Tŷ
newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd
R H Wyn Williams
Cofnod:
Adeiladu ty newydd dwy loft a gwaith cysylltiedig
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn
ydoedd i adeiladu tŷ annedd deulawr modern a ddyluniwyd i gynnwys dwy ystafell
wely, dwy ystafell ymolchi, stydi ac ystafell fyw / cegin. Cyflwynwyd
hefyd fanylion tirlunio bwriadedig ynghyd a manylion trefniadaeth parcio a throi ar gyfer
dau gerbyd ger mynedfa gerbydol
newydd. Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu
tŷ ar y safle hwn wedi
ei wrthod yn 2013 ac, yn ogystal, fe wrthodwyd
apêl yn erbyn
y penderfyniad hwnnw. Eglurwyd bod y cynllun newydd a gyflwynwyd yn sylweddol wahanol
i’r cynllun a ystyriwyd yn flaenorol.
Disgrifiwyd y tŷ arfaethedig fel un gyda tho fflat a thyfiant arno
(to “gwyrdd”) wedi’i osod ar ddau lefel. Byddai angen codi lefel y tir ger y
ffordd er mwyn creu safle gwastad ar gyfer parcio a throi. Byddai angen gostwng
lefel y tir ar waelod y safle er mwyn gosod yr adeilad i mewn i'r llethr. Yn sgil hyn byddai lefel to’r rhan uchaf o’r
tŷ 0.3m yn is na brig to tŷ Carrog (drws nesaf), ac 1.2m yn is na
brig to’r cynllun a wrthodwyd yn 2013.
Bydd waliau
ochr yr adeilad
yn cael eu
gorchuddio gyda cherrig tra
byddai’r edrychiad blaen a chefn wedi eu gorchuddio gan gladin pren, gyda
ffenestri sylweddol yn wynebu’r môr.
Nodwyd bod y
Cyngor Cymuned yn gwrthwynbeu’r cais oherwydd gorddatblygiad ar safle cyfyng ac amlwg ynghyd a phryder am
ddiogelwch mynediad. Eglurwyd hefyd, er bod y safle o fewn yr ANHE ei fod
yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref
Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Yn ogystal,
fe ystyriwyd y byddai y deunyddiau naturiol a ddewiswyd fel gorffeniadau yn gweddu gyda'r
tirlun mewn modd anymwthiol. Nid oedd yr
Uned AHNE o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith
annerbyniol ar yr AHNE ac felly, ysytiwyd bod y cynnig yn gyson
gyda pholisiau perthnasol.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio
perthnasol ynghyd a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod yr holl
bryderon wedi eu datrys a bod y cynllun
bellach yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:-
-
er
penderfyniad yr apêl, bod y cynllun eto yn agos i’r lon ac yn parhau yn adeilad
dau lawr
-
bod y datblygiad
yn atal goleuni
o’r de ac yn goredrych ar dŷ
Carrog
-
bod cymdogion
yn colli preifatrwydd
-
y byddai
yn anodd plannu 2m o dyfiant ar y llethr i osgoi
goredrych - yr angen am blannu
yn cyfaddef goredrychiad posib
-
byddai modd ychwanegu at y
datblygiad i’r dyfodol
(c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant ar
ran yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:-
-
bod y datblygiad dipyn yn llai na’r
cynlluniau gwreiddiol
-
bod gwell defnydd yn
cael ei wneud
o’r safle a bod y tirlunio yn elfen holl
bwysig
-
mai ty un llawr yn
wynebu'r môr oedd y bwriad - wedi ei osod yn y graig
-
bod y ffiniau yn parhau'r
un fath
-
bod y safle eisoes o ddefnydd preswyl
-
bod y dyluniad yn adlewyrchu'r
tirlun ac yn toddi i mewn
i’r olygfa o’r traeth
-
bod swyddog yr ANHE yn awgrymu na fyddai
yn creu effaith
weledol ar yr ANHE
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
- Ei fod yn
gwrthwynebu y cais
- bod y Cyngor Cymuned yn gwrthod y cais a bod cynlluniau blaenorol wedi
ei gwrthod sawl gwaith gan y Pwyllgor ac ar apêl
- bod y safle yn gyfyng iawn - gardd fechan ydyw
ac felly amhosib rhoi ty ar y safle
- bod yr angen am dai wedi ei ddiwallu yn Abersoch
- 60%
o dai yn Abersoch yn dai
haf – nid oes angen mwy
- angen cysondeb – cais cynllunio tebyg gan drigolion
cyfagos wedi ei wrthod
- angen gwarchod yr ANHE
- Llwybr yr Arfordir
yn mynd tu
hwnt i’r adeilad
- bloc
ydyw ac nid ty – nid yw yn
gwarchod golygfeydd o’r traeth
- y
dyluniad yn un estron
- byddai yn amharu
ar yr arfordir
- erfyn ar y pwyllgor
i wrthod y cais difrifol yma.
(d)
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd
yr Uwch Reolwr
bod dau bryder amlwg wedi codi
o’r drafodaeth - maint ac edrychiad y dyluniad a’r effaith ar fwynderau trigolion
cyfagos.
Awgrymwyd ymweld â’r safle
Cynigwyd ac eiliwyd i
ymweliad a’r safle
PENDERFYNWYD gohirio’r cais a chynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: