Agenda item

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd adroddiad drafft ar adolygiad Dechrau i’r Diwedd ar wasanaethau pobl hŷn

 

(b)     Derbyniwyd cyflwyniad gan y  Pennaeth Adran Gwasanaethau Oedolion Iechyd a Llesiant ar ffurf sleidiau ac fe nododd nad oedd y cyfeiriad a osodir i’r adolygiad yn newydd gyda llawer ohono yn seiliedig ar drefniadau presennol a phenderfyniadau’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.  Tynnwyd sylw at y weledigaeth, natur y weledigaeth a chyfres o egwyddorion gan y Gwasanaeth.  Nodwyd ymhellach bod gofynion penodol wedi eu gosod gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a rhaid tynnu sylw bod canran y boblogaeth hŷn yn cynyddu.  Byddai’r gyllideb yn y dyfodol yn sylweddol llai na’r gorffennol ac y byddai angen cadw golwg ar ddylanwad hynny. 

 

(c)        Cyfeiriodd at fethodoleg yr adolygiad gan nodi’r camau sylfaenol isod:

             

1.    Ymarfer Da - I ddysgu gwersi gan eraill am ddulliau blaengar o weithredu gan dderbyn nad oes un dull gorau ymhob achos neu faes. Mae sawl dull allai weithio a bydd angen bod yn ddoeth i ddewis beth fyddai yn briodol ac orau ar gyfer Gwynedd.

2.    Cymharu - yn bennaf gyda'rteulu’ o awdurdodau cymharol er mesur cynnydd/perfformiad Gwynedd

3.    Edrych ar y cynnydd nid yn unig o ddata caled ond hefyd o ran casglu gwybodaeth ac ymateb ar lefel lleol

 

O safbwynt llesiant a rheoli’r galw, nodwyd:

 

1.    Bod llesiant yn gyfrifoldeb ar draws y Cyngor, nid yn fater Gwasanaethau Gofal/Cymdeithasol yn unig a bod angen ystyried llesiant cyn i broblemau dwys godi

2.    Yr angen i ddefnyddio ymyrraeth ac atal fel camau buan eu hunain ond hefyd yn medru gwneud cyfraniad pwysig at reoli'r galw am wasanaethau gofal ffurfiol

3.    Nid oes un ateb delfrydol cyffredin ar gyfer siapio gwasanaethau llinell flaen. Hefyd yn medru cynnwys dulliau integredig megis gwaith Ffordd Gwynedd yn Alltwen a chyfraniad y 3ydd sector.

4.    Bod perthynas gyda chymunedau yn cael sylw penodol yng Nghynllun Strategol y Cyngor.  Bydd angen cyfeirio adnoddau i gyflawni hyn a rhaid derbyn nad yw Gwynedd nac unrhyw awdurdod lleol arall yn mynd i lwyddo heb gryfhau'r elfen yma o’r Gwasanaeth.

5.    Y byddai ail strwythuro'r Adran yn allweddol i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd newydd a chyfarfod a disgwyliadau’r ddeddf a defnyddwyr gwasanaeth.

 

Yng nghyd-destun datblygiad ymarfer gwaith cymdeithasol, esboniwyd

 

1.             ei bod yn anorfod i ymarfer gwaith cymdeithasol newid er mwyn ymateb i ofynion y ddeddf a’r angen i drawsnewid gwasanaethau.

2.             Bod tystiolaeth yn dangos bod diwylliant a safon ymarfer gwaith yn allweddol i ganfod dulliau priodol a gwell i gyfarfod anghenion unigolion.

3.             Bod angen ceisio cefnogi unigolion i fyw gartref gyda chefnogaeth briodol a dros amser fel bo’r ddibyniaeth ar ofal preswyl yn lleihau.  

4.             Bod cynnig a hyrwyddo taliadau uniongyrchol a rhoi'r ffocws ar ddeilliannau i’r unigolyn yn ddwy agwedd bwysig wrth ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol.

5.             Bod Tim Datblygu Gweithlu Gofal a rôl allweddol i ddatblygu gallu'r Cyngor i gyflawni'r newidiadau.

 

Er mwyn cyflawni amcanion a gofynion y Ddeddf, nodwyd  bod angen cryfhau’r gefnogaeth i fyw gartref a chanolbwyntio ar yr agweddau penodol isod:

 

1.             Dementia a bregusrwydd

2.             Gofal Dydd yng Ngwynedd

3.             Rôl y trydydd sector yn enwedig o ran darparu cefnogaeth yn y cartref ac yn y gymuned

4.             Gofal Cartref - cydnabuwyd bod angen edrych ar y balans priodol o ran darpariaeth mewnol/allanol yng Ngwynedd gan ei fod oddeutu 50%/50% ar hyn o bryd gyda darpariaeth fewnol ac allanol yn destun pryder o ran recriwtio ym Meirionnydd

 

O safbwynt darpariaeth llety, nodwyd bod yn rhaid sicrhau dewis amgen ar gyfer pobl hŷn megis tai gofal ychwanegol.  Nodwyd bod eglurder ynglŷn â rôl ysbytai lleol yn bwysig o ran cynllunio ar gyfer gofal nyrsio a preswyl yn y dyfodol ac fel cyd-destun i flaenoriaethu opsiynau dros y blynyddoedd nesaf.  Bydd rhaid i’r blaenoriaethau adlewyrchu y gofynion fydd yn cael eu hamlygu o ganlyniadau asesiadau anghenion.

 

Gall integreiddio gyda GIG gyflawni canlyniadau positif ond fe all amrywio o ardal i ardal.  Nodwyd bod y rhaglen Cronfa Gofal Canolradd yn ein harwain at well comisiynu a hwyluso symudiad i’r cyfeiriad cywir.   

 

I gloi,  nodwyd bod y fethodoleg yn ddeinamig gyda phenderfyniadau i’w cymryd dros y 18 mis nesaf, rhai ohonynt yn benderfyniadau gweithredol a strategol a fydd yn siapio’r dyfodol  ac yn golygu newidiadau enfawr ac anorfod.

 

(ch)      Rhoddwyd cyfle i Aelodau fynegi sylwadau ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt:

 

(i)            Rhaid sicrhau bod y trydydd sector yn gweithredu dros Wynedd gyfan

(ii)           Bod canmoliaeth yn ardal Bangor i’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol

(iii)          Pwysigrwydd i gynnwys darpariaeth gofal ysbaid  o fewn y strategaeth i gefnogi’r gofalwyr

(iv)          Pwysigrwydd i fagu perthynas gyda phartneriaethau eraill e.e. Môn/Menai yng Ngogledd y Sir a  Ceredigion/Powys o safbwynt De’r Sir.

(v)           Crybwyllwyd am ymarferion da a weithredir yn Ysbyty Dolgellau 

(vi)          Pwysigrwydd bod aelodau etholedig yn cefnogi’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a bod ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol yn hynod bwysig.   

(vii)         A fyddai trefniadau o weithredu cronfa gyllidol (“pool budget”) yn addas ac yn gweithio ar gyfer y newidiadau yn y maes hwn?

(viii)        Pam na all y Cyngor weithreducofrestriad deublyg” (dual registration) fel bo modd i’r nyrsys cymunedol roi gwasanaeth iddynt mewn cartrefi gofal preswyl?

(ix)          Bod gofal yn y cartref yn gweithio’n llwyddiannus os yw’r cyfleusterau ar gael ond mai’n wybyddus bod unigolion yn gorfod symud o’u cynefin i gael darpariaeth gofal preswyl sydd yn creu anhawsterau i deuluoedd i ymweld a hwy o ran teithio , a.y.b.

(x)           Pryder ynglyn a diffyg recriwtio gofalwyr mewn cystadleuaeth a chyflog gwell a gynigir gan archfarchnadoedd   

(xi)          A ellir dysgu gwersi oddi wrth awdurdodau eraill o’r teulu sy’n perfformio’n well ac a oes modd gwneud mwy o ddefnydd o gartrefi preswyl preifat?

 

 

(d)        Bu i’r swyddogion ymateb i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:

 

·         Efallai y gellir rhoi ystyriaeth i arbrofi gweithredu cronfa gyllidol mewn rhai pocedi o’r Sir ond yn sicr byddai’n ofynnol ystyried y mater gam wrth gam

·         O safbwynt cymhariaeth perfformiad gydag awdurdodau eraill  sicrhawyd bod hyn wedi ei ystyried ac wedi eu hymgorffori yn argymhellion yr adroddiad.

·         Bod y darlun ynglyn â chyflogau byw o bosib yn mynd i gau'r bwlch i’r dyfodol o safbwynt costau gofal preswyl a gofal preifat 

·         Er nad oedd gofal ysbaid wedi derbyn sylw penodol o fewn yr adroddiad, cydnabyddir bod lle i wneud defnydd o ofal ysbaid drwy ystyried dulliau eraill er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar ofal ysbaid  

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn cynnwys yr adroddiad drafft gan ofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd a’r Pennaeth Adran Gwasanaethau roi ystyriaeth i’r sylwadau perthnasol amlinellwyd gan yr aelodau yn (i) – (x) uchod fel rhan o’r adroddiad terfynol. 

 

Dogfennau ategol: