Agenda item

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I dderbyn adroddiad gan GwE mewn ymateb i ymholiadau penodol gan y Pwyllgor Craffu. 

 

(Copi’n amgaeedig) 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Her a Chefnogaeth GwE yn ymateb i ymholiadau penodol gan aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y berthynas rhwng GwE a’r awdurdod yn hynod bwysig ac roedd yn ymfalchïo yn y gwaith a wneir drwy’r Sir ac yn y ffaith nad oedd ‘run ysgol yng Ngwynedd o fewn categori statudol Gwelliant Sylweddol/Mesurau Arbennig.  Gwelwyd cynnydd o 5% ym mherfformiad disgyblion o fewn trothwy TL2+ ac ers 2012 roedd y perfformiad wedi gwella 13.5% ers cychwyn y Cyngor hwn.  Eglurwyd bod gan GwE gynllun busnes ar draws rhanbarth y Gogledd  a bod gan y 6 awdurdod fanylebau  benodol.  Sefydlwyd Bwrdd Ansawdd Sirol lle mae swyddogion GwE a’r awdurdodau addysg yn trafod ysgolion unigol. 

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol ac fe dderbyniwyd ymateb iddynt fel a ganlyn:

 

(a)  Faint o staff ysgolion Gwynedd sydd ar secondiad gyda GwE ar hyn o bryd?

 

Nodwyd bod 1 Pennaeth ac 1 Dirprwy ar secondiad hefo GwE ac yn gweithredu yng Ngwynedd/Mon.  Eglurodd y Pennaeth Addysg bod hysbysebu am swyddi i GwE yn broses agored  ac oherwydd yr elfen ieithyddol a’r gofyn am ddwyieithrwydd, ‘roedd y swyddi yn ddeniadol i staff ysgolion Gwynedd. Ni ellir gwahardd staff rhag ymgeisio am swyddi ond ar hyn o bryd 'roedd y cydbwysedd yn eitha’ cyfartal.  Nid oedd yr awdurdod addysg yn awyddus i weld Penaethiaid yn symud  i weithio i GwE ond ar yr un pryd ei fod yn fodd o allu rhannu arbenigedd a bod hyn yn ei dro yn gallu bod yn werthfawr.  Y broblem a wynebai’r Sir ydoedd denu arweinwyr ysgolion a rhaid meithrin arweinwyr a sicrhau safonau gwydn i’r dyfodol. 

 

Cyfeiriwyd at enghraifft hanesyddol o golli Pennaeth Adran Mathemateg ac o’r herwydd bod y disgyblion yn dioddef, esboniodd y Pennaeth Addysg bod diffyg athrawon yn y pynciau craidd yn bryder ac yn deillio o gyfarfod gyda Grŵp y Sector Uwchradd yn ddiweddar penderfynwyd:

 

·         Cyd-benodi athrawon yn ganolog uwchben yr hyn sydd ei angen fel y gellir llenwi swyddi mewn achosion o absenoldebau salwch, absenoldebau mamolaeth, a.y.b.

·         Bod Grŵp o Benaethiaid Uwchradd yn cyd-drafod gyda Phrifysgol Bangor y math o raglen a ddymunir ar gyfer y dyfodol.  Trwy gyd-drafod a dechrau meithrin arbenigedd disgyblion yn y 6ed dosbarth efallai y byddai’n ymateb diffyg athrawon pynciol yn y tymor hir. 

 

(b)   A oes cynrychiolaeth o’r ysgolion yn gwasanaethu ar y Bwrdd Ansawdd Sirol?

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod y model cenedlaethol yn seiliedig ar ranbarthau wedi ei osod ar fframwaith penodol a threfniant llywodraethu.  Eglurwyd bod 6 Aelod Cabinet Addysg ar draws y Gogledd yn gwasanaethu ar Cydbwyllgor GwE sydd yn gosod cyfeiriad strategol i GwE a bod y cynllun busnes bellach gyda chydbwysedd yn agos i’w le ac fe welwyd hyn o’r canlyniadau diweddar.  Nodwyd bod y Bwrdd Ansawdd Sirol yn cyfarfod pob pythefnos i drafod ac adnabod ysgolion sydd angen cefnogaeth.

 

Mewn ymateb i honiadau bod capasiti GwE yn mynd i leihau, nid oedd y Pennaeth Addysg yn ymwybodol o hyn, roedd o’r farn bod y staffio yn sefydlog.  Fodd bynnag nodwyd bod grantiau yn cael eu torri yn gyson gan Lywodraeth Cymru ac nad yw yn glir beth fydd y setliad o safbwynt y grantiau.

 

(c)             Croesawyd y ffaith bod cytundeb bellach na ystyrir secondiadau cyn trafod yn gyntaf gyda’r awdurdod beth fyddai goblygiadau ac effaith apwyntiadau ar sefyllfa ysgol unigol.  Fodd bynnag, teimlai Aelod y dylai hyn fod wedi digwydd eisoes a chyfeiriwyd yn benodol at bedwar Pennaeth medrus wedi eu colli i GwE dros y misoedd diwethaf o fewn ei Ward.  Teimlwyd bod yn ofynnol cynnal golwg craff iawn ar waith Gwe a gofynnwyd a oedd yn cynnig gwerth am arian? 

 

O safbwynt atebolrwydd, nododd y Pennaeth Addysg bod GwE yn atebol i’r Aelod Cabinet Addysg ac mai gwaith y Pwyllgor Craffu ydoedd sicrhau bod plant Gwynedd yn cael y gorau o’r gwasanaeth.  Rhaid cofio bod y model yn aeddfedu a’i fod yn cymryd amser i ymddiried mewn unrhyw endid newydd.  Sicrhawyd bod Gwynedd yn cael gwerth am arian o’r gwasanaeth gan GwE.

 

Awgrymwyd ymhellach gan y Pennaeth Addysg y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor Craffu pe byddai yn cynnal sesiwn ar wahân iddynt ar drefniadaeth GwE yn ei gyfanrwydd.

 

(d)  Faint sydd yn gweithio yn GwE?

 

Nododd yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE bod y tîm craidd o’r cynllun busnes yn cyllido oddeutu 30 Ymgynghorydd Her ar draws y rhanbarth sy’n gweithio gydag 465 o ysgolion cynradd ac uwchradd. Nodwyd bod unigolion ychwanegol sydd yn cyfrannu at agweddau o’r gwaith yn cael eu cyllido gan grantiau o Lywodraeth Cymru ac yn aml grantiau tymor byr oeddynt yn arwain ar flaenoriaethau penodol. 

 

(ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r cyfraniad cyllidol i GwE, nododd Uwch Ymgyngorydd Her GwE bod y fformwila yn seiliedig ar yr IBA h.y. ar niferoedd disgyblion cynradd, uwchradd, a dysgwyr sydd a hawl i brydau ysgol am ddim a bod pwysiad  penodol i’r grwpiau uchod yn y gwahanol oedran.

 

(e)    Beth yw gwerth y model ysgol i ysgol?

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg bod y model uchod yn syniad cenedlaethol ar gyfer ysgolion i adnabod eu cryfderau eu hunan.  

 

Ymhelaethodd yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE ar drefniadau’r model ysgol i ysgol gan nodi bod y rhaglen yn seiliedig ar 3 model:

 

(i)            Grŵp Ysgolion sydd yn y categori melyngoch / coch lle cynhelir y gweithrediad dwysaf gyda chynllun cymorth i bob un ysgol a’r Ymgynghorydd Her GwE yn ganolog i’r daith o wella safonau addysg ysgol. Mae’r model wedi arwain at  welliannau sylweddol.

 

(ii)           Grŵp Ysgolion sydd yn y categori melyn - lle mae ysgolion yn parhau ar y daith gwella hefo ffocws i ddatblygu gwell gwydnwch i ansawdd arweinyddiaeth yn yr ysgol.  Mae presenoldeb Ymgynghorydd Her yn llai o ran gweithredu ond fe geir  hyd at 10 diwrnod ychwanegol o gefnogaeth. Yn y categori hwn gwelir ysgolion sydd ag anghenion cyffredin yn dod at ei gilydd ac yn cydweithio.

 

(iii)          Grŵp Ysgolion Gwyrdd (neu felyn cadarn) - lle mae ysgolion yn cael rhyddid ac annibyniaeth i arwain agenda eu hunain.  Pan sefydlwyd y model yn wreiddiol  diffiniwyd  rôl Penaethiaid yng nghyd-destun rôl yr Ymgynghorydd Her a gofyn i Benaethiaid gyd-herio cymeriad  a chymryd cyfrifoldeb o waith categoreiddio’r ysgolion unigol sef proses oeddynt yn wneud i’w gilydd.  Fodd bynnag  roedd Penaethiaid yn teimlo’n anghyfforddus gyda’r drefn a thrwy broses o ymgynghori fe dynnwyd y gofyn hyn oddi wrthynt, a bellach roedd y model yn gosod yr Ymgynghorydd Her yn fwy canolog iddynt.  Gwelwyd dros y flwyddyn bod yr ysgolion wedi eu gosod o fewn teuluoedd a chynhaliwyd cyfres o weithgareddau, hyfforddiant a sesiynau cyd-ddatblygu o fewn y teuluoedd ac maent wedi arloesi ar sawl agwedd gan greu cyfundrefn hunan wella.  Gwelwyd  lefel uwch o aeddfedrwydd mewn ysgolion a chynnydd yn y nifer o ysgolion yn yr haen yma sy’n tystiolaethu i effeithiolrwydd y model.  Fodd bynnag parheir i esblygu’r model.

 

Estynnodd yr Uwch Ymgynghorydd gwahoddiad i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn gysgodi Ymgynghorwyr Her GwE er mwyn i aelodau ddyfnhau eu dealltwriaeth o’u gwaith a’r trefniadau.

 

(f)            O ran ddisgyblion sydd ddim yn derbyn addysg mewn ysgolion oherwydd nifer o resymau megis anawsterau emosiynol, salwch, a.y.b.  eglurodd y Pennaeth Addysg bod Bwrdd penodol wedi ei sefydlu yn lleol i ganolbwyntio ar y plant hyn i sicrhau eu bod yn derbyn yr hawl a haeddiant i addysg gyflawn ac sydd yn arwain at gymhwyster.  Rhaid cofio bod diogelwch y plant yn hanfodol ac fe fyddir yn monitro’r canlyniadau. 

 

(ff)  O safbwynt un ysgol sydd wedi ei dyfarnu yn “Rhagorol” yn dilyn arolwg ESTYN ond eto mewn categori monitro awdurdod, esboniwyd oherwydd gweithdrefnau a fframwaith arolygu ESTYN ynglŷn á phresenoldeb disgyblion gosodwyd yr ysgol  yn yr hanner isaf a dyna’r rheswm pam bu’n rhaid monitro.

 

(g)   Beth yw natur a statws y rhaglen o gefnogaeth fydd yn adnabod arweinwyr y dyfodol?

 

Eglurodd yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE bod gwaith wedi cychwyn i adnabod arweinwyr canol cyfredol gyda photensial i fod yn Benaethiaid effeithiol a bellach bod rhaglen ddatblygu gyflawn yn ei lle ac yn cael ei weithredu. Pan fydd cyfleoedd yn codi i’r unigolion yntau i fod yn ysgwyddo rôl fel Pennaeth Gweithredol neu Bennaeth mewn gofal nodwyd bod rhaglen i’w cefnogi nhw fel eu bod yn gallu ymgymryd â’r dasg yn y tymor byr ac fe ellir teilwro’r rhaglen  i anghenion y Pennaeth. 

 

(h)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â yw ysgolion yn  gwbl barod am arolygiadau?

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg bod Penaethiaid wedi mynychu hyfforddiant oddeutu blwyddyn yn ôl ac wedi eu trwytho ynglyn a chynlluniau datblygu ysgolion, hunan arfarniadau, tracio disgyblion a bod yr Ymgynghorwyr Her Gwe wedi dilyn y materion hyn i fyny ac fe welwyd ei fod wedi  dwyn ffrwyth. Sicrhaodd y Pennaeth Addysg ei fod yn herio yn rheolaidd ac o’r farn bod bron pob un o’r ysgolion yn agos o fod yn barod am arolwg. 

 

(e)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhannu ei ddyletswyddau rhwng y Sir a GwE, argyhoeddodd y Pennaeth Addysg y Pwyllgor mai ei brif ddyletswydd ydoedd cadw golwg ar safonau addysg ysgolion Gwynedd ac o ran y secondiad i GwE bod ganddo waith i’w gyflawni o’r hyn sydd yn effeithiol ac angen newid o fewn y rhanbarth.        

 

 

Penderfynwyd:          (a)  Derbyn, nodi a diolch am yr ymatebion i ymholiadau penodol y Pwyllgor.

 

                                    (b)       Cymeradwyo i’r awgrymiadau wnaed sef:

 

(i)    Gwahodd y Pennaeth Addysg i esbonio trefn llywodraethu GwE i’r Pwyllgor Craffu mewn sesiwn i’w drefnu ar wahan

(ii) Bod yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE, mewn ymgynghoriad gyda’r Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol, yn gwahodd aelodau i gysgodi Ymgynghorwyr Her GwE iddynt ehangu eu dealltwriaeth o waith GwE

 

                                                (c)      Bod y Pennaeth Addysg, yn dilyn ei secondiad i Gwe,  yn cyflwyno asesiad o’i ganfyddiadau ar gryfderau a gwendidau o drefniadau presennol GwE i sicrhau trefniadau hyfyw a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.    

 

 

Dogfennau ategol: