Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Sasha Williams, Alan Jones Evans ac Olaf Cai Larsen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 24 Hydref 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ADDYSG PDF 217 KB I gyflwyno gwybodaeth
am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd, yn absenoldeb y Pennaeth Addysg.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd ar nifer o
ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan yr adran er mwyn codi statws y Gymraeg wrth
alluogi plant a disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion ac yn
gymunedol. Eglurwyd bod yr adran wedi gweithredu nifer o brosiectau fel rhan o
Siarter Iaith Llywodraeth Cymru. Eglurwyd bod fframwaith newydd y Siarter yn
rhan o gyfres o raglenni newydd Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gynyddu’r
defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc. Cadarnhawyd fod yr Adran
yn rhannu’r uchelgais hwn o gynyddu’r defnydd o Gymraeg. Nodwyd bod arian yn
cael ei ddyrannu i bob dalgylch o fewn y Sir i drefnu gweithgareddau i annog y
defnydd o’r Gymraeg. Soniwyd mai un o’r amodau wrth ddyrannu’r arian yw bod
gweithgareddau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd er
mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei ddefnyddio wrth i’r disgyblion
drosglwyddo i’r ysgolion uwchradd. Pwysleisiwyd bod targedu’r garfan yma o
blant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod profiadau apelgar a chadarnhaol yr
ysgolion uwchradd yn digwydd drwy’r Gymraeg yn naturiol. Rhannwyd diweddariad o
weithgareddau dalgylchol er mwyn tynnu sylw at y
cyfleoedd mae plant a phobl ifanc o bob ardal o Wynedd yn eu derbyn. Eglurwyd bod Fforymau
Iaith wedi cael eu sefydlu ym mhob ysgol uwchradd yng Ngwynedd sy’n arwain ar
waith y Strategaeth Iaith Uwchradd a phwysleisio pwysigrwydd bod yn
ddwyieithog. Manylwyd bod y Fforymau hefyd yn cynnal sesiynau Hybu Balchder
mewn Cymreictod. Adroddwyd bod cynnydd yn
y nifer o bobl ifanc sydd yn dewis astudio ac yn derbyn cymwysterau neu
achrediad cydnabyddedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffigyrau isod
a gasglwyd o blith canlyniadau cohort Blwyddyn 11
ysgolion uwchradd Gwynedd ar ddiwedd cyfnod yr haf 2023: ·
Roedd 71.7% o
ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 3 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. ·
Roedd 67.8% o
ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 5 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. ·
Roed 87.1% o ddisgyblion
Blwyddyn 11 yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf Ymhelaethodd Pennaeth
Cynorthwyol Adran Addysg: Uwchradd, bod y ffigwr hwn o 67.8% yn gymharol
sefydlog ond cydnabuwyd bod angen cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio o
leiaf 5 pwnc CA4 drwy’r Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Er hyn,
cydnabuwyd bod hyn yn broses heriol oherwydd bod yr ystadegyn yn cynnwys
disgyblion ysgolion trosiannol. Darparwyd gwybodaeth am
garfannau iaith y disgyblion, gan gynnwys disgyblion oed pontio. Sicrhawyd bod
yr adran yn cydweithio’n rheolaidd gyda chydlynwyr iaith ym mhob dalgylch er
mwyn casglu data ieithyddol disgyblion Blynyddoedd 2,6 a 9 er mwyn sicrhau ei
bod yn gwneud cynnydd ieithyddol o fewn y cwricwlwm. Tynnwyd sylw at ddynodiadau iaith staff yr adran a darparwyd dadansoddiad o asesiadau staff yn seiliedig ar Fframwaith y Dynodiadau Iaith. Cydnabuwyd bod gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL PDF 208 KB I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. 2.
Cytunwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol lythyru gyda chwmni OS i ddatgan pryder y pwyllgor ynghylch y
defnydd o enwau Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg ar amryw o leoliadau ar eu
mapiau. Cofnod: Cyfeiriwyd
at nifer o brosiectau mae’r adran yn gweithio arnynt er mwyn hybu a hyrwyddo’r
Gymraeg, gan gynnwys; cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd a’r broses o sefydlu
endid annibynnol, prosiect enwau lleoedd a chydweithio gydag ysgolion er mwyn
datblygu map enwau lleoedd llafar a Phrosiect 15. Nodwyd bod yr adran wedi cefnogi
prentisiaid i gymhwyso drwy’r iaith Gymraeg a dylanwadu ar y sector addysg
bellach i gynnal sesiynau cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr. Cadarnhawyd
y mabwysiadwyd Polisi Iaith ddiwygiedig ym mis Hydref 2022 yn ogystal â
mabwysiadu’r Strategaeth Iaith newydd ym mis Rhagfyr 2023.Eglurwyd bod y Polisi
Iaith yn cael ei hyrwyddo i staff drwy ffyrdd amrywiol gan gynnwys cyfarfodydd
gyda’r penaethiaid adran. Yn ogystal, mae negeseuon yn cael eu rhannu gyda’r
staff drwy safle mewnrwyd y Cyngor, negeseuon a bwletin wythnosol. Nodwyd bod
gwybodaeth am hyfforddiant i staff a manylion dynodiadau staff yn cael eu
cynnwys yn yr adroddiad a bod yr adran yn cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol,
megis hyfforddiant Cadernid Iaith a fydd ar gael i’r staff i’r dyfodol. Eglurwyd
bod hyn yn ychwanegiad i’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith sydd eisoes mewn
bodolaeth. Gobaith yr hyfforddiant newydd yw bydd unigolion yn teimlo’n fwy
hyderus ac yn fwy cadarn eu hiaith ac yn llai parod i droi i’r Saesneg mewn
sefyllfaoedd ble nad oes angen gwneud hynny. Adroddwyd
gan Ben Swyddog y Fenter Iaith eu bod yn barod i weithio’n bartneriaethol
gydag unrhyw un sy’n awyddus i wneud hynny er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, gyda’r
prif bwyslais yn cael ei roi i feysydd blaenoriaeth y Fenter. Tynnwyd sylw
penodol at brosiect sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd gydag M-Sparc,
Yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn creu platfform gemau fideo Cymraeg
a ariannwyd gan ARFOR. Cydnabuwyd
bod yr adran wedi gorfod blaenoriaethu gwaith yn ddiweddar ac felly nid yw’r
gwaith o ddatblygu Map Digwyddiadau Cymraeg wedi symud yn ei flaen yn y misoedd
diwethaf. Nodwyd mai’r gobaith yw denu partneriaid i helpu hyrwyddo’r map er
mwyn ei boblogi gyda mwy o ddigwyddiadau. Cadarnhawyd bydd hyn yn digwydd yn y
misoedd nesaf. Yn ystod y
drafodaeth, mynegwyd pryder gan nifer o Aelodau ynglŷn â’r defnydd o enwau
Saesneg ar fapiau’r OS yn ddiweddar. Mewn ymateb i’r pryder hwn, cadarnhaodd yr
Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y Cyngor wedi cael cyfarfodydd gyda’r OS
yn y gorffennol ond nad oes gan y Cyngor unrhyw ddylanwad ar eu gweithredoedd,
oherwydd gall unrhyw un gysylltu gyda’r cwmni i gynnig enwau ar gyfer y mapiau.
Ymhelaethwyd y bod modd i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol lythyru’r OS
yn datgan siom a phryder y Pwyllgor. Cynigwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet
lythyru’r cwmni yn ffurfiol gan y Cadeirydd. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. 2. Cytunwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol lythyru gyda chwmni OS i ddatgan pryder y pwyllgor ynghylch y defnydd o enwau Saesneg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN TAI AC EIDDO PDF 233 KB I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Atgoffwyd
bod yr adran yn cynnal cymysgedd o wasanaethau rheng flaen, corfforaethol a
masnachol a sicrhawyd bod gallu cyflawni dyletswyddau’r adran yn ddwyieithog, gan
barchu iaith ddewisol y cwsmer yn hollbwysig Diweddarwyd
yr Aelodau bod yr adran wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol wythnos
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023. Nodwyd bod y digwyddiadau ar y thema
‘Gwynedd Glyd’ ac yn codi ymwybyddiaeth am gynlluniau tai sydd gan y Cyngor er
mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai presennol, a bod oddeutu 60% o boblogaeth
y Sir wedi eu prisio allan o’r farchnad leol ar hyn o bryd. Ystyriwyd bod y
sesiynau hyn wedi bod yn fuddiol, o ystyried bod symudedd a mudo yn her fawr
i’r adran a’r Gymraeg yng Ngwynedd. Adroddwyd bod prif
gynlluniau i’w gweld yng Nghynllun Gweithredu Tai yr adran. Eglurwyd bod 30 o
brosiectau gweithredol a strategol wedi eu cynnwys yn y cynllun gyda
gweledigaeth o’u datblygiad am y 6 mlynedd nesaf. Tynnwyd sylw at grant
elfennau trigiannol mewn cynlluniau adfywio cymunedol. Esboniwyd ei fod yn
grant a ddarperir i gymunedau er mwyn datblygu unedau byw ychwanegol. Cadarnhawyd
bod 96% o staff yr adran yn cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd, gyda 60%
o’r staff hynny yn cyrraedd lefelau uwch na gofynion ieithyddol eu swyddi.
Manylwyd bod 85% o holl staff yr adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol
yn dilyn anogaeth barhaus y pennaeth. Atgoffwyd bod hyn yn gynnydd o 6% o holl
staff yr adran. Pwysleisiwyd
yr ystyrir cyfleon dysgu o fewn yr adran i’r staff. Nodwyd bod swyddogion yn
cefnogi staff sydd yn ddihyder yn eu sgiliau ieithyddol. Dathlwyd bod nifer o
aelodau staff yr adran wedi cwblhau hyfforddiant ieithyddol yn wirfoddol y tu
hwnt i’r gwaith. Soniwyd bod yr adran
wedi adnabod her i rai o staff y Cyngor wrth ddilyn trefniant gweithio’n
hybrid. Ystyriwyd bod gweithio o adref rhai dyddiau yn lleihau’r cyfleoedd mae
dysgwyr Cymraeg yn ei gael i ymarfer eu sgiliau ieithyddol. Pwysleisiwyd bod yr
adran yn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei roi i’r staff perthnasol i ymarfer eu
Cymraeg a bod hyn yn ystyriaeth i’r dyfodol wrth i drefniant gweithio’n hybrid
newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2024. Soniwyd bod
yr adran yn gosod amod bod rhaid i’r darparwyr gwasanaeth a chefnogaeth fod yn
gallu siarad Cymraeg mewn perthynas â Chytundebau Lefel Gwasanaeth. Rhannwyd
enghreifftiau a welwyd ar gyfer Tŷ Adferiad, Porthmadog yn ogystal â
safleoedd ym Mangor. Rhannwyd rhwystredigaeth ar ddiffyg adnoddau a hyfforddiant Cymraeg neu ddwyieithog yn y maes tai. Sicrhawyd yr aelodau bod yr adran yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i hyn. Manylwyd bod nifer o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu cynnal yn Saesneg ar hyn o bryd, heb roi blaenoriaeth i’r Gymraeg. Cadarnhawyd byddai’r adran yn croesawu newid er mwyn gweld cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chyfieithiad byw a dogfennaeth ddwyieithog wedi’i ddarparu. Sicrhawyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC PDF 170 KB I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod yr adran yn cynhyrchu Newyddlen
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, yn ogystal â Bwletin YGC, yn rheolaidd.
Cadarnhawyd bod y rhain yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn yr adran oherwydd
eu bod yn cael eu cylchredeg yn Gymraeg yn unig. Sicrhawyd bod ymgais yn cael
ei wneud fel bod pob aelod o staff yn ei dderbyn, gan argraffu copïau caled i
unrhyw aelod o staff sydd ddim yn defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol. Adroddwyd bod yr adran wedi derbyn adborth da wrth
iddynt fynychu digwyddiadau cenedlaethol megis Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan a hefyd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Nodwyd mai
gobaith yr adran yn y digwyddiadau hynny eleni oedd addysgu pobl ifanc am y
gwaith mae’r adran yn ei gyflawni. Cyfeiriwyd at rai o heriau mae’r adran yn ei
wynebu, megis dogfennaeth uniaith Saesneg wrth gysylltu gyda phartneriaid a
chwmnïau cysylltiol. Er hyn, mynegwyd balchder bod un o beirianwyr YGC wedi ei
benodi’n fentor ar gyfer Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ac yn rhoi
cefnogaeth i gynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy ar eu
gwaith. Rhannwyd enghraifft o gamgymeriad ar ran contractwr
yn ddiweddar ble nad oedd arwyddion dwyieithog wedi cael eu defnyddio mewn
safle gwaith datblygiadol. Cadarnhawyd bod yr adran wedi cynorthwyo gyda
chyfieithiadau o’r arwyddion a chafwyd datrysiad cyflym i’r sefyllfa.
Pwysleisiwyd bydd yr adran yn monitro’r defnydd o arwyddion dwyieithog yn agos
iawn yn y dyfodol yn dilyn y digwyddiad hwn. Eglurwyd bod modd gosod rhybuddion
i gontractwyr a lleihau’r cyfanswm sy’n ddaliadwy iddynt pan mae hyn yn
digwyddiad. Cydnabuwyd bod trafferthion o’r fath yn debygol o godi wrth
ddefnyddio contractwyr all-sirol, ond eglurwyd bod yr adran yn defnyddio
fframweithiau penodol er mwyn canfod contractwyr er mwyn sicrhau safon a gwerth
am arian. Pwysleisiwyd bod fframweithiau lleol mewn lle, ond mae rhaid
defnyddio contractwyr all-sirol o bryd i’w gilydd pan nad yw’r gwasanaeth ar
gael o fewn Gwynedd. Cadarnhawyd bod yr adran wedi sefydlu system gwasanaeth fflyd newydd.
Eglurwyd bod y system yn cynorthwyo tracio cerbydau a rheoli asedau. Nodwyd
mai’r Gymraeg sydd yn ymddangos gyntaf ar y system. Esboniwyd bod y system hon
yn cael ei ddefnyddio gan rhanddeiliaid eraill megis UK Highways
a’r asiantaeth cefnffyrdd. Adroddwyd bod yr adran yn cyflogi 507 aelod o staff (120 yn y gwasanaeth
7GC a 387 yng ngweddill yr adran), gyda nifer o’r gweithwyr ddim yn defnyddio
cyfrifiaduron yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Nodwyd bod yr adran wedi
symleiddio’r asesiad ar lein yn ogystal â dosbarthu fersiwn papur er mwyn
sicrhau bod gweithwyr llaw yn cwblhau’r asesiad. Esboniwyd bod hyn yn ffactor
sydd wedi cynorthwyo’r adran i gynyddu lefel ymatebiad yr hunanasesiad, ac bod
95.63% o staff yr adran bellach wedi ei gwblhau. Mynegwyd balchder am lwyddiant cyfres o fideos a ddatblygwyd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn egluro dyletswyddau amryw o wasanaethau’r adran. Nodwyd bod y fideos yma wedi cael eu rhannu yn ddwyieithog er mwyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |