Agenda item

Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.

Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW

 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwen Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.

Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais. Eglurwyd bod y chwarel yn un o’r rhai pwysicaf yng Ngwynedd gyda 300 acer o dir  wedi ei leoli gyferbyn a’r Parc Cenedlaethol gyda dynodiadau amgylcheddol o bwys o gwmpas y safle sef, Ardal Cadwraeth Arbennig a safle o werth gwyddonol arbennig.

 

Nodwyd yr angen i’r Pwyllgor ystyried dau beth;

 

i)       Pwysleisiwyd mai nid cais am ganiatad cynllunio oedd gerbron y Pwyllgor, ond cais i adolygu rhestr amodau ar 4 caniatad dilys ar y safle gyda’r bwraid eu cyfuno o dan un atodlen gyflawn o amodau cynllunio. Amlygwyd mai y drefn gyda chwareli yw mai  cyfrifoldeb gweithredwr y chwarel yw creu atodlen o amodau cynllunio er mwyn i’r Cyngor eu hystyried. Nodwyd bod hyn yn cael  ei wneud bod 15eg mlynedd sydd yn gyfle i adoygu y sefyllfa, cael gwared o amodau amherthnasol, adolygu y gwaith a bod y safle yn cael ei adfer, sicrhau dilyniant i’r gwaith, ei fod yn gynaladawy ynghyd a ystyriaethau archaeolegol ac amgylcheddol.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno atodlen amodau gyda’r cais a bod cytundeb rhwng y Cyngor a’r chwarel  mai y bwriad yw codi’r safonau i adlewychu anghenion cynllunio ac angehnion amgylcheddol fodern. Amlygywd bod sawl mater i’w ystyried gyda’r cais e.e, ffrwydro, swn, llwch ac  effaith ar fwynderau pobl lleol a bod polisi C17 o’r CDU yn ystyried ceisiadau o adolygiadau o ganiatadau cynllunio  mwynau.

 

Adroddodd y swyddog ei fod yn fodolon gyda’r cais a bod datganiad amgylcheddol sylweddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn ystyried  lleoliad y safle a’r effaith ar yr ardal o’r gwmpas..

 

ii)      Ystyried gwyro llwybr cyhoeddus. Eglurwyd bod gorchymyn a ganiatawyd 15 mlynedd yn ol i gau a gwyro llwybr yn dod i ben mis yn y mis nesaf a bod y chwarel yn awyddus i gau y llwybr am 17 mlynedd pellach gan ystyried materion iechyd a diogelwch o’r  cyhoedd yn croesi llwybrau hawlio y llwybr. Y bwriad yw rhoi y llwybr yn ol mewn 17 mlynedd, ond nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r cwmni i sefydlu llwybr o’r newydd fyddai yn cysylltu tir agored y mynydd gyda Lon Las Ogwen.

 

Tynnwyd sylw at yr amodau cynlluniau manwl oedd wedi eu rhestru fel atodiad i’r adroddiad

 

(b)    Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

-       pwysig cael amodau i warchod y safle

-       chwarel hynaf a mwyaf o ran maint yng Nghymru

-       y chwarel o fudd economaidd i Ddyffryn Ogwen

-       angen gwarchod yr henebion (tynnwyd sylw at yr adroddiad Archaeoleg)

-       cynnig yr angen i CADW roi statws statudol i’r henebion

-       angen gwarchod yr Ardal Cadwraeth Arbennig ac atal defaid rhag pori yma

-       cynnig amod i sicrhau mewnbwn y gymuned drwy barhau gyda’r Pwyllgor Cyswllt

-       y chwarel bellach yn creu effaith ar dai Mynydd Llandygai

-       cytuno bod angen un cynllun gydag amodau cadarn

 

(c)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r Pwyllgor Cyswllt, nodwyd nad oedd angen amod penodol i hyn ond ei fod yn cael sylw yn y cytundeb 106 a derbyniwyd bod angen adolygu’r cytundeb yma. Er hynny, ychwanegwyd bod y Pwyllgor Cyswllt yn un llwyddiannus gyda threfniadau cydweithio da wedi eu sefydlu gyda’r chwarel i, ac awgrymwyd cynllunio ymlaen i’r blynyddoedd nesaf yn hytrach na gosod amod.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr amodau

(d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       angen ystyried y Ddeddf Llesiant

-       angen sicrhau defnydd o’r Iaith Gymraeg ar arwyddion y chwarel

-       rhaid ystyried diogelwch unigolion gan sicrhau nad ydynt yn mynd ar draws gwaith dydd i ddydd y chwarel - hanfodol nad yw'r lloriau yn dod i gyswllt gydag unigolion sydd yn defnyddio'r hawliau tramwy gan ystyried yn ofalus lleoliad y llwybrau cyhoeddus

-       rhaid gwarchod henebion – pwysig eu bod yn cael eu parchu – hen hanes yma. Cynnig eu bod yn cael eu ffensio i mewn

-       angen gosod ffens o amgylch yr Ardal Cadwraeth Arbennig ac atal defaid rhag pori arno

-       wrth gysylltu'r llwybr newydd gyda Llon Las Ogwen rhaid sicrhau bod yr un newydd yn agor cyn i’r hen lwybr gau

-       angen sicrhau bod yr amodau yn cael eu parchu

 

(dd)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag arwyddion Cymraeg, amlygwyd y gellid cyfleu'r neges yma  i berchnogion y chwarel

                                                                                        

Mewn ymateb i sylw am gadw at yr amodau, nodwyd nad oedd modd rheoli hyn ac nad oedd rhaid i’r chwarel gadw atynt, ond ei fod o ddiddordeb i’r chwarel ymateb i  ofynion diogelwch.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwarchod yr henebion, cytunwyd bod angen i’r chwarel fod yn fwy rhagweithiol a bod amod 41 wedi ei gynnwys ar gyfer hyn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r argymhellion

 

1)    Awdurdodi Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i ymestyn Gorchymyn Cau a Chreu Llwybrau Cyhoeddus 2002 ar gyfer llwybrau cyhoeddus Rhifau 46 a 50.

 

2)    Awdurdodi Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu ar y cynllun amodau o dan ddirprwyaeth.

 

·        Hyd y Cyfnod Gweithio 31 Rhagfyr 2032

·        Gwaith a Ganiateir a Chydymffurfiad gyda'r Manylion / Cynlluniau a Gyflwynwyd.

·        Darpariaeth ar gyfer dargyfeirio Llwybrau Cyhoeddus Rhifau 46 a 50,

·        Oriau Gweithio ar wyneb y graig,

·        Dulliau gweithio a chyfyngiadau chwythu,

·        Adfer a chynllun manwl creu ac adfer cynefinoedd yn unol â manylion y cais,  

·        Cynllun adfer ar gyfer y safle beiriannau erbyn 31 Rhagfyr 2030,

·        Adolygiad o’r gwaith bob pum mlynedd,

·        Rheoli goleuadau allanol,

·        Rheoli cyfyngiadau sŵn yn ystod y dydd a’r nos, 

·        Rheoli llwch ffo a darparu a chynnal gorsaf dywydd,

·        Cadw pridd a deunydd adfer,

·        Cyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir,

·        Cyfyngu ar glirio llystyfiant ar rai adegau penodol o’r flwyddyn oni bai y gellir profi’n ysgrifenedig na fyddai’r gwaith yn amharu ar adar ac ymlusgiaid,

·        Diweddaru monitro cen,

·        Cynllun rheoli cynefin gweundir ar gyfer yr ardal iawndal ecolegol yn unol â’r manylion a gyflwynwyd, 

·        Gwaith adfer ar y ffrwd i’w wneud yn unol â’r cynllun a gyflwynwyd, 

·        Ffensio i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac â Chyfoeth Naturiol Cymru,

·        Monitro'r llif yn y ffrwd fel rhan o’r adolygiad blynyddol ac asesu sut y mae’n gweithio, asesu hydroleg Gwaun Gynfi ac a oes angen unrhyw waith cynnal a chadw, ei gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac â Chyfoeth Naturiol Cymru.

·        Monitro cynefin Gwaun Gynfi,

·        Cofnodi a lliniaru archeolegol,

·        Arolwg a monitro rhywogaethau ymwthiol,

·        Ffensio’r nodweddion archeolegol i’r gogledd o wyneb y chwarel (corlan sawl adran)

 

(rhestr manylach o’r amodau cynlluniau wedi eu rhestru fel atodiad i’r adroddiad)

 

Dogfennau ategol: