Agenda item

I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.   

Cofnod:

(a)        Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu cefndir y cynllun uchod sy’n cael ei arwain gan y chwe awdurdod lleol ar gyfer darparu'r sgiliau a’r gefnogaeth addas i ddisgyblion a phobl ifanc mwyaf bregus y Sir.

 

(b)        Eglurwyd mai Cyngor Sir Dinbych sy’n arwain parthed rheolaeth a monitro cynllun busnes rhanbarthol a’i fe’i cyllidir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda’r bwriad i gychwyn y cynllun Medi 2015 hyd at Awst 2018 gyda phosibilrwydd i’w ymestyn hyd at Awst 2020.  Esboniwyd mai nod y cynllun fyddmabwysiadu dull weithredu o adnabod disgyblion bregus yn gynnar ac ymateb i’w anghenion trwy ddarparu cwricwlwm a chefnogaeth addas ar eu cyfer”.

 

(c)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod Cabinet Addysg a’r swyddogion iddynt fel a ganlyn:

 

·         Mai 8 o swyddi fydd yn rhan o’r cynllun gyda’r Rheolwr eisoes wedi ei phenodi i gychwyn mis Tachwedd.  Eglurwyd y bydd 6 o’r swyddi yn rhai gweithredol gyda dwy ohonynt o dan y teitl Gweithwyr Cymdeithasol Addysg a fydd yn gallu gweithio gyda theuluoedd a phlant i oresgyn rhwystrau sydd ddim yn cyfarfod â meini prawf anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol.  Bydd y 4 swydd arall yn canolbwyntio  ar bresenoldeb, gweithiwr ieuenctid yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ennill achrediadau a gweithiwr chwaraeon a fyddai’n rhan o dîm a fyddai’n targedu anghenion y bobl ifanc ac yn eu cefnogi  i barhau mewn addysg wedi iddynt ymadael o ysgolion

·         Bod arian cyfatebol yn cael ei gyfrannu o’r gwasanaeth sydd eisoes yn yr ysgolion o ran strategaeth cynhwysiad, cefnogi plant yn y prif lif,  gwasanaeth lles a’r gwasanaeth cynnal ymddygiad canolog. 

·         Byddir yn targedu plant o Flwyddyn 7 i fyny ac yn gallu perchnogi disgyblion ar hyd y daith addysgol ac yn arbennig y gwaith pontio yn 16 oed a fydd yn gymorth i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynglŷn â’u gyrfaoedd ynghynt.   

·         Cadarnhawyd mai 480 o ddisgyblion o Wynedd  yw’r nifer o gyfranogwyr sydd mewn risg ac esboniwyd yr adnabuwyd hwy drwy’r fframwaith ymgysylltu      

·         O safbwynt cymwysterau, pwysleisiwyd y byddai’r swyddogion perthnasol yn weithredol gyda’r plant yn ddyddiol ac yn ychwanegol bod hyfforddiant gyda nifer eang o gyrsiau ar gael iddynt ar gyfer cyflogaeth   

·         Bod nifer o blant sydd yn dadrithio yn is yng Ngwynedd o ran y ganran NEET (Not in Education, Employment or Training) sef oddeutu 7-8% ond eglurwyd y byddai’r cynllun Trac yn cyfarch anghenion y plant wedi iddynt fod mewn Colegau ac yn methu cael cyflogaeth      

·         O safbwynt goblygiadau hyfforddiant i staff ysgol, esboniwyd y gwelir bod staff ysgolion yn hyddysg iawn yn y meysydd dan sylw ond o dan bwysau cynyddol ac y byddai’r cynllun hwn yn ysgafnhau baich ysgolion drwy gael swyddog i weithio am gyfnod estynedig ar y cyd gyda phlant.  Ni ragwelir y bydd gofyn hyfforddi staff ysgolion na ychwaith bod pwysau ychwanegol arnynt. 

·         Bod canran sylweddol o blant sydd yn dadrithio ar y rhestr anghenion addysgol ychwanegol  a  bod carfan o blant gydag ymddygiad dwys a thrwy’r cynllun bod modd mynd i’r rafael â’r problemau yn gynnar. 

·         Bod cryfhau’r cyswllt gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid o dan ystyriaeth ar hyn o bryd  a bod y nifer sy’n agored i’r Gwasanaeth uchod wedi gostwng yn sylweddol yn genedlaethol ac nad oedd yr Adran wedi buddsoddi cymaint ag yn y gorffennol.  Hyderir, drwy’r cynllun Trac, y gellir lleihau'r disgyblion sydd yn troseddu a’u cadw i fyw a ffynnu yn lleol. 

·         O safbwynt cysylltu gyda chyflogwyr lleol, esboniwyd bod anghenion yr hyfforddiant wedi ei ddatblygu ar lefel 6 awdurdod y Gogledd a bod ystod eang o gyrsiau cyffredinol wedi eu rhoi mewn lle ac nad oedd hyfforddiant ar gyfer meysydd arbenigol.  Fodd bynnag, gellir rhoi ystyriaeth bellach i’r fframwaith hyfforddi ac y byddai modd cynnal trafodaethau gyda mwy o gyflogwyr lleol o’u hanghenion.

·         Bod llithriad o ran derbyn y grant ond hyderir y byddir yn symud ymlaen yn fuan gyda dyraniad yr arian.

·         O safbwynt pwyso a mesur gwasanaeth statudol yn erbyn anstatudol, gellir dadlau o wneud buddsoddiad yn gynnar y byddir yn arbed arian yn y tymor hir. 

·         Y byddai’r Paneli Mynediad Ardal yn gweithredu ar lefel ardaloedd ac yn rhoi ystyriaeth i flaenoriaethau a’r math o wasanaethau a gynigir.  Byddai’r Paneli yn  cynnwys gweithwyr y cynllun Trac ynghyd â chynrychiolwyr o ysgolion.

·         Sicrhawyd o safbwynt datblygu fframwaith gweithredu, y byddir yn cydweithio hefo Gwasanaeth Gyrfa Cymru

·         Sicrhawyd ymhellach yn deillio o bryder ynglŷn â thensiwn daearyddol o ddosraniad  yr arian rhwng y 6 awdurdod y byddai’r arian yn cael ei gyfeirio yn unol â meini prawf a lle fyddai’r anghenion. 

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad ar y prosiect sydd yn ei ddyddiau cynnar.

 

 

(b)       Gofyn i’r Gwasanaeth Addysg gyflwyno diweddariad ar y cynllun ymhen blwyddyn o’i weithredu.

 

Dogfennau ategol: