Agenda item

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd, yn rhoi trosolwg o’r ystadegau a phrif faterion sydd wedi deillio o gwynion yn ystod y flwyddyn 2014-15 ynghyd ag ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn yn ei gyfarfod paratoi ar 28 Gorffennaf.

 

(b)        Atgoffwyd yr Aelodau bod y drefn gwynion yn un statudol sydd tu allan i drefn gwynion corfforaethol y Cyngor.

 

(c)     Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion yn briodol iddynt fel a ganlyn:

 

(i)               Bod y drefn gwynion statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar wahân i’r drefn gwynion corfforaethol a’u bod yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal unigolion ond fe dderbynnir cwynion tu allan i’r drefn statudol ac yn yr achosion hyn fe ymdrinnir â hwy o dan y drefn gwynion corfforaethol.  Eglurwyd bod dau gam i’r drefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol sef cam 1  -  ymateb yn lleol a cham 2 lle prynir gwasanaeth ymgynghorydd annibynnol i ymchwilio i’r gwyn.

(ii)              Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn â methiant i fedru darparu cyfarpar arbenigol megis gwelyau pwrpasol i gleifion sydd angen gofal yn eu cartref yn benodol mewn tai teras yn ardal Blaenau Ffestiniog, nodwyd bod y Gwasanaeth yn ymwybodol o’r broblem a'i fod yn destun trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd

(iii)             Nododd y swyddogion y sylw bod angen dehongli cyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Cymdeithasol oherwydd aneglurder trigolion y Sir ac fe ystyrir ymhellach sut y gellir cyfarch y mater hwn. 

(iv)             O safbwynt cleifion yn cael eu hanfon i Ysbytai cymunedol yn hytrach na chartrefi preswyl, esboniwyd bod datrysiad i’r mater hwn yn anodd oherwydd yr angen i geisio rhoi cefnogaeth iawn i deuluoedd.

(v)              Nodwyd y pryder amlygwyd ynglyn â thacsi yn teithio o Ogledd y Sir i’r De i gludo claf i’r ysbyty lleol ac y byddir yn rhoi sylw i’r mater ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd pe byddai’r Aelod yn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i’r Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant.

(vi)             Bod y daflen gwynion arbennig i blant a phobl ifanc yn barod ac yn cael ei lansio yn fuan a nodwyd ymhellach bod taflen ar wahân i oedolion sydd eisoes yn cael ei weithredu.

(vii)            Mewn ymateb i sylw bod y nifer o ymholiadau yn uwch na’r cwynion ac efallai bod pobl fregus yn llai tebygol o gwyno, nodwyd er nad yw pob ymholiad / sylw yn cael ei nodi fel cwyn, sicrhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio datrys yr ymholiadau. 

(viii)           O safbwynt y sylw a wneir bod angen sicrhau cyfathrebu clir gyda defnyddwyr ynglyn â threfniadau talu am ofal, gwelwyd o’r cwynion a gyflwynwyd bod trafodaethau wedi digwydd ond nad oedd tystiolaeth ysgrifenedig wedi ei gofnodi.  Sicrhawyd bod darn o waith yn mynd rhagddo yn y cyswllt hwn fel datrysiad i’r mater.  

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y sylwadau cyffredinol canlynol:

 

(a)  Nododd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd bod trefniadau a’r ffordd newydd o weithio yn Ysbyty Alltwen yn hynod o bwysig i geisio diddymu’r rhaniad rhwng cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Nodwyd ymhellach bod y cleifion sydd wedi derbyn gwasanaeth drwy’r drefn newydd yn Ysbyty Alltwen wedi mynegi bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth. 

(b)  Bod yr adroddiad yn un eithaf cadarnhaol ac yn amlwg drwy drafodaethau bod y Gwasanaeth yn cynnig datrysiadau i’r defnyddwyr.  Fodd bynnag, nodwyd ymhellach bod y Tim sy’n gweithredu yn rhan o’r gyfundrefn cynigion ar gyfer toriadau a phe byddir yn haneru’r adnoddau gall hyn effeithio ar y gwasanaeth a gynigir.

(c)  Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Gwasanaeth am eu gwaith.

 

 

Penderfynwyd:                      Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: