I gyflwyno adolygiad o drefniadau cynnal ymylon ffyrdd y Sir.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2. Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ymhen blwyddyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC,
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd yr
Aelodau bod trefniadau presennol mewn lle er mwyn torri gwair a chynnal ymylon
ffyrdd sirol ddwywaith y flwyddyn. Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu mewn
unrhyw ardal sydd gyda cyfyngiad ffordd o hyd at 30 milltir yr awr ac bod
contractwyr allanol yn gweithredu ar gyfer ardaloedd eraill y Sir. Manylwyd bod
y contract allanol hwn yn diweddu o fewn y flwyddyn ac bydd yr Adran yn
ymchwilio i’w adnewyddu.
Tynnwyd sylw at
nifer o ddyletswyddau statudol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau, gan nodi bod angen i awdurdodau
cyhoeddus yng Nghymru eu bodloni. Manylwyd ar Adran 6 Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016 sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i wneud
bioamrywiaeth yn rhan naturiol ac annatod o bolisïau a phrosiectau. Eglurwyd
bod yr Adran yn mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn wrth sicrhau eu bod yn hadu fel
rhan o dreialon bioamrywiaeth, gan nad oes gofyniad i wneud hynny.
Adroddwyd bod yr Adran wedi bod yn
cydweithio gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth er mwyn cynnal treialon ar hyd
ymylon ffyrdd yr A499 ac A497 yn Nwyfor ers Hydref
2022. Esboniwyd bod y treialon yn parhau yn yr ardal yma am dair blynedd er
mwyn casglu data. Cadarnhawyd mai bwriad y treialon yw sicrhau bod newidiadau
yn cael ei wneud er mwyn annog llystyfiant a bioamrywiaeth a hybu bywyd gwyllt
yn yr ardal. Eglurwyd bod yr 8 lleoliad wedi eu dewis gan eu bod yn syth,
llydan a hir a bod modd derbyn a dadansoddi data ystyrlon o’r treialon.
Sicrhawyd bod y canlyniadau a dderbyniwyd hyd yma yn galonogol yn ogystal â’r
ffaith fod yr Adran yn derbyn adborth cadarnhaol gan y cyhoedd. Pwysleisiwyd
fod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth i’r Adran ac felly ni fydd oediad ar
dorri gwair wrth ymyl unrhyw fynedfa neu gyffordd oherwydd y treialon gan fod
ardaloedd y treialon wedi ei gyfyngu i ffyrdd hir, syth a llydan. Gwahoddwyd yr
aelodau i gysylltu gyda’r adran os oes pryderon yn codi am unrhyw fynedfa neu
gyffordd sydd angen ei dorri yn amlach na’r trefniant presennol o ddwywaith y
flwyddyn.
Cadarnhawyd bod y treialon yn parhau i gael
eu cynnal ac yn tyfu. Manylwyd bod ardaloedd eraill o fewn Gwynedd wedi cael eu
hadnabod ar gyfer ymestyn y treialon i Feirionnydd. Tynnwyd sylw at y ffaith
bod cyrff eraill yn mabwysiadu’r un egwyddorion er mwyn cydymffurfio â’r
dyletswyddau statudol.
Mewn ymateb i
ymholiad ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau newydd all godi megis ‘ticks’, cadarnhawyd bod hynny tu hwnt i gylch gorchwyl yr
Adran ond byddai swyddogion yn cysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd am
wybodaeth ychwanegol.
Cydnabuwyd bod
sbwriel sy’n cael ei daflu i ymylon ffordd yn parhau i fod yn heriol. Nodwyd
bod trefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y timau sy’n torri’r gwair yn
rhannu eu rhaglenni gwaith gyda’r timau glanhau er mwyn sicrhau bod y sbwriel
yn cael ei godi mor fuan a phosibl. Ymhelaethwyd bod yr adran yn cydweithio
gyda’r gwasanaeth glanhau strydoedd er mwyn ceisio atal pobl rhag taflu sbwriel
o’u cerbydau.
Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith gan
nodi ei fod yn gwella morâl defnyddwyr cludiant cyhoeddus yn ogystal â gwella’r
amgylchedd.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2.
Bod y Pwyllgor yn
derbyn diweddariad ymhen blwyddyn.
Dogfennau ategol: