Agenda item

Gosod fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y tir gyda chapasiti o 5mw ar 9.05 ha o dir amaethyddol ynghyd a chyfarpar cyswllt, trac mynediad, compownd adeiladu, ffens ddiogelwch a gwelliannau tirweddu.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aled Ll. Evans

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Gosod fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y tir gyda chapasiti o 5mw ar 9.05 ha o dir amaethyddol ynghyd a chyfarpar cyswllt, trac mynediad, compownd adeiladu, ffens ddiogelwch a gwelliannau tirweddu.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) ynghyd â Pholisi Strategol 9 ar gyfer darparu ynni o ffynonellau adnewyddadwy am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu oddi wrth dai cyfagos yn bennaf ar sail yr effaith ar y tirlun a'r golygfeydd o'i eiddo, tra’n cydnabod y byddai’n bosibl bod rhannau o'r safle yn weladwy o'r eiddo, oherwydd ffurf y tir, tyfiant presennol a phellter yr eiddo o'r safle, ni chredir byddai’r datblygiad yn ormesol i breswylwyr ac na fyddai'r effaith ar y tirlun mor niweidiol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau hefyd ar sail effaith y datblygiad ar ddiogelwch priffyrdd. Ystyrir mai ond yn ystod y cyfnod adeiladu y byddai cynnydd mewn llif traffig. Ychwanegwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor gan yr Uned Drafnidiaeth ond eu bod yn nodi’r angen i gytuno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth cyn dechrau’r datblygiad.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd o ran pryder effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth a phresenoldeb rhywogaethau a warchodir yn yr ardal. Nodwyd nad oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth na Chyfoeth Naturiol Cymru wrthwynebiadau i'r agwedd hon o'r cais o sicrhau mesurau lliniaru a rheolaethol priodol ar gyfer y safle a'i gyffiniau a fydd yn amddiffyn buddiannau nodweddion bioamrywiaeth. 

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y byddai’r datblygiad yn cynhyrchu ynni adnewyddol glân wedi ei gynhyrchu’n lleol ar gyfer oddeutu 1,300 o dai;

·         Bwriedir plannu coed ychwanegol i gryfhau’r gwrychoedd presennol ynghyd â phlannu blodau gwyllt, gosod bocys nythod i adar ac ystlumod a chychod gwenyn;

·         Bod gosodiad y paneli solar wedi ei ddiwygio er ceisio ymateb i wrthwynebiad;

·         Bod defnydd pori yn parhau ar y safle;

·         Y byddai’r datblygiad yn rhoi incwm sefydlog i’r busnes gan warchod ei ddyfodol;

·         Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a derbyniwyd 22 ffurflen adborth a dim ond 3 o’r rhain oedd yn erbyn y datblygiad;

·         Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.

 

(c)     Adroddwyd nad oedd gan yr Aelod Lleol wrthwynebiad i’r cais.

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Y dylid gohirio’r cais oherwydd y nifer cynyddol o geisiadau am ddatblygiadau solar, yr angen i sefydlu maint priodol ar gyfer datblygiadau o’r math yma gan ystyried pwysigrwydd twristiaeth i Wynedd a’r effaith ar harddwch yr ardal;

·         Bod cynghorau yn Lloegr yn gwrthod datblygiadau o’r fath a fyddai’n hagru’r dirwedd;

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar y dirwedd a’r effaith economaidd o ganlyniad;

·         Bod y datblygiad oddi mewn i’r polisïau cyfredol ond yn anghyfforddus nad oedd Canllawiau Cynllunio Atodol. O ganlyniad dylai’r Cyngor osod moratoriwm ar geisiadau am ddatblygiadau solar er mwyn deall yr oblygiadau ac adnabod rhinweddau’r datblygiadau;

·         Yn gefnogol i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy;

·         Yr angen i sicrhau bod y mesurau lliniaru o ran bioamrywiaeth yn bresennol ar gyfer oes y datblygiad;

·         Yr angen i ffermwyr arallgyfeirio gan fod eu cymhorthdal yn lleihau;

·         Bod twristiaeth yn bwysig i’r ardal ond yr angen i edrych ar ôl y bobl gynhenid er mwyn cadw’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn fyw.

 

(d)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Penderfynir ar geisiadau yn unol â’r polisïau cyfredol. Nodwyd y comisiynwyd cwmni Gillespies yn ddiweddar i asesu sensitifrwydd a chapasiti'r dirwedd i ymdopi gyda mathau penodol o ddatblygiadau;

·         Nad oedd tystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod ar sail effaith ar dwristiaeth;

·         Bod y gwasanaeth wedi bod yn mapio datblygiadau ffermydd solar ynghyd â datblygiadau domestig ar draws Gwynedd. Ystyrir y darlun presennol pan ystyrir effaith cronnol datblygiadau solar o ran capasiti y dirwedd i ymdopi efo datblygiadau pellach;

·         Cyflwynwyd Cynllun Bioamrywiaeth fel rhan o’r cais ac argymhellir amod yn nodi y cwblheir y datblygiad yn unol â’r cynllun.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.    Amser cychwyn y datblygiad

2.    Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

3.    Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Caniatâd 30 mlynedd, datganiad dull i glirio’r safle ac atgyweirio’r tir.

5.    Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

6.    Cytuno ar ddeunyddiau/lliwiau'r ffens a’r polion camerâu

7.    Cytuno a chwblhau cynllun tirlunio a chynllun rheolaeth tirlunio

8.    Cytuno a gweithredu Rhaglen Waith Archeolegol.

9.    Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear.

10.  Cytuno unrhyw systemau goleuo’r safle.

11. Amodau Priffyrdd – Cynllun rheoli trafnidiaeth.

12.  Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r Cynllun rheoli bioamrywiaeth a’r cynllun monitro.

13.  Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

14.  Dim gwaith clirio llystyfiant yn ystod y tymor nythu adar.

15.  Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau.

Dogfennau ategol: