Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynghorwyr
W. Tudor Owen a John Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd y Cynghorwyr Anne Lloyd-Jones a Michael Sol
Owen fuddiant personol, yn eitem 6.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0773/14/AM) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi
Cymunedol Gwynedd. Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams fuddiant personol yn eitem 6.6 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C13/1348/35/LL) oherwydd ei fod yn berchennog
gwesty bach / B&B – tebyg i Min y Gaer. Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Endaf
Cooke, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif
C16/0773/14/AM); ·
Y Cynghorydd Roy Owen,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0773/14/AM); ·
Y Cynghorydd Gwen
Griffith, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1164/16/MW); ·
Y Cynghorydd R. H. Wyn
Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1336/39/LL); Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt
bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.12.16
fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19
Rhagfyr 2016 fel rhai cywir. |
|
Ystyried adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio yn rhannu argymhellion y
Gwasanaeth Trafnidiaeth i gwblhau proses statudol ar gyfer trefniadau llwytho a
dadlwytho ar y Maes yng Nghaernarfon. Awgrymodd y Pennaeth Rheoleiddio nad oedd digon o fanylder yn yr
adroddiad i’r Pwyllgor ddod i gasgliad
terfynol Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er mwyn
derbyn mwy o fanylion. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/0773/14/AM Cyn safle Ysgol yr Hendre, Ffordd Eryri, Caernarfon PDF 355 KB Datblygiad preswyl i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai
fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd, uwchraddio’r fynedfa bresennol,
darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a tirlunio AELODAU LLEOL: Cynghorydd Endaf Cooke a Cynghorydd
Roy Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datblygiad preswyl i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai
fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd, uwchraddio’r fynedfa bresennol,
darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio Cadeiriwyd y drafodaeth
ar y cais hwn gan yr
Is-gadeirydd. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Rhagfyr
2016 er mwyn diwygio cynnwys yr adroddiad i gynnwys sylwadau Dwr Cymru. Cais
amlinellol ydoedd ar gyfer codi hyd at 45 o dai gan gynnwys tai fforddiadwy ar
safle cyn Ysgol Gynradd yr Hendre, Caernarfon. Byddai materion fel tirweddu, edrychiadau, cynllun a
graddfa yn cael eu cadw’n ôl ar gyfer eu hystyried eto mewn cais materion a
gadwyd yn ôl. Y bwriad yw: -
adeiladu hyd at 45 o dai
gyda bron i 50% yn dai fforddiadwy. Byddai'r tai hyn yn cynnwys tai rhent
cymdeithasol a fydd yn cael eu darparu gan landlord cymdeithasol cofrestredig -
CCG yn yr achos yma -
Creu mynedfa newydd oddi ar ffordd sirol
ddi-ddosbarth (Ffordd Eryri) oddeutu hanner ffordd lawr y safle, -
Uwchraddio’r fynedfa bresennol, -
Darparu llecynnau mwynderol cyhoeddus, llecynnau parcio yn rhannol o fewn
cwrtil y tai a rhannol y tu allan gan ddarparu parcio cymunedol a thirlunio
cyffredinol Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ardal breswyl sefydledig ac oddi
fewn i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) yn mesur oddeutu 1.4 ha
sydd, erbyn hyn yn cynnwys llystyfiant a sylfeini’r hen ysgol gynradd. Yng nghyd destun ystyriaethau cynllunio
perthnasol, adroddwyd bod egwyddor o ddatblygu’r safle hwn ar gyfer anheddau
preswyl wedi ei selio ym Mholisi C1, C3 a CH3 o GDUG. Amlygywd
bod Polisi C1 yn datgan mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi a
ffurf ddatblygedig pentrefi gwledig fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau
newydd. Mae Polisi C3 yn caniatáu cynigion sy’n rhoi blaenoriaeth, lle bynnag y
bo modd, i ail-ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen a leolir o fewn ffiniau
datblygu cyn belled fod y bwriad yn cyd-fynd a holl
bolisïau perthnasol eraill y Cynllun. Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol a
hefyd, yn cymryd i ystyriaeth sylwadau’r Uned Strategaeth Tai y Cyngor (Tîm
Opsiynau Tai) sydd wedi cadarnhau bod y math o dai a gynigiwyd,
fel rhan o’r cais hwn, yn cyfarch anghenion ymgeiswyr sydd ar gofrestr tai
cyffredin y Cyngor. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar
gyrion stadau o dai sefydledig sydd o amrywiol ffurf, dyluniad, cynllun a maint gyda deunyddiau allanol amrywiol
iddynt. Eglurwyd
bod y safle ar hyn o bryd yn dirywio ar sail mwynderau gweledol a buasai
caniatáu’r cais yn debygol o fod yn gam
tuag at wella mwynderau gweledol y rhan yma o’r dref. Nodwyd bod anheddau preswyl wedi eu lleoli i’r gogledd, de a gorllewin o’r safle. Er mai cynlluniau dangosol o leoliad y tai arfaethedig a gyflwynwyd gyda’r cais cyfredol, mae’n bosib ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C16/1164/16/MW Chwarel Penrhyn, Bethesda PDF 637 KB Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol. Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW,
C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd
1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol. Caniatadau
Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW Tynnwyd sylw
at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff
ar gefndir y cais. Eglurwyd bod y chwarel yn un o’r
rhai pwysicaf yng Ngwynedd gyda
300 acer o dir
wedi ei leoli gyferbyn a’r Parc Cenedlaethol
gyda dynodiadau amgylcheddol o bwys o gwmpas y safle sef, Ardal
Cadwraeth Arbennig a safle o werth gwyddonol
arbennig. Nodwyd yr angen i’r Pwyllgor ystyried dau beth; i)
Pwysleisiwyd mai nid cais am ganiatad
cynllunio oedd gerbron y Pwyllgor, ond cais i adolygu rhestr amodau ar
4 caniatad dilys ar y safle gyda’r
bwraid eu cyfuno o dan un atodlen gyflawn o amodau cynllunio. Amlygwyd mai y drefn gyda chwareli
yw mai cyfrifoldeb gweithredwr y chwarel yw creu atodlen
o amodau cynllunio er mwyn i’r
Cyngor eu hystyried. Nodwyd bod hyn yn cael ei wneud bod 15eg mlynedd sydd yn gyfle
i adoygu y sefyllfa, cael gwared o amodau
amherthnasol, adolygu y gwaith a bod y safle yn cael ei
adfer, sicrhau dilyniant i’r gwaith,
ei fod yn
gynaladawy ynghyd a ystyriaethau archaeolegol ac amgylcheddol. Nodwyd
bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno atodlen
amodau gyda’r cais a bod cytundeb rhwng y Cyngor a’r chwarel mai y bwriad yw
codi’r safonau i adlewychu anghenion cynllunio ac angehnion amgylcheddol fodern. Amlygywd bod sawl mater i’w ystyried gyda’r
cais e.e, ffrwydro, swn, llwch ac effaith ar fwynderau
pobl lleol a bod polisi C17 o’r CDU yn ystyried ceisiadau
o adolygiadau o ganiatadau cynllunio mwynau. Adroddodd
y swyddog ei fod yn fodolon
gyda’r cais a bod datganiad amgylcheddol sylweddol wedi ei gyflwyno gyda’r
cais yn ystyried lleoliad y safle a’r effaith
ar yr ardal
o’r gwmpas.. ii)
Ystyried gwyro llwybr cyhoeddus. Eglurwyd bod gorchymyn a ganiatawyd 15 mlynedd yn ol i gau
a gwyro llwybr yn dod i ben mis
yn y mis nesaf a bod y chwarel yn awyddus i gau
y llwybr am 17 mlynedd pellach gan ystyried
materion iechyd a diogelwch o’r cyhoedd yn croesi llwybrau
hawlio y llwybr. Y bwriad yw rhoi
y llwybr yn ol mewn 17 mlynedd,
ond nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal
gyda’r cwmni i sefydlu llwybr o’r newydd fyddai
yn cysylltu tir agored y mynydd
gyda Lon Las Ogwen. Tynnwyd
sylw at yr amodau cynlluniau manwl oedd wedi
eu rhestru fel atodiad i’r
adroddiad (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- - pwysig cael amodau
i warchod y safle - chwarel hynaf a mwyaf o ran maint yng Nghymru - y
chwarel o fudd economaidd i Ddyffryn Ogwen - angen gwarchod yr henebion (tynnwyd
sylw at yr adroddiad Archaeoleg) - cynnig yr angen i CADW roi statws statudol i’r henebion - angen gwarchod yr Ardal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C16/1269/41/LL Uned 1-2 Parc Amaeth, Llanystumdwy PDF 298 KB Cais i estynnu adeilad presennol er mwyn darparu lle storio AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i estynnu
adeilad presennol er mwyn darparu lle storio (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais llawn ar gyfer codi estyniad ar ochr
orllewinol uned gynhyrchu bresennol (cynllun diwygiedig i'r un a ganiatawyd yn
flaenorol - C14/0812/41/AM). Diben yr estyniad newydd fydd sicrhau gofod
ychwanegol ar gyfer gwasanaeth paratoi cigoedd ffres Bwydlyn,
sy’n rhan o gwmni Harlech Frozen Foods Cyf. Adroddwyd
y byddai gwaith cynhyrchu’n parhau yn yr adeilad gwreiddiol tra bydd yr
estyniad yn cynnig gofod ychwanegol ar gyfer prosesu ynghyd a gofod storio a
chyfleusterau cefnogol. Nodwyd y byddai’r estyniad yn creu 995m2 ychwanegol o arwynebedd
llawr drwy ymestyn yr adeilad presennol gan gadw at ddefnyddiau tebyg i’r
adeilad gwreiddiol gyda tho crib a
waliau o gladin proffil. Byddai’r estyniad dau fetr yn is na’r adeilad
gwreiddiol, ond yr arwynebedd yn fwy na’r gwreiddiol o 470m2 fydd yn golygu bod arwynebedd llawr yr uned
mwy neu lai'n treblu. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol gan dynnu sylw yn arbennig at
bolisi D8 - ehangu mentrau presennol. Er
bod y datblygiad yn ymddangos yn un cymharol fawr, nodwyd bod y datblygiad yn
gwbl addas ar gyfer y lleoliad ac yn cyfrannu tuag at gynaladwyedd economaidd y
busnes sydd yn dderbyniol o safbwynt polisïau perthnasol y CDU. Nodwyd
nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn i’r
cais (b) Roedd
yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro
na fyddai yn bresennol, ond
wedi dymuno nodi ei fod
yn gefnogol i’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. 1. Amser 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Lliw allanol i'w gytuno. 4. Amod Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C16/1332/38/LL Wanganui ger Pennant, Llanbedrog PDF 258 KB Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le (a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi'r bwriad o ddymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ annedd newydd
ynghyd a gwaith cysylltiol i hynny. Lleoliwyd y safle o fewn ffin ddatblygu
Llanbedrog - o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle ar hyd ffordd breifat
oddi ar y ffordd ddosbarth 2 gerllaw’r safle. Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn un deulawr ac wedi ei leoli ar
safle’r tŷ presennol. (sydd mewn
cyflwr gwael ar hyn o bryd). Bydd dwy
ystafell wely i’r tŷ sydd o ddyluniad eithaf sgwâr o ran edrychiad. Bydd y
waliau allanol yn cael eu gorffen mewn byrddau pren a byddai’r to yn un eithaf
fflat gyda pheth goleddf iddo. Bydd dau lecyn parcio o fewn cwrtil yr eiddo. Tynnwyd sylw at y
polisïau perthnasol yn yr adroddiad Amlinellwyd bod y bwriad wedi ei gyflwyno fel cais i ddymchwel tŷ
presennol a chodi tŷ newydd, fodd bynnag nodywd nad oedd polisi penodol o
ran dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffiniau datblygu yn CDUG. Ategwyd
bod polisi C1 yn datgan mai ‘o fewn ffiniau datblygu trefi a Phentrefi...y bydd
prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd’ gyda pholisi CH4 hefyd yn berthnasol
gan ddatgan mewn egwyddor y caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar
safleoedd sydd heb eu dynodi ac sydd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellid
cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y Cynllun a’r meini prawf perthnasol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae dyluniad yr eiddo arfaethedig
yn un cyfoes a chydnabuwyd y byddai gwahaniaeth barn debygol am ddyluniad
cyfoes Ystyriwyd bod y bwriad yn cynnig tŷ o faint, graddfa a ffurf fyddai
ar y cyfan yn cyd-fynd â chyd-destun y safle.
Gyda mwyafrif o’r ffenestri gydag edrychiad deheuol ystyriwyd na fyddai
hyn yn creu effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl cymdogion ac ni
ystyriwyd fod y bwriad yn golygu gorddatblygiad o’r safle nac yn achosi niwed arwyddocaol o ran sŵn traffig. Eglurwyd
bod llwybr cyhoeddus yn rhedeg gerllaw’r safle a bod yr Uned Llwybrau yn
awyddus i sicrhau fod llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog yn cael ei ddiogelu
yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad.
Nodwyd, gan fod y llwybr yn agos iawn i’r datblygiad ac y gallai gwaith
adeiladu amharu ar y llwybr ystyriwyd mai priodol fuasai gosod amod i sicrhau
bod y llwybr yn cael ei ddiogelu. Ystyriwyd fod y bwriad i
adeiladu tŷ newydd ar y safle yn dderbyniol o safbwynt y polisïau
perthnasol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad (c) Mewn ymateb i sylw nad oedd polisiau ar gyfer ‘dymchwel ac ail godi’ tai ac o’r awgrym y dylid datblygu polisi i warchod hyn o ran safbwynt niweidio'r amgylchedd, nodwyd y byddai materion fel hyn yn cael ei drafod o dan bolisïau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C16/1336/39/LL Anhywel, Lon Pont Morgan, Abersoch PDF 261 KB Tŷ
newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd
R H Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu ty newydd dwy loft a gwaith cysylltiedig (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn
ydoedd i adeiladu tŷ annedd deulawr modern a ddyluniwyd i gynnwys dwy ystafell
wely, dwy ystafell ymolchi, stydi ac ystafell fyw / cegin. Cyflwynwyd
hefyd fanylion tirlunio bwriadedig ynghyd a manylion trefniadaeth parcio a throi ar gyfer
dau gerbyd ger mynedfa gerbydol
newydd. Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu
tŷ ar y safle hwn wedi
ei wrthod yn 2013 ac, yn ogystal, fe wrthodwyd
apêl yn erbyn
y penderfyniad hwnnw. Eglurwyd bod y cynllun newydd a gyflwynwyd yn sylweddol wahanol
i’r cynllun a ystyriwyd yn flaenorol. Disgrifiwyd y tŷ arfaethedig fel un gyda tho fflat a thyfiant arno
(to “gwyrdd”) wedi’i osod ar ddau lefel. Byddai angen codi lefel y tir ger y
ffordd er mwyn creu safle gwastad ar gyfer parcio a throi. Byddai angen gostwng
lefel y tir ar waelod y safle er mwyn gosod yr adeilad i mewn i'r llethr. Yn sgil hyn byddai lefel to’r rhan uchaf o’r
tŷ 0.3m yn is na brig to tŷ Carrog (drws nesaf), ac 1.2m yn is na
brig to’r cynllun a wrthodwyd yn 2013. Bydd waliau
ochr yr adeilad
yn cael eu
gorchuddio gyda cherrig tra
byddai’r edrychiad blaen a chefn wedi eu gorchuddio gan gladin pren, gyda
ffenestri sylweddol yn wynebu’r môr. Nodwyd bod y
Cyngor Cymuned yn gwrthwynbeu’r cais oherwydd gorddatblygiad ar safle cyfyng ac amlwg ynghyd a phryder am
ddiogelwch mynediad. Eglurwyd hefyd, er bod y safle o fewn yr ANHE ei fod
yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref
Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Yn ogystal,
fe ystyriwyd y byddai y deunyddiau naturiol a ddewiswyd fel gorffeniadau yn gweddu gyda'r
tirlun mewn modd anymwthiol. Nid oedd yr
Uned AHNE o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith
annerbyniol ar yr AHNE ac felly, ysytiwyd bod y cynnig yn gyson
gyda pholisiau perthnasol. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio
perthnasol ynghyd a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod yr holl
bryderon wedi eu datrys a bod y cynllun
bellach yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:- -
er
penderfyniad yr apêl, bod y cynllun eto yn agos i’r lon ac yn parhau yn adeilad
dau lawr -
bod y datblygiad
yn atal goleuni
o’r de ac yn goredrych ar dŷ
Carrog -
bod cymdogion
yn colli preifatrwydd -
y byddai
yn anodd plannu 2m o dyfiant ar y llethr i osgoi
goredrych - yr angen am blannu
yn cyfaddef goredrychiad posib -
byddai modd ychwanegu at y
datblygiad i’r dyfodol (c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant ar
ran yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- - bod y datblygiad dipyn yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C16/1348/35/LL Min y Gaer, Criccieth PDF 246 KB Ail
gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i
lety aml feddianaeth AELOD LLEOL: Cynghorydd
Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar
gyfer newid defnydd i lety aml feddiannaeth (a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn ymwneud a newid defnydd
tŷ gwesty presennol i lety amlfeddiannaeth 10 ystafell wely. Disgrifiwyd yr eiddo fel adeilad par oedd wedi ei leoli o fewn ffiniau Criccieth, ac oedd
wedi gweithredu tan yn ddiweddar fel tŷ gwesty, 10 ystafell wely. Nodwyd
bod fflatiau hunangynhaliol hefyd ar y llawr islawr ac nad oedd bwriad gwneud
unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad. Adroddwyd
bod y cais blaenorol o dan C16/0711/35/LL wedi ei wrthod gan nad oedd
tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bod yr eiddo
wedi ei farchnata’n aflwyddiannus am bris rhesymol a theg fel llety gwyliau am
gyfnod parhaol o 12 mis. Tynnwyd
sylw at y polisiau perthnasol yn yr adroddiad gan
gyfeirio at bolisi CH11 o’r Cynllun
Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud a throsi adeiladau o fewn ffiniau
datblygu pentrefi a chanolfannau lleol ar gyfer defnydd preswyl; mae’n caniatáu
cynigion os gellir cydymffurfio a meini prawf sy’n
ymwneud ag angen lleol, ardrawiad ar lety gwely a gwasanaeth cymunedol a
meddiannaeth y tŷ. Amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn oedd yn
cyfeirio at effaith y newid mewn defnydd ar fwynderau’r ardal a thrigolion
cyfagos o’i gymharu â’r defnydd presennol. Mewn
ymateb, er y byddai natur defnydd yr adeilad yn wahanol (defnydd preswyl llawn
amser yn hytrach na defnydd gwyliau) ni ystyriwyd na fydd y defnydd bwriedig fel llety amlfeddiannaeth yn debygol o fod yn
ddefnydd dwysach na’r defnydd gwyliau; gan fod
potensial i bob ystafell fod yn llawn drwy’r adeg gan
bobl ar eu gwyliau ar hyn o bryd. Ategwyd bod 6 llecyn parcio presennol o flaen yr
adeilad; ac ystyriwyd oherwydd natur y llety amlfeddiannaeth sy’n destun y
cais; agosatrwydd y safle i ganol y pentref a meysydd parcio cyhoeddus; fod y
ddarpariaeth yma yn ddigonol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisiau perthnasol, a bod y wybodaeth ddigonol wedi ei
gyflwyno gyda’r cais i ddangos bod yr eiddo wedi ei farchnata am gyfnod digonol
i gydymffurfio gyda gofynion polisi CH11 o’r CDUG. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- -
na fyddai unrhyw newid i ddefnydd yr adeilad -
y bwriad yw paratoi cartref
i staff / nyrsys Cartref Gofal cyfagos drwy gynnig lle
addas iddynt fyw o dan yr
un to -
ni fydd dim mwy o bobl yn aros
yn yr adeilad
i’r hyn sydd
yn cael ei
ganiatau -
nid yw y sefyllfa ddim gwahanol i’r
sefyllfa bresennol o ran preifatrwydd (c)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd mai i
Gartref Gofal The Pines y byddai’r nyrsys yn gweithio (d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: - angen ystyried beth fuasai yn digwydd petai yr adeilad yn cael ei werthu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C16/1501/40/LL Tir ger 'The Warehouse' Ystad Ddiwydiannol Y Ffor, Y Ffor PDF 224 KB Gosod mast monopole 17.5 medr o uchel ynghyd a gosod
cyfarpar cysylltiedig yn cynnwys 3 antena, 3 caban offer ac 1 caban mesurydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Read Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod mast monopole 17.5
medr o uchel ynghyd a gosod cyfarpar cysylltiedig yn cynnwys 3 antena, 3 caban
offer ac 1 caban mesurydd (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i osod tŵr telathrebu 17.5m gyda 3
antenna ar ei ben, 3 cabinet offer, 1 cabinet mesurydd a datblygiad cysylltiol
ar y llawr oedd yn cynnwys codi ffens 2.1m o uchder oddi amgylch yr offer. Byddai’r tŵr yn un o ddur galfanedig - yn strwythur main a syml sydd
yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal
leol. Nodwyd y byddai’r cabanau o faint amrywiol, lliw gwyrdd. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn uned
ddiwydiannol ar ystâd ddiwydiannol ar gyrion pentref Y Ffor. Nodwyd nad oedd
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn. Cyfeiriwyd at bolisi CH20 – Offer telathrebu yn yr adroddiad
ac yng nghyd destun mwynderau gweledol nodwyd gyda’r math yma o ddatblygiad,
mae’n anorfod y byddai’r strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau
cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn
sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Er hynny, ystyriwyd yn yr achos
yma bod y lleoliad yn addas ar gyfer y bwriad a bod rhai polion trydan / ffôn
eraill yn bresennol yn y cyffiniau. Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol, awgrymwyd bod y bwriad i godi mast
telathrebu yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau
perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: -
rhaid rhoi ystyriaeth i
gael gormod o fastiau / polion mewn un ardal -
yn adnodd angenrheidiol
ar gyfer ffonau symudol (ch) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chais i’r dyfodol gan y Swyddfa Gartref o ran
gosod tyrrau telathrebu ar gyfer gwasanaethau awgrymwyd y byddai modd argymell
bod y tyrrau yn cydgysylltu gyda’r holl gwmnïau ffonau symudol. PENDERFYNWYD caniatau’r cais. Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Tynnu’r mast a’r offer cysylltiol ac adfer y tir os
ydi’r defnydd yn dod i ben. 4. Mast i fod o orffeniad
galfanedig. 5. Cabinets a ffens i fod o liw
gwyrdd. |