I roi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd
a Môn am y cyfnod 2023/24.
Penderfyniad:
1. Derbyn yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2. Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd a Môn a Phennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd,
Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol:
Atgoffwyd yr Aelodau o’r angen i graffu
gwaith y Bartneriaeth yn ei gyfanrwydd yn hytrach na manylu ar unrhyw gorff neu
sefydliad penodol.
Eglurwyd bod y bartneriaeth wedi ei ffurfio
yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 sy’n gosod dyletswydd statudol ar
Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth
Prawf a Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i agenda diogelwch cymunedol lleol.
Mae prif gyfrifoldebau’r bartneriaeth yn cynnwys: Trosedd ac Anrhefn,
Camddefnyddio Sylweddau, Lleihau Aildroseddu, lleihau trais difrifol a sefydlu
Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR).
Nodwyd nad oes gan y bartneriaeth gyllid
penodol ac yn ddibynnol ar grantiau rhanbarthol a chenedlaethol. Eglurwyd mai’r
unig gomisiynu a wneir gan y bartneriaeth yw cynnal yr Adolygiadau Dynladdiad
Domestig. Yn anffodus, esboniwyd bod y bartneriaeth yn gweithio ar 5 Adolygiad
Dynladdiad Domestig eleni a nodwyd ei fod yn anochel bod gan y gwaith
oblygiadau sylweddol a pharhaus ar adnoddau’r bartneriaeth.
Cydnabuwyd mai’r brif her sy’n wynebu’r
bartneriaeth ar hyn o bryd ydi’r gwahanol fathau o droseddau sy’n digwydd o
fewn ein cymunedau. Manylwyd bod datblygiadau technolegol wedi cynyddu’r
cyfleoedd ble all pobl gael eu cam fanteisio gan Grwpiau Trosedd Cyfundrefnol.
Ymhellach, ystyriwyd bod yr argyfwng costau byw yn cyfrannu at ffigyrau
troseddau o fewn y maes diogelwch cymunedol.
Cadarnhawyd bod y Bartneriaeth yn gweithredu
yn unol â chynllun blynyddol, sy’n seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd
Gogledd Cymru Mwy Diogel. Nodwyd mai’r blaenoriaethau ar gyfer cynllun
blynyddol 2023/24 ydi:
·
Atal
Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
·
Mynd
i’r Afael â Throseddau Treisgar
·
Mynd
i’r Afael â Throseddau Cyfundrefnol Difrifol
·
Diogelu
ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.
Cyfeiriwyd at ffigyrau troseddu cyfredol gan
nodi bod trais yn erbyn person wedi gostwng yn gyffredinol yng Ngwynedd o’i
gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nodwyd hefyd bod cynnydd o 15.4% yn nhroseddau
‘Dwyn a thrin’ o’i gymharu â llynedd, ac ystyriwyd bod hyn yn ganlyniad i fwy o
achosion troseddau manwerthu. Eglurwyd bod hyn yn dilyn yr ystadegyn bod
lladrata o siopa wedi cynyddu 43% eleni o’i gymharu â llynedd, gyda chynnydd
cyffredinol o 35% ar draws y rhanbarth. Manylwyd bod yr
argyfwng costau byw yn cael ei ystyried fel un o’r ffactorau mwyaf blaenllaw
dros y cynnydd hwn. Cydnabuwyd bod troseddau manwerthu bellach yn
flaenoriaeth i’r heddlu ac mae gwaith sylweddol ar droed er mwyn sicrhau bod y
ffigyrau hyn yn gwella. Sicrhawyd bod trigolion yn cael eu hysbysu o unrhyw
gymorth sydd ar gael, a banciau bwyd lleol ble mae’n briodol.
Adroddwyd bod nifer o gymunedau Gwynedd yn
tan-adrodd ar y digwyddiadau o fewn eu cymunedau. Cydnabuwyd bod hyn yn her i’r
bartneriaeth mewn sawl maes megis trais yn y cartref, ble mae sawl digwyddiad
yn mynd heibio cyn i ddioddefwyr chwilio am gefnogaeth. Pwysleisiwyd ei fod yn
allweddol bod pobl yn adrodd ar ddigwyddiadau i’r heddlu drwy alw 101 neu
gwblhau ffurflen electronig.
Nodwyd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi
gostwng 12.6% y flwyddyn hon ond pwysleisiwyd bod y ffigwr hwn yn cael ei fesur
yn rheolaidd oherwydd ei fod yn seiliedig ar nifer o alwadau sy’n cael eu
gwneud i’r heddlu.
Cadarnhawyd bod ffocws wedi cael ei roi
eleni ar Ddyletswydd Trais Difrifol a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2023.
Esboniwyd bod dull rhanbarthol wedi cael ei fabwysiadu er mwyn cyfarch y
disgwyliadau o ddeall darlun lleol o drais difrifol ar ffurf asesiad anghenion
a pharatoi strategaeth mewn ymateb. Pwysleisiwyd bod y rhain wedi cael eu
datblygu erbyn diwedd Ionawr 2023 a bellach yn nwylo’r Swyddfa Gartref. Nodwyd bod angen cydgordio gweithrediad y strategaeth yn
lleol gyda phartneriaid. Cyfeiriwyd hefyd bod y bartneriaeth yn dymuno
defnyddio’r dyletswyddau hyn er mwyn ail-gyflwyno rhaglenni addysgol mewn
ysgolion.
Ymfalchïwyd bod y bartneriaeth wedi bod yn
llwyddiannus i dderbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Cyffredin er diben ehangu’r
system Teledu Cylch Cyfyng. Eglurwyd bod hyn yn cyd-fynd gyda nod un o Genhadaeth
Lefelu i Fyny’r Deyrnas Unedig sef y bydd lladdiadau, trais difrifol, a
throseddau yn y gymdogaeth wedi gostwng erbyn 2030. Pwysleisiwyd bod lleoliadau
wedi cael eu hadnabod ble mae troseddau’n digwydd neu ble nad yw pobl yn
teimlo’n ddiogel ble ellir ychwanegu teledu cylch cyfyng ychwanegol.
Mynegwyd pryder ar ran y bartneriaeth bod
niferoedd trais yn y cartref ar gynnydd a bod rhwystredigaethau yn codi wrth
ymdrechu i ddarparu cymorth angenrheidiol. Eglurwyd bod cymorth o’r fath yn
cael ei ariannu o dan ffrwd gwaith
cefnogaeth symudol y Grant Cymorth Tai ond nid yw ei gyfraddau wedi cael ei
ddiwygio i ystyried chwyddiant. Cadarnhawyd bod y mater hwn yn cael ei
flaenoriaethu gan fyrddau’r bartneriaeth a bod
trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn digwydd ar y mater
Eglurwyd bod y gwasanaeth Safonau Masnach yn
cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar brosiect atal galwadau ar gyfer
unigolion y nodwyd eu bod yn darged neu’n ddioddefwyr galwadau di-wahoddiad
drwy brydlesu atalwyr galwadau. Cydnabuwyd mai oddeutu 10 dioddefwr sydd wedi
derbyn atalwyr galwadau ar hyn o bryd ond gobeithir bydd y cymorth hwn yn
cynyddu yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad, cyfeiriwyd at
Gynllun Lesu Preifat sydd yn cael ei ddatblygu gan Tim Digartrefedd yr Adran
Tai ac Eiddo. Manylwyd mai nod y cynllun yw dod a mwy o landlordiaid preifat i
osod eu tai fel opsiwn i ailgartrefu’r rhai sy’n ddigartref a lleihau’r defnydd
o wely a brecwast a’r costau ynghlwm a hynny.
Mewn ymateb i ymholiad am ddefnydd o ddata a
gasglwyd gan fudiadau yswiriant cefn gwlad, cadarnhawyd nad yw’r bartneriaeth
yn derbyn y wybodaeth yma. Cydnabuwyd bod lladrata a materion cefn gwlad yn
flaenoriaeth i’r bartneriaeth. Cytunwyd i ddarparu cysylltiadau Heddlu Cefn
Gwlad i aelodau.
Amlygodd aelod yr angen i wahaniaethu rhwng
data trais rhywiol diweddar a hanesyddol yn yr adroddiad.
Sicrhawyd byddai’r swyddogion yn cysylltu
gyda’r heddlu er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am yr isod cyn adrodd yn ôl i’r
Aelodau, yn dilyn ymholiadau:
·
Os yw’r
heddlu yn cymharu data niferoedd troseddau gwrth cymdeithasol gyda digwyddiadau
o dan effaith alcohol neu gyffuriau.
·
Darparu
ffigyrau manwl ar gyfer gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd, os ydynt ar gael.
·
Derbyn
gwybodaeth am drawstoriad oedran troseddwyr yng Ngwynedd.
Cadarnhawyd
byddai’r wybodaeth yma yn cael ei gynnwys yn adroddiad blwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD:
1.
Derbyn yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2.
Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
Dogfennau ategol: