Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Linda Ann Wyn Jones, Peter Read, ac R H Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol yn Eitem 7  – Ymchwiliad Gweithwyr Gofal, Iechyd a Gofalwyr ond ni fyddai’n gadael y Siambr oni bai bod trafodaeth benodol ynghylch gofalwyr yn ystod trafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 282 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Medi 2016, fel rhai cywir. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Medi   2016. 

 

5.

ADRODDIAD GwE pdf eicon PDF 891 KB

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I dderbyn adroddiad gan GwE mewn ymateb i ymholiadau penodol gan y Pwyllgor Craffu. 

 

(Copi’n amgaeedig) 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Her a Chefnogaeth GwE yn ymateb i ymholiadau penodol gan aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y berthynas rhwng GwE a’r awdurdod yn hynod bwysig ac roedd yn ymfalchïo yn y gwaith a wneir drwy’r Sir ac yn y ffaith nad oedd ‘run ysgol yng Ngwynedd o fewn categori statudol Gwelliant Sylweddol/Mesurau Arbennig.  Gwelwyd cynnydd o 5% ym mherfformiad disgyblion o fewn trothwy TL2+ ac ers 2012 roedd y perfformiad wedi gwella 13.5% ers cychwyn y Cyngor hwn.  Eglurwyd bod gan GwE gynllun busnes ar draws rhanbarth y Gogledd  a bod gan y 6 awdurdod fanylebau  benodol.  Sefydlwyd Bwrdd Ansawdd Sirol lle mae swyddogion GwE a’r awdurdodau addysg yn trafod ysgolion unigol. 

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol ac fe dderbyniwyd ymateb iddynt fel a ganlyn:

 

(a)  Faint o staff ysgolion Gwynedd sydd ar secondiad gyda GwE ar hyn o bryd?

 

Nodwyd bod 1 Pennaeth ac 1 Dirprwy ar secondiad hefo GwE ac yn gweithredu yng Ngwynedd/Mon.  Eglurodd y Pennaeth Addysg bod hysbysebu am swyddi i GwE yn broses agored  ac oherwydd yr elfen ieithyddol a’r gofyn am ddwyieithrwydd, ‘roedd y swyddi yn ddeniadol i staff ysgolion Gwynedd. Ni ellir gwahardd staff rhag ymgeisio am swyddi ond ar hyn o bryd 'roedd y cydbwysedd yn eitha’ cyfartal.  Nid oedd yr awdurdod addysg yn awyddus i weld Penaethiaid yn symud  i weithio i GwE ond ar yr un pryd ei fod yn fodd o allu rhannu arbenigedd a bod hyn yn ei dro yn gallu bod yn werthfawr.  Y broblem a wynebai’r Sir ydoedd denu arweinwyr ysgolion a rhaid meithrin arweinwyr a sicrhau safonau gwydn i’r dyfodol. 

 

Cyfeiriwyd at enghraifft hanesyddol o golli Pennaeth Adran Mathemateg ac o’r herwydd bod y disgyblion yn dioddef, esboniodd y Pennaeth Addysg bod diffyg athrawon yn y pynciau craidd yn bryder ac yn deillio o gyfarfod gyda Grŵp y Sector Uwchradd yn ddiweddar penderfynwyd:

 

·         Cyd-benodi athrawon yn ganolog uwchben yr hyn sydd ei angen fel y gellir llenwi swyddi mewn achosion o absenoldebau salwch, absenoldebau mamolaeth, a.y.b.

·         Bod Grŵp o Benaethiaid Uwchradd yn cyd-drafod gyda Phrifysgol Bangor y math o raglen a ddymunir ar gyfer y dyfodol.  Trwy gyd-drafod a dechrau meithrin arbenigedd disgyblion yn y 6ed dosbarth efallai y byddai’n ymateb diffyg athrawon pynciol yn y tymor hir. 

 

(b)   A oes cynrychiolaeth o’r ysgolion yn gwasanaethu ar y Bwrdd Ansawdd Sirol?

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod y model cenedlaethol yn seiliedig ar ranbarthau wedi ei osod ar fframwaith penodol a threfniant llywodraethu.  Eglurwyd bod 6 Aelod Cabinet Addysg ar draws y Gogledd yn gwasanaethu ar Cydbwyllgor GwE sydd yn gosod cyfeiriad strategol i GwE a bod y cynllun busnes bellach gyda chydbwysedd yn agos i’w le ac fe welwyd hyn o’r canlyniadau diweddar.  Nodwyd bod y Bwrdd Ansawdd Sirol yn cyfarfod pob pythefnos i drafod ac adnabod ysgolion sydd angen cefnogaeth.

 

Mewn ymateb i honiadau bod capasiti GwE yn mynd i leihau, nid oedd y Pennaeth Addysg yn ymwybodol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DECHRAU I'R DIWEDD - GWASANAETH PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 235 KB

Aelod Cabinet: Y Cyng.  Mair Rowlands

 

 

I ystyried ymatebion i sylwadau aelodau o gyfarfod paratoi a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc mewn ymateb i gwestiynau penodol godwyd gan aelodau yn y cyfarfod paratoi ar 18 Hydref 2016.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau ofyn cwestiynau pellach i’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac fe ymatebodd fel a ganlyn:

           

(a)  Bod 15 o blant mewn gofal mewn unedau preswyl ac roedd y ffigwr yma yn sylweddol llai  nag sydd wedi bod yn y gorffennol.  Nodwyd bod y strategaeth o ran lleihau'r nifer o blant sydd yn mynd i leoliadau all sirol i dderbyn gofal mewn unedau preswyl yn weddol effeithiol.  Pwysleisiwyd bod rhai o’r achosion yn anorfod. 

 

(b)  Ei fod yn anodd rhagweld os fyddai’r ffigwr uchod yn cynyddu ond cadarnhawyd nad oedd dim achos arall o’r boblogaeth ar hyn o bryd sydd mewn gofal yn edrych am leoliad all-sirol.

 

(c)  Byddai'r Uned Egwyl fer sy’n atodol i Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth, yn cynnig darpariaeth i blant anabl sydd yng Ngwynedd ac mai’n debygol y bydd yn cyfrannu at gynyddu gallu’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd i gefnogi teuluoedd yn sylweddol.              

 

(ch)  O safbwynt cynlluniau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer ambell i sector penodol megis awtistiaeth, esboniwyd bod y mater wedi ei drafod yn y Grŵp Penaethiaid Plant rhanbarthol.  Cydnabuwyd bod carfan o blant yn syrthio rhwng dwy stôl yn sicr rhwng            y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd o ran ei anghenion, ond nid oedd awydd gan y Grŵp i fod yn       sefydlu darpariaeth isranbarthol neu ranbarthol.  Bwriad a blaenoriaeth y Penaethiaid ydoedd ceisio cefnogi’r plant yn eu cartrefi yn hytrach na sefydlu darpariaeth breswyl.

 

(d)          Mewn ymateb i’r ymholiad ynglyn a fyddai modd i’r awdurdod ddatblygu darpariaeth eu hun ar gyfer plant mewn gofal, eglurwyd mai barn y Gwasanaeth ydoedd ni ellir darparu ar gyfer pob angen yn sirol mewn Uned Breswyl.  Esboniwyd bod gofal ysbaid drwy rieni maeth yn cael ei ddarparu trwy’r gwasanaeth cefnogol ac yn ogystal bod modd i’r plant dderbyn cefnogaeth mewn gweithgareddau cymunedol.  Nodwyd bod Gweithwyr Cefnogol yn gweithio o fewn y Gwasanaeth sydd yn cynnig gwasanaeth i dros 300 o blant.   Strategaeth y Gwasanaeth ydoedd darparu ar gyfer plant a theuluoedd yn eu cartrefi.  O safbwynt y 15 plentyn a leolir yn all sirol, heblaw am 3 neu 4, nodwyd bod y plant yn destun gorchmynion llawn i’r awdurdod sy’n golygu bod angen eu symud er mwyn eu diogelu.

 

(e)          O safbwynt trefniadau craffu lleoliadau newydd, ymhelaethwyd nad oedd cost i’r drefn gan mai proses a sefydlwyd yn fewnol o fewn y Gwasanaeth ydoedd a elwir yn  Banel Craffu Lleoliadau sydd yn cael ei gynnal yn fisol.  Y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sydd yn cadeirio’r panel ac fe wahoddir yr uwch dim rheoli a’r rheolwyr y timau i’r panel i graffu’n fanwl ar achosion unigol gan roi sylw i:

           

·         A yw’r cynllun gofal yn addas i’r plentyn

·         Bod y plentyn yn y lleoliad cywir

·         Bod dim oedi o ran cynllunio ac y ceir gwerth am arian yn y lleoliad

·         Bod y lleoliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

YMCHWILIAD GWEITHWYR GOFAL, IECHYD A GOFALWYR pdf eicon PDF 211 KB

Aelod Cabinet:  Y Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd briff drafft ar gyfer ymchwiliad o ba mor effeithiol ydoedd trefniadau’r Cyngor ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl, a sut orau i gefnogi a chynyddu’r gweithlu nyrsio a gofal.

 

Gosododd y Rheolwr Aelodau a Chraffu'r cefndir gan dynnu sylw at y briff a’r nod o ateb y cwestiwn “pa mor gynaliadwy yw’r ddarpariaeth o ran gweithlu a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr di-dâl yng Ngwynedd heddiw ac i’r dyfodol”?  Roedd 7 aelod eisoes wedi datgan diddordeb i wasanaethu ar yr Ymchwiliad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Lles y bwriad ond mynegodd ychydig o bryder bod ystod y gwaith yn eang o ystyried amserlen weddill oes y Cyngor ac y byddai’n rhaid cadw ffocws os am gwblhau yr ymchwiliad o fewn yr amser sydd ar gael.

 

Nododd y Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant bod gwaith yn mynd rhagddo ar lefel rhanbarthol ac y gellir rhannu’r dystiolaeth a gasglir gyda’r ymchwiliad ym mis Ionawr.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, mynegodd sawl aelod bryder ynglyn a’r amserlen heriol ac y dylid penderfynu yntau cynnal ymchwiliad ar lefel strategol neu roi ffocws ar un ffrwd gwaith penodol o fewn y maes. Yn dilyn ystyriaeth o’r amserlen, awgrymwyd mai’r ffordd orau ymlaen fyddai cynnal ymchwiliad fyddai yn canolbwyntio ar ddarpariaeth i ofalwyr cefnogol a sut all y Cyngor helpu gofalwyr teuluol.  Nodwyd y gellir ehangu’r ymchwiliad ar lefel mwy strategol ar ddyfodiad y Cyngor newydd os y byddai cyfiawnhad y gallai hynny ychwanegu gwerth. Pwysleisiwyd yr angen i gael llais y defnyddiwr fel rhan o’r Ymchwiliad.

 

Penderfynwyd:          (a)        Cymeradwyo:

 

(i) i gynnal ymchwiliad gan ganolbwyntio ar faes penodol sef darpariaeth i ofalwyr cefnogol

(ii)bod yr aelodau canlynol yn gwasanaethu ar yr Ymchwiliad:

Y Cyng. Selwyn Griffiths, Siân Wyn Hughes, Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams, Ann Williams, Eirwyn Williams ac R H Wyn Williams  

 

                                                (b)     Gofyn i’r Rheolwr Aelodau a Chraffu ail-lunio’r briff, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet a Phennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant, gan fwrw ymlaen yn ddi-oed yn wyneb yr amserlen heriol.

 

 

8.

YMCHWILIAD CRAFFU ALLTWEN pdf eicon PDF 198 KB

Aelod Cabinet: Y Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad terfynol Ymchwiliad Craffu Alltwen.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft yr Ymchwiliad Craffu Alltwen a oedd yn amlinellu gwaith yr Ymchwiliad ynghyd ag argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles er gweithrediad pellach.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd yr Ymchwiliad, cymerodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths y cyfle i ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith clodwiw ac yn arbennig hefyd i’r rhai a restrwyd ar dudalen 51 o’r adroddiad, yn ogystal â Gareth James (Rheolwr Aelodau Craffu) a Bethan Adams (Swyddog Cefnogi Aelodau).  Tynnodd sylw’r Aelod Cabinet at yr argymhellion ac yn benodol gofyn iddo sicrhau gwasanaeth derbynnydd i ateb ffôn yn ystod oriau gwaith craidd y tim integredig yn Ysbyty Alltwen 

 

Ategodd yr Aelod Cabinet y diolchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr Ymchwiliad a thalodd deyrnged a llongyfarch staff y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol am y cynllun arloesol hwn gyda’r canlyniadau wedi bod yn werthfawr tu hwnt.   ‘Roedd yn croesawu ac yn derbyn yr argymhellion, yn enwedig yr argymhelliad i ymestyn y model gweithio’n integredig i weddill y Sir gan ei fod o’r farn mai dyma’r ffordd i weithio i’r dyfodol.  Roedd rhai o’r argymhellion yn rhai gweithredol ac roedd nifer o elfennau gwaith i ddelio â’r materion yma eisoes ar y gweill a/neu yn eu lle yn barod.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol:

 

(a)  derbyniwyd eglurhad o’r term powlen pysgodyn gan nodi mai cyfarfod aml-asiantaethol ydoedd ac iddo strwythur penodol a oedd yn cynnwys nyrs a ffisiotherapydd, ac yn fodd gwerthfawr i ystyried datrysiadau.  Fodd bynnag, nid oedd modd ei gynnal gyda phob achos oherwydd dibyniaeth ar amserlen.

(b)  Er mwyn i argymhelliad 4.1 lwyddo, pwysleisiwyd yr angen i gael un system gyfrifiadurol er mwyn cofnodi manylion cleifion fel bo staff y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu cael mynediad i’r un system.

(c)  Gofynnwyd a oedd bwriad i gael barn defnyddwyr y gwasanaeth fel atodiad i’r adroddiad?

(d)  Mewn ymateb i’r uchod, roedd y Tîm Alltwen yn casglu gwybodaeth ac yn ei nodi ar system RAISE.  Hefyd, mae’r drefn wedi ei seilio ar gael  sgwrs wyneb yn wyneb gyda’r defnyddwyr ac fe fyddir yn casglu barn defnyddwyr pan yn cynnal adolygiadau gyda phawb.

(e)  Gofynnwyd beth oedd ymateb y Bwrdd Iechyd ac yn benodol  a oedd yr Uwch Reolwyr  yn gefnogol?

(f)   Mewn ymateb, nodwyd eu bod yn gefnogol iawn a rhestrodd Cyfarwyddwr Rhanbarth y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wobrwyon a ddaeth i ran staff  rhanbarth y Gorllewin ac ymysg oddeutu 50 o wobrwyon braf ydoedd nodi'r  buddugwyr isod:         

·         Tîm Ffordd Gwynedd - Gwobr am Ffurf Newydd o Weithio

·         Ysbyty Alltwen – Gwobr gwaith gyda Dementia

·         Ysbyty Dolgellau – Gwobr Rhoi Arfer Dda i bractis

·         Fferyllfa Ysbyty Gwynedd – Gwobr Gweithio’n Ddwyieithog

·         Prif Weinyddes Nyrsio Ward y Plant Ysbyty Gwynedd – Gwobr Arweinyddiaeth

(g)  Gwelir llawer o nyrsys yn cymryd nodiadau wrth ymweld â chleifion ac yn gorfod bwydo’r wybodaeth i gyfrifiadur wedi hynny - a oedd unrhyw symudiad i newid y dull hwn o weithio?

(h)  Mewn ymateb, nododd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.