Agenda item

I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg, Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, ar yr uchod.

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg a fu’n ymchwilio i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod yn ysgolion y Sir.

 

(b)          Adroddodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, Cadeirydd yr Ymchwiliad, bod yr ymchwil wedi ei gyfyngu i dri dalgylch sef Ardudwy, Bangor a Botwnnog oherwydd demograffeg ieithyddol y tair ardal benodol.  Edrychwyd ar sut y gweithredir Polisi Iaith yr awdurdod ar lawr gwlad mewn ysgolion unigol a'r graddau y mae’r ddarpariaeth yn gymorth i hybu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc.  Tynnwyd sylw at yr atodiadau ynghlwm i’r adroddiad a oedd yn nodi sut y daethpwyd i gasgliad ar yr argymhellion.  Cydnabyddir bod gwaith gwych yn digwydd yn yr ysgolion ond nid da lle gellir gwell i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu allan i’w llibart. 

 

(c)          I gloi, cymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad y cyfle i ddiolch i’w gyd-aelodau a’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chlir.  Diolchodd hefyd i bawb a fu’n rhan o’r Ymchwiliad drwy rannu eu profiadau yn agored.

 

(ch)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)            Mynegwyd pryder o’r hyn sy’n cael ei weithredu mewn ysgolion preifat yn y Sir gyda fwyfwy o ddisgyblion yn dod allan o’r ysgolion hyn yn ddi-gymraeg.       

 

Mewn ymateb i’r uchod, esboniwyd bod y sector cyhoeddus yn gorfod dilyn cwricwlwm cenedlaethol ond bod rhyddid i’r sector annibynnol, yn unol ag Adran 163 o’r Adran Arolygu, gynnig cwricwlwm eang lle nad oes raid i’r Gymraeg fod yn rhan o’r cwricwlwm hwnnw.  Nodwyd nad oedd gan yr awdurdod addysg oruchwyliaeth drostynt ond gellid cysylltu â Llywodraeth Cymru /  ESTYN i ganfod beth yw gofynion yr Adran benodol o’r ddeddf ac a yw’r arolygaeth yn mesur yn gydnaws i anghenion lleol.

 

(ii)           Bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg.  Awgrymwyd y dylid gwneud cais i’r cwmnïau sydd yn ennill y cytundebau cludiant  bod anghenraid i’r gyrwyr fod yn gallu siarad Cymraeg.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r uchod.

 

(d)          Nodwyd, er gwybodaeth i Aelodau, derbyniwyd cais gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdod rannu’r Siarter Iaith ar draws Cymru.

 

(dd)        Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i’r Ymchwiliad Craffu am y gwaith trwyadl a gyflawnwyd ganddynt ac fe groesawyd a derbyniwyd yr holl argymhellion.

 

Penderfynwyd:                        (a)        Derbyn cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg gan ofyn iddo gyflwyno adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis. 

 

                                       (b)       Gofyn i Swyddog Arweiniol yr Ymchwiliad Craffu rannu canfyddiadau’r Ymchwiliad Craffu gydag ysgolion a chanolfannau iaith y Sir. 

 

                                          (c)        Cyfleu i Lywodraeth Cymru / ESTYN pryder y Pwyllgor Craffu hwn ynglyn a chwricwlwm ysgolion yn y sector annibynnol o ddefnydd yr iaith Gymraeg fel amlinellir yn (i) uchod. 

 

Dogfennau ategol: