I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
2.
Cytunwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol lythyru gyda chwmni OS i ddatgan pryder y pwyllgor ynghylch y
defnydd o enwau Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg ar amryw o leoliadau ar eu
mapiau.
Cofnod:
Cyfeiriwyd
at nifer o brosiectau mae’r adran yn gweithio arnynt er mwyn hybu a hyrwyddo’r
Gymraeg, gan gynnwys; cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd a’r broses o sefydlu
endid annibynnol, prosiect enwau lleoedd a chydweithio gydag ysgolion er mwyn
datblygu map enwau lleoedd llafar a Phrosiect 15. Nodwyd bod yr adran wedi cefnogi
prentisiaid i gymhwyso drwy’r iaith Gymraeg a dylanwadu ar y sector addysg
bellach i gynnal sesiynau cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr.
Cadarnhawyd
y mabwysiadwyd Polisi Iaith ddiwygiedig ym mis Hydref 2022 yn ogystal â
mabwysiadu’r Strategaeth Iaith newydd ym mis Rhagfyr 2023.Eglurwyd bod y Polisi
Iaith yn cael ei hyrwyddo i staff drwy ffyrdd amrywiol gan gynnwys cyfarfodydd
gyda’r penaethiaid adran. Yn ogystal, mae negeseuon yn cael eu rhannu gyda’r
staff drwy safle mewnrwyd y Cyngor, negeseuon a bwletin wythnosol.
Nodwyd bod
gwybodaeth am hyfforddiant i staff a manylion dynodiadau staff yn cael eu
cynnwys yn yr adroddiad a bod yr adran yn cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol,
megis hyfforddiant Cadernid Iaith a fydd ar gael i’r staff i’r dyfodol. Eglurwyd
bod hyn yn ychwanegiad i’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith sydd eisoes mewn
bodolaeth. Gobaith yr hyfforddiant newydd yw bydd unigolion yn teimlo’n fwy
hyderus ac yn fwy cadarn eu hiaith ac yn llai parod i droi i’r Saesneg mewn
sefyllfaoedd ble nad oes angen gwneud hynny.
Adroddwyd
gan Ben Swyddog y Fenter Iaith eu bod yn barod i weithio’n bartneriaethol
gydag unrhyw un sy’n awyddus i wneud hynny er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, gyda’r
prif bwyslais yn cael ei roi i feysydd blaenoriaeth y Fenter. Tynnwyd sylw
penodol at brosiect sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd gydag M-Sparc,
Yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn creu platfform gemau fideo Cymraeg
a ariannwyd gan ARFOR.
Cydnabuwyd
bod yr adran wedi gorfod blaenoriaethu gwaith yn ddiweddar ac felly nid yw’r
gwaith o ddatblygu Map Digwyddiadau Cymraeg wedi symud yn ei flaen yn y misoedd
diwethaf. Nodwyd mai’r gobaith yw denu partneriaid i helpu hyrwyddo’r map er
mwyn ei boblogi gyda mwy o ddigwyddiadau. Cadarnhawyd bydd hyn yn digwydd yn y
misoedd nesaf.
Yn ystod y
drafodaeth, mynegwyd pryder gan nifer o Aelodau ynglŷn â’r defnydd o enwau
Saesneg ar fapiau’r OS yn ddiweddar. Mewn ymateb i’r pryder hwn, cadarnhaodd yr
Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y Cyngor wedi cael cyfarfodydd gyda’r OS
yn y gorffennol ond nad oes gan y Cyngor unrhyw ddylanwad ar eu gweithredoedd,
oherwydd gall unrhyw un gysylltu gyda’r cwmni i gynnig enwau ar gyfer y mapiau.
Ymhelaethwyd y bod modd i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol lythyru’r OS
yn datgan siom a phryder y Pwyllgor. Cynigwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet
lythyru’r cwmni yn ffurfiol gan y Cadeirydd.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
2.
Cytunwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol lythyru gyda chwmni OS i ddatgan pryder y pwyllgor
ynghylch y defnydd o enwau Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg ar amryw o leoliadau
ar eu mapiau.
Dogfennau ategol: