Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim
Jones, Annwen Hughes a Rhys Tudur. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirdd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGEWLCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) PDF 264 KB I roi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd
a Môn am y cyfnod 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 2. Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd a Môn a Phennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd,
Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau o’r angen i graffu
gwaith y Bartneriaeth yn ei gyfanrwydd yn hytrach na manylu ar unrhyw gorff neu
sefydliad penodol. Eglurwyd bod y bartneriaeth wedi ei ffurfio
yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 sy’n gosod dyletswydd statudol ar
Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth
Prawf a Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i agenda diogelwch cymunedol lleol.
Mae prif gyfrifoldebau’r bartneriaeth yn cynnwys: Trosedd ac Anrhefn,
Camddefnyddio Sylweddau, Lleihau Aildroseddu, lleihau trais difrifol a sefydlu
Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR). Nodwyd nad oes gan y bartneriaeth gyllid
penodol ac yn ddibynnol ar grantiau rhanbarthol a chenedlaethol. Eglurwyd mai’r
unig gomisiynu a wneir gan y bartneriaeth yw cynnal yr Adolygiadau Dynladdiad
Domestig. Yn anffodus, esboniwyd bod y bartneriaeth yn gweithio ar 5 Adolygiad
Dynladdiad Domestig eleni a nodwyd ei fod yn anochel bod gan y gwaith
oblygiadau sylweddol a pharhaus ar adnoddau’r bartneriaeth. Cydnabuwyd mai’r brif her sy’n wynebu’r
bartneriaeth ar hyn o bryd ydi’r gwahanol fathau o droseddau sy’n digwydd o
fewn ein cymunedau. Manylwyd bod datblygiadau technolegol wedi cynyddu’r
cyfleoedd ble all pobl gael eu cam fanteisio gan Grwpiau Trosedd Cyfundrefnol.
Ymhellach, ystyriwyd bod yr argyfwng costau byw yn cyfrannu at ffigyrau
troseddau o fewn y maes diogelwch cymunedol. Cadarnhawyd bod y Bartneriaeth yn gweithredu
yn unol â chynllun blynyddol, sy’n seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd
Gogledd Cymru Mwy Diogel. Nodwyd mai’r blaenoriaethau ar gyfer cynllun
blynyddol 2023/24 ydi: ·
Atal
Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ·
Mynd
i’r Afael â Throseddau Treisgar ·
Mynd
i’r Afael â Throseddau Cyfundrefnol Difrifol ·
Diogelu
ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd. Cyfeiriwyd at ffigyrau troseddu cyfredol gan
nodi bod trais yn erbyn person wedi gostwng yn gyffredinol yng Ngwynedd o’i
gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nodwyd hefyd bod cynnydd o 15.4% yn nhroseddau
‘Dwyn a thrin’ o’i gymharu â llynedd, ac ystyriwyd bod hyn yn ganlyniad i fwy o
achosion troseddau manwerthu. Eglurwyd bod hyn yn dilyn yr ystadegyn bod
lladrata o siopa wedi cynyddu 43% eleni o’i gymharu â llynedd, gyda chynnydd
cyffredinol o 35% ar draws y rhanbarth. Manylwyd bod yr
argyfwng costau byw yn cael ei ystyried fel un o’r ffactorau mwyaf blaenllaw
dros y cynnydd hwn. Cydnabuwyd bod troseddau manwerthu bellach yn
flaenoriaeth i’r heddlu ac mae gwaith sylweddol ar droed er mwyn sicrhau bod y
ffigyrau hyn yn gwella. Sicrhawyd bod trigolion yn cael eu hysbysu o unrhyw
gymorth sydd ar gael, a banciau bwyd lleol ble mae’n briodol. Adroddwyd bod nifer o gymunedau Gwynedd yn tan-adrodd ar y digwyddiadau o fewn eu cymunedau. Cydnabuwyd bod hyn yn her i’r bartneriaeth mewn sawl maes megis trais yn y cartref, ble mae sawl digwyddiad yn mynd heibio cyn i ddioddefwyr chwilio am gefnogaeth. Pwysleisiwyd ei fod yn allweddol bod pobl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL PDF 178 KB I gyflwyno
copi drafft o’r Strategaeth Llifogydd Lleol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
argymell: ·
Bod angen cynnwys
mwy o wybodaeth am raglen waith cynnal a chadw rhigolau a cheuffosydd yn y
Strategaeth. ·
Dylid ystyried
addasu’r ddogfen fel bod y wybodaeth gyfredol yn unig yn cael ei nodi am y
Cynlluniau Datblygu Lleol o dan pwyntiau 4.1.4 a 4.1.5. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Priffyrdd, Peirianneg a YGC), Steffan Jones (Pennaeth Adran Priffyrdd,
Peirianneg a YGC), Rhydian Roberts (Prif Beiriannydd) a Rob Williams (Rheolwr
Gwasanaeth Dŵr ac Amgylchedd).Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol: Atgoffwyd yr aelodau bod rhannau o’r
strategaeth llifogydd lleol drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng
nghyfarfod 30 Tachwedd 2023. Mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor ble awgrymwyd y
gallai risg o lifogydd priffyrdd gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a bod
angen i’r Strategaeth fynd i’r afael â’r risgiau hyn yn ddigonol, tynnwyd sylw
bod cam gweithredu newydd wedi cael ei ychwanegu i’r strategaeth, sef Cam
Gweithredu 2.3A. Cadarnhawyd byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth am gyfnod o chwe wythnos, gan gychwyn ar 26
Chwefror 2024. Sicrhawyd bod yr adran mewn cyswllt gyda’r gwasanaeth Cyfathrebu
er mwyn sicrhau fod gymaint o bobl yn ymateb i’r ymgynghoriad â phosib, er mwyn
rhannu gwybodaeth leol drwy holiadur neu alwad ffôn. Gobeithir bydd trigolion
yn gweld yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn eu papur bro ac ar y cyfryngau
cymdeithasol, byddai hefyd yn cael ei roi ar wefan yr Aelodau er mwyn iddynt ei
rannu gyda’u hetholwyr. Eglurwyd bod datblygu Strategaeth Llifogydd
Lleol yn un o ofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Manylwyd hefyd
bod angen i’r strategaeth fod yn gyson â’r Strategaeth Llifogydd Cenedlaethol a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Atgoffwyd yr aelodau bod yr adran wedi
cyflwyno’r bwriad o ystyried risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ar wahân
o fewn y Strategaeth newydd, yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Esboniwyd eu bod yn cael eu hystyried ar wahân oherwydd: ·
Natur y
risg a’r gallu i’w lliniaru ·
Gwahaniaeth
mewn rolau/cyfrifoldebau statudol a goddefol ·
Polisïau
a strategaethau ynghyd a gwahaniaethau yn strwythur ariannu prosiectau gan
Lywodraeth Cymru. Tywyswyd yr aelodau drwy’r Strategaeth gan
dynnu sylw at faterion hanesyddol, cynlluniau ardaloedd, rhaniad cyfrifoldebau
cyrff cyhoeddus, camau gweithredu, materion ariannol a’r amcanion strategol o
wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o risgiau llifogydd. Adroddwyd bod cynnal a chadw ceuffosydd a
rhigolau yn allweddol er mwyn rheoli lefelau dŵr wrth ymyl ffyrdd a thai.
Cadarnhawyd y rhaglennir i wagio’r ceuffosydd o leiaf
unwaith y flwyddyn gyda sylw ychwanegol i leoliadau ble mae trafferthion wedi
ymddangos yn rheolaidd yn y gorffennol. Manylwyd bod ceuffosydd rheolaeth risg
llifogydd, sydd wedi eu lleoli tu hwnt i ardaloedd priffyrdd, yn derbyn sylw
bob pythefnos yn y gaeaf a pob 4 wythnos yn yr haf. Diweddarwyd bod dwy o’r
ceuffosydd yn cael eu monitro drwy gamerâu sydd wedi cael eu mewnosod, sy’n
gyrru negeseuon pan mae lefelau dŵr wedi codi ac yn caniatáu iddynt
dderbyn sylw yn amserol. Ymhelaethwyd bod hyn yn galluogi’r adran i weithredu’n
amserol ac yn fwy penodol. Eglurwyd bod gan yr adran gyfeiriad ebost penodol, ac app defnyddiol er mwyn tynnu sylw’r adran o unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â ceuffosydd a rhigolau yn lleol. Ystyriwyd y posibilrwydd o ddiweddaru lleoliadau ble mae’r adran wedi bod yn gweithio arnynt yn ddiweddar ar fap ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TORRI GWAIR A CHYNNAL YMYLON FFYRDD SIROL PDF 909 KB I gyflwyno adolygiad o drefniadau cynnal ymylon ffyrdd y Sir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 2. Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ymhen blwyddyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC,
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr
Aelodau bod trefniadau presennol mewn lle er mwyn torri gwair a chynnal ymylon
ffyrdd sirol ddwywaith y flwyddyn. Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu mewn
unrhyw ardal sydd gyda cyfyngiad ffordd o hyd at 30 milltir yr awr ac bod
contractwyr allanol yn gweithredu ar gyfer ardaloedd eraill y Sir. Manylwyd bod
y contract allanol hwn yn diweddu o fewn y flwyddyn ac bydd yr Adran yn
ymchwilio i’w adnewyddu. Tynnwyd sylw at
nifer o ddyletswyddau statudol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau, gan nodi bod angen i awdurdodau
cyhoeddus yng Nghymru eu bodloni. Manylwyd ar Adran 6 Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016 sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i wneud
bioamrywiaeth yn rhan naturiol ac annatod o bolisïau a phrosiectau. Eglurwyd
bod yr Adran yn mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn wrth sicrhau eu bod yn hadu fel
rhan o dreialon bioamrywiaeth, gan nad oes gofyniad i wneud hynny. Adroddwyd bod yr Adran wedi bod yn
cydweithio gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth er mwyn cynnal treialon ar hyd
ymylon ffyrdd yr A499 ac A497 yn Nwyfor ers Hydref
2022. Esboniwyd bod y treialon yn parhau yn yr ardal yma am dair blynedd er
mwyn casglu data. Cadarnhawyd mai bwriad y treialon yw sicrhau bod newidiadau
yn cael ei wneud er mwyn annog llystyfiant a bioamrywiaeth a hybu bywyd gwyllt
yn yr ardal. Eglurwyd bod yr 8 lleoliad wedi eu dewis gan eu bod yn syth,
llydan a hir a bod modd derbyn a dadansoddi data ystyrlon o’r treialon.
Sicrhawyd bod y canlyniadau a dderbyniwyd hyd yma yn galonogol yn ogystal â’r
ffaith fod yr Adran yn derbyn adborth cadarnhaol gan y cyhoedd. Pwysleisiwyd
fod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth i’r Adran ac felly ni fydd oediad ar
dorri gwair wrth ymyl unrhyw fynedfa neu gyffordd oherwydd y treialon gan fod
ardaloedd y treialon wedi ei gyfyngu i ffyrdd hir, syth a llydan. Gwahoddwyd yr
aelodau i gysylltu gyda’r adran os oes pryderon yn codi am unrhyw fynedfa neu
gyffordd sydd angen ei dorri yn amlach na’r trefniant presennol o ddwywaith y
flwyddyn. Cadarnhawyd bod y treialon yn parhau i gael
eu cynnal ac yn tyfu. Manylwyd bod ardaloedd eraill o fewn Gwynedd wedi cael eu
hadnabod ar gyfer ymestyn y treialon i Feirionnydd. Tynnwyd sylw at y ffaith
bod cyrff eraill yn mabwysiadu’r un egwyddorion er mwyn cydymffurfio â’r
dyletswyddau statudol. Mewn ymateb i
ymholiad ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau newydd all godi megis ‘ticks’, cadarnhawyd bod hynny tu hwnt i gylch gorchwyl yr
Adran ond byddai swyddogion yn cysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd am
wybodaeth ychwanegol. Cydnabuwyd bod sbwriel sy’n cael ei daflu i ymylon ffordd yn parhau i fod yn heriol. Nodwyd bod trefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y timau sy’n torri’r gwair yn rhannu eu rhaglenni gwaith gyda’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU PDF 195 KB · Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig
ar gyfer 2023/24. · Cadarnhau trefniadau i adnabod eitemau
i’w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif
bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen Diwygiedig
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2023. Manylwyd bod eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ wedi
ei raglennu ar gyfer cyfarfod 18 Ebrill 2024. Pwysleisiwyd ei fod yn
angenrheidiol rhoi ystyriaeth i’r hyn y bwriedir ei graffu oherwydd bod y
cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod cyfnod cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a
Throsedd, a gynhelir ar 02 Mai 2024. Cadarnhawyd bod y Swyddog Monitro wedi
rhoi arweiniad na ddylid craffu’r mater yn ystod y cyfnod cyn etholiad oherwydd
natur y drafodaeth yng nghyswllt cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Eglurwyd bod dyddiad wedi ei adnabod o fewn calendr drafft pwyllgorau
2024/25 a fydd yn darparu cyfle i graffu’n amserol cyn i’r Cabinet ddod i
benderfyniad ar y mater. Nodwyd y bwriedir cynnal y cyfarfod ar 16 Mai 2024,
ond eglurwyd bod hyn yn ddibynnol ar benderfyniad y Cyngor Llawn yng nghyfarfod
07 Mawrth 2024, pan fydd Aelodau yn ystyried y calendr pwyllgorau. Yn sgil y
newid hwn, cadarnhawyd bod yr Ymgynghorydd Craffu wedi ymgynghori gyda’r
Cadeirydd er mwyn ail-raglennu eitem ‘Llawlyfr Cynnal Priffyrdd’ o’r cyfarfod
hwn (22 Chwefror 2024), i’r cyfarfod a gynhelir ar 18 Ebrill. Eglurwyd bydd hyn
yn darparu cyfle i roi sylw teg i’r eitemau gan fod tair eitem wedi ei raglennu
ar gyfer pob cyfarfod. Oherwydd y prinder amser rhwng cyfarfodydd 18 Ebrill ac 16 Mai 2024,
cynigwyd bod y Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn adnabod eitemau i’w trafod ynghyd
â’r eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 – Ymgynghoriad Cyhoeddus’ yng nghyfarfod fis
Mai, yn eu cyfarfodydd cyswllt gyda Penaethiaid Adran ac Aelodau Cabinet
perthnasol. Esboniwyd byddai hyn yn sicrhau amser digonol i’r Adrannau
baratoi’r adroddiadau. Nodwyd y cyflwynir adroddiad gerbron y Pwyllgor ar 18
Ebrill 2024, er mwyn cadarnhau’r eitemau i’w craffu yng nghyfarfod mis Mai. Atgoffwyd yr aelodau o’r cyfle i flaenoriaethu eitemau i’w craffu ar
gyfer gweddill cyfarfodydd 2024/25 yng Ngweithdy Blynyddol y Pwyllgor. PENDERFYNWYD 1.
Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24. 2. Cadarnhau’r trefniadau i adnabod eitemau i’w trafod yng nghyfarfod
y Pwyllgor ym mis Mai 2024. |