei lunio ar
gyfer y datblygiad;
•
Y byddai’r
holl adeiladau yn ddeulawr yn
unig;
•
Y byddai garej a dreif ar
gyfer bob tŷ felly ni fyddai effaith
o ran parcio yn yr ardal;
•
Bod Grŵp
Cynefin wedi datgan diddordeb yn y datblygiad;
•
Y byddai’r bwriad yn darparu
tai sydd wir angen yn yr
ardal;
•
Gofyn i ganiatáu’r cais.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Bod teimlad yn lleol y
byddai’r tai dros dri llawr ond bod cadarnhad wedi ei dderbyn mai tai deulawr a
gynhwysir yn y datblygiad;
·
Bod pryderon wedi eu lleisio o
ran effaith ar fynedfa Maes Gwydion ond derbyniwyd cadarnhad na fyddai effaith
ar y fynedfa gan fod darpariaeth parcio wedi ei gynnwys yn y datblygiad;
·
Bod y bwriad yn ymateb i’r
gofynion.
Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
(ch) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Pryder o ran torri’r gwrychoedd a’r effaith y byddai hyn yn cael
ar ystlumod;
·
Ei fod yn siom na
fyddai’r lôn yn cael ei
fabwysiadu fel priffordd a dylid ceisio dod i
gytundeb o ran ei mabwysiadu;
·
Bod y ffordd ddosbarth yn yr
ardal yma yn droellog felly dylid sicrhau diogelwch
y ffordd;
·
Na fyddai problemau o ran parcio gan fod mannau
parcio wedi eu cynnwys fel
rhan o’r datblygiad;
·
Pa mor
fforddiadwy byddai’r tai fforddiadwy?
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-
·
O ran mabwysiadu’r lon fel
priffordd, mai mater i’r datblygwr oedd ei adeiladu i safon ddiogel a fyddai’n
galluogi ei mabwysiadu;
·
Byddai angen gwneud ymchwiliad
pellach i bennu gwerth y tai fforddiadwy ond fel arfer golygai disgownt o
oddeutu 30% ar werth marchnad agored tai yn yr ardal.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb 106 i sicrhau fod 3 o’r
9 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen
lleol cyffredinol ynghyd â thrafod a derbyn sylwadau ffafriol gan yr
Uned Drafnidiaeth a’r Uned Bioamrywiaeth
ac i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud a:
1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno
materion a gadwyd yn ôl
2. Deunyddiau a gorffeniadau.
3. Mynediad a pharcio.
4. Tirweddu
5. Tynnu hawliau datblygu a ganiateir y tai
fforddiadwy.
6. Dŵr Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru (traenio)
7. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau
a gymeradwywyd.
8. Amod i warchod coed a gwrychoedd.
Dogfennau ategol: