Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Alan Jones Evans (p.m.), Alwyn Gruffydd (p.m.), Sian Wyn Hughes (a.m.), Linda Ann Wyn Jones (p.m.), Siôn Wyn Jones,  W. Tudor Owen, Peter Read, Neil Foden (Undeb Athrawon)  a Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) - (a.m./p.m.).

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn Eitem 5  Cynllun Trac oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith wedi ei phenodi fel rhan o weithlu’r cynllun ond ni fyddai’n gadael y Siambr gan nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.  

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 261 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2015.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mehefin  2015. 

 

5.

CYNLLUN TRAC pdf eicon PDF 531 KB

I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)        Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu cefndir y cynllun uchod sy’n cael ei arwain gan y chwe awdurdod lleol ar gyfer darparu'r sgiliau a’r gefnogaeth addas i ddisgyblion a phobl ifanc mwyaf bregus y Sir.

 

(b)        Eglurwyd mai Cyngor Sir Dinbych sy’n arwain parthed rheolaeth a monitro cynllun busnes rhanbarthol a’i fe’i cyllidir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda’r bwriad i gychwyn y cynllun Medi 2015 hyd at Awst 2018 gyda phosibilrwydd i’w ymestyn hyd at Awst 2020.  Esboniwyd mai nod y cynllun fyddmabwysiadu dull weithredu o adnabod disgyblion bregus yn gynnar ac ymateb i’w anghenion trwy ddarparu cwricwlwm a chefnogaeth addas ar eu cyfer”.

 

(c)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod Cabinet Addysg a’r swyddogion iddynt fel a ganlyn:

 

·         Mai 8 o swyddi fydd yn rhan o’r cynllun gyda’r Rheolwr eisoes wedi ei phenodi i gychwyn mis Tachwedd.  Eglurwyd y bydd 6 o’r swyddi yn rhai gweithredol gyda dwy ohonynt o dan y teitl Gweithwyr Cymdeithasol Addysg a fydd yn gallu gweithio gyda theuluoedd a phlant i oresgyn rhwystrau sydd ddim yn cyfarfod â meini prawf anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol.  Bydd y 4 swydd arall yn canolbwyntio  ar bresenoldeb, gweithiwr ieuenctid yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ennill achrediadau a gweithiwr chwaraeon a fyddai’n rhan o dîm a fyddai’n targedu anghenion y bobl ifanc ac yn eu cefnogi  i barhau mewn addysg wedi iddynt ymadael o ysgolion

·         Bod arian cyfatebol yn cael ei gyfrannu o’r gwasanaeth sydd eisoes yn yr ysgolion o ran strategaeth cynhwysiad, cefnogi plant yn y prif lif,  gwasanaeth lles a’r gwasanaeth cynnal ymddygiad canolog. 

·         Byddir yn targedu plant o Flwyddyn 7 i fyny ac yn gallu perchnogi disgyblion ar hyd y daith addysgol ac yn arbennig y gwaith pontio yn 16 oed a fydd yn gymorth i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynglŷn â’u gyrfaoedd ynghynt.   

·         Cadarnhawyd mai 480 o ddisgyblion o Wynedd  yw’r nifer o gyfranogwyr sydd mewn risg ac esboniwyd yr adnabuwyd hwy drwy’r fframwaith ymgysylltu      

·         O safbwynt cymwysterau, pwysleisiwyd y byddai’r swyddogion perthnasol yn weithredol gyda’r plant yn ddyddiol ac yn ychwanegol bod hyfforddiant gyda nifer eang o gyrsiau ar gael iddynt ar gyfer cyflogaeth   

·         Bod nifer o blant sydd yn dadrithio yn is yng Ngwynedd o ran y ganran NEET (Not in Education, Employment or Training) sef oddeutu 7-8% ond eglurwyd y byddai’r cynllun Trac yn cyfarch anghenion y plant wedi iddynt fod mewn Colegau ac yn methu cael cyflogaeth      

·         O safbwynt goblygiadau hyfforddiant i staff ysgol, esboniwyd y gwelir bod staff ysgolion yn hyddysg iawn yn y meysydd dan sylw ond o dan bwysau cynyddol ac y byddai’r cynllun hwn yn ysgafnhau baich ysgolion drwy gael swyddog i weithio am gyfnod estynedig ar y cyd gyda phlant.  Ni ragwelir y bydd gofyn hyfforddi staff ysgolion na ychwaith bod pwysau ychwanegol arnynt. 

·         Bod canran sylweddol o blant sydd yn dadrithio ar y rhestr anghenion addysgol ychwanegol  a  bod carfan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AMODAU ARWEINYDDIAETH A MODELAU AMGEN pdf eicon PDF 428 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu prosiect ar gyfer gwella amodau arweinyddiaeth ysgolion er mwyn codi safonau.

 

(b)          Cyfeiriwyd at nod y prosiect a fyddai’n edrych ar bum maes penodol sef:

 

·         Comisiynu adroddiad ar amodau arwain a rheoli ysgolion y Sir a gweithredu ar yr argymhellion cytunedig

·         Monitro a herio pob ysgol a defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i’r awdurdod wella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgolion sy’n tanberfformio

·         Datblygu rheolwyr a darpar reolwyr o fewn gwasanaethau ac adnabod arweinwyr ar gyfer y dyfodol

·         Datblygu cyfundrefn ysgol i ysgol rymus a sicrhau bod trefniadau mewn lle er mwyn rhannu arfer gorau i osgoi dyblygu; a

·         Sicrhau bod buddsoddiadau cyfalaf yn arwain at wella amodau arweinyddiaeth a rheolaeth

 

(c)          Ymhelaethwyd ar y camau nesaf a’r bwriad i gynnal cyfarfod pellach gydag Ymgynghorwyr Annibynnol sydd â phrofiad rhyngwladol yn y maes ac y byddent yn croesawu’r cyfle i gyfweld ag aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau fel rhan o’u hymchwil.

 

(ch)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau, ac fe wnaed y sylwadau canlynol:

 

(i)               A yw’r broblem o recriwtio yn ymwneud â maint bychan y Sir ac oni fyddai cyfuno gyda Siroedd eraill o fantais mewn rhannu arbenigedd?

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod natur ddaearyddol y Sir yn enfawr ac yn heriol gan fod anghenion ardaloedd y Sir yn dra gwahanol.  Bwriad yr Adran  Addysg yw ail-sefydlu’r Swyddfeydd Ardal fel bo modd cael trafodaethau lleol er mwyn diwallu anghenion y plant.  O safbwynt datblygu unigolion yn arweinwyr yn enwedig yn yr ysgolion lleiaf, rhaid rhoi cyfle iddynt fedru arwain ar feysydd strategol er mwyn dangos profiadau mewn gwahanol feysydd ar gyfer y cymhwyster CPCP. 

 

(ii)           A oes tystiolaeth bod rhai ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am ddisgyblion?

 

Mewn ymateb, nodwyd os byddir yn cyd-berchnogi’r prosiect i wella arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yn rhaid cadw llygad bod tegwch i bob dalgylch.

 

(iii)             O safbwynt cytuno ar lefelau cyrhaeddiad disgyblion wrth bontio o’r cynradd i’r uwchradd, nodwyd bod yn ofynnol i’r wybodaeth gyfredol ar gyfer unrhyw blentyn fod yn gywir o’r cam cyntaf drwy’r cyfnod addysgol.  Nodwyd ymhellach bod asesu yn drafodaeth barhaol ond er mwyn pontio llwyddiannus rhwng y cynradd a’r uwchradd rhaid cael dealltwriaeth rhyngddynt a bod yn glir ynglŷn â dehongliad y meini prawf. 

 

(iv)             Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chanfyddiadau gan rieni bod rhai ysgolion yn fwy Saesnigaidd ac o ganlyniad bod niferoedd yn lleihau mewn ambell ddalgylch, nodwyd mai’r her ydoedd cysoni gweithrediad y polisi iaith.   Eto, yn yr un modd gellid cynnal trafodaethau yn lleol er mwyn sicrhau bod plant yn cael yr un fath o brofiad a darpariaeth. 

 

(v)              Yng nghyd-destun ffederaleiddio ysgolion cynradd ac uwchradd i’r dyfodol, nodwyd y byddai hyn yn rhan o’r ymchwiliad i arweinyddiaeth a’r modelu amgen. Er bod syniadau penodol o fewn y Gwasanaeth derbyniwyd bod ymateb gan y gymuned o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

YMCHWILIAD CRAFFU ADDYSG GYMRAEG pdf eicon PDF 814 KB

I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg, Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg a fu’n ymchwilio i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod yn ysgolion y Sir.

 

(b)          Adroddodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, Cadeirydd yr Ymchwiliad, bod yr ymchwil wedi ei gyfyngu i dri dalgylch sef Ardudwy, Bangor a Botwnnog oherwydd demograffeg ieithyddol y tair ardal benodol.  Edrychwyd ar sut y gweithredir Polisi Iaith yr awdurdod ar lawr gwlad mewn ysgolion unigol a'r graddau y mae’r ddarpariaeth yn gymorth i hybu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc.  Tynnwyd sylw at yr atodiadau ynghlwm i’r adroddiad a oedd yn nodi sut y daethpwyd i gasgliad ar yr argymhellion.  Cydnabyddir bod gwaith gwych yn digwydd yn yr ysgolion ond nid da lle gellir gwell i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu allan i’w llibart. 

 

(c)          I gloi, cymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad y cyfle i ddiolch i’w gyd-aelodau a’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chlir.  Diolchodd hefyd i bawb a fu’n rhan o’r Ymchwiliad drwy rannu eu profiadau yn agored.

 

(ch)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)            Mynegwyd pryder o’r hyn sy’n cael ei weithredu mewn ysgolion preifat yn y Sir gyda fwyfwy o ddisgyblion yn dod allan o’r ysgolion hyn yn ddi-gymraeg.       

 

Mewn ymateb i’r uchod, esboniwyd bod y sector cyhoeddus yn gorfod dilyn cwricwlwm cenedlaethol ond bod rhyddid i’r sector annibynnol, yn unol ag Adran 163 o’r Adran Arolygu, gynnig cwricwlwm eang lle nad oes raid i’r Gymraeg fod yn rhan o’r cwricwlwm hwnnw.  Nodwyd nad oedd gan yr awdurdod addysg oruchwyliaeth drostynt ond gellid cysylltu â Llywodraeth Cymru /  ESTYN i ganfod beth yw gofynion yr Adran benodol o’r ddeddf ac a yw’r arolygaeth yn mesur yn gydnaws i anghenion lleol.

 

(ii)           Bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg.  Awgrymwyd y dylid gwneud cais i’r cwmnïau sydd yn ennill y cytundebau cludiant  bod anghenraid i’r gyrwyr fod yn gallu siarad Cymraeg.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r uchod.

 

(d)          Nodwyd, er gwybodaeth i Aelodau, derbyniwyd cais gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdod rannu’r Siarter Iaith ar draws Cymru.

 

(dd)        Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i’r Ymchwiliad Craffu am y gwaith trwyadl a gyflawnwyd ganddynt ac fe groesawyd a derbyniwyd yr holl argymhellion.

 

Penderfynwyd:                        (a)        Derbyn cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg gan ofyn iddo gyflwyno adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis. 

 

                                       (b)       Gofyn i Swyddog Arweiniol yr Ymchwiliad Craffu rannu canfyddiadau’r Ymchwiliad Craffu gydag ysgolion a chanolfannau iaith y Sir. 

 

                                          (c)        Cyfleu i Lywodraeth Cymru / ESTYN pryder y Pwyllgor Craffu hwn ynglyn a chwricwlwm ysgolion yn y sector annibynnol o ddefnydd yr iaith Gymraeg fel amlinellir yn (i) uchod.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

YMCHWILIAD CRAFFU GWASANAETHAU CEFNOGOL ADDYSG - BRIFF DRAFFT pdf eicon PDF 380 KB

I ystyried briff ar gyfer cynnal ymchwiliad o’r uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)        Cyflwynwyd briff drafft ar gyfer cynnal ymchwiliad craffu i’r Gwasanaethau Cefnogol Addysg ac fe amlinellodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Comisiynu Corfforaethol ar gynnwys y briff.

 

(b)        Croesawyd y briff gan yr Aelodau ac mewn ymateb i ymholiad ynglŷn ag amserlen nodwyd y disgwylir i’r ymchwiliad gael ei gyflawni mewn oddeutu 6 -9 mis. 

 

Penderfynwyd:                      (a)        Derbyn a chymeradwyo’r briff drafft.

 

                                                (b)       Enwebu'r Aelodau canlynol i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg:

 

Y Cynghorydd Beth Lawton (Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau)

Y Cynghorydd Selwyn Griffiths

Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

Y Cynghorydd Eirwyn Williams

Y Cynghorydd R H Wyn Williams

Aelod i’w enwebu o ardal Arfon (gyda’r Cynghorydd Hefin Williams wrth gefn pe byddai angen) 

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014-15 pdf eicon PDF 195 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd, yn rhoi trosolwg o’r ystadegau a phrif faterion sydd wedi deillio o gwynion yn ystod y flwyddyn 2014-15 ynghyd ag ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn yn ei gyfarfod paratoi ar 28 Gorffennaf.

 

(b)        Atgoffwyd yr Aelodau bod y drefn gwynion yn un statudol sydd tu allan i drefn gwynion corfforaethol y Cyngor.

 

(c)     Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion yn briodol iddynt fel a ganlyn:

 

(i)               Bod y drefn gwynion statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar wahân i’r drefn gwynion corfforaethol a’u bod yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal unigolion ond fe dderbynnir cwynion tu allan i’r drefn statudol ac yn yr achosion hyn fe ymdrinnir â hwy o dan y drefn gwynion corfforaethol.  Eglurwyd bod dau gam i’r drefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol sef cam 1  -  ymateb yn lleol a cham 2 lle prynir gwasanaeth ymgynghorydd annibynnol i ymchwilio i’r gwyn.

(ii)              Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn â methiant i fedru darparu cyfarpar arbenigol megis gwelyau pwrpasol i gleifion sydd angen gofal yn eu cartref yn benodol mewn tai teras yn ardal Blaenau Ffestiniog, nodwyd bod y Gwasanaeth yn ymwybodol o’r broblem a'i fod yn destun trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd

(iii)             Nododd y swyddogion y sylw bod angen dehongli cyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Cymdeithasol oherwydd aneglurder trigolion y Sir ac fe ystyrir ymhellach sut y gellir cyfarch y mater hwn. 

(iv)             O safbwynt cleifion yn cael eu hanfon i Ysbytai cymunedol yn hytrach na chartrefi preswyl, esboniwyd bod datrysiad i’r mater hwn yn anodd oherwydd yr angen i geisio rhoi cefnogaeth iawn i deuluoedd.

(v)              Nodwyd y pryder amlygwyd ynglyn â thacsi yn teithio o Ogledd y Sir i’r De i gludo claf i’r ysbyty lleol ac y byddir yn rhoi sylw i’r mater ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd pe byddai’r Aelod yn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i’r Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant.

(vi)             Bod y daflen gwynion arbennig i blant a phobl ifanc yn barod ac yn cael ei lansio yn fuan a nodwyd ymhellach bod taflen ar wahân i oedolion sydd eisoes yn cael ei weithredu.

(vii)            Mewn ymateb i sylw bod y nifer o ymholiadau yn uwch na’r cwynion ac efallai bod pobl fregus yn llai tebygol o gwyno, nodwyd er nad yw pob ymholiad / sylw yn cael ei nodi fel cwyn, sicrhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio datrys yr ymholiadau. 

(viii)           O safbwynt y sylw a wneir bod angen sicrhau cyfathrebu clir gyda defnyddwyr ynglyn â threfniadau talu am ofal, gwelwyd o’r cwynion a gyflwynwyd bod trafodaethau wedi digwydd ond nad oedd tystiolaeth ysgrifenedig wedi ei gofnodi.  Sicrhawyd bod darn o waith yn mynd rhagddo yn y cyswllt hwn fel datrysiad i’r mater.  

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y sylwadau cyffredinol canlynol:

 

(a)  Nododd yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DECHRAU I'R DIWEDD OEDOLION pdf eicon PDF 301 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd adroddiad drafft ar adolygiad Dechrau i’r Diwedd ar wasanaethau pobl hŷn

 

(b)     Derbyniwyd cyflwyniad gan y  Pennaeth Adran Gwasanaethau Oedolion Iechyd a Llesiant ar ffurf sleidiau ac fe nododd nad oedd y cyfeiriad a osodir i’r adolygiad yn newydd gyda llawer ohono yn seiliedig ar drefniadau presennol a phenderfyniadau’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.  Tynnwyd sylw at y weledigaeth, natur y weledigaeth a chyfres o egwyddorion gan y Gwasanaeth.  Nodwyd ymhellach bod gofynion penodol wedi eu gosod gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a rhaid tynnu sylw bod canran y boblogaeth hŷn yn cynyddu.  Byddai’r gyllideb yn y dyfodol yn sylweddol llai na’r gorffennol ac y byddai angen cadw golwg ar ddylanwad hynny. 

 

(c)        Cyfeiriodd at fethodoleg yr adolygiad gan nodi’r camau sylfaenol isod:

             

1.    Ymarfer Da - I ddysgu gwersi gan eraill am ddulliau blaengar o weithredu gan dderbyn nad oes un dull gorau ymhob achos neu faes. Mae sawl dull allai weithio a bydd angen bod yn ddoeth i ddewis beth fyddai yn briodol ac orau ar gyfer Gwynedd.

2.    Cymharu - yn bennaf gyda'rteulu’ o awdurdodau cymharol er mesur cynnydd/perfformiad Gwynedd

3.    Edrych ar y cynnydd nid yn unig o ddata caled ond hefyd o ran casglu gwybodaeth ac ymateb ar lefel lleol

 

O safbwynt llesiant a rheoli’r galw, nodwyd:

 

1.    Bod llesiant yn gyfrifoldeb ar draws y Cyngor, nid yn fater Gwasanaethau Gofal/Cymdeithasol yn unig a bod angen ystyried llesiant cyn i broblemau dwys godi

2.    Yr angen i ddefnyddio ymyrraeth ac atal fel camau buan eu hunain ond hefyd yn medru gwneud cyfraniad pwysig at reoli'r galw am wasanaethau gofal ffurfiol

3.    Nid oes un ateb delfrydol cyffredin ar gyfer siapio gwasanaethau llinell flaen. Hefyd yn medru cynnwys dulliau integredig megis gwaith Ffordd Gwynedd yn Alltwen a chyfraniad y 3ydd sector.

4.    Bod perthynas gyda chymunedau yn cael sylw penodol yng Nghynllun Strategol y Cyngor.  Bydd angen cyfeirio adnoddau i gyflawni hyn a rhaid derbyn nad yw Gwynedd nac unrhyw awdurdod lleol arall yn mynd i lwyddo heb gryfhau'r elfen yma o’r Gwasanaeth.

5.    Y byddai ail strwythuro'r Adran yn allweddol i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd newydd a chyfarfod a disgwyliadau’r ddeddf a defnyddwyr gwasanaeth.

 

Yng nghyd-destun datblygiad ymarfer gwaith cymdeithasol, esboniwyd

 

1.             ei bod yn anorfod i ymarfer gwaith cymdeithasol newid er mwyn ymateb i ofynion y ddeddf a’r angen i drawsnewid gwasanaethau.

2.             Bod tystiolaeth yn dangos bod diwylliant a safon ymarfer gwaith yn allweddol i ganfod dulliau priodol a gwell i gyfarfod anghenion unigolion.

3.             Bod angen ceisio cefnogi unigolion i fyw gartref gyda chefnogaeth briodol a dros amser fel bo’r ddibyniaeth ar ofal preswyl yn lleihau.  

4.             Bod cynnig a hyrwyddo taliadau uniongyrchol a rhoi'r ffocws ar ddeilliannau i’r unigolyn yn ddwy agwedd bwysig wrth ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol.

5.             Bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

PROSIECT YR HER GOFAL pdf eicon PDF 186 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd adroddiad ar y prosiect Her Gofal sy’n rhan o brosiectau Cynllun Strategol y Cyngor ac yn allweddol i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol mewn ymateb i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r agenda ariannol heriol  wynebir.

 

(b)     Eglurodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd  y bwriedir cynnal Grwpiau Ffocws gydag Aelodau ar 29 Medi rhwng 2.00 - 4.00 y.p. ym Mhorthmadog a bod gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu gyda defnyddwyr, partneriaid allweddol a chymunedau.

 

(c)     Gofynnwyd am sylwadau’r Aelodau ar friff y prosiect ac erfyniwyd arnynt i gymryd rhan yn y Grŵp Ffocws ar 29 Medi.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)            Pryder bod cartrefi gofal preifat yn cau oherwydd methiant i recriwtio staff

(ii)           Nodwyn gan Aelod bod nyrsys arbenigol ar gael ac eisiau gweithio ond y dylid ystyried y dull o recriwtio drwy gynnig cymhelliad ariannol ychwanegol i weithio sifft nos, costau teithio, a.y.b.  fel nad oes raid recriwtio nyrsys o dramor.  Byddai hyn hefyd yn sicrhau defnydd o’r iaith Gymraeg sydd mor bwysig i’r genhedlaeth hŷn.

(iii)          Bod gwaith gweinyddol wedi cynyddu o’i gymharu â’r gorffennol lle'r oedd nyrsys yn gallu  canolbwyntio ar ofalu am gleifion ond erbyn heddiw bod disgwyl iddynt wneud llawer o waith gweinyddol yn ogystal â nyrsio

(iv)         Siom mai dim ond un sesiwn a gynigir ar gyfer y Grŵp Ffocws

         

         

(d)        Ymatebodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd a’r swyddogion i’r uchod gan nodi:

 

·         Cydnabuwyd ei bod yn anodd recriwtio ond sicrhawyd bod gwaith yn cael ei gomisiynu gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ynghyd â gwaith pellach gyda Phrifysgol Bangor o safbwynt cael darpariaeth ysgol feddygaeth.       

·         Bod bwriad i gynnal mwy o sesiynau Grŵp Ffocws ond ei fod yn anodd medru cael dyddiad sy’n gyfleus i bawb

·         Cadarnhawyd y byddir yn ail-anfon e-bost i Aelodau i’w hatgoffa am ddyddiad y sesiwn cyntaf o’r Grŵp Ffocws ar 29 Medi lle byddir yn trafod syniadau

 

Penderfynwyd:                      Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.