Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Elwyn Edwards a Dyfrig Wynn Jones a’r Cynghorwyr Aled
Ll. Evans, Charles Wyn Jones, Ioan C. Thomas a R. H. Wyn Williams (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y
Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0847/35/LL); ·
Y
Cynghorydd Jason Humphreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0748/44/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn
ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y
materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2015 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATAD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd
ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau
ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C15/0759/41/LL - Tir Fferm Rhosgyll Fawr, Chwilog PDF 734 KB Gosod fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y tir gyda chapasiti o 5mw ar 9.05 ha o dir amaethyddol ynghyd a chyfarpar cyswllt, trac mynediad, compownd adeiladu, ffens ddiogelwch a gwelliannau tirweddu. Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y
tir gyda chapasiti o 5mw ar 9.05 ha o dir amaethyddol ynghyd a chyfarpar cyswllt, trac mynediad,
compownd adeiladu, ffens ddiogelwch a gwelliannau tirweddu. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y datblygiad yn
cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) ynghyd â Pholisi Strategol 9 ar gyfer darparu
ynni o ffynonellau adnewyddadwy am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu oddi wrth dai cyfagos yn bennaf ar
sail yr effaith ar y tirlun a'r golygfeydd o'i eiddo, tra’n cydnabod y byddai’n
bosibl bod rhannau o'r safle yn weladwy o'r eiddo, oherwydd ffurf y tir,
tyfiant presennol a phellter yr eiddo o'r safle, ni chredir byddai’r datblygiad
yn ormesol i breswylwyr ac na fyddai'r effaith ar y tirlun mor niweidiol i
gyfiawnhau gwrthod y cais. Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau hefyd ar sail effaith y datblygiad ar
ddiogelwch priffyrdd. Ystyrir mai ond yn ystod y cyfnod adeiladu y byddai
cynnydd mewn llif traffig. Ychwanegwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn
egwyddor gan yr Uned Drafnidiaeth ond eu bod yn nodi’r angen i gytuno Cynllun
Rheoli Trafnidiaeth cyn dechrau’r datblygiad. Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau
a dderbyniwyd o ran pryder effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth a phresenoldeb rhywogaethau a warchodir yn yr
ardal. Nodwyd nad oedd
gan yr Uned
Bioamrywiaeth na Chyfoeth Naturiol Cymru wrthwynebiadau i'r agwedd hon o'r cais o sicrhau
mesurau lliniaru a rheolaethol priodol ar gyfer y safle
a'i gyffiniau a fydd yn amddiffyn
buddiannau nodweddion bioamrywiaeth. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Y byddai’r datblygiad yn cynhyrchu
ynni adnewyddol glân wedi ei
gynhyrchu’n lleol ar gyfer oddeutu
1,300 o dai; ·
Bwriedir plannu coed ychwanegol i gryfhau’r gwrychoedd
presennol ynghyd â phlannu blodau
gwyllt, gosod bocys nythod i adar ac ystlumod a chychod gwenyn; ·
Bod gosodiad y paneli
solar wedi ei ddiwygio er ceisio
ymateb i wrthwynebiad; ·
Bod defnydd pori yn parhau ar
y safle; ·
Y byddai’r datblygiad yn rhoi
incwm sefydlog i’r busnes gan
warchod ei ddyfodol; ·
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a derbyniwyd 22 ffurflen adborth a dim ond 3 o’r rhain
oedd yn erbyn
y datblygiad; ·
Gofyn i’r Pwyllgor
ganiatáu’r cais. (c) Adroddwyd
nad oedd
gan yr Aelod
Lleol wrthwynebiad i’r cais. Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Y dylid gohirio’r cais
oherwydd y nifer cynyddol o geisiadau am ddatblygiadau solar, yr angen i
sefydlu maint priodol ar gyfer datblygiadau o’r math yma gan ystyried
pwysigrwydd twristiaeth i Wynedd a’r effaith ar
harddwch yr ardal; ·
Bod cynghorau yn Lloegr yn
gwrthod datblygiadau o’r fath a fyddai’n hagru’r dirwedd; ·
Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar y dirwedd a’r effaith
economaidd o ganlyniad; · Bod y datblygiad oddi mewn i’r polisïau cyfredol ond yn anghyfforddus nad oedd Canllawiau Cynllunio Atodol. O ganlyniad dylai’r Cyngor osod moratoriwm ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C15/0847/35/LL - Cilan, Ffordd Caernarfon, Criccieth PDF 732 KB Codi estyniad deulawr cefn i annedd. Aelod Lleol: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad deulawr cefn i annedd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2015 er
mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. Nodwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â gofynion polisïau B22, B23 na B24 o’r CDUG oherwydd ei faint sylweddol, swmp, lleoliad, ffurf, graddfa a dyluniad y bwriad a’i effaith annerbyniol
ar fwynderau personol trigolion eiddo cyfagos oherwydd
cysgodi a goredrych. (b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Ei fod yn ddiolchgar bod
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle; ·
Mai cais ar gyfer ymestyn
ydoedd i alluogi teulu lleol i barhau i fyw yn eu cartref; ·
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad
i’r bwriad gan gymdogion; ·
Bod y Cyngor Tref yn cefnogi’r
cais; ·
Gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r
cais. Cynigwyd i wrthod y cais a nodwyd bod posibilrwydd y gellir
rhoi estyniad i’r tŷ mewn ffurf wahanol heb effeithio ar fwynderau
cymdogion. Ychwanegwyd y dylai’r ymgeisydd a’r
Gwasanaeth Cynllunio drafod cynlluniau amgen derbyniol os gwrthodir y
cais. Eiliwyd y cynnig. (c) Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Bod amgylchiadau’r teulu
wedi newid a byddai’r estyniad yn diwallu eu
hanghenion; ·
Bod y ffenestr lle nodir y byddai goredrych yn angenrheidiol; ·
Nad oedd hawl
i oleuni yn ddadl gwrthod; ·
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad
gan gymdogion a byddai unrhyw ddarpar
brynwyr yn y dyfodol yn ymwybodol
o’r sefyllfa; ·
Bod yr estyniad bwriedig o ran arwynebedd yn dderbyniol; ·
Bod gosodiad y tŷ
mwy i fewn
na’r tai cyfagos; ·
Ni fyddai goredrych i 1 Rhes Victoria gan fyddai’r estyniad
yn ymestyn yn ôl dros
yr ardd; ·
Os gwrthodir y cais bod lle i
drafod efo’r ymgeisydd ffurf derbyniol o ran estyniad; ·
Y dylid caniatáu’r cais i alluogi’r
teulu i aros
yn yr ardal
er mwyn sicrhau
parhad cymunedau Cymreig. (ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:- ·
Wrth ystyried ceisiadau fe ystyrir
os oes effaith cysgodi annerbyniol ar eiddo cyfagos; ·
Y byddai’r estyniad efo
arwynebedd llawr o 84m2; ·
Y byddai’r ffenestr newydd yn
edrych i mewn i gwrtil cefn 1 Rhes Victoria sydd yn fan preifat; ·
Bod rhaid ystyried mwynderau
preswyl i’r dyfodol pan asesir ceisiadau; ·
Y byddai’r estyniad bwriedig reit wrth ymyl ffin tŷ drws nesaf gan
effeithio’n annerbyniol ar fwynderau; ·
Bod rhaid i ddatblygiadau
barchu ei gyffiniau o ran graddfa a maint; ·
Parodrwydd
i drafod efo’r ymgeisydd yng nghyswllt cynlluniau amgen i ddiwallu’r anghenion. (d) Yn
unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais
ganlynol i wrthod y cais: O blaid y cynnig i wrthod y cais, (6) Y
Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen,
Hefin Williams a John Wyn Williams. Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais, (7) Y Cynghorwyr: Endaf Cooke, Simon Glyn, W. Tudor Owen, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams, Owain ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C15/0915/18/LL - Cil Fynydd, Penrhos, Bethel PDF 679 KB Cais i estynnu a trosi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd. Aelod Lleol: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i estynnu a trosi
modurdy cysylltiol i anecs ynghyd
a chodi modurdy newydd. (a) Adroddwyd y derbyniwyd
cais gan yr ymgeisydd a’r
aelod lleol i ohirio trafod
y cais er mwyn galluogi’r ymgeisydd i fanteisio
ar yr hawl
i siarad. PENDERFYNWYD
gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C15/0922/23/LL - Tir ger Cil y Bont, Crawia, Llanrug PDF 703 KB Newid defnydd safle Clwb Carafan presennol i safle ar gyfer 12 carafan teithiol, codi adeilad toiledau gyda threfniadau draenio cysylltiedig. Aelod Lleol: Cynghorydd Charles Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd safle Clwb Carafan presennol
i safle ar
gyfer 12 carafán teithiol, codi adeilad toiledau gyda threfniadau draenio cysylltiedig. (a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y datblygiad bwriedig yn dderbyniol ar sail ei raddfa a gosodiad
ac y byddai tirlunio presennol a bwriedig o gymorth i sicrhau
na fyddai effaith niweidiol gormodol ar fwynderau
gweledol yr ardal gyfagos. Tynnwyd sylw
nad oedd
yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r cais gan gadarnhau
fod yr hyn
a fwriedir yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion safonau cyfredol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Nodwyd bod yr aelod lleol
yn gefnogol i’r cais. Cynigwyd a
eiliwyd i ganiatáu’r cais. (c) Mewn ymateb i
sylw gan aelod parthed nifer
cynyddol o geisiadau am feysydd carafanau teithiol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu wrth ystyried
ceisiadau yn unol â’r polisïau
rhoddir ystyriaeth os all ardal benodol
y cais ymdopi efo datblygiadau. Ychwanegwyd nad
oedd llawer o ddatblygiadau tebyg yn yr ardal
gyfagos ac nad oedd effaith weledol
sylweddol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau/llechi 4. Tirlunio 5. Cyfyngu defnydd y safle i deithiol
yn unig ac ond ar gyfer
12 uned teithiol ar y lleiniau a ddangosir 6. Cyfyngu’r tymor 7. Cadw cofrestr 8. Dim storio unedau teithiol
ar unrhyw ran o’r safle 9. Gwaith i’r fynedfa
cyn dechrau ar weddill y bwriad/dod a’r safle
i ddefnydd Nodyn: Cyfarwyddyd
i ddilyn cyngor a gyflwynwyd gan y Swyddog Carafanau. |
|
Cais Rhif C15/0954/39/LL - Roslyn, Lon Rhoslyn, Abersoch PDF 613 KB Newid defnydd gweddill yr adeilad i ffurfio rhan o siop bresennol ynghyd a creu cyfleusterau cysylltiol fel storfa, swyddfa a lle bwyta staff ynghyd a man newidiadau allanol yn cynnwys ffenestr ychwanegol ar edrychiad cefn a cau ffenestri ar yr edrychiad ochr. Aelod Lleol: Cynghorydd R. H. Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd
gweddill yr adeilad i ffurfio
rhan o siop bresennol ynghyd a chreu cyfleusterau cysylltiol fel storfa, swyddfa a lle bwyta staff ynghyd a mân newidiadau
allanol yn cynnwys ffenestr ychwanegol ar edrychiad
cefn a chau ffenestri ar yr
edrychiad ochr. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi bod yr eiddo wedi ei leoli mewn safle canolog ac amlwg
yng nghanol ardal siopa Abersoch. Nodwyd yr
ystyrir fod egwyddor y bwriad o greu estyniad i’r
siop bresennol yn y pentref yn
dderbyniol, ni
fyddai’n niweidio’r strydlun na mwynderau
gweledol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac ychwaith yn
achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r
gymdogaeth leol. Roedd y datblygiad
yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cynigwyd a eiliwyd
i ganiatáu’r cais. Nododd aelod bod gwaith adnewyddu wedi cychwyn ar
yr eiddo a’i fod ar
ddallt bod yr uned yn cael
ei hysbysebu fel 2 uned gan
arwerthwr tai. Mewn ymateb, nododd
yr Uwch Gyfreithiwr
y dylid ystyried y cais gerbron am 1 uned ac nad
oedd bwriad yr ymgeisydd i
lesu rhan o’r siop yn
ystyriaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu yr argymhellir amod i gyfyngu
defnydd yr eiddo fel un
uned manwerthu yn unig. Nododd
i ymateb i bryderon lleol
yr argymhellir amod i sicrhau
na ddefnyddir
y drws sy’n wynebu Lôn Rhoslyn
ar gyfer dosbarthu a derbyn nwyddau nag ar gyfer mynediad i gwsmeriaid i’r
siop er mwyn
sicrhau mwynderau cymdogion cyfagos. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol
a’r cynlluniau diwygiedig. 3. Unrhyw
addasiadau allanol i gael ei gorffen i
gydweddu gyda’r eiddo presennol. 4. Y safle
i gael
ei defnyddio fel un uned manwerthu
yn unig. 5. Gosod
caead ar ochr fewnol y ffenestri
llawr daear ar yr edrychiad
gogleddol sy’n wynebu Lôn Rhoslyn.
Y caeadau i
fod yn eu
lle tra mae’r
defnydd fel siop yn parhau
a dim byd i’w arddangos rhwng y caead a gwydr y ffenestr. 6. Dim defnyddio’r
drysau sy’n wynebu Lôn Rhoslyn
ar gyfer dosbarthu a derbyn nwyddau nag ar gyfer mynediad ar gyfer cwsmeriaid
i’r siop. 7. Dim cadw gwastraff a biniau yn y cwrtil
yn wynebu Lôn Rhoslyn. |
|
Cais Rhif C15/0960/14/LL - Bloc A, Doc Fictoria, Caernarfon PDF 817 KB Newid defnydd rhan or ail lawr o Bloc A i 6 uned breswyl ynghyd a newid llawr gwaelod Bloc C i faes parcio ar gyfer 23 o geir. Aelod Lleol: Cynghorydd Ioan C. Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd
rhan o’r ail lawr o Bloc A i
6 uned breswyl ynghyd â newid llawr gwaelod Bloc C i faes parcio
ar gyfer 23 o geir. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod egwyddor y datblygiad hwn yn dderbyniol
gan fod defnydd
cymysg eisoes wedi ei sefydlu
ar y safle. Nodwyd bod yr ymgeisydd
yn datgan y byddai’n anymarferol darparu tai fforddiadwy
fel rhan o’r cynnig diweddaraf
hwn gan y byddai’n rhaid i ddarpar berchnogion
yr unedau gyfrannu at gostau rheoli’r safle ynghyd a chymryd i ystyriaeth natur
deiliadaeth yr unedau presennol sydd yn Noc
Fictoria. Credir o ran hyfywdra’r datblygiad nad oedd
yn briodol cynnwys elfen fforddiadwy
yn y datblygiad. Adroddwyd bod yr aelod lleol
yn gefnogol i’r cais. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i wrthod y cais yn groes
i argymhelliad y swyddogion oherwydd y byddai caniatáu yn gosod cynsail peryglus o ran cynyddu’r nifer
o dai haf mewn safle a ddynodwyd ar gyfer defnydd
arall. Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod angen penderfynu ar geisiadau
ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd. Ychwanegodd os oedd yr
aelodau o’r farn nad
oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei
gyflwyno yng nghyswllt darpariaeth tai fforddiadwy y gellir gofyn am eglurhad pellach gan yr
ymgeisydd. Gwnaed gwelliant i ohirio’r
cais er mwyn
derbyn cyfiawnhad pellach yng nghyswllt
darpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.
Eiliwyd y gwelliant. (c) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Y gwnaed addewid o dai fforddiadwy
pan ddatblygwyd y safle fel rhan o’r
cynlluniau gwreiddiol ond nad oedd
y rhain wedi eu gwireddu; ·
Bod angen am unedau fforddiadwy; ·
Pryder
y nodir nad yw’r datblygiad yn hyfyw i
gynnal tai fforddiadwy o ystyried bod y CDUG yn nodi’r angen am elfen o dai fforddiadwy
mewn datblygiadau o’r math yma; ·
Bod eithrio datblygiadau o’r fath rhag darparu
elfen fforddiadwy yn beryglus gan
fyddai unrhyw ddatblygwr yn gallu
cyfiawnhau peidio cynnwys elfen fforddiadwy
oherwydd y codir ffi am gynnal a chadw; ·
Yr angen am ddarpariaeth fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad
neu os nad oedd yn hyfyw, yr
angen am swm ariannol i ddiwallu
anghenion tai fforddiadwy ar safle arall. (ch) Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio
bod rhai amgylchiadau lle nad oedd yn hyfyw cynnwys elfen fforddiadwy mewn
datblygiadau ond bod angen i’r ymgeisydd ei dystiolaethu. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y llefydd parcio
ychwanegol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y credir eu bod ar gyfer y
safle yn ei gyfanrwydd yn hytrach na’n benodol i’r datblygiad yma. Nododd aelod
nad oedd darpariaeth parcio ar gyfer y feddygfa a leolwyd ar y safle a byddai’r
llefydd parcio ychwanegol i’w gefnogi. Pleidleisiwyd ar y gwelliant. PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn
cyfiawnhad pellach yng nghyswllt darpariaeth
tai fforddiadwy fel rhan o’r
datblygiad. |
|
Cais Rhif C15/0748/44/LL - Cyn Hamdden Caravan Premises, Stryd Madog, Porthmadog PDF 853 KB Trosi ac ehangu cyn safle trwshio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio cerbydau. Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi ac ehangu cyn safle trwsio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan
MOT a modurdy trwsio cerbydau. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2015
er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau hwyr gan asiant yr ymgeisydd
yn cynnig lleihau uchder yr adeilad ar y blaen o gwmpas 400mm a newidiadau o
ran trefniadau parcio a goleuo’r safle i leddfu pryderon gwrthwynebwyr. Nodwyd bod defnydd
tir cymysg yn ardal y cais
sy’n amrywio o ddefnydd preswyl i safleoedd gwaith
ac o ystyried bod y datblygiad
arfaethedig ar safle oedd wedi
ei ddefnyddio yn y gorffennol ar gyfer cadw
a thrwsio carafanau, ni ystyrir
y byddai newid arwyddocaol yn effeithiau'r defnydd arfaethedig ar fwynderau'r ardal. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau
gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yr argymhellir gosod amodau pe
caniateir y cais i gyfyngu oriau
gweithredu ar y safle. Ychwanegwyd nad oedd
cyfyngiad amser mewn lle ar
ddefnydd blaenorol y safle a byddai’r amodau yn rhoi
mwy o reolaeth i’r safle. Adroddwyd mai’r argymhelliad bellach oedd dirprwyo'r hawl i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i ymdrin â’r cynlluniau diwygiedig ac i amodau perthnasol fel y nodwyd yn
yr adroddiad. (b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Ei fod yn ddiolchgar bod
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle; ·
Y cyflwynwyd Cynllun
Rheoli Traffig diwygiedig gan yr ymgeisydd a oedd yn ei
farn yn waeth
na’r gwreiddiol; ·
Bod goryrru ar
y stryd ynghyd a phroblemau parcio. Byddai’r datblygiad yn ychwanegu at y broblem; ·
Ei fod yn gefnogol i fusnesau
lleol; ·
Ei fod yn erbyn y datblygiad
gan ei fod yn ei ystyried yn or-ddatblygiad ar safle
bach gan y byddai’r busnes yn gweithredu fel canolfan MOT a gwerthu ceir. (c) Mewn
ymateb i sylwadau’r aelod lleol yng nghyswllt
rheolaeth traffig, nododd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod cryn drafodaethau wedi eu cynnal
yng nghyswllt problemau goryrru yn yr ardal
gyda gwelliannau wedi eu gwneud
ond gellir edrych ar ffyrdd
pellach i arafu traffig. Nodwyd na
fyddai’r bwriad yn golygu cynnydd
traffig i’r gwaeth. Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd yr
eilydd i’r cynnig, welliant i ddiwygio amod
7 i ‘gyfyngu
oriau gweithredu'r uned gwerthu ceir
i 08:00 - 19:00 pob diwrnod’ yn hytrach
na dan
18:00. Roedd y cynigydd yn derbyn y gwelliant. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y dylai amod 8 yn yr
adroddiad nodi ‘Cyfyngu oriau
goleuo - dim goleuo rhwng 18:30 a 07:30’ yn hytrach na
07:70. (ch)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Byddai llif traffig
yn cynyddu o ganlyniad i’r datblygiad
a dylid gosod amodau mwy caeth
pe caniateir y cais · Pryder o ran goryrru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |