Agenda item

Aelod Cabinet: Y Cyng.  Mair Rowlands

 

 

I ystyried ymatebion i sylwadau aelodau o gyfarfod paratoi a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc mewn ymateb i gwestiynau penodol godwyd gan aelodau yn y cyfarfod paratoi ar 18 Hydref 2016.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau ofyn cwestiynau pellach i’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac fe ymatebodd fel a ganlyn:

           

(a)  Bod 15 o blant mewn gofal mewn unedau preswyl ac roedd y ffigwr yma yn sylweddol llai  nag sydd wedi bod yn y gorffennol.  Nodwyd bod y strategaeth o ran lleihau'r nifer o blant sydd yn mynd i leoliadau all sirol i dderbyn gofal mewn unedau preswyl yn weddol effeithiol.  Pwysleisiwyd bod rhai o’r achosion yn anorfod. 

 

(b)  Ei fod yn anodd rhagweld os fyddai’r ffigwr uchod yn cynyddu ond cadarnhawyd nad oedd dim achos arall o’r boblogaeth ar hyn o bryd sydd mewn gofal yn edrych am leoliad all-sirol.

 

(c)  Byddai'r Uned Egwyl fer sy’n atodol i Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth, yn cynnig darpariaeth i blant anabl sydd yng Ngwynedd ac mai’n debygol y bydd yn cyfrannu at gynyddu gallu’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd i gefnogi teuluoedd yn sylweddol.              

 

(ch)  O safbwynt cynlluniau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer ambell i sector penodol megis awtistiaeth, esboniwyd bod y mater wedi ei drafod yn y Grŵp Penaethiaid Plant rhanbarthol.  Cydnabuwyd bod carfan o blant yn syrthio rhwng dwy stôl yn sicr rhwng            y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd o ran ei anghenion, ond nid oedd awydd gan y Grŵp i fod yn       sefydlu darpariaeth isranbarthol neu ranbarthol.  Bwriad a blaenoriaeth y Penaethiaid ydoedd ceisio cefnogi’r plant yn eu cartrefi yn hytrach na sefydlu darpariaeth breswyl.

 

(d)          Mewn ymateb i’r ymholiad ynglyn a fyddai modd i’r awdurdod ddatblygu darpariaeth eu hun ar gyfer plant mewn gofal, eglurwyd mai barn y Gwasanaeth ydoedd ni ellir darparu ar gyfer pob angen yn sirol mewn Uned Breswyl.  Esboniwyd bod gofal ysbaid drwy rieni maeth yn cael ei ddarparu trwy’r gwasanaeth cefnogol ac yn ogystal bod modd i’r plant dderbyn cefnogaeth mewn gweithgareddau cymunedol.  Nodwyd bod Gweithwyr Cefnogol yn gweithio o fewn y Gwasanaeth sydd yn cynnig gwasanaeth i dros 300 o blant.   Strategaeth y Gwasanaeth ydoedd darparu ar gyfer plant a theuluoedd yn eu cartrefi.  O safbwynt y 15 plentyn a leolir yn all sirol, heblaw am 3 neu 4, nodwyd bod y plant yn destun gorchmynion llawn i’r awdurdod sy’n golygu bod angen eu symud er mwyn eu diogelu.

 

(e)          O safbwynt trefniadau craffu lleoliadau newydd, ymhelaethwyd nad oedd cost i’r drefn gan mai proses a sefydlwyd yn fewnol o fewn y Gwasanaeth ydoedd a elwir yn  Banel Craffu Lleoliadau sydd yn cael ei gynnal yn fisol.  Y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sydd yn cadeirio’r panel ac fe wahoddir yr uwch dim rheoli a’r rheolwyr y timau i’r panel i graffu’n fanwl ar achosion unigol gan roi sylw i:

           

·         A yw’r cynllun gofal yn addas i’r plentyn

·         Bod y plentyn yn y lleoliad cywir

·         Bod dim oedi o ran cynllunio ac y ceir gwerth am arian yn y lleoliad

·         Bod y lleoliad yn diwallu anghenion y plentyn

·         Achosion gorchmynion gofal sydd wedi eu lleoli adref hefo’r rhieni sef edrych ar ddiogelwch

·         Gofal gwirfoddolwyr lle mae rhieni yn gofyn i’r Gwasanaeth gymryd plant i’w gofal 

 

Nodwyd bod y Tîm Trothwy yn allweddol ar gyfer y broses uchod  a bod y gwaith  yn llwyddiannus iawn.  Pwysleisiwyd ei fod yn allweddol i’r Gwasanaeth  ddychwelyd plentyn i’w rhieni o fewn yr 8 wythnos gyntaf gan fo ymchwil yn dangos eu bod yn well i’r plant a chanlyniadau i deuluoedd yn well.

 

Fel Pennaeth yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd,  ‘roedd yn hyderus bod y plant sydd mewn gofal angen bod mewn gofal.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.   

 

Dogfennau ategol: