Agenda item

 

Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i lety aml feddianaeth

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i lety aml feddiannaeth

 

(a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn ymwneud a newid defnydd tŷ gwesty presennol i lety amlfeddiannaeth 10 ystafell wely.

 

Disgrifiwyd yr eiddo fel  adeilad par oedd wedi ei leoli o fewn ffiniau Criccieth, ac oedd wedi gweithredu tan yn ddiweddar fel tŷ gwesty, 10 ystafell wely. Nodwyd bod fflatiau hunangynhaliol hefyd ar y llawr islawr ac nad oedd bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad.

 

         Adroddwyd bod y cais blaenorol o dan C16/0711/35/LL wedi ei wrthod gan nad oedd tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bod yr eiddo wedi ei farchnata’n aflwyddiannus am bris rhesymol a theg fel llety gwyliau am gyfnod parhaol o 12 mis.

 

         Tynnwyd sylw at y polisiau perthnasol yn yr adroddiad gan gyfeirio at  bolisi CH11 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud a throsi adeiladau o fewn ffiniau datblygu pentrefi a chanolfannau lleol ar gyfer defnydd preswyl; mae’n caniatáu cynigion os gellir cydymffurfio a meini prawf sy’n ymwneud ag angen lleol, ardrawiad ar lety gwely a gwasanaeth cymunedol a meddiannaeth y tŷ.

 

Amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn oedd yn cyfeirio at effaith y newid mewn defnydd ar fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos o’i gymharu â’r defnydd presennol. Mewn ymateb, er y byddai natur defnydd yr adeilad yn wahanol (defnydd preswyl llawn amser yn hytrach na defnydd gwyliau) ni ystyriwyd na fydd y defnydd bwriedig fel llety amlfeddiannaeth yn debygol o fod yn ddefnydd dwysach na’r defnydd gwyliau; gan fod potensial i bob ystafell fod yn llawn drwy’r adeg gan bobl ar eu gwyliau ar hyn o bryd.

 

Ategwyd bod 6 llecyn parcio presennol o flaen yr adeilad; ac ystyriwyd oherwydd natur y llety amlfeddiannaeth sy’n destun y cais; agosatrwydd y safle i ganol y pentref a meysydd parcio cyhoeddus; fod y ddarpariaeth yma yn ddigonol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisiau perthnasol, a bod y wybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno gyda’r cais i ddangos bod yr eiddo wedi ei farchnata am gyfnod digonol i gydymffurfio gyda gofynion polisi CH11 o’r CDUG.

 

(b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

-       na fyddai unrhyw newid i ddefnydd yr adeilad

-       y bwriad yw paratoi cartref i staff / nyrsys Cartref Gofal cyfagos drwy gynnig lle addas iddynt fyw o dan yr un to

-       ni fydd dim mwy o bobl yn aros yn yr adeilad i’r hyn sydd yn cael ei ganiatau

-       nid yw y sefyllfa ddim gwahanol i’r sefyllfa bresennol o ran preifatrwydd

 

(c)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd mai i Gartref Gofal The Pines y byddai’r nyrsys yn gweithio

  

(d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       angen ystyried beth fuasai yn digwydd petai yr adeilad yn cael ei werthu

-       beth fuasai yn digwydd petai'r cartref gofal yn cau

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygodd yr Uwch Reolwr nad oedd yr Adran Cynllunio yn gallu rheoli defnydd yr adeilad na gosod amod i wneud hynny. Nodwyd nad oedd unrhyw amheuaeth bod angen y math yma o lety yng Nghriccieth. Cadarnhawyd na fyddai unrhyw fwriad newid defnydd yr adeilad.

 

            PENDERYFNYWD caniatau y cais yn unol a’r argymhellaid

 

1.           5 mlynedd

2.           Unol a’r cynlluniau

 

Nodyn Dwr Cymru

 

Dogfennau ategol: