Agenda item

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.   

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu prosiect ar gyfer gwella amodau arweinyddiaeth ysgolion er mwyn codi safonau.

 

(b)          Cyfeiriwyd at nod y prosiect a fyddai’n edrych ar bum maes penodol sef:

 

·         Comisiynu adroddiad ar amodau arwain a rheoli ysgolion y Sir a gweithredu ar yr argymhellion cytunedig

·         Monitro a herio pob ysgol a defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i’r awdurdod wella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgolion sy’n tanberfformio

·         Datblygu rheolwyr a darpar reolwyr o fewn gwasanaethau ac adnabod arweinwyr ar gyfer y dyfodol

·         Datblygu cyfundrefn ysgol i ysgol rymus a sicrhau bod trefniadau mewn lle er mwyn rhannu arfer gorau i osgoi dyblygu; a

·         Sicrhau bod buddsoddiadau cyfalaf yn arwain at wella amodau arweinyddiaeth a rheolaeth

 

(c)          Ymhelaethwyd ar y camau nesaf a’r bwriad i gynnal cyfarfod pellach gydag Ymgynghorwyr Annibynnol sydd â phrofiad rhyngwladol yn y maes ac y byddent yn croesawu’r cyfle i gyfweld ag aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau fel rhan o’u hymchwil.

 

(ch)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau, ac fe wnaed y sylwadau canlynol:

 

(i)               A yw’r broblem o recriwtio yn ymwneud â maint bychan y Sir ac oni fyddai cyfuno gyda Siroedd eraill o fantais mewn rhannu arbenigedd?

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod natur ddaearyddol y Sir yn enfawr ac yn heriol gan fod anghenion ardaloedd y Sir yn dra gwahanol.  Bwriad yr Adran  Addysg yw ail-sefydlu’r Swyddfeydd Ardal fel bo modd cael trafodaethau lleol er mwyn diwallu anghenion y plant.  O safbwynt datblygu unigolion yn arweinwyr yn enwedig yn yr ysgolion lleiaf, rhaid rhoi cyfle iddynt fedru arwain ar feysydd strategol er mwyn dangos profiadau mewn gwahanol feysydd ar gyfer y cymhwyster CPCP. 

 

(ii)           A oes tystiolaeth bod rhai ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am ddisgyblion?

 

Mewn ymateb, nodwyd os byddir yn cyd-berchnogi’r prosiect i wella arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yn rhaid cadw llygad bod tegwch i bob dalgylch.

 

(iii)             O safbwynt cytuno ar lefelau cyrhaeddiad disgyblion wrth bontio o’r cynradd i’r uwchradd, nodwyd bod yn ofynnol i’r wybodaeth gyfredol ar gyfer unrhyw blentyn fod yn gywir o’r cam cyntaf drwy’r cyfnod addysgol.  Nodwyd ymhellach bod asesu yn drafodaeth barhaol ond er mwyn pontio llwyddiannus rhwng y cynradd a’r uwchradd rhaid cael dealltwriaeth rhyngddynt a bod yn glir ynglŷn â dehongliad y meini prawf. 

 

(iv)             Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chanfyddiadau gan rieni bod rhai ysgolion yn fwy Saesnigaidd ac o ganlyniad bod niferoedd yn lleihau mewn ambell ddalgylch, nodwyd mai’r her ydoedd cysoni gweithrediad y polisi iaith.   Eto, yn yr un modd gellid cynnal trafodaethau yn lleol er mwyn sicrhau bod plant yn cael yr un fath o brofiad a darpariaeth. 

 

(v)              Yng nghyd-destun ffederaleiddio ysgolion cynradd ac uwchradd i’r dyfodol, nodwyd y byddai hyn yn rhan o’r ymchwiliad i arweinyddiaeth a’r modelu amgen. Er bod syniadau penodol o fewn y Gwasanaeth derbyniwyd bod ymateb gan y gymuned o ran trefniadau a darpariaeth yn bwysig. O ran trefniadaeth rhaid sicrhau'r isadeiledd er mwyn i’r plant gael y canlyniadau gorau.  Yn wyneb yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, os am wella arweinyddiaeth a rheolwyr canol ysgolion, rhaid ystyried dulliau eraill o weithio megis rhannu gwaith ar draws dalgylch.              

 

(vi)         O safbwynt lefel y broblem recriwtio ar hyn o bryd, nodwyd bod record o lwyddiant yng Ngwynedd llynedd gan i 9 unigolyn lwyddo i gael y cymhwyster arweinyddiaeth CPCP ac fe roedd hyn yn cynrychioli bron i hanner cwota Gogledd Cymru.  Fodd bynnag, rhaid creu cyfundrefn sydd yn hyfyw a rhoi cyfle i ddarpar arweinwyr ddangos sgiliau i fedru arwain a rheoli.  Nodwyd ymhellach bod rhai ysgolion yn rhy fach i gael Tîm Rheoli sydd yn fwy na’r Pennaeth ei hunan ac felly yn ei gwneud yn anodd i unigolion ennyn profiadau ac yn hyn o beth rhaid creu cyfundrefn i symud unigolion i fod yn arweinwyr y dyfodol.   Yng nghyd-destun diffyg recriwtio ar draws y Sir, nodwyd ei bod yn mynd yn anoddach ond rhaid newid y diwylliant o fod yn annibynnol i fod yn gydweithredol.  

 

(vii)    Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chyllido rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, hyderir y bydd y Cyngor yn gallu buddsoddi cymaint ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau bod yr adeiladau yn galluogi'r gorau ar gyfer yr athrawon a phobl ifanc.

 

(viii)        Yng nghyd-destun y Tîm Trefniadaeth ysgolion, nodwyd bod y Tîm wedi ei sefydlu ar gyfer gwaith pwrpasol ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac yn ddibynnol ar y gyllideb cyfalaf a chanfyddiadau’r ymchwiliad arweinyddiaeth, bydd angen ystyried ail-strwythuro o fewn yr Adran i gyfarch materion ehangach na threfniadaeth megis rôl cefnogi arweinyddiaeth yn yr ardal leol. 

 

Penderfynwyd:                        (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                       (b)       Enwebu’r aelodau canlynol o’r Pwyllgor Craffu hwn ar gyfer cwrdd â’r Ymgynghorwyr Annibynnol sy’n ymwneud â’ prosiect i gynnig sylwadau ac argymhellion ar faterion y mae angen mynd i’r afael â hwy:

 

Y Cynghorydd Beth Lawton – (Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau)

Y Cynghorydd Selwyn Griffiths

Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

Y Cynghorydd Elin Walker Jones

Y Cynghorydd Dewi Owen

Y Cynghorydd Hefin Williams

 

Dogfennau ategol: