Agenda item

I gyflwyno copi drafft o’r Strategaeth Llifogydd Lleol.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan argymell:

·       Bod angen cynnwys mwy o wybodaeth am raglen waith cynnal a chadw rhigolau a cheuffosydd yn y Strategaeth.

·       Dylid ystyried addasu’r ddogfen fel bod y wybodaeth gyfredol yn unig yn cael ei nodi am y Cynlluniau Datblygu Lleol o dan pwyntiau 4.1.4 a 4.1.5.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC), Steffan Jones (Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC), Rhydian Roberts (Prif Beiriannydd) a Rob Williams (Rheolwr Gwasanaeth Dŵr ac Amgylchedd).Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod rhannau o’r strategaeth llifogydd lleol drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod 30 Tachwedd 2023. Mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor ble awgrymwyd y gallai risg o lifogydd priffyrdd gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a bod angen i’r Strategaeth fynd i’r afael â’r risgiau hyn yn ddigonol, tynnwyd sylw bod cam gweithredu newydd wedi cael ei ychwanegu i’r strategaeth, sef Cam Gweithredu 2.3A. Cadarnhawyd byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth  am gyfnod o chwe wythnos, gan gychwyn ar 26 Chwefror 2024. Sicrhawyd bod yr adran mewn cyswllt gyda’r gwasanaeth Cyfathrebu er mwyn sicrhau fod gymaint o bobl yn ymateb i’r ymgynghoriad â phosib, er mwyn rhannu gwybodaeth leol drwy holiadur neu alwad ffôn. Gobeithir bydd trigolion yn gweld yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn eu papur bro ac ar y cyfryngau cymdeithasol, byddai hefyd yn cael ei roi ar wefan yr Aelodau er mwyn iddynt ei rannu gyda’u hetholwyr.

 

Eglurwyd bod datblygu Strategaeth Llifogydd Lleol yn un o ofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Manylwyd hefyd bod angen i’r strategaeth fod yn gyson â’r Strategaeth Llifogydd Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adran wedi cyflwyno’r bwriad o ystyried risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ar wahân o fewn y Strategaeth newydd, yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Esboniwyd eu bod yn cael eu hystyried ar wahân oherwydd:

·       Natur y risg a’r gallu i’w lliniaru

·       Gwahaniaeth mewn rolau/cyfrifoldebau statudol a goddefol

·       Polisïau a strategaethau ynghyd a gwahaniaethau yn strwythur ariannu prosiectau gan Lywodraeth Cymru.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r Strategaeth gan dynnu sylw at faterion hanesyddol, cynlluniau ardaloedd, rhaniad cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus, camau gweithredu, materion ariannol a’r amcanion strategol o wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o risgiau llifogydd.

 

Adroddwyd bod cynnal a chadw ceuffosydd a rhigolau yn allweddol er mwyn rheoli lefelau dŵr wrth ymyl ffyrdd a thai. Cadarnhawyd y rhaglennir i wagio’r ceuffosydd o leiaf unwaith y flwyddyn gyda sylw ychwanegol i leoliadau ble mae trafferthion wedi ymddangos yn rheolaidd yn y gorffennol. Manylwyd bod ceuffosydd rheolaeth risg llifogydd, sydd wedi eu lleoli tu hwnt i ardaloedd priffyrdd, yn derbyn sylw bob pythefnos yn y gaeaf a pob 4 wythnos yn yr haf. Diweddarwyd bod dwy o’r ceuffosydd yn cael eu monitro drwy gamerâu sydd wedi cael eu mewnosod, sy’n gyrru negeseuon pan mae lefelau dŵr wedi codi ac yn caniatáu iddynt dderbyn sylw yn amserol. Ymhelaethwyd bod hyn yn galluogi’r adran i weithredu’n amserol ac yn fwy penodol.

 

Eglurwyd bod gan yr adran gyfeiriad ebost penodol, ac app defnyddiol er mwyn tynnu sylw’r adran o unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â ceuffosydd a rhigolau yn lleol. Ystyriwyd y posibilrwydd o ddiweddaru lleoliadau ble mae’r adran wedi bod yn gweithio arnynt yn ddiweddar ar fap penodol ar wefan yr Aelodau, gan ganiatáu iddynt edrych i weld os yw’r problemau yn eu ardaloedd wedi eu datrys. Nodwyd bod hyn wedi cael ei ddatblygu ar gyfer gwasanaethau eraill megis lleoliadau biniau halen a byddai’r adran yn ymchwilio i weld os oes modd ei ddiweddaru gyda’r gwaith hwn. Cadarnhawyd byddai’r Adran yn rhannu rhaglen waith glanhau’r ceuffosydd a’r rhigolau gyda’r aelodau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC bydd newid yn cael ei wneud i adrannau 4.1.4 a 4.1.5 o’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol (Drafft) er mwyn cyfeirio at y ‘Cynllun Cyfredol’ yn hytrach na chynlluniau datblygu lleol penodol er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn aros yn gyfredol.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth ar gynllun prawf synwyryddion. Nodwyd bod 5 synhwyrydd ar waith ar hyn o bryd, sy’n edrych i weld pryd mae lefelau dŵr yn newid. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu i’r Adran ddatrys problemau fel maent yn digwydd, ac bod dotiau coch yn ymddangos ar fap pan mae digwyddiadau ar droed. Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi derbyn gwobr cenedlaethol am y cynllun arloesol hwn yn ddiweddar.

 

Cadarnhawyd bod ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth ar fin cychwyn a byddai ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor. Sicrhawyd byddai Aelodau yn derbyn gwybodaeth bellach am broblemau lleol wrth i’r Adran fynychu’r Fforymau Ardal dros yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan argymell:

·       Bod angen cynnwys mwy o wybodaeth am raglen waith cynnal a chadw rhigolau a cheuffosydd yn y Strategaeth.

·       Dylid ystyried addasu’r ddogfen fel bod y wybodaeth gyfredol yn unig yn cael ei nodi am y Cynlluniau Datblygu Lleol o dan bwyntiau 4.1.4 a 4.1.5.

 

Dogfennau ategol: