Agenda item

Codi estyniad deulawr cefn i annedd.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Codi estyniad deulawr cefn i annedd.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2015 er mwyn cynnal ymweliad safle. Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Nodwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â gofynion polisïau B22, B23 na B24 o’r CDUG oherwydd ei faint sylweddol, swmp, lleoliad, ffurf, graddfa a dyluniad y bwriad a’i effaith annerbyniol ar fwynderau personol trigolion eiddo cyfagos oherwydd cysgodi a goredrych.

 

(b)    Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn ddiolchgar bod aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle;

·         Mai cais ar gyfer ymestyn ydoedd i alluogi teulu lleol i barhau i fyw yn eu cartref;

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan gymdogion;

·         Bod y Cyngor Tref yn cefnogi’r cais;

·         Gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r cais.

 

Cynigwyd i wrthod y cais a nodwyd bod posibilrwydd y gellir rhoi estyniad i’r tŷ mewn ffurf wahanol heb effeithio ar fwynderau cymdogion. Ychwanegwyd y dylai’r ymgeisydd a’r  Gwasanaeth Cynllunio drafod cynlluniau amgen derbyniol os gwrthodir y cais. Eiliwyd y cynnig.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod amgylchiadau’r teulu wedi newid a byddai’r estyniad yn diwallu eu hanghenion;

·         Bod y ffenestr lle nodir y byddai goredrych yn angenrheidiol;

·         Nad oedd hawl i oleuni yn ddadl gwrthod;

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan gymdogion a byddai unrhyw ddarpar brynwyr yn y dyfodol yn ymwybodol o’r sefyllfa;

·         Bod yr estyniad bwriedig o ran arwynebedd yn dderbyniol;

·         Bod gosodiad y mwy i fewn na’r tai cyfagos;

·         Ni fyddai goredrych i 1 Rhes Victoria gan fyddai’r estyniad yn ymestyn yn ôl dros yr ardd;

·         Os gwrthodir y cais bod lle i drafod efo’r ymgeisydd ffurf derbyniol o ran estyniad;

·         Y dylid caniatáu’r cais i alluogi’r teulu i aros yn yr ardal er mwyn sicrhau parhad cymunedau Cymreig.

 

(ch)  Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Wrth ystyried ceisiadau fe ystyrir os oes effaith cysgodi annerbyniol ar eiddo cyfagos;

·         Y byddai’r estyniad efo arwynebedd llawr o 84m2;

·         Y byddai’r ffenestr newydd yn edrych i mewn i gwrtil cefn 1 Rhes Victoria sydd yn fan preifat;

·         Bod rhaid ystyried mwynderau preswyl i’r dyfodol pan asesir ceisiadau;

·         Y byddai’r estyniad bwriedig reit wrth ymyl ffin tŷ drws nesaf gan effeithio’n annerbyniol ar fwynderau;

·         Bod rhaid i ddatblygiadau barchu ei gyffiniau o ran graddfa a maint;

·         Parodrwydd i drafod efo’r ymgeisydd yng nghyswllt cynlluniau amgen i ddiwallu’r anghenion.

 

(d)    Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i wrthod y cais:

              

O blaid y cynnig i wrthod y cais, (6) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen, Hefin Williams a John Wyn Williams.

 

Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais, (7) Y Cynghorwyr: Endaf Cooke, Simon Glyn, W. Tudor Owen, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams, Owain Williams ac Eurig Wyn.

        

         Atal, (0)

 

(dd) Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd na fyddai effaith ar fwynderau tai cyfagos, ni ystyrir bod yr estyniad yn ymwthiol nac yn ormesol a bod y bwriad yn cydymffurfio â Pholisi B22, B23 a B24 o’r CDUG.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed peidio ystyried beth ddigwyddith yn y dyfodol, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod ystyried effaith datblygiadau ar fwynderau tai cyfagos yn elfen i’w ystyried wrth asesu cais pe derbynnir gwrthwynebiadau neu beidio.

        

(ff)    Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu’r cais:

              

O blaid y cynnig i ganiatáu’r cais, (7) Y Cynghorwyr: Endaf Cooke, Simon Glyn, W. Tudor Owen, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams, Hefin Williams ac Owain Williams.

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu’r cais, (6) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen, John Wyn Williams ac Eurig Wyn.

 

         Atal, (0)

 

PENDERFYNWYD yn groes i argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      Amser

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Llechi

4.      Deunyddiau i weddu

Dogfennau ategol: