Aelod Cabinet: Y Cyng. W. Gareth Roberts
I ystyried adroddiad terfynol Ymchwiliad Craffu Alltwen.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft yr Ymchwiliad Craffu Alltwen a oedd
yn amlinellu gwaith yr Ymchwiliad ynghyd ag argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles er gweithrediad pellach.
Yn absenoldeb Cadeirydd yr Ymchwiliad, cymerodd y Cynghorydd Selwyn
Griffiths y cyfle i ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith clodwiw ac yn
arbennig hefyd i’r rhai a restrwyd ar dudalen 51 o’r adroddiad, yn ogystal â
Gareth James (Rheolwr Aelodau Craffu) a Bethan Adams (Swyddog Cefnogi
Aelodau). Tynnodd sylw’r Aelod Cabinet at
yr argymhellion ac yn benodol gofyn iddo sicrhau gwasanaeth derbynnydd i ateb
ffôn yn ystod oriau gwaith craidd y tim integredig yn
Ysbyty Alltwen
Ategodd yr Aelod Cabinet y diolchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr
Ymchwiliad a thalodd deyrnged a llongyfarch staff y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod
lleol am y cynllun arloesol hwn gyda’r canlyniadau wedi bod yn werthfawr tu
hwnt. ‘Roedd yn croesawu ac yn derbyn
yr argymhellion, yn enwedig yr argymhelliad i ymestyn y model gweithio’n
integredig i weddill y Sir gan ei fod o’r farn mai dyma’r ffordd i weithio i’r dyfodol. Roedd rhai o’r argymhellion yn rhai
gweithredol ac roedd nifer o elfennau gwaith i ddelio â’r
materion yma eisoes ar y gweill a/neu yn eu lle yn barod.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol:
(a)
derbyniwyd eglurhad o’r
term powlen pysgodyn gan nodi mai cyfarfod aml-asiantaethol
ydoedd ac iddo strwythur penodol a oedd yn cynnwys nyrs a ffisiotherapydd, ac
yn fodd gwerthfawr i ystyried datrysiadau.
Fodd bynnag, nid oedd modd ei gynnal gyda phob achos oherwydd dibyniaeth
ar amserlen.
(b)
Er mwyn i argymhelliad
4.1 lwyddo, pwysleisiwyd yr angen i gael un system gyfrifiadurol er mwyn
cofnodi manylion cleifion fel bo staff y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gallu cael mynediad i’r un system.
(c)
Gofynnwyd a oedd bwriad
i gael barn defnyddwyr y gwasanaeth fel atodiad i’r adroddiad?
(d)
Mewn ymateb i’r uchod,
roedd y Tîm Alltwen yn casglu gwybodaeth ac yn ei nodi ar system RAISE. Hefyd, mae’r drefn wedi ei seilio ar
gael sgwrs wyneb yn wyneb gyda’r
defnyddwyr ac fe fyddir yn casglu barn defnyddwyr pan yn cynnal adolygiadau
gyda phawb.
(e)
Gofynnwyd beth oedd
ymateb y Bwrdd Iechyd ac yn benodol a
oedd yr Uwch Reolwyr yn gefnogol?
(f)
Mewn ymateb, nodwyd eu
bod yn gefnogol iawn a rhestrodd Cyfarwyddwr Rhanbarth y Gorllewin, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wobrwyon a ddaeth i ran staff rhanbarth y Gorllewin ac ymysg oddeutu 50 o
wobrwyon braf ydoedd nodi'r buddugwyr
isod:
·
Tîm Ffordd Gwynedd -
Gwobr am Ffurf Newydd o Weithio
·
Ysbyty Alltwen – Gwobr
gwaith gyda Dementia
·
Ysbyty Dolgellau – Gwobr
Rhoi Arfer Dda i bractis
·
Fferyllfa Ysbyty Gwynedd
– Gwobr Gweithio’n Ddwyieithog
·
Prif Weinyddes Nyrsio
Ward y Plant Ysbyty Gwynedd – Gwobr Arweinyddiaeth
(g)
Gwelir llawer o nyrsys
yn cymryd nodiadau wrth ymweld â chleifion ac yn gorfod bwydo’r wybodaeth i
gyfrifiadur wedi hynny - a oedd unrhyw symudiad i newid y dull hwn o weithio?
(h) Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Ardal, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant tra’n derbyn bod nyrsys yn parhau i
ddefnyddio dyddiaduron ar gyfer cymryd nodiadau bod disgwyl yn eiddgar am
system newydd all wneud cyfraniad pwysig i leihau hyn.
(i) Ers misoedd lawer bellach bod canmoliaeth enfawr i weithio integredig
fel y gweithredir yn Ysbyty Alltwen a gofynnwyd be all y Cyngor wneud i symud y
dull hwn ymlaen?
(j)
Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant bod canlyniad gwaith yr Ymchwiliad
yn gymorth i’r Adran ac yn cynnig y math o gefnogaeth sydd ei angen i godi
momentwm o’i ehangu. Pan mae rhwystrau penodol yn codi, yn naturiol mae gan y
Rheolwr Ardal, Adran Oedolion Iechyd a Llesiant eu cyfrifoldebau, ynghyd â’r Uwch Reolwr a Phennaeth yr Adran a chyfeirir rhai
materion at yr Aelod Cabinet. Os oes
elfennau penodol i gael penderfyniad gwleidyddol, sicrhawyd y byddir yn eu codi
gydag Aelodau.
(k)
Ategwyd a phwysleisiwyd
yr angen i gyflogi derbynnydd a phryderwyd y byddai gwaith caled yr Ymchwiliad
a’r Tîm yn cael ei danseilio.
(l)
Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ei fod yn deall pam y gwneir y sylw
ac wrth gwrs rhaid bod yn ofalus i beidio colli galwadau. Fodd bynnag, o’r ochr rheolaethol, bod angen
edrych ar y darlun ehangach a’r adnoddau sydd angen o ran y dull newydd o
weithio, cyn ymrwymo i hyn yn barhaol.
Sicrhawyd y byddir yn rhoi sylw i’r mater.
(m)
Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â gwelyau preswyl (EMI), nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant bod bwriad i ymgymryd â darn o waith yn y cyswllt hwn. Rhaid gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar
gael a cheisio sicrhau bod y sector breifat yn gynaliadwy oherwydd treulir
llawer iawn o amser y staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio
cynorthwyo rhai o’r cartrefi. Nodwyd bod
y sefyllfa yn un anodd ar hyn o bryd ac fe fyddai’n angenrheidiol ystyried be
ellir gwneud o ran y defnydd gorau o’r stoc cartrefi sydd ym meddiant y
Cyngor. Nodwyd bod y gwir bwysau yn
ymwneud ag elfennau nyrsio yn hytrach nag elfennau preswyl. Byddai’n ofynnol edrych yn wrthrychol i
newid y cydbwysedd o fewn y cartrefi ac addasu’r ddarpariaeth ar draws y
Sir.
(n)
Mewn ymateb i ymholiad a
oedd hyn felly yn golygu cofrestriad deublyg (dual registration), eglurodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant y byddai’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol gydweithio i geisio darparu gwasanaeth ychydig mwy dwys nag a ddarperir
yn y cartrefi presennol. Byddai hyn yn
golygu addasu cofrestriadau y cartrefi.
Nododd Cyfarwyddwr Rhanbarth y
Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhellach bod AGGCC yn
nodi’n glir bod yn rhaid cael nyrs ar alwad o fewn y cartrefi. Ond bod gwaith yn mynd rhagddo gan y Bwrdd
Iechyd a’r awdurdod lleol i ystyried model ychydig yn wahanol o sut i gael
cyswllt agos rhwng y ddarpariaeth iechyd ar lefel lleol a darpariaeth gofal yn y cartref ar gyfer
cleifion dwys i osgoi iddynt orfod teithio yn bell i dderbyn gwasanaeth. Yn ogystal, rhaid ysytried
y math o ofalwyr ac yn benodol y llwybr gyrfa ar gyfer dyrchafu gofalwyr i fod yn nyrsys.
Penderfynwyd: Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion,
Iechyd a Llesiant dderbyn argymhellion yr Ymchwiliad Craffu fel amlinellir ym
mhwyntiau 4.1 – 4.10 o’r adroddiad ac i
gyflwyno diweddariad o’r camau gweithredu ynghyd ag adborth gan y defnyddwyr o effaith y model
gweithio integredig i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu
hwn ymhen 6 mis.
Dogfennau ategol: