Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd, yn absenoldeb y Pennaeth Addysg. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd ar nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan yr adran er mwyn codi statws y Gymraeg wrth alluogi plant a disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion ac yn gymunedol. Eglurwyd bod yr adran wedi gweithredu nifer o brosiectau fel rhan o Siarter Iaith Llywodraeth Cymru. Eglurwyd bod fframwaith newydd y Siarter yn rhan o gyfres o raglenni newydd Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc.

 

Cadarnhawyd fod yr Adran yn rhannu’r uchelgais hwn o gynyddu’r defnydd o Gymraeg. Nodwyd bod arian yn cael ei ddyrannu i bob dalgylch o fewn y Sir i drefnu gweithgareddau i annog y defnydd o’r Gymraeg. Soniwyd mai un o’r amodau wrth ddyrannu’r arian yw bod gweithgareddau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei ddefnyddio wrth i’r disgyblion drosglwyddo i’r ysgolion uwchradd. Pwysleisiwyd bod targedu’r garfan yma o blant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod profiadau apelgar a chadarnhaol yr ysgolion uwchradd yn digwydd drwy’r Gymraeg yn naturiol.

 

Rhannwyd diweddariad o weithgareddau dalgylchol er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd mae plant a phobl ifanc o bob ardal o Wynedd yn eu derbyn.

 

Eglurwyd bod Fforymau Iaith wedi cael eu sefydlu ym mhob ysgol uwchradd yng Ngwynedd sy’n arwain ar waith y Strategaeth Iaith Uwchradd a phwysleisio pwysigrwydd bod yn ddwyieithog. Manylwyd bod y Fforymau hefyd yn cynnal sesiynau Hybu Balchder mewn Cymreictod.

 

Adroddwyd bod cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sydd yn dewis astudio ac yn derbyn cymwysterau neu achrediad cydnabyddedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffigyrau isod a gasglwyd o blith canlyniadau cohort Blwyddyn 11 ysgolion uwchradd Gwynedd ar ddiwedd cyfnod yr haf 2023:

 

·       Roedd 71.7% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 3 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.

·       Roedd 67.8% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 5 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.

·       Roed 87.1% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf

 

Ymhelaethodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg: Uwchradd, bod y ffigwr hwn o 67.8% yn gymharol sefydlog ond cydnabuwyd bod angen cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio o leiaf 5 pwnc CA4 drwy’r Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Er hyn, cydnabuwyd bod hyn yn broses heriol oherwydd bod yr ystadegyn yn cynnwys disgyblion ysgolion trosiannol.

 

Darparwyd gwybodaeth am garfannau iaith y disgyblion, gan gynnwys disgyblion oed pontio. Sicrhawyd bod yr adran yn cydweithio’n rheolaidd gyda chydlynwyr iaith ym mhob dalgylch er mwyn casglu data ieithyddol disgyblion Blynyddoedd 2,6 a 9 er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd ieithyddol o fewn y cwricwlwm.

 

Tynnwyd sylw at ddynodiadau iaith staff yr adran a darparwyd dadansoddiad o asesiadau staff yn seiliedig ar Fframwaith y Dynodiadau Iaith. Cydnabuwyd bod gan yr adran le i wella, drwy sicrhau mynediad i’r hunan asesiad ar gyfer holl staff yr adran, er mwyn adnabod rhai sydd angen cefnogaeth. Eglurwyd mai prif rwystr yr adran yn y maes yma yw cyrraedd yr aelodau staff hynny sydd heb gyfarpar technolegol i lenwi’r holiadur yn electronig. Nodwyd bod yr adran yn gweithio i hyrwyddo pwysigrwydd y dynodiadau iaith ymysg staff. Cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio gyda Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod aelodau staff yn hyderus yn eu gallu ieithyddol. Manylwyd bod taenlen o aelodau staff sydd heb gwblhau’r hunanasesiad, neu angen cymorth i gyrraedd dynodiad iaith eu swydd, yn cael ei rannu gyda swyddog addas yn rheolaidd. Diolchwyd i’r Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg am hysbysu cyrsiau a hyfforddiant sydd ar gael i’w cymhorthi.

 

Nodwyd bod yr adran yn gweithio i oresgyn trafferthon recriwtio yn y maes arlwyo a glanhau. Pwysleisiwyd bod y gwaith hwn yn hynod o bwysig a rhannwyd gwerthfawrogiad yr holl staff am weithio i sicrhau fod yr ysgolion yn lan ac yn ddiogel drwy gydol cyfnod y pandemig, yn ogystal â pharatoi pecynnau bwyd. Ystyriwyd bod yr heriau recriwtio yn fwy dwys mewn ardaloedd gwledig o’r Sir ond gobeithir bydd datrysiad i’r her yn fuan.

 

Cyfeiriwyd at flaenoriaeth ‘Ymchwil a Thechnoleg’ o fewn Strategaeth Iaith Gwynedd, gan fanylu ar adnodd rhithiol Aberwla. Eglurwyd ei fod yn rithfyd blaengar er mwyn cynorthwyo dysgwyr sy’n mynychu canolfannau trochi i ymarfer patrymau ieithyddol a geirfa. Nodwyd bod yr adnodd hwn wedi cael ei ddatblygu dan nawdd grant refeniw trochi hwyr Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg: Uwchradd, bod 42 o fyfyrwyr wedi astudio a chwblhau arholiadau Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch yn ystod haf 2023. Nodwyd mai dim ond disgyblion y 7 ysgol uwchradd gyda darpariaeth Safon Uwch sydd wedi cael eu cynnwys yn yr ystadegyn hwn ac nid yw’n cynnwys unrhyw golegau yn y Sir. Adroddwyd bod y nifer yma o ddisgyblion yn uwch na’r niferoedd a astudiodd y pwnc yn 2022 ac yn gyfystyr â chwarter holl ddisgyblion cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch ar gyfer 2023 yng Nghymru. Nodwyd bod swyddogion yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn hybu’r cwrs a denu disgyblion i'w gwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: