I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Atgoffwyd
bod yr adran yn cynnal cymysgedd o wasanaethau rheng flaen, corfforaethol a
masnachol a sicrhawyd bod gallu cyflawni dyletswyddau’r adran yn ddwyieithog, gan
barchu iaith ddewisol y cwsmer yn hollbwysig
Diweddarwyd
yr Aelodau bod yr adran wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol wythnos
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023. Nodwyd bod y digwyddiadau ar y thema
‘Gwynedd Glyd’ ac yn codi ymwybyddiaeth am gynlluniau tai sydd gan y Cyngor er
mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai presennol, a bod oddeutu 60% o boblogaeth
y Sir wedi eu prisio allan o’r farchnad leol ar hyn o bryd. Ystyriwyd bod y
sesiynau hyn wedi bod yn fuddiol, o ystyried bod symudedd a mudo yn her fawr
i’r adran a’r Gymraeg yng Ngwynedd.
Adroddwyd bod prif
gynlluniau i’w gweld yng Nghynllun Gweithredu Tai yr adran. Eglurwyd bod 30 o
brosiectau gweithredol a strategol wedi eu cynnwys yn y cynllun gyda
gweledigaeth o’u datblygiad am y 6 mlynedd nesaf. Tynnwyd sylw at grant
elfennau trigiannol mewn cynlluniau adfywio cymunedol. Esboniwyd ei fod yn
grant a ddarperir i gymunedau er mwyn datblygu unedau byw ychwanegol.
Cadarnhawyd
bod 96% o staff yr adran yn cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd, gyda 60%
o’r staff hynny yn cyrraedd lefelau uwch na gofynion ieithyddol eu swyddi.
Manylwyd bod 85% o holl staff yr adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol
yn dilyn anogaeth barhaus y pennaeth. Atgoffwyd bod hyn yn gynnydd o 6% o holl
staff yr adran.
Pwysleisiwyd
yr ystyrir cyfleon dysgu o fewn yr adran i’r staff. Nodwyd bod swyddogion yn
cefnogi staff sydd yn ddihyder yn eu sgiliau ieithyddol. Dathlwyd bod nifer o
aelodau staff yr adran wedi cwblhau hyfforddiant ieithyddol yn wirfoddol y tu
hwnt i’r gwaith. Soniwyd bod yr adran
wedi adnabod her i rai o staff y Cyngor wrth ddilyn trefniant gweithio’n
hybrid. Ystyriwyd bod gweithio o adref rhai dyddiau yn lleihau’r cyfleoedd mae
dysgwyr Cymraeg yn ei gael i ymarfer eu sgiliau ieithyddol. Pwysleisiwyd bod yr
adran yn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei roi i’r staff perthnasol i ymarfer eu
Cymraeg a bod hyn yn ystyriaeth i’r dyfodol wrth i drefniant gweithio’n hybrid
newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2024.
Soniwyd bod
yr adran yn gosod amod bod rhaid i’r darparwyr gwasanaeth a chefnogaeth fod yn
gallu siarad Cymraeg mewn perthynas â Chytundebau Lefel Gwasanaeth. Rhannwyd
enghreifftiau a welwyd ar gyfer Tŷ Adferiad, Porthmadog yn ogystal â
safleoedd ym Mangor.
Rhannwyd
rhwystredigaeth ar ddiffyg adnoddau a hyfforddiant Cymraeg neu ddwyieithog yn y
maes tai. Sicrhawyd yr aelodau bod yr adran yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i
roi sylw i hyn. Manylwyd bod nifer o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol
yn cael eu cynnal yn Saesneg ar hyn o bryd, heb roi blaenoriaeth i’r Gymraeg.
Cadarnhawyd byddai’r adran yn croesawu newid er mwyn gweld cyfarfodydd yn cael
eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chyfieithiad byw a dogfennaeth
ddwyieithog wedi’i ddarparu. Sicrhawyd bod trafodaethau’r adran gyda
phartneriaid a chymdeithasau tai yng Ngwynedd yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg,
gyda chyfieithiad ar gael os oes ei angen.
Mewn ymateb i
ymholiad ar gynllun Grantiau Tai Gwag i Brynwyr Tro Cyntaf, eglurwyd bod
addasiad wedi cael ei wneud i’r cynllun a olygir bod tai gwag a fu arfer bod yn
ail gartrefi yn gymwys ar gyfer y grant. Nodwyd bod 1 cais am grant wedi ei
gwblhau yn dilyn yr addasiad yma a bod 5 cais arall yn y broses o gael eu
hasesu.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: