Agenda item

Aelod Cabinet: Y Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad terfynol Ymchwiliad Craffu Alltwen.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft yr Ymchwiliad Craffu Alltwen a oedd yn amlinellu gwaith yr Ymchwiliad ynghyd ag argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles er gweithrediad pellach.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd yr Ymchwiliad, cymerodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths y cyfle i ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith clodwiw ac yn arbennig hefyd i’r rhai a restrwyd ar dudalen 51 o’r adroddiad, yn ogystal â Gareth James (Rheolwr Aelodau Craffu) a Bethan Adams (Swyddog Cefnogi Aelodau).  Tynnodd sylw’r Aelod Cabinet at yr argymhellion ac yn benodol gofyn iddo sicrhau gwasanaeth derbynnydd i ateb ffôn yn ystod oriau gwaith craidd y tim integredig yn Ysbyty Alltwen 

 

Ategodd yr Aelod Cabinet y diolchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr Ymchwiliad a thalodd deyrnged a llongyfarch staff y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol am y cynllun arloesol hwn gyda’r canlyniadau wedi bod yn werthfawr tu hwnt.   ‘Roedd yn croesawu ac yn derbyn yr argymhellion, yn enwedig yr argymhelliad i ymestyn y model gweithio’n integredig i weddill y Sir gan ei fod o’r farn mai dyma’r ffordd i weithio i’r dyfodol.  Roedd rhai o’r argymhellion yn rhai gweithredol ac roedd nifer o elfennau gwaith i ddelio â’r materion yma eisoes ar y gweill a/neu yn eu lle yn barod.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol:

 

(a)  derbyniwyd eglurhad o’r term powlen pysgodyn gan nodi mai cyfarfod aml-asiantaethol ydoedd ac iddo strwythur penodol a oedd yn cynnwys nyrs a ffisiotherapydd, ac yn fodd gwerthfawr i ystyried datrysiadau.  Fodd bynnag, nid oedd modd ei gynnal gyda phob achos oherwydd dibyniaeth ar amserlen.

(b)  Er mwyn i argymhelliad 4.1 lwyddo, pwysleisiwyd yr angen i gael un system gyfrifiadurol er mwyn cofnodi manylion cleifion fel bo staff y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu cael mynediad i’r un system.

(c)  Gofynnwyd a oedd bwriad i gael barn defnyddwyr y gwasanaeth fel atodiad i’r adroddiad?

(d)  Mewn ymateb i’r uchod, roedd y Tîm Alltwen yn casglu gwybodaeth ac yn ei nodi ar system RAISE.  Hefyd, mae’r drefn wedi ei seilio ar gael  sgwrs wyneb yn wyneb gyda’r defnyddwyr ac fe fyddir yn casglu barn defnyddwyr pan yn cynnal adolygiadau gyda phawb.

(e)  Gofynnwyd beth oedd ymateb y Bwrdd Iechyd ac yn benodol  a oedd yr Uwch Reolwyr  yn gefnogol?

(f)   Mewn ymateb, nodwyd eu bod yn gefnogol iawn a rhestrodd Cyfarwyddwr Rhanbarth y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wobrwyon a ddaeth i ran staff  rhanbarth y Gorllewin ac ymysg oddeutu 50 o wobrwyon braf ydoedd nodi'r  buddugwyr isod:         

·         Tîm Ffordd Gwynedd - Gwobr am Ffurf Newydd o Weithio

·         Ysbyty Alltwen – Gwobr gwaith gyda Dementia

·         Ysbyty Dolgellau – Gwobr Rhoi Arfer Dda i bractis

·         Fferyllfa Ysbyty Gwynedd – Gwobr Gweithio’n Ddwyieithog

·         Prif Weinyddes Nyrsio Ward y Plant Ysbyty Gwynedd – Gwobr Arweinyddiaeth

(g)  Gwelir llawer o nyrsys yn cymryd nodiadau wrth ymweld â chleifion ac yn gorfod bwydo’r wybodaeth i gyfrifiadur wedi hynny - a oedd unrhyw symudiad i newid y dull hwn o weithio?

(h)  Mewn ymateb, nododd y  Rheolwr Ardal, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant tra’n derbyn bod nyrsys yn parhau i ddefnyddio dyddiaduron ar gyfer cymryd nodiadau bod disgwyl yn eiddgar am system newydd all wneud cyfraniad pwysig i leihau hyn.

(i)    Ers misoedd lawer bellach bod canmoliaeth enfawr i weithio integredig fel y gweithredir yn Ysbyty Alltwen a gofynnwyd be all y Cyngor wneud i symud y dull hwn ymlaen?

(j)    Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant bod canlyniad  gwaith yr Ymchwiliad yn gymorth i’r Adran ac yn cynnig y math o gefnogaeth sydd ei angen i godi momentwm o’i ehangu. Pan mae rhwystrau penodol yn codi, yn naturiol mae gan y Rheolwr Ardal, Adran Oedolion Iechyd a Llesiant eu cyfrifoldebau, ynghyd â’r Uwch Reolwr a Phennaeth yr Adran a chyfeirir rhai materion at yr Aelod Cabinet.  Os oes elfennau penodol i gael penderfyniad gwleidyddol, sicrhawyd y byddir yn eu codi gydag Aelodau.

(k)  Ategwyd a phwysleisiwyd yr angen i gyflogi derbynnydd a phryderwyd y byddai gwaith caled yr Ymchwiliad a’r Tîm yn cael ei danseilio.

(l)    Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ei fod yn deall pam y gwneir y sylw ac wrth gwrs rhaid bod yn ofalus i beidio colli galwadau.  Fodd bynnag, o’r ochr rheolaethol, bod angen edrych ar y darlun ehangach a’r adnoddau sydd angen o ran y dull newydd o weithio, cyn ymrwymo i hyn yn barhaol.  Sicrhawyd y byddir yn rhoi sylw i’r mater.

(m) Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â gwelyau preswyl (EMI), nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod bwriad i ymgymryd â darn o waith yn y cyswllt hwn.  Rhaid gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael a cheisio sicrhau bod y sector breifat yn gynaliadwy oherwydd treulir llawer iawn o amser y staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio cynorthwyo rhai o’r cartrefi.  Nodwyd bod y sefyllfa yn un anodd ar hyn o bryd ac fe fyddai’n angenrheidiol ystyried be ellir gwneud o ran y defnydd gorau o’r stoc cartrefi sydd ym meddiant y Cyngor.  Nodwyd bod y gwir bwysau yn ymwneud ag elfennau nyrsio yn hytrach nag elfennau preswyl.   Byddai’n ofynnol edrych yn wrthrychol i newid y cydbwysedd o fewn y cartrefi ac addasu’r ddarpariaeth ar draws y Sir. 

(n)  Mewn ymateb i ymholiad a oedd hyn felly yn golygu cofrestriad deublyg (dual registration), eglurodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol gydweithio i geisio darparu gwasanaeth ychydig mwy dwys nag a ddarperir yn y cartrefi presennol.  Byddai hyn yn golygu addasu cofrestriadau y cartrefi.  Nododd Cyfarwyddwr Rhanbarth y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhellach bod AGGCC yn nodi’n glir bod yn rhaid cael nyrs ar alwad o fewn y cartrefi.  Ond bod gwaith yn mynd rhagddo gan y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol i ystyried model ychydig yn wahanol o sut i gael cyswllt agos rhwng y ddarpariaeth iechyd ar lefel lleol  a darpariaeth gofal yn y cartref ar gyfer cleifion dwys i osgoi iddynt orfod teithio yn bell i dderbyn gwasanaeth.  Yn ogystal, rhaid ysytried y math o ofalwyr ac yn benodol y llwybr gyrfa ar gyfer dyrchafu  gofalwyr i fod yn nyrsys.     

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant dderbyn argymhellion yr Ymchwiliad Craffu fel amlinellir ym mhwyntiau 4.1 – 4.10 o’r    adroddiad ac i gyflwyno diweddariad o’r camau gweithredu ynghyd ag adborth            gan y defnyddwyr o effaith y model gweithio integredig i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu hwn ymhen 6 mis.

 

 

Dogfennau ategol: