Trosi ac ehangu cyn safle trwshio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan MOT a modurdy trwsio cerbydau.
Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys
Cofnod:
Trosi ac ehangu cyn safle trwsio carafanau i leoliad gwerthu ceir, canolfan
MOT a modurdy trwsio cerbydau.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2015
er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau hwyr gan asiant yr ymgeisydd
yn cynnig lleihau uchder yr adeilad ar y blaen o gwmpas 400mm a newidiadau o
ran trefniadau parcio a goleuo’r safle i leddfu pryderon gwrthwynebwyr.
Nodwyd bod defnydd
tir cymysg yn ardal y cais
sy’n amrywio o ddefnydd preswyl i safleoedd gwaith
ac o ystyried bod y datblygiad
arfaethedig ar safle oedd wedi
ei ddefnyddio yn y gorffennol ar gyfer cadw
a thrwsio carafanau, ni ystyrir
y byddai newid arwyddocaol yn effeithiau'r defnydd arfaethedig ar fwynderau'r ardal.
Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau
gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yr argymhellir gosod amodau pe
caniateir y cais i gyfyngu oriau
gweithredu ar y safle. Ychwanegwyd nad oedd
cyfyngiad amser mewn lle ar
ddefnydd blaenorol y safle a byddai’r amodau yn rhoi
mwy o reolaeth i’r safle.
Adroddwyd mai’r argymhelliad bellach oedd dirprwyo'r hawl i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i ymdrin â’r cynlluniau diwygiedig ac i amodau perthnasol fel y nodwyd yn
yr adroddiad.
(b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Ei fod yn ddiolchgar bod
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle;
·
Y cyflwynwyd Cynllun
Rheoli Traffig diwygiedig gan yr ymgeisydd a oedd yn ei
farn yn waeth
na’r gwreiddiol;
·
Bod goryrru ar
y stryd ynghyd a phroblemau parcio. Byddai’r datblygiad yn ychwanegu at y broblem;
·
Ei fod yn gefnogol i fusnesau
lleol;
·
Ei fod yn erbyn y datblygiad
gan ei fod yn ei ystyried yn or-ddatblygiad ar safle
bach gan y byddai’r busnes yn gweithredu fel canolfan MOT a gwerthu ceir.
(c) Mewn
ymateb i sylwadau’r aelod lleol yng nghyswllt
rheolaeth traffig, nododd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod cryn drafodaethau wedi eu cynnal
yng nghyswllt problemau goryrru yn yr ardal
gyda gwelliannau wedi eu gwneud
ond gellir edrych ar ffyrdd
pellach i arafu traffig. Nodwyd na
fyddai’r bwriad yn golygu cynnydd
traffig i’r gwaeth.
Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Nododd yr
eilydd i’r cynnig, welliant i ddiwygio amod
7 i ‘gyfyngu
oriau gweithredu'r uned gwerthu ceir
i 08:00 - 19:00 pob diwrnod’ yn hytrach
na dan
18:00. Roedd y cynigydd yn derbyn y gwelliant.
Cadarnhaodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y dylai amod 8 yn yr
adroddiad nodi ‘Cyfyngu oriau
goleuo - dim goleuo rhwng 18:30 a 07:30’ yn hytrach na
07:70.
(ch)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Byddai llif traffig
yn cynyddu o ganlyniad i’r datblygiad
a dylid gosod amodau mwy caeth
pe caniateir y cais
·
Pryder o ran goryrru yn yr ardal;
·
Bod angen ystyried sylwadau’r aelod lleol a’r Cyngor
Tref;
·
Bod lleoliadau arall
mwy addas ar gyfer y datblygiad;
·
Ei fod yn
bwysig cefnogi busnes newydd;
·
Ei fod yn
safle delfrydol ar gyfer y busnes
teuluol sydd yn gweithredu yn
unol â safonau;
·
Bod yr ymgeisydd yn buddsoddi’n sylweddol ar y safle ac y byddai’r datblygiad yn creu
swyddi newydd;
·
Bod yr amodau amser yn galluogi
gwell rheolaeth o’r safle.
(d) Mewn
ymateb i sylwadau pellach gan aelodau parthed
rheolaeth traffig, nododd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth os ystyrir newid
rheolaeth traffig yn yr ardal
y byddai rhaid mynd trwy broses ymgynghori statudol. Ychwanegodd y byddai hyn yn
cynnwys trafodaethau efo’r aelod lleol.
PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i ymdrin â’r cynlluniau diwygiedig ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:
Amodau:
1. Amser 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Cytuno gorffeniad a lliw allanol.
4. Amodau Dŵr Cymru
5. Amodau Priffyrdd / Parcio (i'w cytuno)
6. Cyfyngu oriau gweithredu'r ganolfan MOT / adeilad trwsio cerbydau i 08:00 - 18:00 Llun i Gwener, 08:-13:00 Dydd Sadwrn, ar
gau Dydd Sul ac ar wyliau
banc
7. Cyfyngu oriau gweithredu'r uned gwerthu ceir
i 08:00 - 19:00 pob diwrnod
8. Cyfyngu oriau goleuo
- dim goleuo rhwng 18:30 a
07:30
Dogfennau ategol: