Agenda item

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le

 

(a)       Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi'r bwriad o ddymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ annedd newydd ynghyd a gwaith cysylltiol i hynny. Lleoliwyd y safle o fewn ffin ddatblygu Llanbedrog - o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle ar hyd ffordd breifat oddi ar y ffordd ddosbarth 2 gerllaw’r safle.

Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn un deulawr ac wedi ei leoli ar safle’r tŷ presennol.  (sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd).  Bydd dwy ystafell wely i’r tŷ sydd o ddyluniad eithaf sgwâr o ran edrychiad. Bydd y waliau allanol yn cael eu gorffen mewn byrddau pren a byddai’r to yn un eithaf fflat gyda pheth goleddf iddo. Bydd dau lecyn parcio o fewn cwrtil yr eiddo.

 

          Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol yn yr adroddiad

 

Amlinellwyd bod y bwriad wedi ei gyflwyno fel cais i ddymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd, fodd bynnag nodywd nad oedd polisi penodol o ran dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffiniau datblygu yn CDUG. Ategwyd bod polisi C1 yn datgan mai ‘o fewn ffiniau datblygu trefi a Phentrefi...y bydd prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd’ gyda pholisi CH4 hefyd yn berthnasol gan ddatgan mewn egwyddor y caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd sydd heb eu dynodi ac sydd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellid cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y Cynllun a’r meini prawf perthnasol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae dyluniad yr eiddo arfaethedig yn un cyfoes a chydnabuwyd y byddai gwahaniaeth barn debygol am ddyluniad cyfoes Ystyriwyd bod y bwriad yn cynnig tŷ o faint, graddfa a ffurf fyddai ar y cyfan yn cyd-fynd â chyd-destun y safle.  Gyda mwyafrif o’r ffenestri gydag edrychiad deheuol ystyriwyd na fyddai hyn yn creu effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl cymdogion ac ni ystyriwyd fod y bwriad yn golygu gorddatblygiad o’r safle nac yn achosi niwed arwyddocaol o ran sŵn traffig.

 

       Eglurwyd bod llwybr cyhoeddus yn rhedeg gerllaw’r safle a bod yr Uned Llwybrau yn awyddus i sicrhau fod llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog yn cael ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad.  Nodwyd, gan fod y llwybr yn agos iawn i’r datblygiad ac y gallai gwaith adeiladu amharu ar y llwybr ystyriwyd mai priodol fuasai gosod amod i sicrhau bod y llwybr yn cael ei ddiogelu. 

 

Ystyriwyd fod y bwriad i adeiladu tŷ newydd ar y safle yn dderbyniol o safbwynt y polisïau perthnasol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(c)       Mewn ymateb i sylw nad oedd polisiau ar gyfer ‘dymchwel ac ail godi’ tai ac o’r awgrym   y dylid datblygu polisi  i warchod hyn o ran safbwynt niweidio'r amgylchedd, nodwyd y byddai materion fel hyn yn cael ei drafod o dan bolisïau amgylcheddol, ond derbyniwyd y safbwynt bod angen polisi i warchod adeiladu tu fewn i’r ffin datblygu. Awgrymwyd y byddai yn fater fydd angen ei graffu i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw mai cais i adeiladu tŷ o’r newydd oedd yn cael ei gyflwyno, nodwyd bod gwasanaethau eisoes yn gwasanaethu’r adeilad presennol a gyda’r safle o fewn ffin datblygu'r pentref, buasai adeiladu tŷ o’r newydd yn dderbyniol.

 

(ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       nad oedd y dyluniad yn gweddu cymeriad ac ardal Penllyn – rhaid ystyried dyluniad sydd yn cydymdeimlo a’r ardal o gwmaps y datblygiad

-       gall osod cynsail i eraill gyflwyno cynlluniau cyfoes

-       nid yw addas ar gyfer y stryd – yn creu effaith ar y tai eraill

-       bod y dyluniad yn un i’w groesawu – dim angen cadw at gynlluniau traddodiadol

-       rhaid ystyried materion cynaladwyedd, cynlluniau ecogyfeillgar  a defnyddio deunyddiau naturiol a symud ymlaen gyda’r oes

-       croesau'r fenter

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr bod y dyluniad yn un oedd yn mynd i hollti barn, ond nodwyd bod cymysgedd o wahanol ddyluniadau eisoes o fewn yr ardal. Derbyniwyd bod y dyluniad yn un cyfoes

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

         Amodau:

 

            1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol â chynlluniau.

3.         Cytuno gorffeniadau allanol.

4.         Amod Dŵr Cymru.

5.         Diogelu’r llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog gerllaw.

6.         Cwblhau’r llefydd parcio a throi yn unol â'r cynllun a'u bod yn weithredol cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

7.         Tirlunio.

8.         Tynnu hawliau datblygu ganiateir ar gyfer ffenestri ychwanegol.

 

         Nodyn:-

         1.            Sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar angen i gydymffurfio gyda’r canllawiau a gynhwysir ynddynt.

         2.            Tynnu sylw’r ymgeisydd y byddai’n briodol i ddefnyddio enw Cymraeg ar gyfer yr eiddo o ystyried hunaniaeth diwylliannol amlwg yr ardal.

 

Dogfennau ategol: