Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adran yn cynhyrchu Newyddlen Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, yn ogystal â Bwletin YGC, yn rheolaidd. Cadarnhawyd bod y rhain yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn yr adran oherwydd eu bod yn cael eu cylchredeg yn Gymraeg yn unig. Sicrhawyd bod ymgais yn cael ei wneud fel bod pob aelod o staff yn ei dderbyn, gan argraffu copïau caled i unrhyw aelod o staff sydd ddim yn defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol.

 

Adroddwyd bod yr adran wedi derbyn adborth da wrth iddynt fynychu digwyddiadau cenedlaethol megis Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan a hefyd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Nodwyd mai gobaith yr adran yn y digwyddiadau hynny eleni oedd addysgu pobl ifanc am y gwaith mae’r adran yn ei gyflawni.

 

Cyfeiriwyd at rai o heriau mae’r adran yn ei wynebu, megis dogfennaeth uniaith Saesneg wrth gysylltu gyda phartneriaid a chwmnïau cysylltiol. Er hyn, mynegwyd balchder bod un o beirianwyr YGC wedi ei benodi’n fentor ar gyfer Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ac yn rhoi cefnogaeth i gynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy ar eu gwaith.

 

Rhannwyd enghraifft o gamgymeriad ar ran contractwr yn ddiweddar ble nad oedd arwyddion dwyieithog wedi cael eu defnyddio mewn safle gwaith datblygiadol. Cadarnhawyd bod yr adran wedi cynorthwyo gyda chyfieithiadau o’r arwyddion a chafwyd datrysiad cyflym i’r sefyllfa. Pwysleisiwyd bydd yr adran yn monitro’r defnydd o arwyddion dwyieithog yn agos iawn yn y dyfodol yn dilyn y digwyddiad hwn. Eglurwyd bod modd gosod rhybuddion i gontractwyr a lleihau’r cyfanswm sy’n ddaliadwy iddynt pan mae hyn yn digwyddiad. Cydnabuwyd bod trafferthion o’r fath yn debygol o godi wrth ddefnyddio contractwyr all-sirol, ond eglurwyd bod yr adran yn defnyddio fframweithiau penodol er mwyn canfod contractwyr er mwyn sicrhau safon a gwerth am arian. Pwysleisiwyd bod fframweithiau lleol mewn lle, ond mae rhaid defnyddio contractwyr all-sirol o bryd i’w gilydd pan nad yw’r gwasanaeth ar gael o fewn Gwynedd.

 

Cadarnhawyd bod yr adran wedi sefydlu system gwasanaeth fflyd newydd. Eglurwyd bod y system yn cynorthwyo tracio cerbydau a rheoli asedau. Nodwyd mai’r Gymraeg sydd yn ymddangos gyntaf ar y system. Esboniwyd bod y system hon yn cael ei ddefnyddio gan rhanddeiliaid eraill megis UK Highways a’r asiantaeth cefnffyrdd.

 

Adroddwyd bod yr adran yn cyflogi 507 aelod o staff (120 yn y gwasanaeth 7GC a 387 yng ngweddill yr adran), gyda nifer o’r gweithwyr ddim yn defnyddio cyfrifiaduron yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Nodwyd bod yr adran wedi symleiddio’r asesiad ar lein yn ogystal â dosbarthu fersiwn papur er mwyn sicrhau bod gweithwyr llaw yn cwblhau’r asesiad. Esboniwyd bod hyn yn ffactor sydd wedi cynorthwyo’r adran i gynyddu lefel ymatebiad yr hunanasesiad, ac bod 95.63% o staff yr adran bellach wedi ei gwblhau.

 

Mynegwyd balchder am lwyddiant cyfres o fideos a ddatblygwyd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn egluro dyletswyddau amryw o wasanaethau’r adran. Nodwyd bod y fideos yma wedi cael eu rhannu yn ddwyieithog er mwyn i holl drigolion fod yn ymwybodol o waith yr adran. Cadarnhawyd bod y fideos hyn wedi bod yn llwyddiant mawr a'i fod wedi codi moral o fewn y timoedd. Nodwyd bod yr adran yn hapus ac awyddus i adrannau eraill y Cyngor i gynhyrchu fideos tebyg os ydynt yn dymuno.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: